Syro gan Aphex Twin: gweld eisiau rhywbeth

Dros yr haf o’n i’n troelli tiwns addfwyn mewn pabell yng ngŵyl gerddorol. Roedd y tiwns yn addfwyn achos roedd hi’n 4 o’r gloch y bore. Yn y tywyllwch, dyma dyn a dynes yn dod ataf i: ‘WAW! PERFFAITH! Dyna oedd yr union gân a gawsom ni yn ein seremoni priodas! A ‘dyn ni wedi dod i’r ŵyl yma ar ein mis mêl! Diolch o galon mêt, mae hon yn BERFFAITH!’.

Heb sôn am y cyd-ddigwyddiad gallech chi ddychmygu bod hi’n braf cael unrhyw fath o ymateb cadarnhaol i set sy’n anelu at bobl mor flinedig, er fy mod i wrth fy modd gyda DJo o’i fath.

Dyna oedd y gân a chwaraeais i, Alberto Balsam, pum munud o’r gerddoriaeth mwyaf hudolus ac adleisiol erioed gan unrhyw artist.

Aphex Twin o Gernyw oedd yr artist. Dros gyrfa o fwy na dau ddegawd mae fe wedi creu caneuon cyflym a swnllyd, caneuon hyfryd, rhai heb unrhyw guriad a llawer iawn rhyngddynt.

Mae’r albwm newydd Syro ganddo fe yn wahanol eto. Mae’r cynhyrchiad yn fwy manwl nag erioed ac yn ddawnsiadwy iawn. Efallai taw hwn yw’r albwm mwyaf dawnsiadwy gan Richard D. James achos mae’r curiadau mor quantised. Dw i’n hoff iawn o’r albwm sy’n gydblethu elfennau o rêv gyda syntheseiddwyr p-funk, e.e. ar draciau fel syro u473t8+e [piezoluminescence mix].

Ond mae’n anodd dychmygu moment hynod arbennig fel yr un yn yr ŵyl eleni.

Aphex_Twin_-_Syro_1409868795_crop_550x550

Mae’r pecyn a dyluniad gan The Designers Republic ar gyfer Syro yn addas iawn. Dw i wedi buddsoddi yn y record finyl ac mae’r clawr yn rhestru dwsinau o gostau, e.e.

[…]
Sticker printed 2 colours…..£0.00975
Mechanical royalty…..£1.1859
Shop displays at indie and chain stores in Australia…..£0.00338
[…]

Mae’r rhestr yn cynnwys pob un cost fesul record. Yn llythrennol gallech chi weld yr union costau sydd wedi mynd tuag at eich cynnyrch ac mae’r eitem ei hun yn edrych fel derbynneb enfawr.

Ond nid 26 Mixes For Cash ydy hwn, nid dyna yw’r pwynt. Mae llawer mwy i gerddoriaeth y boi na chynnyrch masnachol ond dw i’n cael yr argraff bod e uwchben yr holl beth, yn dadansoddi’r diwydiant recordiau a’r cymhlethdod wrth gyrraedd unrhyw berthynas gyda’r gwrandawr. Dyna pam mae’r pecyn a’r dyluniad mor addas.

Er bod 13 mlynedd wedi mynd ers Drukqs, ei albwm stiwdio diwethaf fel Aphex Twin, mae fe wedi defnyddio’r enw The Tuss yn y cyfamser i ryddhau albwm ac EP. Fel mae’n digwydd mae’r deunydd Syro yn debyg iawn i’r jams disgo a ddarparwyd gan The Tuss.

Yn amlwg fel golygydd o’i waith ei hun mae fe wedi bod yn canolbwyntio ar Syro. Mae ‘na peryg bod yr albwm mor gyson mae’n llifo heibio heb i ti sylweddoli. Mae’r traciau bron i gyd yn jams ôl-rêv ar gyfer y clwb. Mae llawer o amrywiaeth yn y seiniau trwy’r albwm, peidiwch â’m camddeall i. Ond mae’r amrywiaeth hollol radical a’r agwedd chwaraeus a fu wedi mynd. Does dim byd heriol yn yr albwm yma ac yn sicr, dim amrydedd. Mae’r dderbynneb ar y clawr yn rhoi’r BPMs, y cyfrif curiadau fesul munud, ar bwys pob teitl rhag ofn bod DJ eisiau eu ffitio mewn set. Peth braf ydy albwm mor hygyrch – gall chwarae’r rhan fwyaf ohono fe yn Pier Pressure neu’r Greeks yn ogystal â’r Full Moon. Yr unig eithriad i’r gyfres o jams ydy’r gân olaf Aisatsana, tiwn piano Erik Satieaidd sy’n atgoffa fi o’r alawon pruddglwyfus ar Drukqs.

Fel ffan, I Care Because You Do o 1995 yw fy hoff albwm ganddo fe o hyd (ac byddwn i’n annog unrhyw un sydd ddim yn gyfarwydd i ddechrau yna). Er bod darnau o’r hen gampwaith yn digon hyfryd i ddefnyddio mewn seremoni priodas neu babell tsilo-mas heddiw, nid fi yw’r math o ffan i ofyn am yr un albwm eto ac eto. Dw i jyst eisiau teimlo rhywbeth. Dyna sydd ar goll wrth wrando ar Syro, mae hi’n gerddoriaeth i’r meddwl a’r traed yn hytrach na’r galon. Braindance os liciwch chi.

Mae modd defnyddio peiriannau i greu pethau gydag enaid. Rhag ofn bod unrhyw amheuaeth, mae gymaint o gerddoriaeth sy’n seiliedig ar gynhyrchiad a dawns o bob math yn wneud i mi deimlo pethau. Syro, dim gymaint.

Wedi dweud hyn i gyd mae’r Aphex Twin yn creu caneuon am yr hir dymor. Dw i ddim wedi cael digon o’r albwm trawiadol yma o bell ffordd. Mae hi’n digon bosib y bydd fy marn i yn newid.

4 sylw ar “Syro gan Aphex Twin: gweld eisiau rhywbeth”

  1. Erthygl diddorol iawn Carl. Dwi wedi gwrando ar yr albym 4-5 gwaith erbyn hyn a, fel ti, dwi ddim yn ‘teimlo’ fo hyd yn hyn. Mae o jyst yn swnio fel dylia’r Aphex Twin swnio – dim byd yn wrong efo hynny; bydd y ffans yn hapus – ond does dim byd newydd yn mynd ymlaen. Sort o fel 17th album Status Quo.

  2. O’n i ychydig yn siomedig gyda fe hefyd – mae’n fwy myfyfyriol na’r hen waith. Dim fod dim llawer o’i le arno, jyst dwi ddim yn siwr os wnai wrando eto drosodd a drosodd. Dwi newydd wrando ychydig ar Drukqs eto a mae’n dal yn gyffrous – dyna’r math o gerddoriaeth fasen i’n gwrando arno drwy’r dydd yn nechrau’r ganrif wrth raglennu a mae’n berffaith i’r dasg.

  3. Cytuno’n llwyr fod enaid arbennig i’r cerddoriaeth electronig orau. Dwi wedi mwynhau’r albym yn y fawr iawn, yn enwedig y treuliau toreithog ar y clawr. Rhaid cyfaddef, ei wrando arno yn y cefndir dwi wedi gwneud hyd yn hyn. Nid yw’n mynnu fy sylw’n llwyr. Braf iawn i’w hymlacio iddi.

Mae'r sylwadau wedi cau.