Os wyt ti’n gyfarwydd ar weithiau golygu/ailgymysgu pwysig gan Cassetteboy dros y blynyddoedd rwyt ti’n gwybod beth yn union i ddisgwyl. Dyma Cassetteboy gyda llwyth o glipiau Boris Johnson. Mae’r fideo newydd fynd ar YouTube felly brysia cyn iddyn nhw eu tynnu i lawr.
Awdur: Carl Morris
Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant
Un o fy hoff categoriau ar Y Twll ydy cyfryngau sydd yn cynnwys podlediadau, blogiau, teledu annibynnol, ffansins a chyfryngau annibynnol o bob math. Fel arfer os ydy rhywun wedi creu ‘brand’ cyfryngau annibynnol yn Gymraeg mae’n tueddu i fod yn dda iawn. Mae sawl enghraifft.
Dyma un syniad da gan Nwdls a Gai Toms: Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant, blog sydd newydd ddechrau dogfennu profiadau o’r gig penwythnos diwethaf – sydd ymhlith y gigs mwyaf cofiadwy (ac efallai dylanwadol) erioed yng Nghymru ers parti coroni Hywel Dda yn y degfed ganrif.
Mae Nwdls wedi dechrau gydag atgofion a meddyliau personol am egni diwylliannol a grym cerddoriaeth:
Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth. […]
Mae unrhyw yn gallu cyfrannu felly paid ag aros yn rhy hir nes bod ti’n anghofio manylion pwysig am y penwythnos.
Rhys Ifans, Gwyrth a Chymraeg mewn ffilmiau
Newydd ddod ar draws y clip yma o’r ffilm The Five-Year Engagement gyda Rhys Ifans a’i gi. Er bod i’n gwenu ar ôl y clip yma heb weld y ffilm lawn eto maen nhw yn wneud yr un jôc am yr iaith, sef: mae geiriau yn anodd ei ynganu. Fel Llanfair PG ayyb ayyb.
Does ‘na ddim lot o gyfeiriadau i’r Gymraeg mewn ffilmiau Hollywood neu ddiwylliant Anglo-Americanaidd yn gyffredinol chwaith nac oes? Mae’r diffyg presenoldeb yn cyfrannu at syniadau od am yr iaith sydd gyda rhai o bobl. Felly mae argymelliad gyda fi. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhyw dau neu tri ffilm bob blwyddyn trwy’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol o Gyllid Cymru. Mae rhestr anghyflawn o’r ffilmiau ar IMDB. Felly beth am ryw fath o gytundeb product placement lle mae angen cyfeiriad bach positif i’r iaith mewn bob ffilm fel rhan o’r termau ac amodau ariannol. Dim cyfeiriad, dim cytundeb. Diwedd y gân yw’r geiniog.
🙂
Dyma un arall: actor Cymreig ifanc Christian Bale yn canu Suo Gân mewn yr addasiad Spielberg o Empire of the Sun…
Skamma: curiad ar dy ffans fel Cantona
Falle rwyt ti wedi gweld Skamma mewn fideos lle mae fe’n cynrychioli Cymru yn y brwydrau braggadocio hiphop Don’t Flop (iaith ansaff ar gyfer y swyddfa) ym Mhryste a thu hwnt.
Yn ei gân newydd hon, sydd wedi derbyn nifer parchus o 4000 o wylwyr fideo ar YouTube mewn wythnos, mae fe’n troi ei odlau at gynhyrchiad 2-step miniog gan cynhyrchydd Stagga o Dreganna, Caerdydd (gynt o’r criw DJo Optimus Prime). Nid hon yw’r cydweithrediad cyntaf y ddau. Dechreuodd y bartneriaeth achlysurol gyda’r tiwn drom Sick As Sin yn 2009.
O ran y boi Skamma mae fe’n dod o’r Barri ym Mro Morgannwg fel cewri eraill y genedl fel Derek Brockway a Gwynfor Evans. Mae fe wedi bod yn rapio ers tro. Ydy’r plant yn deall ei gyfeiriad i Eric Cantona yn y gân tybed? Ta waeth, joia’r salwch.
Fy hoff gân Donna Summer
Wrth gwrs mae ei gwaith gyda Giorgio Moroder – I Feel Love, Bad Girls ac yn y blaen – yn bytholwyrdd ond pe tasiwn i’n DJo heno baswn i’n chwarae’r gân yma ar ddiwedd y nos. Mae’r cynhyrchiad ar y recordiad State of Independence gan Quincy Jones yn anhygoel, fel pryd o fwyd tri-cwrs i’r clustiau.
Mae sawl fersiwn gan gynnwys yr un wreiddiol gan sgwennwyr Jon a Vangelis ond dyma’r fersiwn hir o’r un Donna a Quincy, y gorau yn fy marn i. Chwilia am y finyl 12″ os wyt ti’n gallu.
RIP Donna.