Fideos nawr! Diffyg rhyfedd cynhyrchu annibynnol ar y we

Helo. Elidir dwi. Ac mae gen i bethau i’w dweud. Ewch i nôl panad.

Flwyddyn diwetha, wnes i a fy nghyfaill Dafydd Prys sefydlu’r wefan Fideo Wyth. Os ‘da chi ddim ‘di clywed amdanom ni, peidiwch a phoeni. Dim chi ‘di’r unig un.

Ar Fideo Wyth, ‘da ni’n trafod bob math o stwff nyrdi, efo ffocws cryf ar gemau fideo. Ac ar ben sgwennu erthyglau, ‘da ni hefyd yn gwneud cynnwys fideo’n weddol gyson. Fel allwch chi ddisgwyl o’r enw. ‘Da ni’n gwneud adolygiadau, adroddiadau byw, trefnu digwyddiadau… ‘da ni wedi atgyfodi’r rhaglen S4C Mega o’r 90au cynnar (y tro diwetha i’r sianel roi unrhyw fath o sylw estynedig i gemau fideo, gyda llaw). Flwyddyn yma, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno eitemau ar raglen Y Lle. ‘Da ni’n hefyd yn gwneud fideos comedi. Dyma un gweddol boblogaidd ella wnewch chi licio. Mae Rhys Mwyn ynddo fo.

Y gwir ydi, dyna ydi’n fideo mwya poblogaidd hyd yn hyn. Ac efo twtsh yn llai na 500 o wylwyr (wrth i fi sgwennu hwn), mae’n deg dweud ein bod ni ddim yn union yn rhoi’r byd ar dân. Mae ‘na ddau reswm am hyn.

Yn gynta, ‘da ni’n rybish am hyrwyddo ein hunain. Fysa chi’n meddwl erbyn hyn fysa ganddo ni grys-T neu rwbath. Ond na. Dim byd. Sori.

Ac yn ail, dydi’r syniad o wneud (a gwylio) cynnwys fideo eich hun yn Gymraeg ddim cweit wedi cydio yn nychymyg pobol eto. A dwi ddim yn siŵr iawn pam. Dydi hi erioed wedi bod yn haws creu cynnwys safonol eich hun. Ac yn fwy pwysig, mae angen cynnwys Cymraeg arnom ni rŵan yn fwy nag erioed o’r blaen.

Nôl yn yr 80au, pan gafodd S4C ei sefydlu, roedd cael un sianel yn beth hollol naturiol. Dim ond pedair sianel oedd ‘na i gyd, wedi’r cwbwl. Ac roedd y ffordd oedd S4C yn cael ei redeg yn hollol naturiol hefyd, yn dilyn fformiwla’r hollol sianelau eraill: sawl comisiynydd, pob un yn edrych ar ôl adran wahanol, yn ateb i un pennaeth.

Ond bellach, ydi hi’n gwneud synnwyr cael un sianel yn trio plesio pawb yng Nghymru? Ac un comisiynydd yn penderfynu, er enghraifft, pa siâp ddylai “comedi Cymraeg” gymryd?

Wel, nag’di. Fel arall, fyswn i ddim yn sgwennu hwn.

Dydw i ddim yn bwriadu gweld bai ar S4C, gyda llaw, na galw am ddiwedd y sianel, nac unrhywbeth fel’na. Ond mae’r cyfle yma rŵan i gynhyrchu bob math o stwff mwy ymylol o gwmpas piler mawr S4C, sy’n sefyll yng nghanol bob dim.

(Mae ‘na ddadl i’w wneud, wrth gwrs, nad ydi stwff am gemau fideo a ffuglen wyddonol a ffantasi yn ymylol o gwbwl, yn enwedig i’w gymharu efo rhywbeth fel – o, dwi’m yn gwbod – Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ond wnawn ni adael hwnna lonydd am y tro.)

Mae’n rhyfedd cyn lleied o bobol sydd wedi meddwl am wneud eu cynnwys Cymraeg eu hun a’i sticio ar YouTube. Dwi wedi bod yn gweithio fel awdur a sgriptiwr am dair mlynedd erbyn hyn, yn treulio lot gormod o fy amser yn gwylio YouTube, a wnes i ddim meddwl am y peth. Achos dydi’r Cymry, ar y cyfan, ddim yn gwneud. Sy’n od, achos yn mhob rhan arall o’r byd creadigol, mae gan y Cymry agwedd hynod o iach at greu stwff yn annibynnol.

Mae ‘na gannoedd o awduron a beirdd yn mynd ati i sgwennu nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, wedi eu cynnal gan rwydwaith gref o wahanol gyrff a chwmnïau. Mae gwaith sgriptwyr i’w weld mewn ambell noson o ddrama annibynnol ar hyd y lle, ac yn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Dydi cyflwr blogiau Cymraeg erioed wedi bod yn gryfach, efo’r Blogiadur yn tynnu pob dim at ei gilydd a’i roi mewn un lle. Ac wrth gwrs, dyna’r Sîn Gerddoriaeth Gymraeg – cyflawniad mwya diwylliant Cymraeg dros yr hanner canrif diwetha, heb os nac oni bai. Mae’r ffaith bod pobol ifanc yn dal i godi gitârs, neu feicroffons, neu offerynnau pres, neu’n twidlo efo’u cyfrifiaduron, er mwyn gwneud cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol a diddorol, yn beth y dyliwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono fo.

Ond o ran cynnwys fideo? Boed o’n gomedi, yn ddrama, yn stwff ffeithiol? Wel, dydi’r dewis ddim yn grêt.

Ac o’r stwff sydd yn bodoli, mae’n nodedig iawn bod lot ohono fo wedi ei wneud gan blant – yn cynnwys sawl fideo am y gêm Minecraft

(Cofio pan ddywedais i bod gemau’n berthnasol? Ddim i ymddangos yn smyg na’m byd, ond…)

… ac ambell i flog.

Na, dim blog. Flog. Vlog yn Saesneg. Mae’r ffaith bod hyd yn oed y gair Cymraeg am y peth yn ddryslyd yn deud lot, dydi?

O gael dewis, stwff ar wefannau fel YouTube a Twitch mae plant yn dueddol o wylio dyddiau yma, yn hytrach na theledu byw. A dydi’r arfer yna ddim yn mynd i newid unrhywbryd yn fuan. Rheswm arall, felly – os nad y rheswm pennaf – pam bod pethau angen newid.

Oni bai am hynny? Wel, mae angen llongyfarch criw’r rhaglen Y Neuadd am fynd yn syth at YouTube i’w ddarlledu, ac mae’n dda gweld ei fod wedi bod yn dipyn o lwyddiant. Ar yr un pryd, mae lot o gast a chriw’r rhaglen yn enwau cyfarwydd i wylwyr S4C beth bynnag. I fod yn llwyddiannus, dwi’n meddwl y dylai unrhyw “sîn” o gynnwys fideo Cymraeg feithrin talentau cwbwl newydd, yn gweithredu y tu allan i’r system sy’n bodoli’n barod, ac yn gwneud pethau na fyddai’n cael eu dangos ar sianel fel S4C.

I hynny allu digwydd, mae’n rhaid i lot o bethau newid. Ond mae angen i’r newid yna ddigwydd, ac yn fuan, neu fydd darlledu Cymraeg yn dod yn gwbwl amherthnasol.

Wel… yn fwy amherthnasol nag ydi o’n barod, o leia.

Mae angen rhyw fath o rwydwaith o fideos gwreiddiol Cymraeg, fel y Blogiadur, er mwyn rhoi popeth mewn un lle, hawdd i’w gyrraedd. Yn ddelfrydol, mae angen system o gefnogi cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg yn ariannol – un ai drwy S4C, neu gorff newydd. Ond yn bwysicach na dim, mae angen gwylwyr. O fy mhrofiad fy hun, does dim byd yn rhoi mwy o foddhad i mi nag eistedd i lawr dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau a chreu fideo newydd allan o ddim. Ond dydi’r teimlad wedyn, wrth weld mai dim ond llond llaw o bobol sydd wedi ei wylio, ddim cweit mor foddhaol.

Serch hynny, dwi yn bwriadu gwneud llawer iawn mwy o fideos, a rheini’n fwy ac yn fwy amrywiol, dros y misoedd nesa, achos dyna’r unig ffordd allwn ni gael y bêl i rowlio. Dwi’n gwadd unrhywun sy’n darllen hwn i ymuno efo fi. Ar eich iPhone, neu eich camcorder, neu ar offer proffesiynol wedi ei ddwyn o’ch stiwdio agosa…*

* Nodyn cyfreithiol: plis peidiwch â gwneud hyn.

… neu be bynnag. Ewch amdani. Efo’n gilydd, mae ganddo ni’r gallu i wyrdroi’r cyfryngau Cymraeg yn llwyr.

Ac wedi’r cwbwl, be bynnag ‘da chi’n wneud, ellith o ddim bod mor ddrwg â Îha Sheelagh, siawns.

Putain Babilon: Cassetteboy a’r Gemau Olympaidd

Os wyt ti’n gyfarwydd ar weithiau golygu/ailgymysgu pwysig gan Cassetteboy dros y blynyddoedd rwyt ti’n gwybod beth yn union i ddisgwyl. Dyma Cassetteboy gyda llwyth o glipiau Boris Johnson. Mae’r fideo newydd fynd ar YouTube felly brysia cyn iddyn nhw eu tynnu i lawr.

Awtotiwnio’r EDL

Rydyn ni wedi bod yn archwilio ailgymysgiadau, yn diweddar fideo a stwnsh-yps ar YouTube.

Yn hytrach na homage fel rhai o fideos stwnsh-yp eraill, mae’r enghraifft yma yn defnyddio clip o gyfweliad gydag ymgyrchydd EDL i gymryd y pis. Beth sy’n wych yw’r defnydd o awtotiwn mewn ffordd sy’n cysylltiedig â hip-hop a ‘cherddoriaeth du’ – ac wrth gwrs alaw sy’n dod o gân o’r enw Qom.

Hypothesis y dydd 1: mae diwylliant penodol ar YouTube a bydd e’n cael effaith ar gyfryngau eraill. Mae’r pobol sy’n creu stwsh-yps ar YouTube nawr bydd y cynhyrchwyr proffesiynol ac ati fory. Rydyn ni wedi gweld teledu ôl-YouTube o’r blaen, e.e. All Watched Over By Machines of Loving Grace – rhaglennu gan Adam Curtis gyda fideos o’r archif, cerddoriaeth, sloganau ac adroddiad. (Dychan…)

Hypothesis y dydd 2: gweithgynhyrchu ailadroddiad, yr un delwedd tro ar ôl tro fel Andy Warhol, i ffeindio’r ystyr go iawn.

Muslamic Ray Guns – The EDL Anthem fel MP3 am ddim (fersiwn estynedig)

Diolch Hel am y fideo.