Archif cylchgrawn Sothach

Gwychder. Sothach oedd cylchgrawn am roc a phop o Gymru yn gynnwys erthyglau a chyfweliadau gyda Ffa Coffi Pawb, Manic Street Preachers, Jess, Datblygu Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Eirin Peryglus, Recordiau Ankst, Tynall Tywyll, Beganifs, Anhrefn, Jecsyn Ffeif, Steve Eaves, Aros Mae, Daniel Glyn a mwy…

Mae archif cylchgrawn Sothach ar y we gyda rhifynau o 1989, 1992 – a mwy i ddod. Dw i wedi cadw pob PDF ar fy disc heddiw ar gyfer y nosweithiau tywyll. Mae’r cymhariaethau gyda’r sin 2011 yn ddiddorol.

Dyma gofnod blog gan Dafydd sydd yn esbonio mwy am y prosiect digido.

Gweler hefyd: Ffeiliau Ffansin

Carraig Aonair – CA2

Dyma glawr gwych o albwm CA2 gan fand gwerin Geltaidd o’r enw Carraig Aonair recordiwyd yn Abertawe nôl yn 1983 pan oedd dylanwadau synth-pop yn yr awyr.

Traciau:

1. Y Gwydd
2. Pelot De Betton
3. Y Set Gymreig
4. Jigiau Nadolig
5. Farwell To Frances
6. Tra Bo Dau
7. Lisa Lân
8. Llanymddyfri
9. The Beggar
10. Clychau Aberdyfi

Mae rhai o’r tiwns eraill ar y Myspace os wyt ti’n chwilfrydig. Ond gobeithio bydd Lisa Lân ar-lein cyn hir hefyd – yn ôl y sôn mae’r fersiwn electroneg o’r clasur yn anhygoel; fel Kraftwerk Celtaidd. Defnyddiodd y BBC y cân fel thema rhaglen newyddion dyddiol ar Radio 4 yn yr 80au (ffynhonnell: gwefan nhw ond unrhyw un yn gwybod pa raglen?)

DIWEDDARIAD: mae rhwyun wedi postio’r celf clawr a’r cân:

Llun gan stanno

Dychweliad Texas Radio Band

Texas Radio Band - Bluescreen

Bluescreen ydy’r trydydd albwm Texas Radio Band gyda: tiwns, seiniau rhyfedd, geiriau cryptig a jôcs preifat.

Mae’r albwm digidol yn dod mas ar y 3ydd mis Hydref eleni yn ôl y sôn trwy’r label Recordiau I Ka Ching (sydd wedi bod yn rhyddhau stwff Jen Janiro hefyd).

Dyma blas o’r recordiadau newydd: anthem glam rock See What You’re Saying (T-Rex yn y gofod) ac Un Grifo En El Mar, electro-disco-pop gyda geiriau Sbaeneg.