Dyma tip bach am gofnod The Beach ar fy mlog personol – gemau, theatr a drama arlein gyda National Theatre Wales.
Awdur: Carl Morris
Gruff Rhys a Tony Da Gatorra: Fideo newydd am In a House With No Mirrors (You’ll Never Get Old)
Paid anghofio’r adolygiad o’r albwm The Terror of Cosmic Loneliness yn Y Twll.
Fideo gan Dylan Goch, trwy Turnstile
Mae Spillers yn symud… Lluniau newydd o’r siop recordiau yng Nghaerdydd
Mae Spillers Records yng Nghaerdydd yn symud o’u lleoliad enwog yn Yr Aes ar ôl 60 mlynedd yn y safle.
Wnaeth y siop dechrau yn wreiddiol yn Queen’s Arcade yn 1892, wnaeth hi symud i’r Aes yn y 1940au.
Nawr maen nhw eisiau ail-agor yn 31 Morgan Arcade yn ganol mis Gorffennaf 2010.
Lluniau gan lounatik
Paul McCartney – pump can gorau am y clwb
Mae gyda fi perthynas arbennig gyda Paul McCartney.
Dw i ddim yn wrando am yr albymau llawn.
Ond dw i’n hapus iawn pan fi’n chwarae tlysau bach – unrhyw beth yn ei canon fe sydd dan y categori Nice Little Groovers neu guff Balearig yn enwedig.
Wrth gwrs mae fe’n lot o hwyl i chwarae recordiau fe yn y clwb pan mae pobol yn gwenu a gofyn “beth yw HWN?”.
Dyma fy cofrestr o ganeuon fi’n hoffi DJo.
1. Wings – Let ‘Em In
Ro’n i wastad meddwl bod e’n canu am gyfartaledd yma ond mae Wikipedia yn siarad am ei deulu a ffrindiau. Beth bynnag mae gyda Wings curiad ffynclyd yma. Mae’n swnio’n briodol rhwng caneuon hip-hop canol-thempo fel Showbiz & AG neu ODB. Mae gyda fi’r albwm finyl, sengl 7″ a fersiwn byw ar albwm arall. Mae fersiwn dyb hir answyddogol ar gael.
2. Paul McCartney – Temporary Secretary
Mae’r peth yma yn swnio fel Drexciya neu rhywbeth o techno/electro Detroit! Gyda llais cawslyd a geiriau sy’n swnio’n eitha amheus. Mae’r sengl 12″ yn amhosib i ffeindio, prynais i’r albwm am 50c yn y marchnad Bessemer Road, Treganna, Caerdydd. YCHWANEGOL: Secret Friend ochr B o’r sengl 12″, prin iawn, ac y diffiniad guff Balearig.
3. Paul McCartney – Check My Machine
Creuodd Macca y groover canol-thempo yma fel prawf gyda pheiriant newydd. Mae’r can ar gael ar yr ochr B o Waterfalls 7″. Mae Huw Evans yn caru’r can hon.
4. Paul McCartney a Wings – Goodnight Tonight
Yn y 70au hwyr ac 80au gynnar, roedd disco yn dylanwadol iawn. David Bowie, Talking Heads, Rod Stewart, Rolling Stones, Caryl Parry Jones, roedd pawb yn creu disco ar y pryd. Mae Goodnight Tonight yn bodoli ar y llinell aur/caws. Rhaid i ti caru’r bas yma a lliadau gitar. Efallai dylai DJs chwarae e ar diwedd y nos (beth yn y byd allet ti chwarae nesaf?).
5. Wings – Silly Love Songs
Ac eto. Silly Love Songs oedd y daith cyntaf Macca i mewn disco. Mae’r gan yn bodoli ar y llinell sbwriel/gwerthfawr. Pa ochr? Paid a phoeni, jyst dawnsio a gofyna wedyn. Mae Macca wedi ateb dy ymholiadau yn yr eiriau beth bynnag. Dw i wedi clywed ail-golygiad answyddogol gan DJ rhywle.
Dyma fi, fy hoff caneuon Paul McCartney am y clwb. Dw i wedi osgoi pethau amlwg fel Band On The Run achos dw i eisiau rhoi focws ar ei gwaith i DJs ym mhob man. Diolch Macca, ymddiheuriadau wnes i colli dy gig yn y Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd mis diwetha. Mae dal gyda fi dy finyls.
IAWN, UN ARALL: Let Me Roll It gan Paul McCartney a Wings
RIP Rammellzee, arloeswr hip-hop
Bu farw Rammellzee (neu RAMMΣLLZΣΣ) yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd wythnos yma.
Oedd e’n rhan bwysig o’r sin hip-hop (y sin gynnar yr 80au yn enwedig) fel cerddor ac artist graffiti. Mae’r fideo yn dangos e ar y llwyfan yn rapio yn y ffilm Wild Style.
Mae fe’n enwog am y can Beat Bop o 1983 gyda K-Rob. Mae cefnogwyr hip-hop yn galw’r record 12″ y holy grail o recordiau hip-hop achos mae pobol yn fodlon talu prisiau gwallgof amdano fe. Mae pob copi yn dod gyda chlawr sydd wedi cael ei pheintio gan Jean Michel-Basquiat.