Rhys Iorwerth – Cywydd Coffa i’r Bidet (a fideos Bragdy’r Beirdd)

Roedd lot fawr o gerddi o ansawdd yn y noson cyntaf Bragdy’r Beirdd neithiwr yng Nghaerdydd! Yn hytrach na mewnosod pob fideo yma dw i’n argymell y sianel YouTube Bragdy’r Beirdd lle ti’n gallu clywed cerddi gan Catrin Dafydd, Osian Rhys Jones a geiriau difyr am hanes Caerdydd gan y gwestai gwadd Owen John Thomas.

Dyma un ohonyn nhw, Cywydd Coffa i’r Bidet gan Rhys Iorwerth:

Bragdy’r Beirdd – noson newydd yng Nghaerdydd

Bragdy Beirdd

Mae digwyddiadau fel Bragdy’r Beirdd, sef rhywbeth llenyddol o ansawdd sy’n hollol annibynnol gyda phresenoldeb cwrw, yn eitha prin yn fy mhrofiad i – hyd yn oed yn y prifddinas. (Heb sôn am y fwyd Caribïaidd yn y Rocking Chair, sy’n ardderchog.)

Manylion y digwyddiad cyntaf:

Rocking Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
nos Iau, 9fed mis Mehefin 2011
8PM
Mynediad am ddim.

Gwestai:
Rhys Iorwerth
Osian Rhys Jones
Catrin Dafydd
DJ Meic P
“Gwestai gwadd arbennig”

Cer i’r tudalen Facebook a digwyddiad Facebook.

DIWEDDARIAD: @BragdyrBeirdd ar Twitter

The Welsh Extremist: llyfr am ddim i eithafwyr sy’n hoffi llenyddiaeth

I HAD GROWN up with the word extremist almost constantly in my newspaper – Kenya, Cyprus, Israel, Malaya, Aden; very often the word changed to terrorist and then one day the words would disappear and the head of a new independent state would arrive in London to meet the Queen.

…yw brawddeg gofiadwy gyntaf The Welsh Extremist gan Ned Thomas, awdur, meddyliwr a newyddiadurwr (i The Times yn y 60au yn ogystal â chyhoeddiadau eraill).


Ned Thomas - The Welsh Extremist

Mae Cymdeithas yr Iaith newydd ail-gyhoeddi’r llyfr The Welsh Extremist fel fersiwn digidol am ddim – dan drwydded Creative Commons:

Ned Thomas – The Welsh Extremist (PDF)

(Neu OpenOffice / TXT)

Daeth y llyfr mas yn wreiddiol yn 1971 trwy gwmni Victor Gollancz o Lundain ac wedyn fel clawr meddal trwy’r Lolfa o Dalybont.

Yn y llyfr mae Ned Thomas yn trafod yr ymgyrchoedd dros statws a hawliau i’r iaith a dros sianel deledu Cymraeg. Meddai’r awdur Niall Griffiths am y llyfr:

Non-fiction, and frightening; not because of its promotion of militancy, heck no, but because of its revelations and analysis concerning the insidious and evil hegemonic takeover of whole countries, entire ways of life. On behalf of all oppressed nations, and for the individual creative effort threatened by the barren swamp of enforced uniformity. As vital now as it was in the 70s, and as important as Franz Fanon’s The Wretched of the Earth. Endorsed by Raymond Williams, and he knew a thing or two.

Mae Ned Thomas yn cyfrannu penodau llawn am Saunders Lewis, Dr Kate Roberts, Gwenallt. Efallai bydd rhai o’i bwyntiau yn amlwg i ddarllenwyr Y Twll achos roedd e’n meddwl am gynulleidfa di-Gymraeg ond mae’n werth darllen am yr amser a’r barnau profoclyd, e.e. y peth yma am yr ‘SRG’ yn y 60au a 70au versus Cân i Gymru:

It would be wrong to suggest that all Dafydd Iwan’s songs are political – he sings folk songs and love songs, children’s songs and settings of Welsh poems – or indeed that all his political songs are successful; nor is he the only writer of good political and satirical songs (there are Huw Jones and Mike Stevens). But one can say of the whole Welsh pop movement that it has derived its special character, and reached its highest point, in the political songs, and also that these are the songs which, generally speaking, have sold best. Through the popular song, through Dafydd Iwan in particular, the ideas of the Welsh leadership have been able to get through, in one of the few ways now open, to the ordinary Welsh-speaker, especially in the younger generation. A sure sign that they are getting through is the fact that Welsh members of parliament have from time to time spoken of the pop movement as if it were a sinister conspiracy. There have been efforts to divert the pop impulse into non-political channels, too. In Investiture year a “Song for Wales” competition was organized on television, where clearly a non-protesting approach was required. The results were lamentable as one would expect. The fact is that the liveliness of the young Welsh generation and of its singing is inseparable from the protest.

Mae fe’n codi’r pwynt o’r diffyg safbwyntiau amgen, yn enwedig yn Gymraeg ac ar y teledu, pan oedd yr Establishment yn darlledu’r Arwisgiad Charles yn 1969.

The inadequacy of Welsh television for the task of working out conflicts within the community was brought out during the period of the Investiture of the Prince of Wales in 1969…

Long before the summer the publicity machine, working from London in English and other languages to the world, had got into its stride. I was working in the Central Office of Information at the time and remember the stream of anodyne articles about Wales going out in preparation for the Investiture. Every heraldic and ancestral detail, every small irrelevant anecdote about Wales was unearthed. There was, of course, no suggestion of this being a country with any conflicts…

The occasion, seen from London, was at best a splendid spectacle, at worst another endearing royal joke.

The trouble was that this was also the kind of treatment that virtually monopolized the screens of the Welsh community within which feelings ran very high. Television in Welsh, in the small number of off-peak hours allowed it, tried to let sides put their case (though even this was limited by the timidity of regional administrators), but because of the organization of television, it was wholly drowned by the spate of English on the same channel. The result was that people felt that a tremendous public relations act was being put over, the media were a form of imposition, not something we shared and could use to work out our differences.

Dw i’n amau os oedd e’n hapus i weld y briodas frenhinol yn Gymraeg ar S4C mis diwethaf, er oedd mwyafrif o Gymry yn eithaf bodlon i’w derbyn heb sylw. Fel y dwedais, mae’r gymariaethau yn ddiddorol.

BONWS: Ned Thomas ar Pethau / ‘Ned Thomas and the Condition of Wales’ (erthygl)

Disgo Dydd i’r Di-waith, Caerdydd

Disgo Dydd i’r Di-waith
The Rocking Chair, Glanyrafon, Caerdydd
20ain mis Ionawr 2011

Mewn bar Caribïaidd yng Nglanyrafon, ar brynhawn yn ystod y lleuad lawn – yr oedd pobol di-waith Caerdydd yn dod at ei gilydd am i ddawnsio a llawenhau! Am bob swydd wag yng Nghaerdydd mae 9 person di-waith yn ôl ystadegau’r llywodraeth. Mae’r syniad gwych yma gan Adam Johannes a’i trefnwyd gan Bronwen ‘Little Eris’ Davies a’i chriw yn un penigamp! Dyma ffordd wych o chwalu’r agwedd afiach fod pobol ddi-waith rhywsut i’w beio am eu sefyllfa druenus. Pwy goblyn fuasai’n dewis byw mewn tlodi?!

Dywed erthygl ar wefan y BBC fod pobol ddi-waith fwy tebygol o ddatblygu salwch meddwl megis pruddglwyf neu bryder. Dydi’r bobol yma ddim yn ‘wan’, adwaith naturiol buasai meddylfryd o iselder mewn sefyllfa anobeithiol lle nad ych yn teimlo bod cyfeiriad i’ch bywyd. Mae’r di-waith yn llythrennol heb reswm i godi yn y bore. Dychmygwch y diflastod a syrffed – pob dydd yn wag, cael eich gwrthod gan gyflogwyr un ar ôl y llall, dim arian i wneud unrhyw beth hwyl yn eich amser sbâr sydd mewn gormodedd…

Mae hyn yn broblem ddifrifol a ni allwn ddisgwyl i’r llywodraeth ein hachub, i’r gwrthwyneb – fe ymddengys fod y llywodraeth yn fwy na pharod i’n CON-DEMio! Maent am waethygu’r sefyllfa’n enbyd, rhagwelaf ddioddef a chynni economaidd yn nheuluoedd ar draws Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac anobaith i bobol ifanc sydd eisiau dechrau allan yn y byd. Rhaid i bobol trefnu pethau eu hunain ac mae disgo i’r di-waith yn ffordd syml o ddechrau hyn. Os yr hoffech drefnu disgo yn eich ardal mae canllaw gan Bronwen ar Facebook.

Nid yw’n or-gymleth, byddwch yn barod i weithio’n galed i’w hysbysebu a’i drefnu a gall fodd yn wych! Yn enwedig gan fod gymaint o bentrefi bychain tawel yng Nghymru, dyma ffordd i greu cynnwrf! Ar yr 20fed o Ionawr bu’r ail ddisgo dydd i’r di-waith yng Nghaerdydd. Bydd yn ddigwyddiad misol felly os yr ydych yn yr ardal dewch i’r un nesaf mis Chwefror!

Y gobaith yw bydd y disgo yn ysbrydoli pobol di-waith i gymryd rhan, pam ddim iddynt gyfansoddi rap/cerdd a’i berfformio? Efallai eu bod yn giamstar ar Logic neu Reason ac eisiau Djio rhai o’u caneuon? Neu efallai eisiau rhannu eu chwaeth mewn cerddoriaeth a DJio eu hoff draciau! Efallai bod rhai yn dysgu neu yn gallu chwarae offeryn? Mae llwythi o bosibiliadau – dechreuwch un rwan!

Yr oedd disgo mis Ionawr yn wych, i ddechrau yr oedd barddoniaeth. Yr oedd arddull pob bardd yn unigryw, rhai yn rheibus wleidyddol ac yn bregethwrol. Eraill yn ysgafnach, bu perfformiad gwych gan Mab Jones oedd yn gymysgedd o gomedi/farddoniaeth. Yr oedd un rapiwr/fardd ifanc, nid yn unig efo ffordd eifo’i eiriau ynd yn ynganu mewn modd arbenig basa ddim o’i le ar drac hio hop a basa wedi gwneud tiwn go dda dwi’n meddwl. Rapio yn erbyn y codiad ffioedd yn Lloegr ydoedd ar ôl iddo gael ei synnu ar ôl darllen maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod wedi gaddo fel polisi chwalu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl o fewn chwe blynedd! A be sy’n digwydd rwan ond maent yn codi’n uwch na’r nefoedd wrth condemio myfyrwyr tlawd yn y dyfodol i uffern o gynni.

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd set electroneg Skimatix. Uchafbwynt arall oedd gwrth-werin Jasmine Jackdaw. Bu’n canu’n swynol gyda’i gitar acwstig ynglyn â phynciau mwyaf gwyrdroëdig/ddoniol! Yr oedd rhywbeth Gwibdaith Hen Franaidd iawn yn naws ei cherddoriaeth. Oedd ei merch fach druan yn dwyn y meicroffon tra oedd ei mam yn ceisio perfformio! Llwyddodd hi ambell dro ac yr oedd pawb yn ceisio ei swyno ffwrdd o’r meicroffon ond heb lawer o lwc! Yr oedd rhaid i mi adael ar ôl Jasmine Jackdaw ond buaswn wedi bod wrth fy modd petawn i wedi gallu aros yn hirach. Oleiaf gennyf ddisgo’r mis nesaf i edrych ymlaen ato!

Y gobaith yw bod hyn yn ysbrydoli pobol ifanc di-waith i gymryd eu tynged i’w dwylo eu hunain. Fel y dywedais canwaith eisoes yn yr erthygl yma-trefnwch ddisgo yn eich ardal chi. Peidiwch â gadael swildod eich llethu, rhaid i chi fynd amdani, dim ond unwaith foch chi’n fyw! (Wel efallai fydd yr Hindwiaid yn ailymgnawdoli yn ôl eu crefydd ond pwy a wyr! Efallai dod ‘nôl fel sarff a fasa hi dipyn anoddach wneud pethau bryd hynny!)

Dewch draw i’r disgo nesaf ar y 18fed mis Chwefror 2011 yn y Rocking Chair o 2 y.h. ymlaen.