Pigion o archifau Desert Island Discs

DesertIslandDiscs-467Yn ddiweddar, gwnaeth y BBC rhyddhau llwythi o stwff o’r archifau Desert Island Discs – rhestrau caneuon a rhaglennu fel ffrydiau ac MP3.

Cryfder Desert Islands Discs yw’i gwendid. Hunangofiant trwy gyfrwng recordiadau yw’r rhaglen. Felly mae’n llawn pobol sydd wedi llwyddo yn barod, yn llygaid BBC Radio 4. Ac mae’n tueddu tuag at bobol a dewisiadau saff (dim ond un person am Kraftwerk, Frank Skinner, dim ond un person am Aphex Twin, Vic Reeves, dim ond un person am Public Enemy, Kwame Kwei-Armah? Pfft!).

Ambell waith dw i eisiau clywed beth mae pobol dw i’n parchu yn ei gwrando, hen a newydd – fel rhaglen radio. (Syniad i bobol radio neu blogwyr/podlediadwyr?) Yn enwedig dw i eisiau clywed sgyrsiau yn Gymraeg am bob math o gerddoriaeth gan gynnwys cerddoriaeth o du allan i Gymru.

Yn y cyfamser, mae’r archif Desert Island Discs yn werth cipolwg. Os oes gyda ti unrhyw ddiddordeb o gwbl yn Morrissey, Jarvis Cocker, Jan Morris (yn 2002, roedd hi ar y rhaglen yn 1983 hefyd), John Cale, Bill Bailey, Linton Kwesi Johnson, Ken Loach, wel, rwyt ti’n gwybod beth i’w wneud.

Mae dim ond 30 eiliad o’r caneuon yn yr MP3s (cyfyngiadau hawliau) felly mae rhaid gwrando ar y ffrydiau iPlayer i glywed mwy o’r recordiadau.

Mantais arall yw’r dadfwndelu: does dim rhaid i ti wrando ar y rhaglen llawn i fwynhau’r ailgymysgiad asid gan Hardfloor o’r clasur clwb Yé Ké Yé Ké gan Mory Kanté ar BBC Radio 4 (hoff gân… Nigella Lawson) neu ddychmygu Alan Johnston ar y ffordd i gyfarfodydd Blair a Brown gyda Super Furries ar y stereo.

Dyma bigion o’r archif Desert Island Discs:

Diwrnod yn y Ddinas; Ar Derfyn Dydd

Gweler hefyd: rhan 1 ar cychwyn y mis

Beth oedd arwyddair CNN ar un adeg dwedwch, “Give us a minute and we”ll give you the world”? Wel, os oes ganddoch chi 27 munud, gewch chi Gaerdydd.

Ydy, mae’r dair wythnos o recordio a golygu’r Magnum Opus Diwrnod yn y Ddinas ar ben, a dwi’n nacyrd. Ma’r rhaglen wedi’i chwblhau, a’r oriau ar oriau o seiniau yn llechu rywle y system, gyda swmp helaeth ohonynt wedi’u golygu’n glipiau sain i’r wefan sy’n cydfynd â’r rhaglen, yn ogystal â nifer o luniau dynnais i o’r ddinas a’r cyfranwyr.

Ar un adeg, ro’n i’n meddwl mai encil wirfoddol i lonyddwch lleiandy fyddai cyrchfan fy mreuddwydion, yn dilyn bron i fis o diwnio fewn i seiniau dinas Caerdydd. Ac mae’n wir – fydda i byth yn gallu clywed seiren ambiwlans yn rhuthro heibio heb feddwl, “Cor, odd hwnna’n un da”.

Susan GriffithsOnd y gwir ydy, ma’r cyfnod yma wedi neffro i’n llwyr i un o brofiadau mwyaf synhwyrus fy mywyd. Nid yn unig ydw i bellach yn deall yn union beth yw’r gwahaniaeth rhwng swn alarch a gwydd, colomen a gwylan, ond dwi wedi f’atgoffa cymaint o hiwmor sy’n perthyn i gleber trigolion Caerdydd. Anghofiwch am Gavin and Stacey, jyst treuliwch bach o amser ym Marchnad Caerdydd, Swyddfa Bost Albany Road neu’r bws rhif 52 i Bentwyn, a bydd drafft cynta sit-com ‘da chi mewn chwinciad.

Ydw, dwi’n cyfadde mod i wedi troi’n urban sound-geek, ac os ydych chi’n dymuno dod ar wibdaith soniarus â mi o amgylch y ddinas, mi af â chi i’r union lecynnau sy’n boddi mewn haenau o seiniau gwahanol.

Dwi newydd gyflwyno copi CD gorffenedig i gymydog, cyfaill a chyfranwr i’r rhaglen – Geraint Jarman. Hyd yn oed os nad ydych yn ffans o ddinas Caerdydd (dwi’n gwbod fod na rai ohonoch chi allan yna), hoffwn eich sicrhau chi fod y rhaglen yn werth gwrando arni am y rheswm sylfaenol fod “Nos Sadwrn Bach”, oddi ar ei albwm newydd hirddisgwyliedig, yn un o’r caneuon harddaf i mi ei chlywed erioed, ac ni fydd modd ei chlywed yn unman arall nes caiff yr albwm ei rhyddhau ddiwedd y flwyddyn.

Bu Geraint yn ddigon hael i gynnig y gân i gydfynd â’r rhaglen am ei bod yn cyfleu noson allan ar Womanby Street, sy’n asio’n berffaith gyda rhan ola’ Diwrnod yn y Ddinas.

Dwi’n ddiolchgar tu hwnt am ei haelioni ef, ond hefyd am haelioni pob un o gyfranwyr gwych y raglen fechan hon.

Dechreuais ag amlinellaid o syniad, a braslun o’r ffordd roeddwn am ei chychwyn a’i gorffen, gan gysylltu â ffrindiau, cydnabod, ac enwau cwbwl newydd i mi – yn holi tybed fydde amser ‘da nhw i mi dreulio ychydig amser yn eu cwmni yn recordio’r seiniau o’u cwmpas, a chyflwyniad o’u cornel nhw o Gaerdydd. Cês fy mhlesio’n arw gan yr ymateb, gan i bawb – yn ddi-eithriad – ddod nôl ata i’n syth bin gydag ymateb bositif.

Beth oedd hefyd yn ffantastic oedd y bobol gwrddais i trwy hap a damwain tra’n recordio ar strydoedd y ddinas, sydd bellach yn gymeriadau canolog yn y ddogfen hon, gan gynnwys Magi Roberts o Cathays ac Afzal Mohammad – tad y cyflwynydd Jason – o Gaerau yn Nhrelai.

Afzal MohammadMae’r ddau yn gweithio’n rhan-amser gyda City Sightseeing, y bysus deulawr tô-agored sy’n gadael y Castell bob hanner awr, gyda Magi’n sylwebydd, ac Afzal yn yrrwr yn dilyn gyrfa gyfan yn gweithio gyda Cardiff Bus.

Nid peth hawdd yw sgwrsio’n “naturiol” pan fo meicroffôn o dan eich trwyn,yn arbennig i bobol sydd heb arfer gwneud, ond ymatebodd pawb yn ddifyr a deallus wrth drafod eu Caerdydd nhw, a’r seiniau sy’n ffurfio’u trac sain dyddiol.

Yn wir, ces fy llorio’n llwyr gan ambell arsylwad. Doedd gen i ddim syniad, er enghraifft, fod Caerdydd yn llawer mwy swnllyd na’r un ddinas yn yr Unol Daleithiau, yn cystadlu â Chicago am ei statws fel Windy City, ac fod na un diwrnod o’r flwyddyn lle mae’r ddinas yn gwbl ddistaw.

Roedd hi hefyd yn ddifyr dod i ddeall pa synnau sydd ddim i’w clywed mwya ch yng Nghaerdydd, sy’n brawf fod hyd yn oed seiniau yn gadael hiraeth ar eu hôl.

Gallwn draethu am oriau am eco’r Echo-ebychwr yn nerbynfa’r orsaf ganolog, y grefft o stelcian elyrch a gwylanod heb risk asessment, a ‘nghyfnod byrhoedlog fel ambulance-chaser, ond mae’n mynd yn hwyr, ac mae’r hen leiandy yn galw.

Ond och, beth yw hyn? Gwich neges destun gan fy chwaer, a chorn ei char tu fas yn fy siarsio i i shiglo fy stwmps.

Mae gen i barti i’w fynychui’w cynhesu cartre Llyr a Spencer, cyfranwyr cyntaf y rhaglen, a’r cwpwl cyntaf i symud i’r datblygiad newydd ar hen dir Ninian Park. Fe ddarganfuon nhw’n ddiweddar fod eu ty nhw’n sefyll ar leoliad cawodydd yr hen stafelloedd newid. Waw – jyst dychmygwch yr ysbrydion sy ganddyn nhw…

A bod yn deg, nid mynd i hel bwganod ydw i, ond i ddilyn cyngor doeth iawn dderbyniais i tra’n recordio yn y farchnad bythefnos yn ôl. Wrth basio’r cigydd, gofynais i’r stondinwraig, Susan Griffiths, a gawn i recordio’r peiriant sleisio bacwn ar gyfer fy rhaglen. Roedd hi’n ddigon caredig i rannu sgwrs ddifyr â mi – sydd i’w glywed fel rhan o’r clipiau sain ar wefan BBC Radio Cymru. Ond wnai fyth anghofio’i hymateb cyntaf i’r fath ofyniad;

“If you don’t mind me saying love, you ought to get a different job – or get out a bit more!”

Dwi’n credu y sticiai i da’r job am y tro, Susan. Ond allan â mi, am ragor o brofiadau, yn ninas fechan orau’r byd.

Bydd Straeon Bob Lliw: Diwrnod yn y Ddinas yn darlledu ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sul Medi 26 am 5 o’r gloch yr hwyr, gydag ailddarllediad ar nos Fercher Medi 29 am 6 o’r gloch yr hwyr. I wrando eto ar yr iPlayer, i weld lluniau, ac i glywed sgyrsiau estynedig gyda’r holl gyfranwyr ewch yma.

Diwrnod yn y Ddinas

Diwrnod Pethau Bychain Hapus! Os fydd heddiw unrhywbeth fel ddoe, mae gen i brofiad a hanner o’m mlaen i. Dwi newydd ddechrau recordio rhaglen ddogfen ar gyfer y radio sy’n cynrhychioli diwrnod yn y brifddinas. Cerddlun o Gaerdydd fydd y raglen hon, yn cynnig portread o’r ddinas trwy gyfrwng seiniau a lleisiau lleol.

Doedd dim angen cloc larwm arna i ben bore ddoe; diolch i grawcian gwylanod Penylan, nes i godi cyn cwn Caerdydd, oedd yn hynod handi, gan i mi ddechrau yng nghwmni pooches Parc Buddug, a’u perchnogion, toc ar ôl saith. Yna, ymlaen i Benarth am sgwrs â rhai o’r twristiaid o Tseina oedd yn tynnu lluniau o banorama’r Bae ger yr hen Billy Banks, cyn mwynhau paned ger y Pier yng nghwmni’r diddanwr stand-yp Frank Honeybone – dyn sydd â digon i ddweud am ei ddinas fabwysiedig.

Eglwys Gadeiriol LlandafYna, profiad cwbl newydd i mi, a’r rhan fwyaf o ddinasyddion dybiwn i- gwibdaith ar y bws tô-agored sy’n gadael y Castell bob hanner awr, a chael modd i fyw diolch i sylwebaeth Mike a Magi – dau o’r ardal sy’n adlonni ymwelwyr yn ddyddiol- cyn gorffen am y tro mewn heddwch pur yng ngerddi’r Eglwys Gadeiriol yn Llandaf – un o ddihangfeydd dyddiol dinesydd arall. Eto, roedd hwn yn fangre cwbl anghyfarwydd i mi, er bod fy swyddfa lai na chwarter milltir i ffwrdd, a minnau’n wreiddiol o’r brifddinas.

Megis dechrau ydw i, gyda phythefnos gorlawn o recordio o’m mlaen i geisio cynrhychioli cymaint o seiniau, ardaloedd a phrofiadau i grisialu “diwrnod” yn y ddinas cyn i mi feddwl dechrau ar y gwaith golygu.

Ie, pythefnos i gyfleu diwrnod- boncyrs yn wir, ond mae gen i ofn mai one man band yw hi o ran tîm cynhyrchu, a bydde angen nifer fawr o Lowri Cooke’s i geisio gwneud cyfiawnder ag enhangder y ddinas mewn un diwrnod yn unig – yn enwedig ‘rôl profi trallod y tagfeydd traffic sy’n parhau i i greu cythrwfl, diolch i’r gwaith adeiladu o flaen y Castell (cue sain driliau, cement-mixers a Jac Codi Baw).

Stryd WomanbyYdyn, mae’r haenau o seiniau sydd i’w clywed ar hyd a lled y ddinas yn ddi-ddiwedd, o’r llonyddwch lloerig sydd i’w brofi ym Mharc y Rhath ar doriad gwawr, hyd at adar amrywiol Adamsdown, traffig byddarol Death Junction, llif cyson Nant Lleucu, ‘smygwyr siaradus Stryd Womanby, a’r fflicran di-baid rhwng gorsafoedd radio mewn cerbydau ledled Caerdydd.

Dwi’n gobeithio cofnodi’r rhain oll a llawer iawn mwy dros y dyddiau nesa ma. Braint o’r mwya ydy cael cyfnod o wrando mor astud ar fy ninas ar gyfer prosiect o’r fath, felly da chi, os welwch chi fi a fy ffrind bach fflyffi, Stereo Mic, yn loitran with intent yn eich cornel chi o’r brifddinas dewch draw i mi gael clywed am rai o’r seiniau hynny sy’n crisialu’ch Caerdydd chi.

Bydd Diwrnod yn y Ddinas yn darlledu ar BBC Radio Cymru ar 26 mis Medi 2010

Lluniau gan Dom Stocqueler a Watt Dabney

Radio Amgen, cyfweliad gyda Steffan Cravos

Mae’n annodd coelio fod yr orsaf weradio Radio Amgen wedi bod yn mynd ers bron i ddegawd erbyn hyn. Mae’r orsaf wedi darlledu dros 170 o sioeau ers 2001 – micsys o gerddoriaeth tanddaearol newydd gyda’r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb. Mae pob un o’r sioeau hyn dal ar gael i wrando a lawrlwytho o radioamgen.com – ewch i’r archif am y rhestr llawn.

Dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi datblygu a tyfu yn araf bach a heb ffwdan i fod yn drysor cenedlaethol (ymddiheuriadau i Stephen Fry). Mae bodolaeth parhaol yr orsaf yn arbennig o bwysig nid yn unig yng nghyd destun tirlun cerddorol ‘mainstream’ Cymru, ond hefyd y  ‘Sîn Roc Gymraeg’, byd mewnblyg lle mae bandiau ffync gwael yn gael eu cysidro yn ‘alternative’ a ‘edgy’. Heb swnio fel ormod o hipi, mae gwir angen presenoldeb fel Radio Amgen i herio’r sefydliadau hyn – mae bodolaeth yr orsaf yn cyfrannu’n enfawr tuag at amrywiaeth a iechyd ein diwylliant cerddorol.

Y dyn tu ol i Radio Amgen yw Steffan Cravos – yr un person a fu’n gyfrifol am chwyldroi/dyfeisio cerddoriaeth hip hop Cymraeg ar droad y ganrif gyda’r Tystion.  Sioe gynta’r orsaf oedd mics gan DJ Lambchop (aka Cravos), a’r trac gynta un ar y sioe honno oedd y clasur tanddaearol Cymreig “Dwi’n Licio Dafydd Iwan” gan Gwallt Mawr Penri (aka Dyl Mei).

Sut ddechreuodd yr orsaf?

Steffan Cravos: O ni’n rhedeg label o’r enw Fitamin Un ar y pryd ond doedd dim digon a arian da fi i rhyddau’r holl traciau oedd yn cael eu hanfon atai. Oedd Johnny R wedi cychwyn yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we cwpwl o flynyddoedd yn gynt (Radio D – gweler DVD Ankst ‘Crymi No.1′ am raglen ddogfen fer) a nath hwnna ysbrydoli fi i gychwyn Radio Amgen. Oedd e’n ffordd gwych o rhoi platfform i deunydd newydd yn gyflym ac ar lefel rhyngwladol. Outlet oedd Radio Amgen ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol doedd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru.

Sut ddyliwn ni disgirifio RA? Radio we? Weradio? Gweradio?

Radio rhydd annibynnol ag onest.

Dros y blynyddoedd mae’r orsaf wedi pledu allan nifer fawr o sioeau o fewn amser byr, a wedyn wedi cymryd saib am wythnosau neu fisoedd, neu blynyddoedd maith.

Da ni yn ein pedwerydd cyfnod ond dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi cymryd seibiant am wahanol rhesymau – diffyg amser, diffyg adnoddau, gan fwyaf. Ar y foment da ni’n rhoi sioe allan bob yn ail ddydd(ish) ac yn derbyn dros 6,000 ergyd y mis.

Pam nad yw sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau ayb yn cefnogi’r orsaf?

Dwi ddim eisiau pres gan y CCC. Well bod yn annibynnol.

Mae na elfen politicaidd gref i’r orsaf.

Dwi wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth radical ers i fi fod yn fy arddegau, felly mae’n siwr bod hwnna yn dod drosodd weithiau yn y sioeau, yn enwedig y rhai dwi’n greu. Dwi’n teimlo hefyd fod y cyfryngau Cymraeg yn llawer rhy geidwadol o rhan allbwn, felly ma angen platfform ar gyfer cerddoriaeth heriol a syniadau radical.

Fy hoff enw ar gyfer DJ gwadd yw ‘Athro Diflas Ffwc’ – neu efallai ‘DJ Dai Trotsky’.

Athro Diflas oedd enw gwreiddiol Y Lladron. DJ Dai Trotski, ie fi oedd hwnna!

Mae Huw Stephens, ac eraill ar adegau, yn chwarae cerddoriaeth ‘tanddaearol’ ar Radio Cymru erbyn hyn. Ydi pethau wedi gwella?

Mae angen mwy. Pam ddim cael DJs i mewn a chwarae drwy’r nos (DJs go iawn hyny yw, nid radio DJs) – jyst miwsig, dim malu cachu!

Weithiau mae’n teimlo mai Radio Amgen yw’r unig allbwn ar gyfer cerddoriaeth ‘gwahanol’ o Gymru. Be fysa’n digwydd i tirlun cerddorol Cymru petai’r orsaf yn dod i ben?

Se ni’n gobeithio fase rhywun arall yn cychwyn rhywbeth tebyg… ond mae Radio Amgen yn mynd trwy gyfnodau o ddim gweithgaredd. da ni yn ein 4ydd neu 5ed cyfnod ar y foment. Da ni’n rhoi sioeau allan bob yn ail ddydd, ond wrth rheswm, nid cerddoriaeth o Gymru neu Gymraeg ydi ein darpariaeth, achos does dim digon ohono fe i gael. Fase ni’n dwli rhoi sioe dyb step Cymraeg allan – ond lle ma’r tracs? Does dim! Ma dyb step gyda ni ers 2004 fel genre newydd, ond neb yn ei gynhyrchu yn y ‘sîn gymraeg’

Oes rhaid i pobol o tu hwnt i Gymru wrando ar Radio Amgen er mwyn i ti cysidro’r gorsaf yn ‘llwyddiant’? Neu ydi hynny’n bonus?

Dim rili, ond ar ddiwedd y dydd, y we fyd ehang yw’r cyfrwng! Ma na agwedd shit yn bodoli os ti’n cael dy ‘dderbyn’ tu hwnt i Gymru (hynny yw yn Lloegr) bod ti wedi ‘llwyddo’. A dim ond wedyn bydd ti’n cael dy dderbyn yng Nghymru. Adolygiad yn yr NME – o woopie ffycin dooo – ti di ‘llwyddo’.

Ma miwsig yn gyfrwng rhywngwladol. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd erill nad ydw i’n deall (ond falle fi sy’n od) a dwi’n siwr bod na mwy o bobl fel fi o gwmpas y glôb.

Sa well da fi ddarlledu Radio Amgen ar FM yn ogystal a’r we – hwnna fydd y sefyllfa ddelfrydol, a basa grandawyr rhyngwladol yn fonws wedyn.