Brwydro nôl yn erbyn Carchar Wrecsam a’r cydberthynas diwydiant-carchar

na-i-carchardai2

Ymddangosodd y grŵp Cymunedau’n Gweithredu yn erbyn Ehangu Carchar (CAPE) fel clymblaid lawr gwlad yn fuan wedi i ail garchar fwyaf Ewrop – Carchar Wrecsam – ennill caniatâd cynllunio yn Nhachwedd 2014. Cwffiodd pobl leol am dros hanner degawd drwy ddulliau cyfansoddiadol a lobio dim ond i gael eu hanwybyddu. Bydd yn caethiwo mwy na 2100 o bobol a bydd dau weithdy mawr du fewn i’r muriau a fydd yn gwneud caethweision o fwy a 800 o garcharorion mewn llafur rhad i fusnesau.

Er nid yw’n agos at eithafion y system garchar Americanaidd, mae’r cydberthynas diwydiant-carchar yng ngwledydd Prydain yn fygythiad cynyddol ac yn niweidio cannoedd o filoedd o bobl. Fel carchardai ym mhobman, mae’n targedu’r tlawd, y dosbarth gweithiol, pobl o liw, mewnfudwyr, pobl queer, unigolion gydag anableddau dysgu neu gorfforol yn ogystal â phobl a phroblemau iechyd meddwl.

Yr oedd y carchar preifat cyntaf yn Ewrop wedi ei adeiladu yng ngwledydd Prydain a nawr gennym ganran uwch o garcharorion mewn carchardai-am-elw, yn ogystal â chyfradd uwch o garcharu yn gyffredinol nag unrhyw le arall yng ngorllewin Ewrop. Rhwng 1993 a 2014 cynyddodd y boblogaeth carchar yng Nghymru a Lloegr 91%. Yn mis Tachwedd 2015, fe wnaeth Llywodraeth Llundain gyhoeddi cynlluniau i adeiladu naw mega-garchardai ar draws gwledydd Prydain, gan werthu carchardai mewn canol dinasoedd i “ddatblygiadau”.

Mae nifer o grwpiau a phobloedd wahanol yn gwrthwynebu’r carchar yn Wrecsam. Ym mis Awst 2015 oedd gwersyll Ail-feddiannu’r Meysydd ar safle gwersyll gwrth-ffracio Wrecsam. Daeth dros 150 fynychu gan gymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a gweithredoedd ymarferol dros sofraniaeth bywyd ac yn erbyn y carchar. Adeiladwyd isadeiledd perma-amaethedd ar gyfer y gwersyll yn erbyn ffracio ac ar ddydd Mawrth y 1af o Fedi 2015 bu gweithred yn erbyn carchar Wrecsam.

protest-carchar-wrecsam

Fe wnaeth tua 20 o bobl ffurfio blocâd ar draws tair giât mynediad i safle adeiladu’r mega-garchar. Yr oedd y weithred syml yma yn syml iawn i’w gydlynu, a gyda heddlu a staff oedd wedi eu drysu gan y weithred yr oedd yn effeithiol iawn heb fod yn weithred a oedd gormod o ymdrech.

Oedd rhesi o loriau wedi eu hatal rhag gadael a chael mynediad i’r safle, gan gynnwys lori anferth o sment oedd rhaid i’w gael ei yrru nôl cyn iddo sbwylio. Fe wnaeth Simon Caren, Cyfarwyddwr y prosiect dros Lend Lease, erfyn ar y protestwyr i adael y sment i mewn gan ddweud, “We’ve been reasonable letting you protest, please just allow this one to get through”. Ni symudodd unrhyw un ac fe wnaeth y lorïau a’r deunyddiau methu a chael mynediad i’r safle.

Fe gafodd y frwydr yn erbyn y cydberthynas diwydiant-carchar hwb gydag wythnos o weithredu ac yn dechrau mis Tachwedd 2015. Ar draws Gwledydd Prydain fe wnaeth grwpiau dargedu cwmnïau a oedd yn ymwneud gyda’r Prosiect Carchar Gogledd Cymru, yn rhedeg i mewn i swyddfeydd ac yn amharu ar y diwrnod gwaith neu ym mhicedu tu allan i swyddfeydd o’r fath. Cynhaliwyd stondinau tu allan carchardai i helpu adeiladu perthnasau gyda theuluoedd a chyfeillion carcharorion, yn enwedig y sawl sydd yn cefnogi carcharorion ar ddedfryd amhenodedig o ran eu dyddiad rhyddhau.

Cafodd safle adeiladu Carchar Gogledd Cymru ei gau lawr unwaith eto, y tro yma gan dau berson oedd wedi clymu eu hunain i’r giatiau gyda chlo siâp D beic. Cafodd ardaloedd yn ne Llundain ei gorchuddio mewn posteri am Garchar Gogledd Cymru gan fod y cwmni sydd yn adeiladu’r carchar – Lend Lease hedyd yn rhan o brosiectau datblygu bonedigeiddio yn Haygate. Yr oedd y posteri yn uno’r ddwy frwydr yn erbyn y system garchar a boneddigeiddio.

Drafododd yr wythnos gyda phrotest anferth yn Yarl’s Wood Immigration Detention Centre. Yn ogystal â hyn oedd gweithredoedd wedi digwydd mor bell â Sydney, Australia, ble mae Lend Lease ar hyn o bryd yn rhan o brosiect adeiladu casino anferth. Cafodd degau o sloganau eu chwistrellu ar y waliau ar draws Sydney a banneri Lend Lease eu rhwygo lawer o’r safleoedd adeiladu, eu hail baentio a’i gollwng i’w harddangos ar bontydd.

Mae’r mudiad yn erbyn y cydberthynas diwydiant carchar yn tyfu ar yr ynys garchar yma, gyda gwyliadwriaeth, cyrchoedd ar mewnfudwyr, carchardai mudwyr, tagio a ffurfiau eraill o reoli cymdeithasol yn cynyddu, rydym yn gwynebu yr heriau mwyaf erioed.

Mae awch y wladwriaeth i ddilyn argymhellion ei hoff think tanks asgell dde i adeiladu sawl mega-garchar newydd i gaethiwo pobl wedi ei gyhoeddi. Bydd angen i anarchwyr ag eraill sydd yn gweithredu’n uniongyrchol dros gymunedau ac yn erbyn cyfalafiaeth a’r wladwriaeth ymladd fyth caletach yn y rhyfel dosbarth yma ar y byd.

Mae teuluoedd sydd yn cefnogi eu hanwyliaid yn y carchar, sydd wedi syrffedu ar ymweliadau carchar, syrffedu ar dloti a syrffedu ar y casineb dosbarth yn y cyfryngau a yng nghymdeithas yn ehangach yn dod yn gynoddol weithredol a radicalaidd.

Gall diddymu carchar ei weld fel amcan amhosib – ond mae’ persbectif yma; na allen ni normaleiddio, rhesymegoli na chyfiawnhau y defnydd o garchar fel dull honedig o ddatrys problemau economaidd a chymdeithasol – yn strategaeth parhaol yn ogystal a uchelgais hir dymor. Ni fyddwn byth yn mynd nôl ar y gosodiad sydd ein llywio fod carchardai yn gynhenid niweidiol, treisgar a gorthrymus. Nid ydynt yn cadw cymunedau’n saff a ni allen ni ganiatau nhw i barhau i fodoli.

Mae rhagor o weithredoedd yn cael eu cynllwynio gan gynnwys gwersyll i fenywod a pobl trans yn y gwanwyn. Mae grwpiau lleol yn ffurfrio mewn dinasoedd gwahannol ac mae ymgyrchoedd carchar o’r diwedd yn dod mwy gweladwy a wedi eu cysylltu i frwydrau yn erbyn dominyddiaeth ym mhob man. O’r diwedd rydym dechrau gweld nad yw unrhyw un yn rhydd tra bod rhai ohonom mewn cawelli, mae’n amser eu chwalu nhw i gyd.

teuluoedd-a-ffrindiau-yn-erbyn-carchardai

Am ragor o wybodaeth am y brwydrau hyn ewch i:

Cyhoeddwyd yn wreddiol yng nghylchgrawn Tafod

Tiwns am ddim: Twinfield/Pop Negatif Wastad, Gwyllt, Anelog, Roughion

Yn ôl rhai heddiw mae ‘rhyddhau sengl’ yn golygu cynhyrchu tiwn a’i roi ar Soundcloud neu Bandcamp gydag MP3 am ddim i bawb – sydd yn hollol iawn gyda fi yn enwedig pan mae’r ansawdd mor ardderchog â’r hyn sydd wedi dod mas yn ddiweddar.

Mae’r wobr am Slogan Orau Mewn Tiwn Disgo Electronig ers ‘mae pawb yn wir yn haeddu glaw’* yn mynd i’r artist solo Twinfield a’r grŵp Pop Negatif Wastad. Yn ôl Huw S ar C2 heno mae Pop Negatif ar y tiwn hon yn cynnwys Gareth Potter ac Esyllt Lord eto.

Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o bobl glywed Twinfield (gynt o VVolves) ac mae llais Potter dros y trac i gyd(!). Dyma sut mae Twinfield yn swnio ar ei ben ei hun:

https://soundcloud.com/winf-ield/strydoedd-y-nos

Mae sawl ffordd o gyrraedd y byd. Mae rhai yn cael eu geni ac mae rhai jyst yn cael eu lansio, megis Amlyn Parry o’r band Gwyllt. Mae e newydd gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg sydd yn gyfrifol am lwythi o gynhyrchiadau gwych eraill megis Ninjah, Geraint Jarman ac albwm newydd sbon danlli grai Alun Gaffey.

Mae Amlyn wedi rapio gyda Band Pres Llareggub hefyd yn (weddol) ddiweddar.

Mae’r gân Siabod gan Anelog ar-lein ers yr hydref ond dw i’n dal i’w chwarae ac i feddwl am y geiriau ac yn edmygu’r ffyrdd mae’r band yn defnyddio’r haenau o sain a lleisiau. Does dim angen talu o reidrwydd ar Bandcamp ond maen nhw yn haeddu cyfraniad bach – o leiaf. (Wedyn gallen nhw fforddio rhyddhau rhywbeth ar fformat analog fel finyl.)

Yn olaf mae’r grŵp Roughion wedi gwneud mwy nag unrhyw un i rannu eu cyfoeth, gyda darnau sylweddol o’i allbwn recordiedig ar Soundcloud am ddim.

Dyma eu fersiwn jyngl o Fersiwn o Fi gan Bromas sydd yn profi bod Roughion yn gallu ail-gymysgu UNRHYW BETH. Sôn am hynny, dw i newydd glywed premières ecsgliwsif o fersiynau Roughion o glasuron gogcore Meinir Gwilym a bocs set arfaethedig Iwcs a Doyle.

Jôc oedd y frawddeg ddiweddaf ond rydych chi’n deall y pwynt.

Plant a phobl ifanc yn canu caneuon Gruff Rhys

Dyma ambell i blentyn yn canu caneuon Gruff Rhys. Ffeindiais un pan o’n i’n chwilio am sioeau Gruff ar YouTube. Ac wedyn ffeindiais un arall ac un arall. Gadewch i mi wybod os oes mwy o gwmpas!

Gyrru, Gyrru, Gyrru yw’r cytgan hawsaf a mwyaf bachog erioed – mewn unrhyw iaith. Dyma berfformiwr ifanc yn gwneud ei ddehongliad trwy feicroffon Paper Jamz newydd sbon. Dyw e ddim yn hynod wahanol i’r offerynnau mae Gruff ei hun yn defnyddio. Cafodd y fideo ei lanlwytho ar ddydd Nadolig yn 2014. Efallai bod e wedi cael amser i ddysgu Iolo Iolo Iolo erbyn hyn hefyd, pwy a ŵyr.

Yn ôl y disgrifiad YouTube mae’r dyn nesaf yn ffan mawr o Gruff, yn enwedig ei albwm solo gyntaf Yr Atal Genhedlaeth.

Dyma fe’n ffeindio ystyron newydd o fewn Gwn Mi Wn. Arbennig iawn.

Mae hi’n edrych fel bod ei berfformiad o Sensations in the Dark o’r un cyfnod.

Dyma bobl ifanc o Gaernarfon a’i chylch yn wneud addasiad clyweledol o’r enw Cylchoedd Rownd Y Byd. Mae’r tiwn yn dechrau ar ôl tua 1:00. Diolch yn fawr iddyn nhw am berfformio a rhannu’r fideo siriol hwn. Nid cyfansoddiad Gruff yn unig ydy hwn ond yr holl Anifeiliaid Anhygoel o Flewog wrth gwrs.

Dylai geiriau ac alawon Gruff fod ar y cwricwlwm i bawb, nid jyst y rhai sy’n digon ffodus i gael rheini, athrawon a thiwtoriaid sy’n gwrando arno fe. Addysg Gruff i Bawb.

Pwy Geith y Gig? Nid merched, mae’n debyg

Mae cyfres deledu newydd, Pwy Geith y Gig?, yn cynnig cyfle i bobl ifanc gystadlu i fod yn aelod o fand newydd sbon Cymraeg. Fydd 6 enillydd rhwng 11 ac 16 mlwydd oed yn cael eu dewis i fod yn rhan o’r band, cael eu mentora a chwarae slot ar lwyfan Eisteddfod 2016. Syniad da ar gyfer hybu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a chyfleoedd yn y diwydiant i bobl ifanc Cymru!

Gofynnir i gystadleuwyr uwchlwytho fideo ohonyn nhw eu hunain yn canu neu’n chwarae offeryn i gyfeiliant un o chwe thrac gan ‘6 o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru’. Y rheiny yw Candelas, Sŵnami, Y Reu, Yr Angen, Yws Gwynedd a’r Eira. Chwe grŵp poblogaidd a thalentog, wrth gwrs. Ond mae ‘na rywbeth ar goll…

Ble mae’r merched?

Os dw i’n cyfri’n iawn, mae hynny’n gasgliad o 24 cerddor, a dim un ohonyn nhw’n ferch.

Am un peth, mae hyn yn methu’n llwyr â chynrychioli’r amrywiaeth o dalent ar draws sawl genre sydd ar y sin cerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys nifer o artistiaid benywaidd ‘adnabyddus’. Ond yn fwy na hynny, pa neges ydy hyn yn danfon at ferched ifanc? Beth mae’n dweud wrthyn nhw am eu lle ym myd cerddoriaeth? Faint o ferched ifanc 11-16 sy’n mynd i edrych ar y detholiad hwnnw o gerddorion a theimlo’n hyderus am wneud cais i’r gystadleuaeth? Dim llawer, dw i’n amau. Mae’n hollbwysig i hyder ac uchelgais pobl ifanc bod ganddynt fodelau rôl. Ac felly mae’n siomedig gweld y fath gyfle coll pan mae cerddoriaeth Gymraeg yn llawn merched gall gynnig esiampl i ferched ifanc o rywun ‘fel nhw’ yn llwyddo.

Mae’r cwestiwn ‘Pwy geith y gig?’ hefyd yn adlewyrchu problem fwy eang. Dwy flynedd yn olynol nawr (yn 2014 a 2015), mae merched wedi tynnu sylw at ddiffyg artistiaid benywaidd ar lwyfan Maes B, heb gael ymateb boddhaol gan drefnwyr y gigs. Fel perfformwyr neu aelodau o’r gynulleidfa, dydy merched ddim wastad yn cael croeso gan y byd cerddoriaeth yn 2015, rhywbeth mae’r criw o ferched ifanc, Girls Against, wedi tynnu sylw ato’n ddiweddar yn eu hymgyrch gwych yn erbyn yr aflonyddu rhywiol sy’n parhau i fod yn bla yn gigs.

Os ydyn ni gyd am weld cerddoriaeth Gymraeg yn ffynnu, mae’n angenrheidiol ein bod ni’n denu’r nifer uchaf a’r amrywiaeth fwyaf eang posib o bobl ifanc. Mae’n rhaid i sefydliadau neu ddigwyddiadau mawr fel S4C neu’r Eisteddfod gydnabod faint o ddylanwad sydd ganddynt yn hynny o beth, gan ystyried cyn lleied o lwyfannau cyhoeddus sydd ar gael i artistiaid Cymraeg.

Dw i ddim yn mynd i restru’r nifer fawr, fawr o ferched talentog sy’n creu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg y gellir cynnwys mewn rhaglenni cerddorol a lein-ups gigs. Mae eraill wedi gwneud hynny eisoes, ac mae’r artistiaid yn ddigon adnabyddus yn barod. Yn yn y bôn, tasg cynhyrchwyr a hyrwyddwyr ydy chwilio am artistiaid benywaidd a chynnig llwyfan iddynt. Dydy hyn ddim yn broblem o ddiffyg merched – maen nhw bobman, yn creu amrywiaeth o gerddoriaeth sy’n mynd tu hwnt i’r fformiwla ‘bechgyn yn chwarae gitars’. Mae llwyddiannau nifer ohonynt yng ngherddoriaeth Gymraeg yn destun i’r ffaith ein bod ni’n gwneud yn eitha da, ond does dim esgus gennym dros beidio gwneud mwy er mwyn sicrhau bod ein diwylliant cerddorol o hyd yn hyrwyddo cyfleoedd i ferched, yn gwerthfawrogi eu cyfraniad ac yn dathlu eu dawn.

Mae merched yn hanfodol i gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n hen bryd sicrhau llwyfan iddynt.