Datganolwch y gofod – yn awr! Effaith #BilCymru ar #Cymruddyfodoliaeth

Mae Stephen Crabb AS yn israddio Cymru mewn sawl ffordd, nid yn unig ar y blaned hon.

Llais Cymru yn San Steffan yw Ein Hysgrifenydd Gwladol – i fod. I’r rhai sydd ddim yn dilyn, mae e a Swyddfa Cymru yn derbyn bod angen model ‘cadw pwerau‘ yn hytrach na ‘rhoi pwerau’. Dyna un peth sy’n wneud popeth yn symlach – o’r diwedd. Hynny yw, maen nhw yn enwi’r pwerau sy’n aros yn San Steffan er mwyn i bawb gymryd yn caniataol bod pob maes arall o dan ystyriaeth y Cynulliad. Yn hynny o beth Cymru 2015 = Yr Alban 1998 ond sgwrs arall ydy hynny.

Mae sawl pŵer yn aros gyda San Steffan o hyd, fel y rhai dros: werthu a chyflenwi alcohol, gwasanaethau Rhyngrwyd, cyffuriau a sylweddau seicoweithredol, ‘eiddo deallusol’, gorsafoedd ynni niwclear sy’n cael ei redeg o Tseina ayyb ayyb…

Dyma’r adran fer o’r ddogfen sy’n sôn am y gofod allanol:

bil-cymru-y-gofod-allanol

Mae sylwebyddion o bob lliw gwleidyddol wedi mynegi siom am y bil am lawer o resymau. Mae unrhyw un sy’n beirniadu’r drafft yn nashi sympathiser yn ôl Tŷ Gwydyr yn Llundain (nid y band), hyd yn oed Toris sy’n mynegi pryder a Carwyn Jones AC sydd ei hun yn rhybuddio bydd sarhau pobl Cymru yn arwain at ‘surge in nationalism’.

Mae ystyriaethau daearol fel hyn yn bwysig ond mae agwedd Crabb yn effeithio ar yr holl fydysawd.

Mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw e na Swyddfa Cymru wedi dilyn datblygiadau cyffrous ym maes/mudiad Cymruddyfodoliaeth. Fel arall bydden nhw wedi sylweddoli ein gwir botensial.

Y realiti yw bydd angen pwyllgorau Cynulliad a deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau unrhyw fenter Gymreig o bwys yn y gofod. Ond fydd ddim pwerau i Gymru dros weithredoedd yn y gofod o gwbl.

Pe tasen ni eisiau saethu asteroid sy’n peryglu bywyd gyda Lembit-laser? Gofynnwch i San Steffan.

Neu daflunio delwedd o Superted ar y lleuad? Nope.

Cadeirio prifardd ar blaned arall? Sori, wrong number. Ceisiwch Lundain.

Datganolwch Y Gofod – Yn Awr!

Llawenydd gweithgaredd Datblygu – albwm newydd yn y ffatri

Datblygu - Porwr Trallod

Mae blog John Robb wedi cael y première ar ffeithiau am albwm newydd Datblygu – yn Saesneg!

Ta waeth, mae hyn i gyd yn newyddion mawr. Dw i’n edrych ymlaen at weld y band ar gloriau bob cyhoeddiad yng Nghymru o’r Cymro i’r Selar i Golwg i Planet i, err, Barddas.

Porwr Trallod yw enw’r albwm, mae llun clawr gan Ani Saunders ac mae Ankst Musik wedi rhannu ffrwd (a WAV!) o’r clasur instant o gân Llawenydd Diweithdra.

Hi oedd y gân gyntaf yn gig gofiadwy Datblygu yng Ngŵyl CAM yn ôl ym mis Ebrill a dw i wedi cael amser i fyfyrio ychydig amdani hi.

Fel o’n i’n dweud yn y darn ar ôl y gig mae’r band wedi diweddaru’r ffyrdd o gynhyrchu curiadau a sain er bod ‘na cysondeb o ran themâu.

Yn gyffredinol os ydych chi’n cynhyrchu cerddoriaeth electronig mor minimol mae’n rhaid bod hi’n anodd gwybod pryd i stopio a datgan bod y cyfansoddiad wedi gorffen.

Tro yma mae anghyflawnder y trefniant yn rhan bwysig o’r peth – yn enwedig y diffyg cic sydd yn cyfleu ystyr o ddiffyg momentwm y diweithdra i mi yn berffaith, diolch i Pat mae’n debyg.

Gellid dweud ein bod ni’n ail-fyw’r 1980au yn yr oes bresennol neu o leiaf bod ein hoes yn atsain o’r degawd hwnnw o ran yr economi, anghyfartaledd, polisïau o San Steffan ac ati.

Os yw hynny yn wir efallai taw dyna sy’n wneud i ddychweliad Datblygu a’r gân hon deimlo mor addas.

Mae geiriau Dave bron a bod fel cyngor gyrfa amgen i’r ifanc (rhywbeth mae fe wedi cynnig o’r blaen); rant am swyddi di-bwynt, Hall & Oates ac efallai dirfodaeth.

[…] Mae Llawenydd Diweithdra yn well na unrhyw gaethweithdra (?) sy’n cael ei gynnig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Llawenydd Diweithdra yn curo bob gwaith mewn swyddfa neu unrhyw swydd ffatri gallai feddwl amdano […]

Llun o lyfr addas gan Bertrand Russell, achos pam ddim

Mewn newyddion hollol annisgwyl mae Stewart Lee. sydd yn curadu gŵyl ATP ym Mhrestatyn ym mis Ebrill 2016, i weld yn ffan o Datblygu… Mae fe wedi dewis y band am gig yn yr ŵyl yn ogystal â Sleaford Mods, The Raincoats, Boredoms ac eraill.

Nid y Fall Cymreig ydyn nhw, pwy ddyfeisiodd y fath twpdra? Maen nhw yn well na’r Fall.

Elidir Jones (Plant Duw) + MC Mabon = Elixir

Dw i newydd gael gafael ar gopi o albwm newydd o’r enw Elixir oddi wrth label Tarw Du.

Mae’r hanner cyntaf hyd yn hyn yn ddoniol, cyfoethog, a phrofoclyd.

‘Mewn newyddion bisâr ac annisgwyl, dwi di recordio albym o gomedi cerddorol efo MC Mabon.’ meddai‘r perfformiwr Elidir Jones, sydd hefyd yn ddigrifwr, athronydd, basydd (i fand Plant Duw) a chyfrannwr achlysurol i’r Twll.

Mae Elidir yn esbonio’r cyfan yn y fideo promo uchod (sy’n parhau am bron i ddeg munud!).

Mae’r albwm Elixir ar gael yn ddigidol nawr.

Fideo hunllefus Casey + Ewan i “Head and Shoulders” gan Leftfield & Sleaford Mods

Dw i wedi sôn am fideos Casey Raymond ac Ewan Jones Morris sawl gwaith o’r blaen.

Dyma hunllef o flaen eich llygaid, eu fideo i’r gân Head and Shoulders gan Leftfield/Sleaford Mods.

Mae’r cyfuniad rhwng y delweddau a’r geiriau yn berffaith.

‘Dyn ni’n gweld rhyw fath o Pac-Man erchyll yn bwyta pob darn o jync ar hyd ei daith mewn dinas o salwch, bwyd crap, dyled ddrud, gwleidyddion twyllodrus a Bargain Booze.

Gallen ni wedi bod ar unrhyw stryd yng Nghaerdydd fel Heol y Porth neu Heol y Bontfaen efallai neu unrhyw le yn Llundain. Wedyn mae’r olygfa yn chwyddo mas i’r byd i gyd.

22:24 o radicaliaeth gosmig. Detholiad C2 Carl Morris

Mwynhais i’r cyfle i droelli tiwns yn fyw ar raglen C2 ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Gallech chi wrando ar neu lawrlwytho fy set yma.

Mae traciau gan Gwenno, Patrick Cowley, E-GZR, Nami Shimada & Soichi Terada, DJ Mujava a mwy.

Carcharorion a’r Pencadlys oedd y troellwyr eraill. Doedd dim briff i’r troellwyr o gwbl heblaw am amser, sydd yn beth positif – neu beryglus!

Hoffwn i recordio set arall yn y tŷ pan fydd cyfle.