Dwy bennod o The Dragon Has Two Tongues, gyda Gwyn Alf Williams

Yn ystod y moment hon, gyfeillion, efallai bod y hanesydd radical Gwyn Alf Williams yn gallu cynnig rhywbeth o werth i ni – os nad cysur, yn sicr bach o ddoethineb.

Mae defnyddiwr YouTube o’r enw International School History newydd lanlwytho ddwy bennod o The Dragon Has Two Tongues mewn ansawdd weddol dda.

the-dragon-has-two-tongues-gwyn-alf-williams

Mae pobl wedi rhannu darnau o’r rhaglenni o’r blaen ond y tro yma mae’r ansawdd sain yn cyfleu’r dadleuon yn well, dehongliadau o’r Cymry sydd yn hollol wahanol rhwng Gwyn Alf a’r boi arall.

Darlledwyd y gyfres yn wreiddiol ar Channel 4 yn 1985 pan oedd cymunedau Cymru yn dioddef polisïau llywodraeth Margaret Thatcher yn sgil methiant yr ymgyrch i sefydlu senedd i Gymru yn 1979.

Bu farw Gwyn Alf yn 1995. Doedd i ddim o gwmpas i ymateb i’r oes datganoli ers 1997, na thrychineb 2016. Ond dyw hynny ddim yn ein hatal ni rhag dychmygu beth fyddai fe wedi dweud.

Haf o ffilmiau o Gymru: Y Llyfrgell, Mom and Me, The Lighthouse

Dros fisoedd y gwanwyn cafodd ffilm Gareth Bryn a Ed Talfan, Yr Ymadawiad, ei ryddhau ar hyd Cymru ac ymhellach, yn dilyn ac yn cynnwys dangosiadau yn yr UDA, Llundain a Caeredin.

Cafodd y ffilm adolygiadau gwych, ar blogiau personol, gwefannau adloniant, a chylchgronau a phapurau newydd megis The Guardian a Sight and Sound. Dipyn o gamp ar gyfer ffilm gymharol fach o Gymru. Tra ein bod ni’n disgwyl i weld beth sydd nesaf ar gyfer Yr Ymadawiad (rhyddhad Blu-ray, plîs!), mae dipyn mwy o ffilmiau Cymraeg ar y gweill dros yr haf.

Mae tair ffilm o Gymru wedi’i dewis fel rhan o raglen cyffrous yr Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.

Cafodd Mom and Me, ffilm ddogfen am y perthynas rhwng dynion a’i mamau yn Oklahoma, sydd wedi derbyn adolygiadau gwych hyd yn hyn, ei ariannu gan Ffilm Cymru Wales a Bord Scannán na hÉireann, a’i gynhyrchu gan gwmnïau o Iwerddon a Chymru. Mae sôn bod cynlluniau i ryddhau’r ffilm dros yr haf rywbryd.

Ffilm arall sy’n dangos yn yr ŵyl, ac sy’n dangos cydweithredu Celtaidd iawn, yw’r ffilm Moon Dogs, cynhyrchiad rhwng Ffilm Cymru Wales, Creative Scotland a Bord Scannán na hÉireann. Mae’n ddrama am ramant ifanc, ac mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Philip John, sy’n adnabyddus am ei waith deledu ar gyfresi fel Being Human, New Tricks a Downton Abbey. Nid does dyddiad ar gyfer ryddhad cyffredinol ar gyfer y ffilm ar hyn o bryd, felly cadwch lygaid allan amdani.

Wrth gwrs, y dewisiad mwyaf cyffrous yn yr ŵyl yw Y Llyfrgell (neu The Library Suicides, fel mae’n cael ei adnabod), sydd wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i ysgrifennu gan Fflur Dafydd yn addasu’i nofel ei hun. Yn serennu yn y ffilm yw Catrin Stewart, sy’n chwarae’r efeilliaid Ana a Nan, sy’n ceisio dial ar y dyn mae nhw’n credu gwnaeth achosi marwolaeth eu mam.

Bydd y ffilm yn dangos yn gyffredinol o Awst 5ed ymlaen, ac mae’n braf cael gweld lleoliad mor eiconig â’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor ddiddorol yn y ffilm. Dyma thriller go-iawn, ac mae’r themâu o adrodd stori bywyd rhywun yn wir yn wych ar gyfer ei ymchwilio mewn ffilm fel hyn.

Cyn hynny ym mis Gorffennaf, bydd ffilm ddiweddaraf Chris Crow – wnaeth cyfarwyddo Devil’s Bridge, Panic Button a The Darkest Day – yn cael ei ryddhau. Ynghyd â Y Llyfrgell a Just Jim (cafodd ei ryddhau blwyddyn ddiwethaf), cynhyrchwyd The Lighthouse fel rhan o brosiect Sinematig Ffilm Cymru Wales, sef partneriaeth rhyngddyn nhw a’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, Soda Pictures a S4C i gefnogi a hybu prosiectau ffilm cyffrous a newydd.

Mae The Lighthouse yn dod ag un o straeon mwyaf enwog hanes morwrol Cymru i’r sgrin fawr, sef hanes digwyddiad goleudy Ynys Smalls yn 1801, lle daliwyd y ceidwaid Thomas Howell a Thomas Gruffudd yno gan storom enfawr, nes i’r ddau droi’n wallgof. Mae’r ffilm yn gampwaith, gyda pherfformiadau gwych gan Mark Lewis Jones a Michael Jibson, ond hefyd drwy ail-greu’r goleudy, tu fewn a thu allan, mewn ffordd mor effeithiol.

Braf iawn yw cael cyfle i ddisgwyl am gymaint o ffilmiau o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn adrodd hanesion mor eang. Braf hefyd yw gweld prosiectau fel Sinematig yn cefnogi cynyrchiadau yng Nghymru, ac yn ei gweld nhw yn cael sylw fel mae Y Llyfrgell yng Nghaeredin.

Y gobaith felly, yw bod ffilmiau fel hyn yn cael cefnogaeth gan sinemâu ond hefyd gan gynulleidfaoedd – dim ond trwy gefnogi a gwylio ffilmiau o Gymru (rhywbeth sy’n wir am unrhyw ffilmiau ‘bach’ neu annibynnol neu amgen) gallwn ni sicrhau bod ein sinemâu’n parhau i’w dangos nhw, ac wedyn bod nhw’n parhau i gael ei gynhyrchu.

Yn bersonol, mae hyn yn bwysig iawn yn achos ffilmiau nad ydyn ni’n gweld yn aml iawn yn Gymraeg neu wedi’i leoli yng Nghymru, sef ffilmiau ‘genre’, fel The Lighthouse neu Y Llyfrgell. Falle ni fydd y ffilmiau’n bodloni chwant pawb, ond mae’n ddatblygiad gwych bod y math o ffilmiau’n cael ei gynhyrchu yma. Mi fydda i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at wylio’r ffilmiau ‘ma ar y sgrin fawr, lle maen nhw i fod i gael eu gweld, ac rwy’n gobeithio bydd llawer o bobol eraill yn gwneud yr un fath.

Mae Y Llyfrgell ar Facebook a Twitter ac mae The Lighthouse ar Facebook a Twitter. Cadwch lygaid allan am wefan newydd prosiect Sinematig.

Y Dydd Olaf (1976) gan Owain Owain – ar gael i’w lawrlwytho am ddim

owain-owain-y-dydd-olaf

Dyma i chi’r nofel ffuglen wyddonol Y Dydd Olaf gan Owain Owain, ar gael i’w lawrlwytho – am ddim:

(Diweddariad 5 Awst 2016: diolch i Stanno am greu’r ePub.)

Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 1976 gan gwmni Christopher Davies, Abertawe gyda rhagair gan Pennar Davies.

Yn ôl Miriam Elin Jones ar flog Gwyddonias sydd yn ystyried y nofel fel rhif 1 ar ei siart nofelau ffuglen wyddonol Cymraeg:

Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu. Gwelwn ddarnau o stori Marc ar ffurf pytiau o lythyron a dyddiaduron, wedi eu hachub o archif ddirgel. Yn nyfodol tywyll Marc, treulia diwrnodau olaf y mileniwm mewn Cartref Machlud yn cael ei gyflyru gan ryw ‘Nhw’ dirgel, gan edrych yn ôl ar ei fywyd cyn ffarwelio am y tro olaf…

Mae’n stori am gariad ac am frad ac am berygl peiriannau a’r bywyd modern. Gwelwn ddylanwad Brave New World a 1984 (wedi eu cyfieithu i ‘Bywyd-Newydd-Braf’ a ‘Mil-Naw-Wyth-Pedwar’) yn eglur iawn, wrth iddynt gael eu trafod fel testunau gwaharddedig. Ar adegau, mae ei harddull pytiog, sy’n neidio mewn amser yn gwneud hi’n anodd dilyn y stori, (Serch hynny, mae’n haws o lawer i’w darllen nag Un Nos Ola Leuad…) fodd bynnag, rhowch ail gyfle i’r nofel hon, clasur Cymraeg, heb os.

Ers 1976 mae’r stori wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r albwm cysyniadol o’r un enw gan Gwenno.

Ond hyd yn hyn mae hi wedi bod yn anodd iawn cael gafael ar gopi o’r llyfr hwn (fel y mae Elidir o Fideo Wyth yn dweud yn ei adolygiad). Dyna’r sefyllfa bresennol o ran sut gymaint o weithiau creadigol eraill yn Gymraeg, yn anffodus.

Dw i’n siŵr y bydd ffyrdd eraill o ddarllen y nofel nes ymlaen, i’r rhai sydd am gael fformatiau eraill (ac o bosib, ieithoedd eraill?).

Ceir ragor o wybodaeth am awdur y nofel – llenor, gwyddonydd, darlithydd, ymgyrchydd, dylunydd logo Tafod y Ddraig, tad, taid, a mwy – ar dudalen Owain Owain ar Wicipedia.

Diolch o galon i Robin Owain a’i deulu am rannu gwaith mor arloesol gan nofelydd mor flaengar ac i’r Llyfgell Genedlaethol am ei sganio.

Mae newid yn anodd. Cwestiynu 38 Degrees, Avaaz a Change.org

rali-miliwn-glenn-page

Yn ôl gwefan 38 Degrees, “There’s never been a greater need for people power” ac i’r rhai sy’n cytuno mae hi’n bryd cynnal sgwrs yng Nghymru am y dulliau gorau o ymgyrchu dros gymunedau, heddwch, cyfiawnder, tegwch, hawliau dynol a chynaliadwyedd yn ein hoes ni.

Anelaf y blogiad hwn at unrhyw un sy’n cytuno gyda’r egwyddorion hyn. Mae rhai o fy mhwyntiau a chwestiynau yn seiliedig ar sgwrs ddifyr y ces i gydag ymgyrchydd profiadol yn ddiweddar.

Yn ystod y misoedd diwethaf dw i wedi gweld dolenni i ddeisebau am faterion Cymreig, a materion rhyngwladol eraill o bwys, ar sawl gwefan wahanol o Avaaz i Change.org i SumOfUs i 38Degrees, i enwi dim ond pedwar o’r rhai mwyaf amlwg.

Nid oes prinder o ddulliau o geisio dylanwadu ar wleidyddion, aelodau cynulliad, cynghorwyr a phobl eraill sy’n wneud penderfyniadau pwysig. Plafformau ymgyrchu yw un gategori weddol newydd; mae pob un o’r pedwar enghraifft uchod yn llai na 10 mlwydd oed.

O ystyried hynny mae hi wastad yn fy synnu pa mor gyflym mae fy ffrindiau yn fodlon creu deiseb ar fater sy’n bwysig iddyn nhw ac fel canlyniad, yn rhoi eu ffydd mewn darparwyr rhyw wasanaeth; pobl cwbl estron.

Mae cwestiwn o ran pa mor ddiogel yw ein data fel llofnodwyr deisebau ar-lein fel hyn. Os ydych chi wedi llofnodi deiseb mae eich manylion personol chi yn nwylo perchnogion y platfform, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, sylwadau a daliadau gwleidyddol. Os ydych chi wedi llofnodi sawl deiseb maen nhw wedi creu darlun eithaf manwl o’ch daliadau. Mae’n ddigon posib bod staff y gwefannau wedi copio’ch data sawl gwaith i ddyfeisiau gwahanol erbyn hyn.

Dydy preifatrwydd ddim o reidrwydd yn golygu cyfrinachedd. Elfen bwysig o breifatrwydd yw’r rhyddid i ddewis a chadw rheolaeth dros bethau sy’n digwydd i’ch enw a data personol. Yn y cyd-destun ymgyrchu dros achos mae cyfranogwyr yn dewis mathau gwahanol o gyhoeddusrwydd wrth gwrs, er mwyn rhannu eu daliadau gydag eraill er budd yr ymgyrch. Mae hi’n hanfodol bod y dewis yn hollol bersonol, sydd ddim o reidrwydd yn wir am y platfformau yma.

Mae hi’n amhosib dyfalu union gynlluniau’r platfformau yma ar gyfer yr hir dymor. Dylen ni ofyn mwy o gwestiynau ynglŷn â’r platfform dan ystyriaeth cyn dechrau deiseb arall. Yn ogystal â’i fodolaeth ei hun beth yw dibenion y blatfform dan sylw?

Mae’r platfformau ymgyrchu yn ymddwyn fel unrhyw ddarparwr ar y we, megis Google neu Facebook, sy’n casglu llwythi o ddata ar bobl a’u diddordebau. Mae llofnodi unrhyw ‘BuzzFeed ymgyrchu’ fel hyn yn debyg i weithredoedd fel ‘hoffi’ ar Facebook, ffyrdd o rannu data ar eich diddordebau.

Mae gwerth ariannol sylweddol mewn daliadau gwleidyddol canoedd ar filoedd o bobl. Beth sy’n rhwystro gwefan rhag rhannu eich data gyda grwpiau a sefydliadau eraill? Neu awdurdodau?

O ran mudiad traddodiadol mae pwrpas ac atebolrwydd yn fwy tebygol o fod yn glir. Byddai mudiad o’r fath yn casglu data, ar y cyfan, er mwyn canolbwyntio ar ei achosion – y rheswm mae pobl yn ymwneud ag ymgyrchu yn y lle cyntaf.

Yn ôl fy ffrind, yr ymgyrchydd di-enw, mae cynrychiolwyr 38 Degrees yn dweud yn aml eu bod nhw’n siarad ar ran ‘aelodau’ sef y rhai sydd wedi llofnodi pethau ar eu gwefan. Mae achosion o gynrychiolwyr 38 Degrees yn siarad â gweinidogion llywodraeth fel gwestai ar bwyllgorau dethol yn San Steffan.

Gallai hyn achosi problemau i unrhyw fudiad traddodiadol sydd eisiau lle yn yr un cyfarfod neu drafodaeth synhwyrol gyda’r un gweinidog. Dw i’n sôn am y mudiadau traddodiadol sy’n cynnwys y gîcs profiadol sydd wedi gwneud y gwaith cartref pwysig o ddarllen am eu pynciau a datblygu polisi, y rhai sydd wedi ymateb i ymgynghoriadau di-ri, y rhai sydd wedi gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth – dros flynyddoedd o ymgyrchu.

Mae eithriadau fel y mudiad GetUp! yn Awstralia sy’n seiliedig ar blatfform ymgyrchu ond sydd wedi penodi arbenigwyr i ganolbwyntio ar bolisi. Ond yn ôl fy nealltwriaeth o’r rhan fwyaf o blatfformau dan sylw yma, does dim arbenigwyr polisi mewnol ac mae’r ddealltwriaeth yn eu swyddfeydd am achosion yn gymharol wan. Er enghraifft mae 38 Degrees wedi prynu cyngor allanol o bryd i’w gilydd ond mae rhai wedi cwestiynu pa mor astud mae’r grŵp yn gwrando.

“Mewn ychydig funudau rwyt ti’n gallu dechrau ymgyrch”, yn ôl 38Degrees. “Dechrau ddeiseb yn nawr”, yn ôl Avaaz.

“Newida unrhyw beth, unrhyw le, mawr neu fach”, yn ôl Change.org.

Dyna elfen arall sy’n nodweddiadol o’r platfformau yma. Maen nhw’n casglu cannoedd o syniadau – unrhyw beth, unrhyw le – ond o ran y syniadau sy’n codi i’r brig faint sydd wir yn herio’r diddordebau sylfaenol sy’n achosi anhegwch yn ein cymdeithas?

Dwy enghraifft o lwyddiannau mawr enwog ar 38Degrees oedd yr ymgyrch achub coedwigoedd yn Lloegr a’r ymgyrch i wahardd defnydd o blaladdwyr ar wenyn. Dw i ddim yn cwestiynu pwysigrwydd yr achosion; mae gwarchod natur, heb os, yn bwysig.

Beth sy’n ddiddorol i mi ydy’r ffaith bod y ddwy ymgyrch yna yn apelio at lwythi o bobl gwahanol o’r sbectrwm wleidyddol, a phobl heb unrhyw farnau gwleidyddol cryf o gwbl. Does dim byd arbennig o ddadleuol na chwyldroadol am geisio gwarchod coedwigoedd a gwenyn. Dim ond ychydig o ymgyrchoedd sy’n ffitio’r categori yna, mae hi’n bell iawn o fod yn fformiwla sy’n sicrhau newidiadau positif i bawb.

Gyda llaw er bod 38 Degrees yn hapus i dderbyn clod roedd sawl cyfranogwr arall yn yr ymgyrchoedd. Mae hi’n anodd dweud beth oedd yr union sbardun i newid polisi llywodraethol. Pa mor ddylanwadol oedd e-byst torfol 38 Degrees o’i gymharu gyda gweithredoedd eraill gan fudiadau?

Cymerwch ein bod ni’n awgrymu syniad am ymgyrch heddiw, chi a fi…

Mae’n anhebyg y bydd ein syniad yn cyrraedd y brig ar unrhyw blatfform ymgyrchu mor gyffredinol ei ffocws. Ond dwedwch ein bod ni’n llwyddo i ennill rhyw fath o statws i’n syniad, creu deiseb ac wedyn cael anfon llwythi o gopïau o’r un neges at wleidydd(ion) drwy’r blatfform. Wel, beth sy’n bosib wedyn? Unwaith mae’r e-byst wedi mynd i ffolder sbam yn Whitehall, San Steffan, Parc Cathays ayyb sut ydyn ni’n darbwyllo ein llofnodwyr i gymryd rhan yn y gweithredoedd eraill sydd eu angen, megis llythyru, cyfarfodydd, trafodaethau, raliau, gorymdeithio, gigs, a dulliau di-drais eraill sy’n tynnu sylw at ddifrifoldeb ein hachos?

Yn anffodus, y wefan yw’r cyfrwng ar y rhan fwyaf o blatfformau ymgyrchu; nid oes mynediad uniongyrchol i fanylion cyswllt ein cefnogwyr. Byddai deiseb ffurflen annibynnol ar Google Forms yn fwy effeithiol yn hynny o beth neu, well byth, meddalwedd rydd ar weinydd sydd o dan reolaeth ein mudiad yn unig. Nid cynnig peidio defnyddio cyfryngau digidol yw fy nadl ond dewis trefn dechnolegol sy’n sicrhau rhyddid, rheolaeth ac i wasanaethu’n hachos yn effeithiol.

Mae hi’n edrych fel ein bod ni wedi is-gontractio rhai o’r pethau mwyaf pwysig am dyfu mudiad heb sôn am y rhyddid i ddatblygu perthnasau gwerthfawr gyda mudiadau eraill.

Mae sgwrs ehangach am wendidau clicktivism a slacktivism yn gyffredinol; byddai rhain yn destun trafod rhywbryd arall.

Am y tro rydyn ni’n gallu bod yn weddol sicr o un peth. Mae achosi newid yn anodd. Dyna pam mae cwmnïau mawrion yn fodlon gwario miloedd o bunnoedd bob mis ar gwmnïau lobio ac ymgynghorwyr materion cyhoeddus ym Mae Caerdydd a San Steffan.

Ac mae achosi newid ar lai o gyllideb yn anoddach fyth fel y gall pobl sydd wedi gwneud y gwaith caled o dyfu mudiadau gwirfoddol go iawn dystio.

Ydy llofnodi deiseb 38 Degrees neu bethau tebyg yn achosi unrhyw niwed, fel y cyfryw? Yn sicr mae sawl ffordd o wastraffu amser gwerthfawr ar blatfformau ymgyrchu fel hyn, ac o godi disgwyliadau annheg a gobeithion di-sail ymhlith yr holl bobl sy’n pryderu am achos teilwng.

Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â ddweud nad oes lle o gwbl i’r math yma o wefan. Ond cyn dechrau deiseb mae eisiau i unrhyw arweinydd ymgyrch arfaethedig ystyried y cyfrifoldebau, a’r defnydd mwyaf effeithiol o’r holl amser, gobaith, egni a photensial sydd gan bobl.

Llun o Kizzy Crawford a Rali Miliwn 2016 gan Glenn Page (gyda chaniatâd)