Reggae, ffasiwn ac ymgyrchu: cipolwg ar fywyd Butetown ’84

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â Butetown, ysgrifennodd yr awdur John Williams gyflwyniad i hanes yr ardal yn y llyfr Bloody Valentine:

[…] from this point on Butetown was not simply a conventional ghetto or a colourful adjunct to the city’s maritime life, but effectively an island. It was not simply a black island: the area had always had a white Welsh population and continued to do so, there was an Irish presence too as well as Chinese, Arab and European sailors, and refugees from successive European conflicts as well. And as the black or coloured population was initially almost exclusively male, Butetown rapidly became a predominantly mixed-race community, almost unique in Britain, the New Orleans of the Taff delta, home of the creole Celts. But this integration was firmly confined to Tiger Bay: above the Bute bridge you were back in the same hidebound old Britain. […]

Cyfres teledu BBC am fywydau, profiadau a diwylliannau pobl dduon oedd Ebony yn yr 80au cynnar. Yn 1984 aeth criw o BBC Bryste i Gaerdydd i ddarlledu rhaglen ‘arbennig’ yn fyw ac mae defnyddiwr YouTube wedi bod yn ddigon caredig i rannu recordiad yn ddiweddar. Yn ôl ffrind sy’n deillio o Butetown mae PAWB yn ymddangos yn y rhaglen hon.

O’n i’n chwilfrydig am gerddoriaeth yr oes ac mae dwy enghraifft dda o artistiad reggae lleol. Bandiau y dociau oedd ymhlith ysbrydoliaethau a chyd-artistiaid Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr wrth gwrs.

Bissmillah, sy’n agor y rhaglen, yw band llawn gan gynnwys adran bres gyda dau ganwr sy’n atgoffa fi o Michigan & Smiley a’r oes dancehall cyn reggae digidol.

O 12:00 ymlaen yn ystod clipiau o barti blues mewn lleoliad anhysbys ger Stryd Bute, mae Conqueror Sound – artistiaid gyda phroffil uchel tu hwnt i Gaerdydd a Chymru – yn perfformio mewn hetiau Viet Cong: detholwr yn chwarae fersiwn o’r curiad Answer tra bod canwr yn rhannu ei falchder am liw ei groen. Mae dyn arall yna ond dw i ddim yn gallu canfod ei swyddogaeth.

Mae’r perfformiad Bissmillah yn rhan o gig ehangach ac mae’r rhaglen yn cynnwys dawnswyr o ddull Ghanaidd a band disco o’r enw Denym ar y diwedd. Lleoliad y gig oedd yr Ocean Club ar Rover Way, stryd a enwyd ar ôl cwmni Rover pan oedd ffatri ceir yna. Mae archfarchnad anferth ar hen safle’r ffatri bellach, Tesco Rhostir Pen-Gam.

Mae eitemau am ffasiwn ac ymgyrch yn erbyn y darn Grangetown o’r A4232 yn amseru’r rhaglen. Afraid dweud, dyma oedd y cyfnod cyn y morglawdd a datblygiadau ‘Bae Caerdydd’ pan oedd Margaret Thatcher a’r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan. Yn ogystal â’r glowyr adeg hynny, roedd bywyd yr un mor anodd i’r docwyr yn Tiger Bay a gweithwyr eraill. Dyna sy’n ddiddorol iawn am glywed sylwadau’r dyn o 13:00 ymlaen, geiriau sy’n atseinio gyda rhai gan Gwyn Alf Williams o’r un cyfnod yn union:

[…] Mae pawb eisiau adeiladu ‘amgueddfeydd’ lawr yma ac ailddatblygu fel bod e’n debyg i ryw atyniad i dwristiaid. Bydd pawb yn byw yn y gorffennol fel fath o amgueddfa fyw […]
Trigolyn Butetown, 1984