Caryl Parry Jones yn cyflwyno’r band Freur yn yr 80au cynnar. Dau o’r aelodau Freur, Karl Hyde a Rick Smith, sydd yn dal i berfformio heddiw dan yr enw Underworld.
Tag: Caryl Parry Jones
Sain ar Spotify: Rich James, MC Mabon, Jarman, Sibrydion… BONANZA!
Mae Recordiau Sain a phwy bynnag sy’n wneud eu dosbarthu digidol wedi ychwanegu’r catalog i Spotify o’r diwedd.
Dyma rhai o’r uchafbwyntiau yn ôl Y Twll.
O’r labeli Copa a Gwymon:
- Richard James – We Went Riding
- The Gentle Good – While You Slept I Went Out Walking
- The Gentle Good – Dawel Disgyn
- Huw M – Os Mewn Sŵn
- 9bach – 9bach
- Sibrydion – Simsalabim
- Mr Huw – Hud a Llefrith
- MC Mabon – Jonez Williamz
Albymau artistiaid o’r label Sain:
- Meic Stevens – Icarws / Icarus
- Meic Stevens – Baledi – Dim Ond Cysgodion (GLL wyt ti wedi clywed ei fersiwn Saesneg o’r Brawd Houdini?)
- Y Tebot Piws – Y Gore A’r Gwaetha
- Edward H. Dafis – Breuddwyd Roc A Rol (1974-1980)
- Geraint Jarman – Eilydd Na Ddefnyddiwyd / Sub Not Used
- Geraint Jarman – Morladron
- Caryl Parry Jones – Goreuon Caryl
- Bob Delyn A’r Ebillion – Gedon
- Bob Delyn A’r Ebillion – Sgwarnogod Bach Bob
- Bob Delyn A’r Ebillion – Dore
- Mary Hopkin – Y Caneuon Cynnar
- Endaf Emlyn – Dilyn Y Graen
Rhai o’r casgliadau:
- Amrywiol – Gorau Gwerin / The Best Of Welsh Folk Music
- Edward H. Dafis, Sidan, Hergest, Heather Jones, Ac Eraill ac eraill(!) – Nia Ben Aur (cefndir)
- Amrywiol – Deugain Sain – 40 Mlynedd
- Amrywiol – Can I Gymru 1969-2005 (Bran dwywaith yn y 70au!)
- Paid anghofio Welsh Rare Beat, Welsh Rare Beat 2 (maen nhw wedi bod ar gael ar Spotify am fisoedd trwy label Andy Votel, Finders Keepers – a’r albwm Galwad Y Mynydd).
Os wyt ti eisiau chwilio am mwy, teipia:
label:sain
label:gwymon
label:copa
yn y bocs chwilio ar Spotify. (Mae’n gweithio gyda label:ankstmusik
a labeli eraill hefyd.)
Dyna ni, y gerddoriaeth. Un categori arall am un o’r MCs enwocaf Cymreig.
John Saunders Lewis, nofelydd, bardd, dramodydd, Cymro ar y mic:
René Griffiths – Heno, Mae’n Bwrw Cwrw
René Griffiths yw seren o’r ffilmiau Gaucho (1983) gyda Caryl Parry Jones ac wrth gwrs Separado! (2009) gyda’i pherthyn Gruff Rhys.
Mae’r albwm Celtica Latina ar gael trwy John Hardy Music.