Anghofiwch Edward H: Yr hen, hen, hen ffordd Gymreig o fyw

Yng nghanol paratoadau byrlymus gig Nadolig Mafon yng Nghrymych wythnos diwethaf, daeth i mi ennyd prin o glirder meddwl: nostalgia sydd ar fai. Mae’n hen jôc yn y Gymru freintiedig Gymraeg mai gair Cymraeg yw hiraeth, yn unigryw i’n hiaith a’n diwylliant; ni cheir gair sy’n cyfateb iddo yn y Saesneg dlawd. Ond hiraeth yw ein brwydr fwyaf. Pam arall y mae digwyddiadau fel Tryweryn yn dal i fod mor ganolog i’r ffordd y mae nifer fawr o genedlaetholwyr yn diffinio eu Cymreictod? Bu storm enfawr (ar Twitter, beth bynnag) y llynedd wedi i Iolo o Y Ffug bostio ‘Anghofiwch Tryweryn’ o gyfrif y band. Heb ystyried tarddiad y llinell cafwyd unigolion o bob oed yn rhegi a bloeddio mai amharch llwyr oedd y datganiad. Ai’r rhamant ynghlwm a’r symudiad yn y 60au sydd ar fai? Ai ni’r Cymry sydd wedi bod o dan orthwm ac wedi brwydro mor hir hyd nes ein bod ond yn gallu cymryd ysbrydoliaeth o’r trychinebau diwylliannol? Wedi’r cyfan, anaml iawn y sonir am lwyddiannau’r symudiad iaith Gymraeg ond am brotest symbolaidd Pont Trefechan (a doniol oedd gweld dicter nifer o Gymry nad oedd cynhyrchiad y Theatr Gen o’r digwyddiad yn ddigon nostalgic iddyn nhw). Efallai mai angen cyffredinol sydd ar Gymry i fod yn hyderus yn ein diwylliant yn lle defnyddio grym diwylliannau arall fel esgus dros fethu. Ond dadl arall yw honno. Yr eiliad o glirder meddwl i mi oedd mai nostalgia sy’n gyrru sîn roc Cymru ers y 60au a’r 70au chwyldroadol hynny. Mae bron pob symudiad ers hynny wedi bod yn ymgais i ail-fyw cyfnod Edward H a Neuadd Blaendyffryn.

Meddwl oeddwn i ar y pryd am yr oedolion ifanc nad oedd yn y gig; pobl tua’r un oed a mi, rhai ychydig yn hŷn; a nifer o rheini ddim yn dod gan nad oedd bandiau yr oedden nhw’n eu hadnabod ers eu dyddiau ysgol (llynedd, Mattoidz oedd yn chwarae). Dwi’n hoff iawn o Mattoidz, ond sîn gerddoriaeth, a diwylliant yn gyffredinol yw’r hyn sy’n digwydd yn awr, ar yr eiliad hon. Y pedwar band ifanc yn chwarae i 400 o bobl y noson honno oedd y sîn a nhw oedd y diwylliant. Nhw sy’n byw’r Gymru fodern; yn palu trwyddi, yn siarad amdani, yn ei llusgo ymlaen gyda nhw. Ond nid yma y mae pobl eisiau. Mae llawer o Gymry eisiau i’w diwylliant Cymreig nhw aros lle y mae, fel novelty bach hyfryd iddyn nhw ei fwynhau pan mae nhw adref o Gaerdydd dros y Nadolig. Dwi’n cofio sefyll ar ymylon protest Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan ym mis Chwefror yn gwrando ar rhywun (ymddiheiriadau, gwn i ddim bwy) yn datgan mae eisiau i’w hardal HI aros yn Gymraeg oedd hi. Dyna pam oedd hi yn y brotest. Eisiau cadw ei hardal fach hi yr union fel yr oedd pan adawodd hi am y coleg. Pa ots am bawb arall. A dyma yw problem y sîn mewn nifer o lefydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, lle mae nifer yn dianc i ffwrdd beth bynnag. Mae’n braf cael mynd yn ôl yno i fwynhau’r ‘diwylliant traddodiadol’ ond dydyn nhw methu aros i fynd nôl i’w dinasoedd mawr am ychydig o ddiwylliant go iawn.

Dyma pam yr oedd 5000 (3000-8000 yn dibynnu ar y ffynhonnell) yn gwylio Edward H Dafis yn yr Eisteddfod fis Awst. Wrth gwrs, mae gan bawb hawl i edmygu eu caneuon, ond peidiwch ag esgus fod eu cerddoriaeth yn berthnasol yn awr na’u bod nhw erioed wedi bod yn offerynwyr na chyfansoddwyr arbennig o safonol. Yna oherwydd yr hiraeth oedd nifer fawr; a’r peth trist yw bod nifer o’r rhai hyn wedi pasio’r hiraeth ymlaen i’w plant. Dyna lle ‘roedd bandiau ag artistiaid ym Maes B yn chwarae i gynulleidfa o wyth o bobl, a’n pobl ifanc – achubwyr yr iaith – yn gwylio hen ddyn yn canu o gopi. Petai’r digwyddiad yn un ynysig mewn sîn fywiog, hunan-gynhaoliol, buasai’n ddigwyddiad positif, ond mae gweld cynifer o bobl ifanc, a thrwch diwylliant iaith Gymraeg Cymru yn pentyru i ail-fyw gorffennol na fu, yn dorcalonnus. Pa ots os yw gigiau y dyddiau yma’n debyg i gigiau’r 70au? Dyw technoleg ddim yr un peth, dyw ein cyfryngau ddim yr un peth, a dyw pobl ifanc yn sicr ddim yr un peth. Mae’n hen bryd i’r hen ffordd Gymreig o weld ein diwylliant i newid.

Ar ben arall y sbectrwm mae bandiau ifanc, di-brofiad sy’n ysu i gael eu caneuon wedi eu clywed. Roedd yn ddiddorol i mi ddechrau sgwrsio gydag ambell i fand dros Twitter yn ddiweddar am effaith y cyfryngau ar y sîn Gymraeg, a darganfod bod nifer ohonynt yn cwyno am nad oeddent yn cael sylw ar Radio Cymru. Eto, mae ein diwylliant Cymraeg wedi mynnu mai Radio Cymru YW diwylliant; mai yma yn unig y mae’r pethau da yn digwydd; yma yn unig y cewch glod sydd werth unrhywbeth; yma y mae pob band gwerth ei halen yn cyrraedd. Rôl gorsaf radio mewn diwylliant bychan yw i ddarlunio diwylliant i gynulleidfa ehagach. Nid eu rol nhw yw i greu a hyrwyddo’r gerddoriaeth, ond yn hytrach, i ddefnyddio digwyddiadau fel dechreubwynt i’w gwaith. Gellir dadlau a ydynt yn gwneud hyn yn effeithiol ai peidio, ond cefais fraw clywed y bandiau ifanc yma’n cwyno nad oeddent ar y radio. Yn amlwg, mae angen dechreubwynt, ac mae gigiau’n cael eu cynnal dros Gymru (yn achlysurol), ond os mai llafur cariad yw eu cerddoriaeth, dylai chwarae i gynulleidfa ddim bod yn broblem. O safbwynt trefnydd gigiau, dwi’n teimlo mai arna i y mae’r cyfrifoldeb i gynnwys bandiau ifanc, addawol ar y line-up yn hytrach na swyddogaeth gorsaf radio. Yr hyn sy’n ofid ydy nad ydy Radio Cymru na rhai o gyfryngau arall amlwg Cymru wastad yn gwrando ar yr hyn sydd yn digwydd ar y gwaelod. Yn amlwg, y gigiau sy’n dod yn gyntaf ac airplay wedi hynny gyda nifer o gamau yn y canol, ac ar adegau, mae’n rhaid i fandiau ac artistiaid aberthu rhywfaint i gael y gigiau cynnar ac i roi eu sŵn eu hunain allan i’w glywed. Mae’n help os oes gyda nhw sŵn unigryw y mae pobl yn awchu i’w glywed. Rôl Radio Cymru, cwmnïau teledu a’r wasg yw i gofnodi’r digwyddiadau diwylliannol yma. I gynulleidfa ehangach, mae’n weithred holl-bwysig ond yn cael ei anghofio’n rhy aml.

Ta waeth, y noson honno roedd pedwar band go ifanc yn chwarae mewn pentref go fach mewn sir go amherthnasol i neuadd llawn o bobl ifanc nad sy’n rhan o’r brif ffrwd Gymreig gan amlaf. Yma mae diwylliant. Yma mae’r Gymru fodern. Anghofiwch Dryweryn, anghofiwch Edward H, Ni Yw yr Haul.

Os Gowni Plis Peidio? Tiwns 8-did gan Gwrachod

Gwrachod - Os Gowni Plis Peidio?

Yn cyflwyno’r EP newydd gan Gwrachod, Os Gowni Plis Peidio? yn gynnwys Breuddwyd Roc a Rol; fersiwn 8-did o’r cân gan Edward H. Dafis. Meddai Gwrachod “Cafodd yr EP ‘ma ei recordio mewn diwrnod. Y bwriad oedd recordio EP Plant Bach Annifyr, ni ddigwyddodd hyny”.

Os Gowni Plis Peidio? EP gan Gwrachod ar gael ar MP3

Sain ar Spotify: Rich James, MC Mabon, Jarman, Sibrydion… BONANZA!

Nia Ben Aur / Beca 45rpm

Mae Recordiau Sain a phwy bynnag sy’n wneud eu dosbarthu digidol wedi ychwanegu’r catalog i Spotify o’r diwedd.

Dyma rhai o’r uchafbwyntiau yn ôl Y Twll.

O’r labeli Copa a Gwymon:

Albymau artistiaid o’r label Sain:

Rhai o’r casgliadau:

Os wyt ti eisiau chwilio am mwy, teipia:
label:sain

label:gwymon
label:copa
yn y bocs chwilio ar Spotify. (Mae’n gweithio gyda label:ankstmusik a labeli eraill hefyd.)

Dyna ni, y gerddoriaeth. Un categori arall am un o’r MCs enwocaf Cymreig.

John Saunders Lewis, nofelydd, bardd, dramodydd, Cymro ar y mic: