Mwynha.
Cyfarwyddwyd gan Peter Gray (gweler hefyd: Smokin’) gyda’r actores Roxane Mesquida.
MP3 am ddim fan hyn. Dw i ddim yn gallu gorffen heb sôn am ailgylchu… Mae’r sampl yn dod o It Doesn’t Matter Anymore gan Cyrkle. Defnydd gwych.
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Mwynha.
Cyfarwyddwyd gan Peter Gray (gweler hefyd: Smokin’) gyda’r actores Roxane Mesquida.
MP3 am ddim fan hyn. Dw i ddim yn gallu gorffen heb sôn am ailgylchu… Mae’r sampl yn dod o It Doesn’t Matter Anymore gan Cyrkle. Defnydd gwych.
Dw i newydd ffeindio hwn. Ewch i 6:40…
Mae’r fideo cyfan yn wych – am y sin cerddoriaeth o gwmpas Bethesda.
René Griffiths yw seren o’r ffilmiau Gaucho (1983) gyda Caryl Parry Jones ac wrth gwrs Separado! (2009) gyda’i pherthyn Gruff Rhys.
Mae’r albwm Celtica Latina ar gael trwy John Hardy Music.
Paid anghofio’r adolygiad o’r albwm The Terror of Cosmic Loneliness yn Y Twll.
Fideo gan Dylan Goch, trwy Turnstile
Mae Gruff Rhys wedi cydweithio â nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei yrfa gerddorol, megis y band post-rock Albanaidd Mogwai ar y trac anferthol Dial:Revenge, a gyda Bryan Hollon/Boom Bip ar y trac gwych Do’s And Don’ts ag albym difyr Neon Neon Stainless Style a enwebwyd am y Wobr Mercury.
Cydweithiad â cherddor unigryw o Frasil, Tony Da Gatorra, yw’r albwm newydd hon. Mae Gatorra wedi dyfeisio teclyn gitâr/peiriant drwm lloerig o’r enw y ‘Gatorra’, ac mae’r ddau wedi creu casgliad o ganeuon yma sydd heb os yn cynrychioli gwaith mwya out there Gruff Rhys.
Mai rhai wedi disgrifio’r record hon fel electronica, ond er bod peiriant drwm y Gatorra a chydig o synau electroneg eu naws i’w clywed yn y cefndir, mae nhw’n cael eu boddi rhan fwya o’r amser gan ton ar ôl ton o gitars swnllyd, wyrgamus sy’n rhoi teimlad bowld ac arbrofol i’r gwaith. Yn wir, mae’r trac agoriadol ‘O Que Tu Tem’ yn swnio mwy fel synth-pync y band Suicide o Efrog Newydd, neu synau diwydiannol Cabaret Voltaire. Mae Da Gatorra yn swnio’n dywyll a brawychus: dau air Portiwgaleg o’n i’n medru deallt oedd ‘capitalista’ a ‘mercenarios’.
Na, tydi’r albym hon ddim yn hawdd gwrando arno ar y cyfan (heblaw efallai ar un neu ddau o’r tracs ble mae Gruff yn canu ac mae pethau’n nesáu at pop/harmoni). Ond mae yn record uffernol o ddifyrrus, yn llawn hwyl a rhyddid sonig – weithiau’n swnio fel Bill a Ted yn jamio yn eu garej, ac ar adegau eraill yn fy atgoffa o vibe chwareus The Whitey Album gan Sonic Youth. Dydi The Terror Of Cosmic Loneliness ddim yn mynd i apelio i holl ffans Gruff Rhys a’r Super Furry Animals, ond efallai dyna’r pwynt – gwneud rhywbeth hollol gwahanol ac annisgwyl.