Y Dyn Gwyrdd a fi

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

“You’re not going to Green Man?!” meddai’r ferch yn y siop offer awyr agored wrthaf ar y Dydd Iau, wedi i fi esbonio fy mod angen prynu bag mawr ar gyfer campio. “No” dywedais, cyn gwenu a dweud “Yes – I am really”. Roedd hi’n genfigenus gan bod hi wedi mynd y llynedd a joio mas draw, er bod y tywydd yn wlyb. “Everyone’s just so happy”, esboniodd.

Y diwrnod wedyn es i, fy ngwraig, a’r bag newydd disglair lan o Gaerdydd i’r safle ger Crughywel. Lleoliad penigamp ar gyfer gŵyl fel hyn: mewn pant ar lannau’r Afon Wysg a wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd Bannau Brycheiniog. Yn fuan ar ôl cyrraedd, daeth yn amlwg mai gŵyl canol dosbarth iawn ydy hon. Pobl yn son am olives a gazebos. Ond er bod hi’n hawdd iawn i fod yn sinicaidd, mae’r Dyn Gwyrdd yn brofiad werth ei gael os ydych yn hoffi cerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth ‘amgen’ neu canu gwerin modern.

O ran y cerddoriaeth, mae’r ŵyl yn apelio at bobl sydd naill ai yn gyfarwydd a deunydd anghyffredin, newydd neu bobl fel fi sy’n hoffi darganfod pethau newydd. Nid astudiaeth gwyddonol ydy hon, ond mae sawl ffrind wedi dweud wrthaf nad oeddent yn gyfarwydd a’r bandiau cyn mynd i’r ŵyl.

Nid oes lle yma i adolygu pob band a welais, felly ysgrifennaf am yr uchafbwyntiau. Ar y Dydd Gwener fe gwyliom y band pop o Denmarc, Treefight For Sunlight, a darodd y nod iawn ar gyfer y tywydd heulog gyda’u caneuon hapus a fersiwn o Wuthering Heights a berswadiodd y dorf i godi ar eu traed. Hefyd roedd syrpreis i fi ym mherfformiad gwych Bellowhead – band oeddwn yn ei ystyried fel un braidd yn gawslyd yn y gorffennol ond mae’n debyg eu bod yn gwneud uffach o sioe fyw. Cwpl o ferched yn mynd dros ben llestri wrth ddangos i bawb eu bod yn gwneud dawns gwerin go iawn.

Dechreuom Ddydd Sadwrn gan ymlacio yn y pabell bach Chai Wallahs, yn gwrando ar Brooke Sharkey, canwraig werin Eingl-Ffrengig. Draw ar lwyfan y tafarn (Green Man Pub Stage) rhywbeth hollol gwahanol gan Laura J Martin o Lerpwl, sy’n defnyddio ‘loops’ mewn ffordd creadigol er mwyn adeiladu tirweddau sain, yn ogystal a’i fersiwn o Tease Me gan Chaka Demus and Pliers (ffefryn personol). Roedd fy ngwraig yn awyddus iawn i weld y Leisure Society felly dyna wnaethom ac eto, syrpreis neis i ddarganfod bod band nad oeddwn yn ffan mawr ohonynt mor dda yn fyw. Wrth gwrs, roedd y noson, a’r ŵyl, yn perthyn i’r Fleet Foxes. Beth allai ddweud am hynny? Anhygoel yw’r unig gair. Teimlad fy mod mewn gig pwysig a mwynhau caneuon a ysytyrir fel clasuron am ddegawdau i ddod.

Yn ogystal a’r miwsig rhagorol, roedd pob math o adloniant arall i’w fwynhau: pabell sinema, olwyn Ferris, pabell comedi a llenyddiaeth (gwelon ni Simon Day o’r Fast Show – un o uchafbwyntiau’r ŵyl i fi) ac wrth gwrs y bwyd – i gyd o safon a’u prisiau yr un mor uchel (talais i £6 am byrgyr ffa). Mae’n amlwg bod y Dyn Gwyrdd yn apelio at deuluoedd, gan bod hi’n teimlo’n ddiogel ac mae llawer o weithgareddau i blant.

Erbyn y prynhawn Sul ro’n i’n dechrau teimlo’n flinedig felly ar ôl ymlacio yn yr haul gyda’r papur a Cowbois Rhos Botwnnog, gyda’r nos roedd perfformiad cryf iawn gan Gruff Rhys a’i griw (Lisa Jên a’r Niwl). Gorffennodd y penwythnos gan wylio’r Dyn Gwyrdd ei hun yn cael ei losgi, a wedyn tan gwyllt.

Crynodeb: digwyddiad perffaith i bobl a meddwl agored am gerddoriaeth, sydd am gael penwythnos yn ymlacio mewn lleoliad brydferth.

Free Wales Harmony / Andy Votel – unrhyw meddyliau?

ChwyldroMae’r rhaglen Free Wales Harmony gydag Andy Votel (a Gruff Rhys, Heather Jones, Emyr Ankst, Dave Datblygu, Dyl Mei, Geraint Jarman, Meic Stevens, Mici Plwm, Cerys Matthews, Craig Owen Jones o’r adran pop ym Mhrifysgol Bangor ac eraill) ar gael ar y wefan BBC.

Roedd y rhaglen yn gyflwyniad da i gerddoriaeth pop a roc yn yr iaith Gymraeg – a phopeth mewn hanner awr yn unig.

Chwarae teg i Andy Votel a’r cynhyrchydd James Hale.

Unrhyw meddyliau am y rhaglen?

(Ar hyn o bryd mae trafodaeth fywiog ar Y Twll am ryddhau’r hen stwff o Recordiau Sain hefyd.)