Recordiau’r Cob: atgofion personol

y pethau ola wnes i brynu o'r siop heddiw

Pan ar wyliau ym Mharis yn y 90au cynnar, fe dderbyniais i record feinyl fel anrheg am y tro cynta: y gân o ddechrau’r Teenage Mutant Ninja (neu Hero) Turtles, mewn Ffrangeg. Dim y fath o beth fyddai’n ysbrydoli llawer o gariad at gerddoriaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Ac felly y bu. Oni bai am The Smurfs Go Pop, Bad gan Michael Jackson, The Best Rock Album In The World – Ever! a chasgliad o soundtracks (y gorau o bell ffordd: Ghostbusters 2), doedd cerddoriaeth ddim wedi gwneud llawer o argraff arna i tan yn gymharol hwyr yn fy arddegau. Bryd hynny, yn bymtheg oed, fe es i ar brofiad gwaith i Recordiau’r Cob ym Mangor.

Wnes i ddewis mynd yno achos fy mod i’n hoff iawn o ffilmiau, a roedden nhw’n gwerthu amrywiaeth dda o fideos (a llond llaw o DVDs, oedd yn newydd iawn ar y pryd). Esiampl dda o golli’r pwynt yn llwyr. Roeddwn i allan o fy nyfnder. Achos eu bod nhw’n griw ffeind, gefais i’r cyfle i chwarae fy newis i o gerddoriaeth dros y siop o dro i dro. Ar ôl wastio deuddydd yn chwarae CDs oeddwn i’n berchen arnyn nhw’n barod, wnes i ddewis rhoi albym gan Blue Öyster Cult ymlaen – roeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw oherwydd bod Don’t Fear The Reaper wedi ei gynnwys ar The Best Rock Album In The World – Ever! (yn haeddiannol, dwi’n meddwl). Wrth i’r record ddechrau, dechreuodd Chris, un o staff y siop, sôn yn frwdfrydig amdanyn nhw, eu halbymau, eu cryfderon a gwendidau fel band byw, ac yn y blaen. Am y tro cynta, roeddwn i’n ymwybodol o gerddoriaeth fel rywbeth pwysig, a dim jyst fel rywbeth i’w roi ymlaen yn y cefndir ar siwrne gar. Ar ddiwedd yr wythnos, roeddwn i wedi fy newid am byth.

Doeddwn i dal ddim yn ymwybodol iawn o fandiau da tan rhai wythnosau’n ddiweddarach, pan ges i fy nghyflwyno i fandiau alternatif y 90au cynnar fel Nirvana a’r Smashing Pumpkins gan ffrind tra’n gwersylla ym Meddgelert. Yn ôl ym Mangor, i Recordiau’r Cob es i’n syth er mwyn cael gafael ar eu stwff. Dwi’n cofio prynu Mellon Collie And The Infinite Sadness gan y Smashing Pumpkins a Chocolate Starfish And The Hot-Dog Flavoured Water gan Limp Bizkit ar yr un dydd, a dod i’r penderfyniad ar ôl gwrando arnyn nhw bod un yn wych, a’r llall yn rybish pur. Wna i adael i chi ddyfalu p’run oedd p’run. O’r foment yna, doeddwn i ddim isio gwrando ar gerddoriaeth rybish bellach, a dechreuais i wario lot, lot gormod o bres yn Recordiau’r Cob bob Dydd Sadwrn. Fel canlyniad uniongyrchol i hyn, wnes i bigo gitâr bâs i fyny, a chwarae mewn amrywiaeth o fandiau ysgol, cyn cyd-ffurfio’r band Plant Duw yn 2004.

Ychydig o flynyddoedd wedyn, wnes i ddewis astudio yn Aberystwyth (am ryw reswm), a daeth Andy’s (ac, yn ddiweddarach, Backbeat) Records yn bwysig iawn i mi yn ystod fy nghyfnod yno. Roedd yr un peth yn wir am Spiller’s Records pan wnes i raddau pellach yng Nghaerdydd. Ond doedd yr un siop recordiau’n gallu cyffwrdd Recordiau’r Cob (er fy mod i erbyn hyn yn deall yr hoffter mawr tuag at Spiller’s – mae’n drysor o siop, gyda staff cyfeillgar a hynod wybodus, yn ganolog i’r sîn byw yng Nghaerdydd, a dylai gael ei gefnogi gan bawb yn y brifddinas). Ar bob trip adre i Fangor, roeddwn i’n gwneud yn siwr fy mod i’n gwario ffortiwn yn Cob, yn ogystal â chael rhywbeth i’w fwyta o’r Tŷ Pizza ym Mangor Uchaf, os oeddwn i’n llwglyd ai peidio.

Fis Medi diwethaf, yn gwynebu dyfodol ansicr, symudais i’n ôl i Fangor, ac ailddarganfod pleserau Cob o wythnos i wythnos. Yna, tua’r Nadolig, dechreuodd y sïon bod y siop am gau. Wrth i’r sibrydion grisialu i mewn i wirionedd, do’n i ddim cweit yn gallu derbyn y peth. Wir yr, wnes i dreulio bore Dolig 2011 yn meddwl yn ddifrifol am brynu’r siop, ac am ffyrdd o wneud i’r busnes weithio yn yr oes ddigidol. Yn amlwg, wnes i ddim, oherwydd diogrwydd.

Dros fisoedd cynta 2012, es i ddim i mewn i Cob. Doeddwn i ddim isio gweld y lle efo llai o stoc, sticeri sêl dros y ffenestri, yn gysgod o sut yr oedd o. Gan fy mod i ddim ym Mangor ar Fawrth 24, diwrnod ola’r siop, penderfynais i fynd yno heddiw am y tro ola (doedd y ffaith bod popeth yn hanner pris ddim yn brifo). Gerddais i allan, dau fag yn llawn feinyls, CDs a DVDs, yn brwydro’n wrol erbyn yr awydd i grio.

A rwan, tra bydda i ym Mangor, dwi’n gwynebu dyfodol o gael fy ngherddoriaeth o iTunes, Amazon, HMV (bellach yn gwerthu mwy o gemau cyfrifiadur na CDs), neu drwy archebu o siopau eraill. Mae lot o bobol yn gwrthwynebu cerddoriaeth ddigidol oherwydd eu bod yn hoff o’r record fel gwrthrych corfforol. Dwi’n sicr yn deall hyn. Mae casgliad recordiau yn ddarn o gelfyddyd, yn unigryw i chi, sy’n dweud gymaint am eich personoliaeth. Os ydw i’n ymweld â chartref ffrind, dwi’n anelu’n syth am y casgliad recordiau, neu ffilmiau, neu lyfrau, er mwyn cael gwybod mwy amdanyn nhw. Pryd oedd y tro diwetha i rywun ofyn am gael gweld y caneuon yn eich cyfri iTunes, neu’r e-lyfrau wedi eu llwytho ar eich Kindle?

Ond i fi, y peth gorau am fynd i siop recordiau ydi’r broses o siopa. Dywedwch eich bod chi’n mynd i mewn achos eich bod chi ar ôl record gan Queen. I ffwrdd a chi at y bandiau sy’n dechrau efo Q, chwilio am eich record, dod ar draws un gan Queens Of The Stone Age, cofio eu bod nhw’n fand da, taflu eich llygadau i’r dde, gweld record gan y Ramones, neu Rage Against The Machine, neu Radiohead, a cherdded allan o’r siop, tri chwarter awr yn ddiweddarach, efo trysorfa o gerddoriaeth. Cymharwch hwnna i’r broses o siopa ar iTunes: teipio ‘Queen’ i mewn, ffeindio eich albym (neu, yn fwy aml na pheidio’r dyddiau yma, eich un gân), logio i ffwrdd. Dim proses o ddarganfod, dim gwefr wrth ddod o hyd i rywbeth newydd. Dim hwyl. Cyn i mi gerdded i mewn i Cob heddiw, doedd gen i ddim syniad be fyddai yn fy mag(iau) yn cerdded allan. All prynu MP3s gynnig yr un profiad?

Ar y ffordd adre o fy nhrip ola i Recordiau’r Cob, wnes i basio criw o fyfyrwyr yn ymgyrchu mewn etholiad coleg (rhywbeth arall sy’n ennyn dim byd ond casineb pur gen i). Fe welodd un ohonyn nhw fy magiau melyn llachar, troi at ffrind, a dweud:

“I thought Cob Records had closed already.”

Mae Dydd Sadwrn, Mawrth 24, yn ddiwrnod pwysig yn hanes y ddinas, pan fydd un o siopau mwyaf hanesyddol Bangor yn cau am byth. A doedd y boi yma ddim yn gwybod amdano fo. Dwi’n amau ei fod o wedi camu drwy ddrysau’r lle ers oes pys, os ydi o wedi gwneud erioed. Pam fysa fo’n gwneud, pan fedrith o lawrlwytho holl ouvre Jessie J neu Snow Patrol, yng nghysur ei ystafell, yn ei drôns? Tydi technoleg yn wych?

Rai misoedd yn ôl, ddeues i ar draws dyfyniad gan yr awdur Nick Hornby, sy’n crynhoi fy nheimladau ar y mater yn reit dda:

“Yes, yes, I know. It’s easier to download music and probably cheaper. But what’s playing on your favourite download store when you walk into it? Nothing, that’s what. Who are you going to meet in there? Nobody. Where are the notice boards offering flatshares and vacant slots in bands destined for superstardom? Who’s going to tell you to stop listening to that and start listening to this? Go ahead and save yourself a couple of quid. The saving will cost you a career, a set of cool friends, musical taste and, eventually, your soul. Record stores can’t save your life, but they can give you a better one.”

Mor wir. Y peth arall pwysig am Cob, wrth gwrs, oedd ei fod yn gwbwl ganolog i sîn gerddoriaeth Gymraeg y gogledd. Gwenais heddiw wrth weld ein halbym diwethaf ar werth am bris rhad (ia wir, tan Fawrth 24, gallech chi fod yn berchen ar y record wnaeth cylchgrawn Y Selar alw’n “seithfed albym Cymraeg gorau’r flwyddyn” am £6 yn unig – bargen!). Gobeithio wir fydd siopau Cymraeg yr ardal, fel Palas Print, yn gwneud eu gorau glas i stocio pob un record Gymraeg newydd o hyn ymlaen. Dwi ddim yn gweld llawer o dystiolaeth eu bod yn gwneud ar y funud, ond mae’n siwr eich bod chi’n gallu dweud o dôn hapus yr erthygl yma fy mod i’n un sydd wastad yn byw mewn gobaith.

Dwi’n gwbwl sicr fyddai fy mand i ddim yn bodoli heddiw heb Recordiau’r Cob, ac yn siwr bod yr un peth yn wir am nifer o fandiau â’u gwreiddiau ym Mangor. Faint o fandiau posib y dyfodol fydd ddim yn bodoli oherwydd bod Cob yn gorfod cau ei ddrysau? Faint o filoedd o blant Bangor fydd fel fi, yn anymwybodol o wir ergyd cerddoriaeth dda, a heb unrhywle i’w haddysgu nhw? Pa reswm sydd gan unrhywun i fynd i siopa ym Mangor rwan, beth bynnag?

Os ydi’r Tŷ Pizza’n cau, dwi’n symud.