Wele gân serchus yn yr iaith Saesneg a ddaeth i mi tra’n synfyfyrio tra’n trwsio fy radio – pam ysgrifennu hon yn y Saesneg? Wel – ysdywed Dafydd Iwan: pam ma’ eira yn wyn gyfaill? Pwy a wyr beth sy’n gyfrifol am awen adloniant ysgafn mor afreolus.
Ta waeth – ysgrifennwyd y gân – a dyma hi a siawns y bydd y nesaf yn y Gymraeg.
Heb unhryw arbenigedd gwleidyddol wrth gwrs y tu hwnt i wleidyddiaeth ac economeg canu pop – teimlaf rywsut – yn y funud sydd ohoni – fod gwell gobaith i’r Cymry ac i amgylchedd Cymru o fewn yr UE.
Yn amlwg mae angen diwygio y gyfundrefn afiach anemocrataidd bresennol sydd ym Mrwsel ond ddim yn y ffyrdd yr awgrymwyd gan Cameron a’i griw elitaidd ond efallai yn debycach i beth o syniadaeth yr economegydd penfoel o Roeg Yanis Varoufakis sydd a gwell profiad o drin ac effeithiau eithafol y ‘Troika’ ar wlad gymharol fach.
Dwi di bod yn bwrw golwg ar wefan y mudiad ifanc diem25.org sy’n awgrymu ffyrdd ymlaen pan-Ewropeaidd all gynnal y gobaith heddychlon a fu’n rhan o’r ysgogiad dros ffurfio’r Undeb yn y lle cyntaf, a’i ategu a democratiaeth dryloyw sy’n parchu sofraniaeth ddiwyllianol dros rym y cwmniau gor-anferth sy’n debygol o fygwth ein traddodiad o lywodraeth lês os caiff erchyllderau cytundebol fatha TTIP eu pasio gan senedd Ewrop.
Cychwyn ymgyrch felly fydd y refferendwm – nid ei diwedd hi.
Yn amlwg ma’n boen fod hyn yn digwydd ynghanol tymor etholiadol ein gwlad ond efallai ei fod on gyfle i ddiffinio ein gwleidyddiaeth hefyd.
Ta waeth, does na’m byd gwaeth weithia’ na cantorion pop gor-ddifrifol yn trafod erchyllderau’r byd felly dyna ddigon o falu, yn ôl a mi at y canu…
UE Dros Gymru!
Tag: Super Furry Animals
Plant a phobl ifanc yn canu caneuon Gruff Rhys
Dyma ambell i blentyn yn canu caneuon Gruff Rhys. Ffeindiais un pan o’n i’n chwilio am sioeau Gruff ar YouTube. Ac wedyn ffeindiais un arall ac un arall. Gadewch i mi wybod os oes mwy o gwmpas!
Gyrru, Gyrru, Gyrru yw’r cytgan hawsaf a mwyaf bachog erioed – mewn unrhyw iaith. Dyma berfformiwr ifanc yn gwneud ei ddehongliad trwy feicroffon Paper Jamz newydd sbon. Dyw e ddim yn hynod wahanol i’r offerynnau mae Gruff ei hun yn defnyddio. Cafodd y fideo ei lanlwytho ar ddydd Nadolig yn 2014. Efallai bod e wedi cael amser i ddysgu Iolo Iolo Iolo erbyn hyn hefyd, pwy a ŵyr.
Yn ôl y disgrifiad YouTube mae’r dyn nesaf yn ffan mawr o Gruff, yn enwedig ei albwm solo gyntaf Yr Atal Genhedlaeth.
Dyma fe’n ffeindio ystyron newydd o fewn Gwn Mi Wn. Arbennig iawn.
Mae hi’n edrych fel bod ei berfformiad o Sensations in the Dark o’r un cyfnod.
Dyma bobl ifanc o Gaernarfon a’i chylch yn wneud addasiad clyweledol o’r enw Cylchoedd Rownd Y Byd. Mae’r tiwn yn dechrau ar ôl tua 1:00. Diolch yn fawr iddyn nhw am berfformio a rhannu’r fideo siriol hwn. Nid cyfansoddiad Gruff yn unig ydy hwn ond yr holl Anifeiliaid Anhygoel o Flewog wrth gwrs.
Dylai geiriau ac alawon Gruff fod ar y cwricwlwm i bawb, nid jyst y rhai sy’n digon ffodus i gael rheini, athrawon a thiwtoriaid sy’n gwrando arno fe. Addysg Gruff i Bawb.
Mwng gan Super Furry Animals – trac-wrth-drac (i’r ffans)
Tra bod rhai o’r byd wrthi’n darganfod Super Furry Animals, mae rhai ohonom ni yn gwrando ar Mwng bob pythefnos ers blynyddoedd.
Beth sydd ar ôl i wrandawyr sy’n (gor)gyfarwydd â Mwng?
Does dim rhaid i mi ddweud pa mor wych yw’r albwm, does dim rhaid ailadrodd y straeon am y tanc a does dim rhaid dweud bod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol (o sgrechian).
Felly dyma ambell nodyn am Mwng i ffans Super Furry Animals.
Dw i ddim yn ceisio cynnig canllaw diffiniol neu ddim byd, dim ond meddyliau randym ar yr unig albwm yn fy ngasgliad sydd ar bedwar fformat; gasét, CD, digidol a finyl bellach.
Drygioni
Sain dechrau recordio tap yw’r eiliad gyntaf o’r gân a record hon. Mae’n swnio’n amrwd, yn cyfeirio at y broses recordio ac mae’n wych. Gall dychmygu’r cynhyrchydd Gorwel Owen wrth y desg. Mae mwy o chwarae gyda thapiau yn y gân nes ymlaen.
Mwng oedd yr albwm syth ar ôl Guerilla ac mae tebygrwydd o ran steil glam troed drwm i Keep The Cosmic Trigger Happy oddi ar yr albwm honno a phethau glam fel Tocyn gan Bran, Roxy Music ac ati.
O ran geiriau mae Gruff yn dychwelyd i rai o’i hoff themau. ‘Drygioni’ yn swnio fel ‘drug’ ac mae fe wedi blino. (Gweler hefyd: ‘sleep deprivation’ oddi ar Guacamole, ‘dwy awr o gwsg’ oddi ar Pam V).
Mae’n anodd peidio cofio roedd y Cynulliad yn sefydliad newydd sbon pan mae fe’n odli ar ‘datganoli’.
@ytwll @carlmorris @superfurry bît cowbell Drygioni yn fatgoffa o agoriad Gwesty Cymru. Cofio’r wefr o’i glywed y tro cyntaf: hit LP Cymraeg — Gareth Morlais (@melynmelyn) May 1, 2015
Ymaelodi â’r Ymylon
Ydyn nhw yn cyfeirio at Gymru yn gyffredinol fel cenedl ar yr ymylon neu’i statws fel band sydd wedi lleihau’i ddefnydd o’r Gymraeg? Bach o’r ddau dw i’n credu ond yn tueddu tuag at yr ail. Pwy oedd y bobl a oedd yn cwestiynu iaith y band? Dyma gartwn yn rhifyn 7 o’r ffansin Seren Dan Gwmwl yn haf 1998: Roedd Golwg o Fawrth 2000 yn cyfeirio at rai fel bach o gyd-destun:
[…]
Wrth i gyd-fandiau Cymraeg ddechrau cael llwyddiant yn y byd roc rhyngwladol, mae yna ddadlau wedi bod ynglŷn â phenderfyniad rhai i ganolbwyntio ar ganu yn Saesneg. Nid dewis canu mewn iaith arall oedd y broblem, ond rhoi’r gorau i ganu yn Gymraeg. Nid dangos ei bod hi’n bosib i siaradwyr Cymraeg lwyddo yr oedden nhw, ond awgrymu fod anghofio’r iaith yn rhan o’r broses honno.
Mae’r rhan fwya’ o bawb ohonon ni yn defnyddio’r Saesneg yn ein gwaith a llawer yn ennill arian trwy berfformio neu sgrifennu ynddi. Rhagrith ydi beio neb arall am wneud yr un peth.
Y broblem efo rhai o’r grwpiau oedd eu bod nhw – fel y mae un o ganeuon diweddar Steve Eaves yn awgrymu – fel petaen nhw’n ymorchestu yn y Saesneg ac wedi diflannu o ddigwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod.
Y canlyniad oedd fod y rhan fwya’ o grwpiau Cymraeg newydd hefyd yn dechrau canu caneuon Saesneg, heb fawr ddim gobaith o wneud unrhyw argraff ar y byd rhyngwladol. Roedd y diwylliant ei hun yn troi’n Saesneg.
Roedd yna wendid yn rhai o’r dadleuon hefyd, yn enwedig mewn dwy:
– Os oedd cerddoriaeth yn ‘iaith ryngwladol’, pam oedd angen troi i unrhyw iaith ond y Gymraeg?
– Os ydi pawb bellach yn hyderus yn yr iaith, pam nad ydan ni’n ddigon hyderus i fynd â hi efo ni i’r byd y tu allan?
[…]
Os taw dyna yw safon yr ymateb yn ogystal â chaneuon ‘amddiffynnol’ eraill fel (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd I Achub Yr Iaith, dylen ni fod yn ddiolchgar i’r pobl a gwynodd!
Y Gwyneb Iau
Mae ‘na hiwmor mewn cwpled fel:
Pwy wnaeth daflu’r ffrwyth at ein llwyth? Pwy all dalu’r pwyth?
Talu’r Pwyth yw’r teitl amgen ac mae hi am ryfel yn ôl y band. Yn ‘dos lawr i’r de’ dw i’n meddwl mwy am Gymry yng Nghymru (nag efallai Fietnam neu Gorea). Pwy â wyr?
Dacw Hi
Mae’r geiriau ‘sylwi bob dim’ yn atgoffi fi o She’s Got Spies. Yn sicr roedd Gruff arfer ailgylchu syniadau yn y ddwy iaith, e.e. The International Language of Screaming a Blerwytirhwng. Mae’r gân yn tarddu o 1987 ac mae credit ysgrifennwr ar y pecyn newydd trwy gwmni Domino i Ffa Coffi Pawb. Dacw Hi oedd y ffarwel arall i Ffa Coffi. Ond roedd y recordiad a threfniant yn gyfredol. Defnyddiodd Cian Ciaran yr un dechreuad electronig ar ei diwn Luciano o dan yr enw Acid Casuals.
Nythod Cacwn
Yn ôl y band mae’r gân hon ynglŷn â fethu yn llwyr, fel cael eich pigo gan gacwn. Hmm.
Pan Ddaw’r Wawr
Mae ‘Digon i ddweud ond neb i wrando’ yn dorcalonnus. Dydy SFA ddim yn canu geiriau mor uniongyrchol ag ‘asgwrn cefn gwlad wedi ei dorri’ yn eu caneuon Saesneg.
Digon i ddweud ond neb i wrando. Mae elfen o eironi bellach gan ystyried taw dyna yw’r albwm mwyaf llwyddiannus yn Gymraeg. Dyma’r EDM gan Elfyn Llwyd AS gyda gwelliant hileriws gan Lembit Opik AS.
Ysbeidiau Heulog
Hello Sunshine. Dyna oedd yr unig sengl oddi ar yr albwm, y gân mwyaf positif – a chyflym.
Does bron neb yn cofio’r jam ar ochr b, Charge. Efallai bydd hi ar y fersiwn estynedig bonws Mwng yn 2030.
Y Teimlad
Roedd Gruff a Datblygu wedi bod ar yr un record o’r blaen, Cam o’r Tywyllwch pan oedd Gruff yn drymio mewn band ifanc o’r enw Machlud. O’n i’n chwilio am esgus i rannu’r llun yma rili. Mae SFA yn hoffi gwneud cyfyrs o ganeuon Cymraeg (Y Brawd Houdini yn fyw, Tocyn gan Ffa Coffi, Chwarae’n Troi’n Chwerw gan Gruff yn solo).
Mae’r cyfyrs yn ddylanwadol yn yr un modd â chyfyrs reggae gan The Clash. Heblaw am dafodiaith does dim ailddehongliadau o’r caneuon fel y cyfryw – mae’r fersiwn Datblygu o’r Teimlad yn fwy electronig na’r un SFA! Yn hytrach maen nhw yn gyfle i gyflwyno tiwns ardderchog i gynulleidfa ehangach.
Mae’r band hefyd yn hoff iawn o bop. Fyddai SFA yn wneud tîm cwis pop penigamp.
Sarn Helen
Gyrru gyrru gyrru. Clod am ddefnyddio’r gair ‘goddiweddyd’ mewn cân. Dyna sy’n wneud y gân hon yn ddoniol – a difrifol ar yr un pryd. Byddwch yn ofalus iawn wrth oddiweddyd ar yr A470 neu unrhyw heol.
Diweddariad: mae trafnidiaeth dal yn gachu yng Nghymru achos mae’r heolydd mawr a rheilffyrdd yn arwain allan o’r gwlad. O leiaf rydym wedi cael ffordd osgoi Porthmadog a’r gwasanaeth awyr Ynys Môn-Rhws ar Citywing ers yr albwm hon.
Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer Ar Y Blaned Neifion
Dydy dirywiad erioed wedi swnio mor brydferth. Mae’r geiriau cryno ‘dal dy ddŵr’ yn agosach i’r gwirionedd na ‘dal dy dir’.
@ytwll Gwreiddiau Dwfn, oherwydd y geiriau, a’r offerynnau pres — Gareth Iwan OMB (@GarethIwan) April 30, 2015
Mae cysylltiad rhwng Cymru a’r gofod yn y byd Super Furry – er mwyn i ni beidio bod yn rhy ‘fewnblyg’ efallai. Yn ogystal â ‘Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochynygofod’, dyna gyfraniad Super Furry Animals wedi cyfrannu at Gymruddyfodoliaeth.
Mae llais od rhwng 0:04 a 0:10 ar y trac sy’n swnio bach yn Saundersaidd ond dw i’n methu clywed beth mae hi neu fe’n dweud.
Dw i’n joio’r fersiwn jazz ad lib o’r gig ATP oddi ar y disgen fonws. Mae dirywiad erioed wedi swnio mor swnllyd!
Gadewch sylwadau os dych chi eisiau.
Diolch Caniadur am help gyda’r geiriau ac i’r band wrth gwrs. Llun gan SFA o’i cyfrif Instagram.
Llun o Gruff Rhys tua 14 oed (IFANC!)
Llun o gylchgrawn Sgrech gyda Gruffydd Rhys a’i chyd-aelodau o’r grŵp Machlud: Neil Williams, Andrew Roberts, Aled Owen a Martin Beaty.
Penblwydd hapus Gruff!
Ffeiliau Ffansin: llosgi lawr yr hen ysgol gyda Seren Tan Gwmwl
O’r chwith i’r dde: Lewis Valentine, Saunders Lewis yn ifanc, DJ Williams (llosgwyr Penyberth 1936)
Dywedodd Saunders…
‘I am the firestarter
– twisted firestarter…’
Delwedd wych o’r ffansin Seren Tan Gwmwl (1990 – 1999?) gan Siôn Jobbins a chydweithwyr, pennod un o ein gyfres (achlysurol) newydd, Ffeiliau Ffansin.
Dw i dal yn darllen trwy hen rifynnau o Seren Tan Gwmwl sydd ar gael arlein fel PDF. Mae’r ffansin, “ffansin cymdeithas Iolo Morganwg – cymdeithas annibynnol”, yn cymysgu hanes, gwleidyddiaeth, hiwmor a llawer o luniau penigamp.
Roedd Gruff Rhys yn ffan er gwaethaf beirniadaeth yn y ffansin yn bron bob rhifyn. Gweler isod am enghraifft ar y llong “SS Gymraeg” o rhifyn 7 (1998).
Mae gyda fi’r bwriad sganio hen ffansins ac ailgyhoeddi gyda chaniatâd. (Nesaf: Siarc Marw.) Dw i ddim wedi gwneud e tro yma achos mae’r Seren Tan Gwmwl ar gael yn barod.
Felly dw i’n gofyn am dy help gyda’r cyfres Ffeiliau Ffansin. Gweler cofrestr o ffansins (a chylchgronau) – os oes gyda thi teitlau eraill, copïau, atgofion, straeon neu os wyt ti eisiau sgwennu cofnod am unrhyw ffansin, gadawa sylw!
Ffansins yw enghraifft o gyfryngau amgen, roedden nhw yn bwysig iawn i fandiau newydd a gweithgareddau creadigol. Nawr mae’r oes aur o ffansins wedi mynd, ydyn ni’n gallu dweud ffansins newydd yw blogiau dyddiau yma? Dyma’r un o’r cwestiynau gallen ni archwilio.
Wrth gwrs bydda i’n hapus iawn i sgwennu rhywbeth am ffansin cyfoes – neu “ffansin” arlein. Nid yw popeth sy’n gweithio arlein yn edrych fel blog o destun yn unig. Dw i’n chwilio am enghreifftiau o bobol sy’n ailgylchu syniadau ffansins yn fformatau digidol. Bydda i (a phobol eraill siŵr o fod) wrth fy modd i weld rhywbeth o Gymru fel The Oatmeal neu XKCD.