Geraint Jarman 17/8/1950 – 3/3/2025

Geraint Jarman

Roedd Geraint yn anhygoel. Ers glywed am ei farwolaeth echddoe, mae e di bod ar fy meddwl yn barhaol. Geraint y perfformiwr, Geraint y bardd, Geraint y cynhyrchydd, Geraint y mentor, Geraint y Cymro, Geraint y tad a’r gwr, Geraint y dyn.

Roedd Geraint yn un o’r beirniaid pan gystadlodd Clustiau Cŵn, y band roeddwn i’n canu gyda, yng nghystadleuaeth Yr Awr Fawr, BBC Cymru nol ym 1979. Roeddwn i wedi syfrdannu. Jarman oedd Y seren roc Gymraeg.

Roedd Gwesty Cymru newydd ddod allan yn dilyn y campweithiau Hen Wlad fy Nhadau a Tacsi i’r Tywyllwch. Roedd hyn fel cael David Bowie yn feirniad ar yr X-Factor.

Pan enillon ni, cawsom y cyfle i ryddhau record sengl ac i berfformio ar lwyfannau ledled Cymru. Roedd cael rhannu llwyfan gyda’r Cynganeddwyr yn anhygoel i grwp yn ein harddegau. Tu ôl i’r llwyfan roedd Geraint a’r band yn gyfeillgar ac yn hael ac fe gawsom ni’n ddylanwadu’n enfawr ganddynt.

Roeddwn i’n aml yn bwmpio mewn i Geraint mewn gigs reggae niferus Caerdydd ac roedd e wastad yn dweud helo. Ar ôl i Clustiau Cŵn ddod i ben, gofynodd os oeddwn i am ddechrau grwp newydd. “Mae grwpiau yn werthfawr – fe ddaw yr un i ti” medde Ger.

Roedd y ffordd roedd yn mentora ac yn annog artistiaid yn ystod cyfnod Criw Byw a Fideo9 yn hael ac yn ddiffuant. Heb ei anogaeth fydde Ankst ac artistiaid eu roster ddim hanner mor gynhyrchiol. Y Cyrff, Ffa Coffi, Crumbloeers, Llwybr Llaethog, Erin Peryglus a Datblygu, Wwwz, Diffiniad a’r Gwefrau. Fe helpodd fy ngrwpiau i: Traddodiad Ofnus (gyda Mark Lugg) a Pop Negatif Wastad (gyda Esyllt Anwyl). Fe wnaeth yn siwr mod i’n cael amser stiwdio pan wedes i mod i am wneud ‘house music’ ac fe aned Tŷ Gwydr gyda’r track Rhyw Ddydd.

Heb ei anogaeth, dwi’n amau os fydde Cool Cymru wedi digwydd yn y ffordd mor ysblenudd wnaeth e yn y 90au. Roedd ei gefnogaeth a’i gyfraniad mor bwysig a hynny.
Ddaeth yn ôl at y llwyfan o’r diwedd ac fe sgrifennodd rhagor o ganeuon hynnod. Roedd y perfformiadau yn ystod Eisteddfod Caerdydd yn 2018: un gyda cerddorfa yng Nghanolfan y mileniwm ac un yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach yn wirioneddol wych.

Da ni di colli gymaint o gyfeillion annwyl yn ddiweddar. David R Edwards, Dyfrig Wyn Evans, Emyr Glyn Williams a nawr Geraint Jarman.

Y tro dwethaf welais i e oedd yn angladd Martin McCarthy, cyfarwyddwr gymaint o gynnyrch Criw Byw. Roedd Ger yn eistedd rownd bord yn hel atgofion gyda Lugg, John Gedru ac Emyr. Roedd rhaid i mi adael yn gynnar, ond cyn i mi fynd, teimlais yr angen i ddatgan mod i’n caru pob un ohonynt. Dyma’r tro olaf i mi weld Emyr hefyd.

Geraint – roedd dy gyfraniad yn anferth. Fe ddest ti ag ‘edge’ ddinesig i roc Cymraeg ac fe geisieist ‘normaleiddio’r Gymraeg’ ar sîn roc Caerdydd. Roeddet ti’n wych: yn ddylanwad ac yn gyfaill i gymaint ohonom ni. Yn hael ac yn ddoeth. Yn dad bedydd i’n diwylliant modern. Diolch i ti am dy wasanaeth ac am dy fodolaeth. Da ni gyd yn rocyrs â gwalltiau cyrliog erbyn hyn.

5/3/25

Diolch o galon i Gareth Potter am roi caniatâd i wefan Y Twll ail-gyhoeddi’r deyrnged hyfryd yma.

ti’n gweld yn glir¿

Edrych ymlaen yn arw at gael moment i wrando ar albwm newydd skylrk:

Heddiw, ar y 25ain o Hydref, mae skylrk. yn rhyddhau ei albwm gyntaf, ‘ti’n gweld yn glir¿’, drwy’r label annibynnol, INOIS. Mae’r albwm yn mynd yn erbyn ei sŵn arferol gan greu bydysawd sonig unigryw a’n adeiladu byd dirdynnol i’r gerddoriaeth a’r delweddau fodoli ynddo. Yn cyd-fynd gyda’r albwm, mae cynnyrch ffisegol, cyfres o ffilmiau a hefyd taith o amgylch Cymru.

Mae skylrk. yn artist hip hop Cymraeg sydd wedi bod yn brysur o fewn y sin gerddoriaeth Gymraeg ers iddo ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2021. Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i berfformio a rhyddhau yn gyson, yn un o griw Forté yn 2022 a hefyd wedi perfformio fel rhan o Gig y Pafiliwn 2023 gyda cherddorfa’r Welsh Pops.

Eglura Hedydd Ioan (skylrk.): “Fe gafodd yr holl ganeuon eu ‘sgwennu, ac wir, yn adrodd hanes y pum mlynedd dwytha’ yn fy mywyd. Er recordio gymaint o demos, doedd y teimlad iawn byth yna. Wedi perfformio’r set o ganeuon efo band am ddwy flynedd, dyma fi ac Elgan, gitarydd y band, yn eistedd lawr un noson i ymarfer. Dyma fi’n recordio’r sesiwn, ac wrth wrando nôl dyma fi’n sylwi bod ni wedi llwyddo i ddal yr union deimlad o ni’n chwilio am. Mewn un noson odda ni wedi llwyddo i grynhoi y pum mlynedd. Y mwya o amser o ni’n dreulio efo’r prosiect o ni’n sylwi, dyma fo, dyma di’r albym.”

Yn ogystal â bod yn gerddor, mae Hedydd yn artist sy’n gweithio ar draws ffilm, celf a pherfformio. Wrth edrych ar ei holl waith, mae’n gwneud synnwyr felly bod ‘ti’n gweld yn glir¿’ yn amlygu ei hun i fod yn fwy ‘nag albwm sy’n cael ei ryddhau ar blatfformau ffrydio yn unig. Mae’r albwm ar gael i’w brynu ar CD ac ar feinyl cyfyngedig yma.

“Mae’r ffaith fod y gerddoriaeth yn rhywbeth mae pobl yn gallu ei ddal a’i gadw yn anhygoel o bwysig i mi,” meddai Hedydd. Yn gyfarwyddwr ffilm, mae Hedydd yn dweud ei fod o’n bwriadu adeiladu byd gweledol i gyd-fynd a’r gerddoriaeth. Ychwanegai: “Dim ond rhan o’r byd ydi’r gerddoriaeth, mae’r rhannau arall yn y celf, y ffilmiau a’r perfformiad byw.”

Bydd ‘ti’n gweld yn glir¿’ yn cael ei lansio yn Oriel Brondanw yn Llanfrothen heno.

01. yr ochr draw i’r enfys.
02. colli.
03. weithia.
04. machlud.
05. geiriau.
06. marmor.
07. hiræth.

O.N. Penblwydd hapus i wefan Y Twll, 15 mlynedd oed heddiw.

Chwoant yn cyhoeddi amserlen llawn ar gyfer gŵyl Cymru-Llydaw yng Nghaerdydd

Nodyn bach sydyn i rannu manylion llawn am yr ŵyl newydd sbon gyffrous hon, gan gynnwys yr amserlen:

Chwoant
Gŵyl Cymru-Llydaw
10:00 – 19:00
23.04.2022
Canolfan yr Urdd
Caerdydd / Kerdiz
Mynediad am ddim
Croeso i bawb

10:30 – 11:30
Sesiwn Blasu Iaith Cymraeg a Llydaweg
Talwyn Baudu a Felix Parker-Price

11:30 -12:30
Ymgyrchu Iaith yn y Llydaweg a’r Gymraeg
Melan BC, Ai’ta
Mabli Siriol, Cymdeithas Yr Iaith

13:00 – 14:00
Comedi Annibynnol Creadigol
Lors Jereg
Mel C Owen

14:00 – 15:00
Darlledu Annibynol Creadigol
Enora Mollac, Radio Annibynnol Bro Gwened
Tudi Creouer, Podlediad ‘Klozet’
Juliette Cabaço Roger a Gwenvael Delanoe, Splann
Mari Elen, Podlediad Gwrachod Heddiw
Nick Yeo, Podlediad Sgwrsio

15:00 – 16:00
Rhoi Llwyfan i’n Celfyddydau: Gwyliau Cerddorol a Mentrau Iaith
Azenor Kallag a Melan BC ar ran GBB
Caryl Mcquilling ar ran Tafwyl

16:00 – 17:00
Y Byd Ffilm
Clet Beyer a Hedydd Tomos

17:45 – 18:30
Dawns Fest-noz i Berfformiad Sterenn Diridollou a Marine Lavigne

Cerddoriaeth cyfoes o Gymru trwy gydol y dydd rhwng sesiynnau gan DJ Carl Morris

Digwyddiad Chwoant ar Facebook

Digoust ha digor d’an holl

Dathlu gwaith Uderzo, cyd-grëwr Asterix, mewn delweddau

Dyma ddathliad gweledol o waith Uderzo, y darlunydd llyfrau comig ac ysgrifennwr sgript.

Y cyfuniad o caricatures, jôcs gweledol a geiriol diwylliannol a ieithyddol fan hyn mor gofiadwy. A Rhufeiniwr rhwystredig yn dangos bod y dyn bach bob tro’n gallu curo’r dyn mawr. #Uderzo

Classic panel pentref y Galiaid efo tai coed dychmygus, ac action slapstic boncyrs yn llenwi’r ffrâm. Plus bonws Bitabix i ddod â haen arall.

Y defnydd clyfar eto o symbolau i wneud jôc (er un chydig yn ddilornus o’r Almaenwyr…). Mae’r holl ddarn yma am amrywiaeth a chamddealltwriaeth ieithyddol y gwahanol lwythi mor flasus.

A mae’r llongau jyst mor ffycin cŵl dydyn. Pleser i edrych arnyn nhw. A gwyneb gormless y masthead yn hwn yn adlewyrchu’r mow-ladwon yn berffaith.

Mae’r wides fel hwn hefyd yn rhoi real syniad o hanes i chi fel plentyn ac yn rhoi manylder i fyd sydd ddim jyst yn comic ond yn addysg. Faint o blant fy nghenhedlaeth oedd yn gwybod am Ganwriaid, Cohort, Llengoedd a dyfynnu Lladin?! Alea iacta est!

Rhaid cael y banel olaf mewn. Y darn oeddech chi’n edrych mlaen ato drwy’r llyfr. Diweddglo cyson ond ychydig yn wahanol bob tro. Byd cysurus, digri ond chydig yn ddrwg alli di ymgolli ynddo fo.

Y paneli yma i gyd o Asterix ym myddin Cesar (Fr, 1967; Cy, 1978). Diolch eto #Uderzo.

Diolch i Rhodri am ganiatâd i ail-gyhoeddi ei edefyn yma.

Rhannwch eich hoff banel o lyfrau Cymraeg Asterix.