Sa’ i’n cofio’r siop recordiau diwetha yn Nhreganna, unrhyw un? Heblaw pump neu chwech siop elusen sy’n eitha da, yn ystod y dydd mae’n rhywle i brynu cig, caledwedd a chewynnau.
Ond nawr mae’r jyncis finyl o’r ardal yn Gorllewin Caerdydd yn falch i groesawi Hot Wax. Mis newydd hapus.
Es i yna p’nawn ‘ma am y tro cyntaf, mae’r perchennog Dave (efallai byddi di’n sylweddoli fe o’r farchnad yn Bessemer Road) yn dal i drefnu’r stoc a silffoedd. Mae fe’n dal i agora’r siop – gyda llawer mwy o recordiau ychwanegol i ddod.
Mae fe’n cynnig llawer o roc a phop clasur o 60au i 80au ar hyn o bryd, ychydig o funk a jazz, rhai o lyfrau ac addewid o comics yn y dyfodol agos.
Mae bron popeth yn ail-law. Welais i ddim unrhyw CDau yna o gwbl. Bydd finyl yn byw yn hwy na’r CD siwr o fod.
Y ffaith bod rhywun yn agor siop finyl yn yr hinsawdd gyfoes yn anhygoel. Pryna rhywbeth.
Hot Wax
50 Cowbridge Road East
Treganna
Caerdydd
CF11 9DU
Ar agor: dydd Mawrth i dydd Sadwrn (ond weithiau ar agor dydd Llun)
Llun finyl gan fensterbme
Newyddion da. Dw i’n dod lawr i Gaerdydd (wel, yr Eglwys Wen) fis nesa. Bydd rhaid cael trip bach mewn i Dreganna.
Ie, nes i fynd mewn wythnos diwethaf. Dewis eithaf da. Nes i cael hon am dau punt!
http://www.discogs.com/Various-Tighten-Up-Volume-2/release/757829
Bargen.
Albwm da Will, mae gyda fi’r finyl hefyd. Roedd e’n boblogaidd iawn gyda skinheads!