Fideos nawr! Diffyg rhyfedd cynhyrchu annibynnol ar y we

Helo. Elidir dwi. Ac mae gen i bethau i’w dweud. Ewch i nôl panad.

Flwyddyn diwetha, wnes i a fy nghyfaill Dafydd Prys sefydlu’r wefan Fideo Wyth. Os ‘da chi ddim ‘di clywed amdanom ni, peidiwch a phoeni. Dim chi ‘di’r unig un.

Ar Fideo Wyth, ‘da ni’n trafod bob math o stwff nyrdi, efo ffocws cryf ar gemau fideo. Ac ar ben sgwennu erthyglau, ‘da ni hefyd yn gwneud cynnwys fideo’n weddol gyson. Fel allwch chi ddisgwyl o’r enw. ‘Da ni’n gwneud adolygiadau, adroddiadau byw, trefnu digwyddiadau… ‘da ni wedi atgyfodi’r rhaglen S4C Mega o’r 90au cynnar (y tro diwetha i’r sianel roi unrhyw fath o sylw estynedig i gemau fideo, gyda llaw). Flwyddyn yma, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno eitemau ar raglen Y Lle. ‘Da ni’n hefyd yn gwneud fideos comedi. Dyma un gweddol boblogaidd ella wnewch chi licio. Mae Rhys Mwyn ynddo fo.

Y gwir ydi, dyna ydi’n fideo mwya poblogaidd hyd yn hyn. Ac efo twtsh yn llai na 500 o wylwyr (wrth i fi sgwennu hwn), mae’n deg dweud ein bod ni ddim yn union yn rhoi’r byd ar dân. Mae ‘na ddau reswm am hyn.

Yn gynta, ‘da ni’n rybish am hyrwyddo ein hunain. Fysa chi’n meddwl erbyn hyn fysa ganddo ni grys-T neu rwbath. Ond na. Dim byd. Sori.

Ac yn ail, dydi’r syniad o wneud (a gwylio) cynnwys fideo eich hun yn Gymraeg ddim cweit wedi cydio yn nychymyg pobol eto. A dwi ddim yn siŵr iawn pam. Dydi hi erioed wedi bod yn haws creu cynnwys safonol eich hun. Ac yn fwy pwysig, mae angen cynnwys Cymraeg arnom ni rŵan yn fwy nag erioed o’r blaen.

Nôl yn yr 80au, pan gafodd S4C ei sefydlu, roedd cael un sianel yn beth hollol naturiol. Dim ond pedair sianel oedd ‘na i gyd, wedi’r cwbwl. Ac roedd y ffordd oedd S4C yn cael ei redeg yn hollol naturiol hefyd, yn dilyn fformiwla’r hollol sianelau eraill: sawl comisiynydd, pob un yn edrych ar ôl adran wahanol, yn ateb i un pennaeth.

Ond bellach, ydi hi’n gwneud synnwyr cael un sianel yn trio plesio pawb yng Nghymru? Ac un comisiynydd yn penderfynu, er enghraifft, pa siâp ddylai “comedi Cymraeg” gymryd?

Wel, nag’di. Fel arall, fyswn i ddim yn sgwennu hwn.

Dydw i ddim yn bwriadu gweld bai ar S4C, gyda llaw, na galw am ddiwedd y sianel, nac unrhywbeth fel’na. Ond mae’r cyfle yma rŵan i gynhyrchu bob math o stwff mwy ymylol o gwmpas piler mawr S4C, sy’n sefyll yng nghanol bob dim.

(Mae ‘na ddadl i’w wneud, wrth gwrs, nad ydi stwff am gemau fideo a ffuglen wyddonol a ffantasi yn ymylol o gwbwl, yn enwedig i’w gymharu efo rhywbeth fel – o, dwi’m yn gwbod – Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ond wnawn ni adael hwnna lonydd am y tro.)

Mae’n rhyfedd cyn lleied o bobol sydd wedi meddwl am wneud eu cynnwys Cymraeg eu hun a’i sticio ar YouTube. Dwi wedi bod yn gweithio fel awdur a sgriptiwr am dair mlynedd erbyn hyn, yn treulio lot gormod o fy amser yn gwylio YouTube, a wnes i ddim meddwl am y peth. Achos dydi’r Cymry, ar y cyfan, ddim yn gwneud. Sy’n od, achos yn mhob rhan arall o’r byd creadigol, mae gan y Cymry agwedd hynod o iach at greu stwff yn annibynnol.

Mae ‘na gannoedd o awduron a beirdd yn mynd ati i sgwennu nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, wedi eu cynnal gan rwydwaith gref o wahanol gyrff a chwmnïau. Mae gwaith sgriptwyr i’w weld mewn ambell noson o ddrama annibynnol ar hyd y lle, ac yn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Dydi cyflwr blogiau Cymraeg erioed wedi bod yn gryfach, efo’r Blogiadur yn tynnu pob dim at ei gilydd a’i roi mewn un lle. Ac wrth gwrs, dyna’r Sîn Gerddoriaeth Gymraeg – cyflawniad mwya diwylliant Cymraeg dros yr hanner canrif diwetha, heb os nac oni bai. Mae’r ffaith bod pobol ifanc yn dal i godi gitârs, neu feicroffons, neu offerynnau pres, neu’n twidlo efo’u cyfrifiaduron, er mwyn gwneud cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol a diddorol, yn beth y dyliwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono fo.

Ond o ran cynnwys fideo? Boed o’n gomedi, yn ddrama, yn stwff ffeithiol? Wel, dydi’r dewis ddim yn grêt.

Ac o’r stwff sydd yn bodoli, mae’n nodedig iawn bod lot ohono fo wedi ei wneud gan blant – yn cynnwys sawl fideo am y gêm Minecraft

(Cofio pan ddywedais i bod gemau’n berthnasol? Ddim i ymddangos yn smyg na’m byd, ond…)

… ac ambell i flog.

Na, dim blog. Flog. Vlog yn Saesneg. Mae’r ffaith bod hyd yn oed y gair Cymraeg am y peth yn ddryslyd yn deud lot, dydi?

O gael dewis, stwff ar wefannau fel YouTube a Twitch mae plant yn dueddol o wylio dyddiau yma, yn hytrach na theledu byw. A dydi’r arfer yna ddim yn mynd i newid unrhywbryd yn fuan. Rheswm arall, felly – os nad y rheswm pennaf – pam bod pethau angen newid.

Oni bai am hynny? Wel, mae angen llongyfarch criw’r rhaglen Y Neuadd am fynd yn syth at YouTube i’w ddarlledu, ac mae’n dda gweld ei fod wedi bod yn dipyn o lwyddiant. Ar yr un pryd, mae lot o gast a chriw’r rhaglen yn enwau cyfarwydd i wylwyr S4C beth bynnag. I fod yn llwyddiannus, dwi’n meddwl y dylai unrhyw “sîn” o gynnwys fideo Cymraeg feithrin talentau cwbwl newydd, yn gweithredu y tu allan i’r system sy’n bodoli’n barod, ac yn gwneud pethau na fyddai’n cael eu dangos ar sianel fel S4C.

I hynny allu digwydd, mae’n rhaid i lot o bethau newid. Ond mae angen i’r newid yna ddigwydd, ac yn fuan, neu fydd darlledu Cymraeg yn dod yn gwbwl amherthnasol.

Wel… yn fwy amherthnasol nag ydi o’n barod, o leia.

Mae angen rhyw fath o rwydwaith o fideos gwreiddiol Cymraeg, fel y Blogiadur, er mwyn rhoi popeth mewn un lle, hawdd i’w gyrraedd. Yn ddelfrydol, mae angen system o gefnogi cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg yn ariannol – un ai drwy S4C, neu gorff newydd. Ond yn bwysicach na dim, mae angen gwylwyr. O fy mhrofiad fy hun, does dim byd yn rhoi mwy o foddhad i mi nag eistedd i lawr dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau a chreu fideo newydd allan o ddim. Ond dydi’r teimlad wedyn, wrth weld mai dim ond llond llaw o bobol sydd wedi ei wylio, ddim cweit mor foddhaol.

Serch hynny, dwi yn bwriadu gwneud llawer iawn mwy o fideos, a rheini’n fwy ac yn fwy amrywiol, dros y misoedd nesa, achos dyna’r unig ffordd allwn ni gael y bêl i rowlio. Dwi’n gwadd unrhywun sy’n darllen hwn i ymuno efo fi. Ar eich iPhone, neu eich camcorder, neu ar offer proffesiynol wedi ei ddwyn o’ch stiwdio agosa…*

* Nodyn cyfreithiol: plis peidiwch â gwneud hyn.

… neu be bynnag. Ewch amdani. Efo’n gilydd, mae ganddo ni’r gallu i wyrdroi’r cyfryngau Cymraeg yn llwyr.

Ac wedi’r cwbwl, be bynnag ‘da chi’n wneud, ellith o ddim bod mor ddrwg â Îha Sheelagh, siawns.

7 sylw ar “Fideos nawr! Diffyg rhyfedd cynhyrchu annibynnol ar y we”

  1. “Flwyddyn yma, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno eitemau ar raglen Y Lle”

    Mae hyn yn dweud y cyfan. Yn y byd Cymraeg, mae’n hawdd iawn i weithio neu ymddangos ar y cyfryngau traddodiadol os ydych chi wir eisiau gwneud, am fod cyn lleied o siaradwyr Cymraeg a mae S4C/Radio Cymru yn dueddol o neidio ar unrhyw wynebau newydd (heb strategaeth am y cynnwys yn aml iawn).

    Pam felly fase unrhywun yn creu fideos ar gyfer llond llaw o wylwyr ar lein pan allwch chi gael eich talu amdano a’i ddarlledu ar y cyfryngau torfol?

    I ddweud y gwir mae hyn yr un mor wir am flogwyr a gynhyrchwyr fideo yn saesneg – mae’r rhai mwya llwyddiannus yn cael eu herwgipio gan y darlledwyr yn ddigon buan. Er mae yna lawer mwy o gystadleuaeth yn saesneg a mae’n bosib gwneud arian heb foesymgrymu i’r darlledwyr torfol.

    Pam felly fase rhywun yn gwneud fideos yn Gymraeg (hyd yn oed am arian) pan fase’r cynnwys yn siwr o gael eu briodoli gan S4C beth bynnag? Yr unig beth sy’n gwneud synnwyr yw creu cynnwys heb ofyn am dâl, ‘am y celf’ – anghofiwch am y nawdd cyhoeddus, jyst gwnewch e.

  2. O ran dosbarthu fideos yn ehangach mae cwpl o brosiectau da wedi bod dros y blynyddoedd, megis Fideo Bob Dydd a Weiran Gaws.

    Byddai rhaid i ti ofyn i’r trefnwyr am y gwersi maen nhw wedi dysgu neu os oes modd cyd-weithio.

  3. Diolch am y sylw, Dafydd.

    Roedden ni’n lwcus iawn i gael slot ar Y Lle, a ‘da ni wir wedi mwynhau gweithio efo nhw. Ond mae’n eitemau ni ar eu cyfer nhw yn dilyn fformiwla gweddol gyson, ac mae ‘na gymaint mwy o amrywiaeth yn ein heitemau ni arlein.

    Fysa ni wrth ein boddau’n cynhyrchu mwy o stwff amrywiol i S4C. Ond dyna’r peth. Dim ond hyn a hyn o oriau sy ‘na yn y dydd, a fedran nhw ddim darlledu popeth. Does gan y cyfryngau torfol ddim monopoli ar ddiwylliant Cymraeg, a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig bod pethau’n cael eu creu y tu hwnt i’r terfynau (gweddol gyfyng, mae’n rhaid dweud) sydd wedi cael eu hadeiladu ganddyn nhw. Dim ond rwan mae hynny’n wirioneddol bosib.

    Ac achos bod y terfynau yna’n bodoli, dwi ddim o reidrwydd yn cytuno ei bod hi’n “hawdd iawn i weithio neu ymddangos ar y cyfryngau traddodiadol os ydych chi wir eisiau gwneud”. Ddim yn llawn amser, o leia. Ella bod hynny’n wir os ydych chi’n gwneud stwff sy’n ffitio’r mowld traddodiadol, ond dim, yn fy mhrofiad i, os ydi’ch steil fymryn yn wahanol. Dwi wedi gwneud llond llaw o bethau i S4C ac i Radio Cymru, ac wedi mwynhau lot o’r profiadau, ond yn gyffredinol, dwi wedi cael trafodaethau mwy calonogol efo pobol sy’n gweithio i Sky, neu gwmniau o America. Dyna pam bod angen ffrwd arall o gynnwys yn Gymraeg, y tu allan i’r system yna. Debyg fydd y stwff yn lot mwy anwastad o ran ei safon, ond o leia fydd o’n wahanol. Mae’r siawns yna i gynhyrchu stwff sydd wir yn perthyn i’r awdur, heb ormod o ymyrraeth a biwrocratiaeth.

    Ac ar ben hynny, mae ‘na stwff sydd jyst yn ffitio ar y we, a ddim ar unrhyw sianel deledu, fel y fideos Minecraft wedi eu lincio uchod. Dydi popeth ddim yna i gael ei briodoli gan S4C, dwi’m yn meddwl. Dyna be dwi’n licio am lot o’r cyfresi Saesneg dwi’n eu dilyn ar Youtube – y ffaith bysa neb call yn eu rhoi nhw ar y teledu! Bonws (neis iawn) oedd Y Lle i ni. Wnaethon ni ddim cychwyn allan i wneud unrhywbeth fel’na.

    Ar y funud, cynhyrchu stwff am ddim, ‘am y celf’, yda ni yn Fideo Wyth, ac wedi gwneud am bron i flwyddyn bellach. A fel dwi’n ei ddeud yn yr erthygl, ‘da ni’n mwynhau’r profiad yn fawr. Dim ymgais ganddon ni i ofyn am bres oedd hwn i fod! Jyst trio cael mwy o bobol i wneud pethau tebyg, yn union fel mae nhw’n ei wneud yn Saesneg, neu pa bynnag iaith arall. Fel dwi’n deud, mae’r agwedd DIY sydd ganddon ni ym mhob maes arall yng Nghymru yn briliant. Jyst isio ehangu o at y maes yma.

  4. Dwisio ymateb ond dwi’n ofni fyddai yma am 3 awr yn sgwennu’r peth. Mae fy mhrofiadau i o nosweithiau Pictiwrs (RIP), Sesh.tv (RIP), fideobobdydd (RIP), astudio Sianel 62 a Munud i Ddathlu wedi dod a fi i sawl casgliad pendant.

    Yn fras:
    * arian mawr (cymharol) cyfryngau yn llyncu creadigrwydd amgen yn sydyn iawn
    * dim quick wins i fideos bach er mwyn annog mwy (cymharer a’r hyn all band newydd Cymraeg gyflawni gyda cwpwl o gigs a chwarae ar Radio Cymru) – torri calon arbrofion Cymraeg yn gynnar iawn
    * hyn yn arwain at zero arian (er mor bitw) yn dod nol fe galli di gael gyda ysgrifennu a cherddoriaeth
    * black hole YouTube – problemau darganfod
    * cost amser creu vs return gwylwyr i fideo Cymraeg
    * cost amser gwylio o’i gymharu a cherddoriaeth / testun yn golygu cystadlu gyda fideo arlein safonol = gorfod cael production values uchel i ddechrau off
    * dim rhwydweithiau oddiarlein i fideo Cymraeg arlein
    * dim rhwydweithiau arlein er mwyn hyrwyddo fideos newydd.
    * Dim digon o rannu cynnwys *yn gyffredinol* yn Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol. Gyd ma pobl yn gneud ydi siarad, nid rhannu dolenni at y cynnwys ei hun (hwn yn ddamcaniaeth sydd heb ei brofi gyda unrhyw ystadegau!!(ond mae na flwyddyn o fonitro Ffrwti a’i gyfateb Basgeg yn cynnig gut feeling eitha cryf)). Damcaniaeth pam? Cymru Fach: pawb yn teimlo bod pawb di gweld dolen yn barod felly’n gyndyn i rannu eto. Canlyniad: neb yn rhannu dim byd, neu ddolen yn cael ei rhannu chydig wedyn cyrraedd cul de sac.
    * ma na bethau eraill hefyd fel diffyg role models / ysbrydoliaeth sydd yn ychwanegu at greu cylch dieflig

    Dyma fy nwygeiniogwerth brysiog…faswn i’n deud paid digalonni, ond dwi wedi trio peidio digalonni, a gneud rhywbeth amdan y sefyllfa fy hun, a dwi wedi digalonni yn y diwedd. Y gair a’r glust ydi’r cyfryngau lle galli di hawlio sylw, cael ymateb a bod yn rhan o rywbeth yn yr iaith Gymraeg. Rydan ni, fel ddudodd John Hefin, yn genedl sydd yn ddall i’r gweledol a’n amharchus i’n traddodiad clyweledol.

    Dwi’n beio’r Methodistiaid fy hun.

    Profwch fi’n rong, wir dduw! (Dwi dal yn trio profi fy hun yn rong hefyd gyda llaw – sori am fod yn ddu ar y mater!)

  5. Diolch Rhodri.

    Dwi’n beio’r Methodistiaid am bob dim ‘fyd!

    Rhygnu mlaen wnawn ni ‘lly. Dwi’m yn meddwl ein bod ni’n ysbrydoliaeth i neb chwaith!

    Trist os mai diwedd y gân yw’r geiniog go-iawn. Dwi’n gwbod bod ‘na rai wedi galw ar S4C i ddefnyddio’r gronfa ddigidol i gefnogi stwff annibynnol am flynyddoedd, ond dwi’m yn meddwl bod ‘na unrhywbeth wedi dod o’r peth.

    Os am osgoi’r llwybr yna, rhwydwaith ydi’r cam cynta, debyg. A chydig mwy o sylw yn y cyfryngau traddodiadol. Trio cael y bêl i rowlio’n ara deg. Iawn. Ond ia, (lot) haws dweud na gwneud.

  6. Heb sôn am gynhyrchu fideos o safon, ble mae’r fideos nonsens, memynnau, trosleisio, stwnsho, clipiau doniol oddi ar y teledu, clipiau ffôn stiwpid, rwtsh llwyr, Llŷr Mental, Dw i’n Dod O Rhyl, cachu £0.00?

Mae'r sylwadau wedi cau.