Mae gwefan Y Twll wedi parhau am saith mlynedd o ddiwylliannau, celf, cerddoriaeth, ffilm, gwleidyddiaeth a threigladau ansafonol.
Dw i’n dal i chwilio am ragor o gyfraniadau gyda llaw. Cysylltwch ar unwaith. Yn ogystal ag, o bosib, diod am ddim fe gewch chi’n fraint o fynegi safbwynt tu fas i unrhyw gydberthynas rhwng arian cyhoeddus a gwerthoedd golygyddol. Ac mae hynny yn edrych yn grêt ar unrhyw CV.
Diolch o galon am unrhyw gefnogaeth. Fe flogiwn ni eto.
Hir oes i twll.