Os oeddet ti’n meddwl pa fath o waith celf yn union fydd yr artist amlgyfryngol Gruff Rhys o Fethesda yn wneud nesaf ar ôl ffilm ddogfen realaeth hudol, llew papur ac arddangosfa o westy a wneud o boteli siampŵ, wel dyma’r ateb.
Mae National Theatre Wales newydd datgan gwybodaeth am brosiect newydd Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) – rhywbeth rhwng sioe theatr gydag actorion a phopeth, gig byw a ‘phrofiad gwleidyddol’ o’r enw Praxis Makes Perfect.
Mae’r stori yn seiliedig ar fywyd miliwnydd, Giangiacomo Feltrinelli, y cyhoeddwr a chwyldroadwr Comiwnyddol o’r Eidal. Fe wnaeth cyhoeddi Dr Zhivago ymhlith lot o lyfrau eraill.
Fel rhan o’r ymchwil aeth Gruff gyda’r sgwennwr theatr Tim Price i Milan a Rhufain er mwyn cwrdd â Carlo Giangiacomo, y mab sydd wedi cyhoeddi bywgraffiad am ei dad ac wedi etifeddu’r busnes cyhoeddi teuluol Feltrinelli Editore. Ar hyn o bryd mae Price, Gruff a Bip yn gweithio gyda tîm o bobl gan gynnwys cyfarwyddwr Wils Wilson i weithio ar y sioe.
Tra bydd curiadau disco Eidalo yn chwarae rwyt ti’n gallu chwarae pel fasged gyda Fidel Castro, cael dy dirboeni gan y CIA neu smyglo dogfennau mas o Rwsia (hoffwn i ddweud fy mod i’n cyfansoddi’r geiriau yma ond does dim angen). Gobeithio fydd pobl Cymraeg ddim yn siarad dros y gigs arbennig yma, fel maen nhw wastad yn!! (heblaw os fydd siarad yn rhan o’r profiad, sbo).
Mae’r sioe yn dilyn yr albwm cychwynnol Neon Neon, Stainless Style, prosiect cysyniadol am y miliwnydd car John DeLorean gydag ychydig o help gan ffrindiau fel Cate Timothy.
Dyma I Lust U o 2008.
Bydd albwm newydd hefyd yn ôl y datganiad i’r wasg a rhyw fath o ffilm ddogfen gan Ryan (dim cyfenw hyd yn hyn). Bydd cyfle i glywed trac newydd ac archebu tocynnau i’r sioe, sydd ym mis Mai eleni mewn lleoliad ‘cyfrinachol’ yng Nghaerdydd, nes ymlaen.
Fel blogiwr mae’n rhaid datgan diddordebau. Dw i’n wneud ambell i job i NTW. Ond dw i’n methu aros i brynu fy nhocyn i’r sioe yma.
Dw i’n methu ymdopi gyda chelf clawr The Next Day. Mae’r peth mor anhygoel o shit. Ond dw i’n methu stopio edrych ar y peth. Hilariws. Ar y dechrau o’n i’n meddwl bod y stori am y clawr yn rhywbeth dychanol ar wefan fel The Daily Mash neu rywbeth fel yr Onion cyn i mi chwilio’r we am ragor o dystiolaeth.
Mae’r clawr yn mynd â #retromania i’r lefel nesaf. Pop yn bwyta ei hun. Hunan-parodi. Mae’n edrych fel y fath o glawr mae artist ailgymysgu diflas heb syniadau gwreiddiol fel errr Girl Talk yn ei wneud.
Yn ôl y sôn ar wefan y dylunwyr enw y ffont ydy Doctrine ond mae’n edrych fel rhywbeth plaen i fi.
Wedi dweud hynny mae’r sengl Where Are We Now? yn dderbyniol sbo ac mae cynhyrchiad da gan hen ffrind Bowie a chyn-cariad Mary Hopkin, sef Tony Visconti. Mae David yn hoff iawn o Ferlin ers tro ac es i yna cwpl o fisoedd yn ôl felly mae’r geiriau yn eithaf neis. Bydd y gân yn tyfu arnaf i mae’n siwr.
Dyma grŵp newydd o’r enw Aelod o’r Gorwel. ‘Grŵp arbrofol’ yw’r unig disgrifiad sydd gyda ni hyd yn hyn. Gwnes i benderfynu bostio’r fideo yma yn syth ar ôl i mi ei darganfod. Mae grŵp addawol newydd yn peth cyffrous ac mae gymaint o bosibiliadau. Dw i’n joio ffaith ein bod ni ddim yn nabod pwy yn union ydyn nhw eto a’r ffaith bod y gân Mantra’r Bore Tywyll a’r fideo yma yn annisgwyliedig ac yn cymharol unigryw. Os ydyn ni i gyd yn sgwennu llythyrau at Radio Cymru fyddan nhw yn chwarae’r gân hon yn ystod y dydd?
O’n i’n edrych ymlaen i weld pennill rap Cymraeg (neu dwyieithog) gan Mr Phormula ar y gwobrau MOBO ymhlith rhai o’r artistiaid hip-hop mwyaf addawol ar hyn o bryd. Yn anffodus penderfynodd y digwyddiad i beidio rhoi statws ‘cyntaf o’i fath yn y Gymraeg’ ar Phormula, druan. Ond yn ôl sgyrsiau mae MOBO yn meddwl dyw’r artistiaid i gyd tu ôl UK Rap Anthem ddim yn digon adnabyddus eto. Mae’r penderfyniad yn siom ond dyw hynny ddim yn syndod oherwydd y tensiwn rhwng amcanion diwylliannol a phwerau masnachol o fewn MOBO – neu unrhyw seremoni gwobrau cerddorol sydd i fod i ddathlu lleiafrif(oedd).
Wrth gwrs fyddan ni ddim yn gwybod beth oedd pennill Mr Phormula i fod ond mae modd gwrando ar fersiwn stwdio o’r posse cut UK Rap Anthem ar YouTube, gan gynnwys y gytgan trawiadol ‘welcome to my ends bro, it’s a kennel for the dogs…’ gyda chyfarthiadau cyson yn y cefndir:
Mae’r rapwyr ar y gân i gyd yn byw o fewn yr endid gwleidyddol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon:
Comisiynodd y cyflwynydd Charlie Sloth a’i dîm yn yr orsaf radio ‘urban’ BBC 1Xtra y gân ar gyfer y gwobrau MOBO. Aeth Charlie Sloth ar daith i greu ffilm dogfen er mwyn esbonio amcanion y gân a chwrdd â’r artistiad yn y rhestr uchod. Os wyt ti eisiau gweld y cyfweliad gyda Mr Phormula a Hoax MC yn unig cer i 6:40.
Er doedd eu hymdrech nhw ddim yn hollol llwyddiannus ac efallai fyddai steil Sloth ddim at dant pawb, maen nhw yn haeddu ychydig o glod. Mae’n anodd meddwl am unrhyw beth arall o’r cyfryngau Prydeinig sydd yn wneud gymaint o ymdrech i fod yn gynhwysfawr, i ‘gynrychioli’ mewn iaith hip-hop. Pa mor aml ydyn ni’n gweld ymdriniad mor deg o bob cwr o Brydain ar Newsnight, er enghraifft? Dyma cwestiwn sydd yn bwysig i’w ofyn tra rydyn ni’n gwylio rhaglennu. Rydyn ni’n sylwi y farn ymhlyg bod llefydd tu allan i Lundain yn hollol di-nod a diflas trwy’r amser (heblaw pan mae rhywbeth difrifol iawn wedi digwydd). Dyma pam maen nhw yn derbyn dim ond ychydig bach o sylw fel clipiau tocenistaidd yn ystod digwyddiadau mawr (e.e. ‘and now it’s back to the studio…’ ar ôl tri munud o gyfweliadau ar brys) neu, yn achos Cymru yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd gan Danny Boyle, portread syml a nawddoglyd.
Mae presenoldeb y rapwyr gwledig Cymreig yn herio’r gair ‘urban’. (Gyda llaw cyn iddo fe cael ei sefydlu, roedd BBC yn ystyried yr enw Radio 1 Urban ymhlith awgrymiadau eraill.) Efallai dyw ‘urban’ ddim yn ansoddair addas ar gyfer cerddoriaeth gyda gwreiddiau croenddu (ystyr fwriadol y term) rhagor. Fel a dywedodd Rakim ‘it ain’t where you’re from it’s where you’re at’. Fel a ychwanegodd Super Furry Animals ‘it’s where you’re between’.
Mae 1Xtra yn weddol rhydd i gynhyrchu cynnwys anarferol a dosbarthu cynhyrchiadau llawn (yn hytrach na chlipiau) fel yr un uchod gyda dulliau anghonfensiynol fel YouTube. Mewn gwirionedd mae gymaint o arddulliau cerddorol ar 1Xtra. Yr elfen sydd yn gyffredin yw’r ffaith bod yr orsafoedd eraill fel Radio 1 yn rhoi dim ond ychydig bach o sylw iddyn nhw neu hyd yn oed yn rhy ofnus i’w chwarae nhw yn ystod y dydd.
Byddai mwy o bresenoldeb o gynnwys Cymraeg yn rhwybeth i’w groesawu (anfonwch eich recordiau hip-hop Cymraeg i 1Xtra ar unwaith!).
Ond yn anffodus os yw’r ymdrechion i gynrychioli yn well yn arwydd o rywbeth ehangach o hyn ymlaen, dyw 1Xtra ddim yn prif ffrwd yn y gorfforaeth o bell ffordd. Mae’r ‘Xtra’ yn dadorchuddio’r sefyllfa: gorsaf ar yr ymylon. Roedd y BBC dan bwysau i gefnogi cerddoriaeth gyda gwreiddiau croenddu yn enwedig artistiaid newydd. 1Xtra yw’r consesiwn ac mae’n haws i gynnal gorsaf digidol-yn-unig arall nag adolygu ac adnewyddu’r gorsafoedd prif ffrwd.
Y tro diwethaf a gwnes i ymchwilio roedd/mae un stiwdio i 1Xtra yn unig. Roedd rhywun o’r BBC yn Llundain pryd hynny yn dehongli’r sefyllfa yn bersonol i fi fel bwriad i ail-creu’r teimlad o orsaf radio morleidr du heblaw am y drwydded, ond o’n i’n methu osgoi’r ffaith bod un stiwdio hefyd yn lot rhatach.
O safbwynt fy nghlustiau mae’n braf iawn i glywed bod nhw wedi ffeindio seiniau gwahanol. Mae’r gân Wyt Ti’n Hapus? yn yr un ardal a Ulrich Schnauss neu Lemon Jelly cynnar (ond lot mwy diddorol na Lemon Jelly) – ond ddim yn rhy slafaidd i unrhyw traddodiad.
Y peth yw, dw i’n edmygu eu sgiliau fel cyfansoddwyr a chwaraewyr erioed – rhai o’r gorau hyd yn oed – ond doedden nhw ddim at fy dant yn y gorffennol achos o’n i’n methu delio gyda’r cyfeiriadau i’r 60au. O’n i wedi cael llond bol o’r obsesiwn Cymry gyda’r 60au yn gyffredinol. Mae dadl ehangach yna am geidwadaeth pawb o Radio Cymru i S4C i’r cerddorion ac efallai cynulleidfaoedd. Roedd Colorama cynnar yn gormod i fi, yn enwedig y cynhyrchiad Kinksaidd ar ganeuon pastiche braidd fel Candy Street. Ond efallai bydd rhaid i ni ail-dylunio’r Canllaw i’r 60au ar Y Twll bellach achos maen nhw wedi cael y 60au mas o eu systemau.
Gobeithio eu bod nhw wedi ffeindio’r hyder i fwrw ymlaen gyda’r arddulliau newydd ac unigryw iddyn NHW fel artistiaid. Rwyt ti’n gallu dychmygu’r peth mewn clwb – mae groove penodol i’r peth ac mae’r cynhyrchiad yn dwfn ac yn llawn llawenydd ac heulwen. Pob lwc/bendith i Colorama.