Praxis Makes Perfect: gig theatr Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) ym mis Mai 2013

gruff-rhys-boom-bip

Os oeddet ti’n meddwl pa fath o waith celf yn union fydd yr artist amlgyfryngol Gruff Rhys o Fethesda yn wneud nesaf ar ôl ffilm ddogfen realaeth hudol, llew papur ac arddangosfa o westy a wneud o boteli siampŵ, wel dyma’r ateb.

Mae National Theatre Wales newydd datgan gwybodaeth am brosiect newydd Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) – rhywbeth rhwng sioe theatr gydag actorion a phopeth, gig byw a ‘phrofiad gwleidyddol’ o’r enw Praxis Makes Perfect.

Mae’r stori yn seiliedig ar fywyd miliwnydd, Giangiacomo Feltrinelli, y cyhoeddwr a chwyldroadwr Comiwnyddol o’r Eidal. Fe wnaeth cyhoeddi Dr Zhivago ymhlith lot o lyfrau eraill.

praxis-makes-perfect-gruff-rhys-boom-bip-650

Fel rhan o’r ymchwil aeth Gruff gyda’r sgwennwr theatr Tim Price i Milan a Rhufain er mwyn cwrdd â Carlo Giangiacomo, y mab sydd wedi cyhoeddi bywgraffiad am ei dad ac wedi etifeddu’r busnes cyhoeddi teuluol Feltrinelli Editore. Ar hyn o bryd mae Price, Gruff a Bip yn gweithio gyda tîm o bobl gan gynnwys cyfarwyddwr Wils Wilson i weithio ar y sioe.

Tra bydd curiadau disco Eidalo yn chwarae rwyt ti’n gallu chwarae pel fasged gyda Fidel Castro, cael dy dirboeni gan y CIA neu smyglo dogfennau mas o Rwsia (hoffwn i ddweud fy mod i’n cyfansoddi’r geiriau yma ond does dim angen). Gobeithio fydd pobl Cymraeg ddim yn siarad dros y gigs arbennig yma, fel maen nhw wastad yn!! (heblaw os fydd siarad yn rhan o’r profiad, sbo).

Mae’r sioe yn dilyn yr albwm cychwynnol Neon Neon, Stainless Style, prosiect cysyniadol am y miliwnydd car John DeLorean gydag ychydig o help gan ffrindiau fel Cate Timothy.

Dyma I Lust U o 2008.

Bydd albwm newydd hefyd yn ôl y datganiad i’r wasg a rhyw fath o ffilm ddogfen gan Ryan (dim cyfenw hyd yn hyn). Bydd cyfle i glywed trac newydd ac archebu tocynnau i’r sioe, sydd ym mis Mai eleni mewn lleoliad ‘cyfrinachol’ yng Nghaerdydd, nes ymlaen.

Fel blogiwr mae’n rhaid datgan diddordebau. Dw i’n wneud ambell i job i NTW. Ond dw i’n methu aros i brynu fy nhocyn i’r sioe yma.

Cyrk gan Cate Le Bon

Dyma diwn gan Cate Le Bon o’i albwm Cyrk. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Kris ‘Sir Doufous Styles’ Jenkins ac mae’r albwm hefyd yn cynnwys mewnbwn gan Siôn Glyn o’r Niwl, aelodau Racehorses a Gruff Rhys. Mae’r albwm yn dod mas ar y 30ain mis yma ar label OVNI, sef label Gruff.

O ran y fideo dw i’n blogio gwaith fideo Casey + Ewan yn eithaf aml yma. A pham ddim. Maen nhw wedi cynhyrchu fideo i Cate o’r blaen ac mae Casey wedi dylunio clawr albwm i Gruff. (Rhyw ddydd bydd rhywun yn creu siart cynhwysfawr o’r holl gydweithrediadau yma.)

Recordiau Peski – blas o’r ôl-gatalog

Dyma gasgliad o tiwns sydd wedi dod mas ar Recordiau Peski dros y blynyddoedd. Traciau:

1. Land of Bingo – Bottle It In
2. VVOLVES – People
3. Plyci – Flump
4. Jakokoyak – Prypiat
5. Cate Le Bon – Byw Heb Farw
6. Texas Radio Band – Swynol
7. Radio Luxembourg – Cartoon Cariad
8. Stitches – We All Fall Down
9. David Mysterious – Dr. Manhattan
10. Evils – Idiophone

Rwyt ti’n gallu eu lawrlwytho nhw o’r chwaraewr uchod. Cer i broffil Soundcloud Recordiau Peski am fwy.