Dw i wedi ail-ffeindio hwn ar fy disg caled – mics 78 munud gan Four Tet.
Perffaith am y swyddfa – neu dy parti. Techno minimal, ychydig o jazz ac afro-beat.
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Dw i wedi ail-ffeindio hwn ar fy disg caled – mics 78 munud gan Four Tet.
Perffaith am y swyddfa – neu dy parti. Techno minimal, ychydig o jazz ac afro-beat.
Amrwd yw “Netlabel super awesome weithia” (yn ôl geiriau nhw).
Dw i dipyn bach yn hwyr gyda podlediad nhw achos newydd ffeindio pump podlediad yna “sy’n ymdopi a pynciau llosg cyfoes, fel Bryn Fôn a plant anabl yn cystadlu’n Cân i Gymru”.
Ymuna’r cyflwynwyr Siôn Maredydd (label Sbrigyn Ymborth) ac Emrys Evans (o’r band DIY Cymdeithas yr Hobos Unig) am gerddoriaeth amrywiol a sgyrsiau difyr – gan gynnwys cerddoriaeth a gemau fideo.
Looks Like We’re Shy One Horse gan Colourbox, o 1986.
Wedyn naethon nhw sgorio rhif 1 yn y DU gyda Pump Up The Volume dan yr enw M/A/R/R/S yn 1987.
Mae samplo gallu bod yn ffordd greadigol i greu cerddoriaeth. Mae ailgylchu yn dda i’r amgylchedd. Hefyd mae’n rhatach (weithiau). Gofyna’r artistiaid isod.
Samplodd Ffa Coffi Pawb yn “Hydref Yn Sacramento”…
…y drymiau o’r cychwyn Rolling Stones “Get Off of My Cloud”.
Samplodd Datblygu yn “Pop Peth”
…y drymiau enwog gan Clyde Stubblefield o James Brown “Funky Drummer”. Mae’r darn yn dechrau tua 5:20. Roedd llawer o bobol yn samplo’r un drymiau, e.e. Public Enemy, Madonna, Prince a llawer o artistiaid jyngl/drwm a bas fel Future Cut.
Samplodd Super Furry Animals yn “Smokin'”…
…y ffliwt o Black Uhuru “I Love King Selassie”.
Samplodd Lo-Cut a Sleifar yn “Aduniad”…
y curiad o Cage “54” (dw i’n meddwl).
Samplodd Tystion yn “Dama Blanca”…
“Cocaine in my Brain” gan Dillinger. (Ond ble mae’r ffliwt yn dod, fersiwn dub arall?)
Dw i’n edrych ymlaen at Pen Talar, y cyfres newydd S4C.
Mae cefnogwr mawr wedi dechrau PenTalarPedia, “casgliad o wybodaeth am bopeth o gwmpas Pen Talar”.