Cefnogwyr Ymgyrch Treganna yn cyflwyno
Meic Stevens
Gwyneth Glyn
DJ Gareth Potter
16 Gorffennaf 2010
8YP – 12 hanner nos
£10
Tafarn y Diwc, Ffordd Clive, Caerdydd
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Cefnogwyr Ymgyrch Treganna yn cyflwyno
Meic Stevens
Gwyneth Glyn
DJ Gareth Potter
16 Gorffennaf 2010
8YP – 12 hanner nos
£10
Tafarn y Diwc, Ffordd Clive, Caerdydd
Da iawn i Cymru Ddu am hybu cyngherddau reggae ardderchog yn y brifddinas.
Paid anghofio’r gig Mykal Rose o Black Uhuru yn The Globe fory!
Neu digwyddiadau eraill gan Cymru Ddu.
Gyda llaw ro’n i’n gyted i golli’r gig Wailing Souls yng Nghaerdydd mis diwethaf. (Aeth unrhyw un?)
Can wych. Dw i’n caru’r swn o drymiau, y magl drwm yn enwedig. Beth wyt ti’n galw fe, low pass filter? Mae’n swnio fel King Tubby neu Scientist ond yn y glaw.
Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.
Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.
Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!
ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”
Ces i amser da yn y noson ffilm From The Shelf neithiwr.
Yn y fideo, mae Daf Wil yn trafod y syniad gwreiddiol a chynllun am yr ail flwyddyn y digwyddiad.
Mae From The Shelf yw’r unig le i weld ffilm dda ac yfed cwrw rhad ar yr un pryd. Mae e’n digwydd pob pythefnos ar llawr cyntaf, tafarn The Gower, Y Rhath, Caerdydd.
Mynediad am ddim.
Y ffilm nesaf yw Dancer In The Dark gan Lars von Trier gyda Björk ar 2ail mis Mai 2010. Dere am 7:30YP, mae’r ffilm yn dechrau 8YP.
Mae’r grŵp Facebook ar gyfer From The Shelf yn rhestru’r ffilmiau gwych mae Daf a Dyl wedi dangos hyd yn hyn.