Yn ôl rhai heddiw mae ‘rhyddhau sengl’ yn golygu cynhyrchu tiwn a’i roi ar Soundcloud neu Bandcamp gydag MP3 am ddim i bawb – sydd yn hollol iawn gyda fi yn enwedig pan mae’r ansawdd mor ardderchog â’r hyn sydd wedi dod mas yn ddiweddar.
Mae’r wobr am Slogan Orau Mewn Tiwn Disgo Electronig ers ‘mae pawb yn wir yn haeddu glaw’* yn mynd i’r artist solo Twinfield a’r grŵp Pop Negatif Wastad. Yn ôl Huw S ar C2 heno mae Pop Negatif ar y tiwn hon yn cynnwys Gareth Potter ac Esyllt Lord eto.
Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o bobl glywed Twinfield (gynt o VVolves) ac mae llais Potter dros y trac i gyd(!). Dyma sut mae Twinfield yn swnio ar ei ben ei hun:
https://soundcloud.com/winf-ield/strydoedd-y-nos
Mae sawl ffordd o gyrraedd y byd. Mae rhai yn cael eu geni ac mae rhai jyst yn cael eu lansio, megis Amlyn Parry o’r band Gwyllt. Mae e newydd gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg sydd yn gyfrifol am lwythi o gynhyrchiadau gwych eraill megis Ninjah, Geraint Jarman ac albwm newydd sbon danlli grai Alun Gaffey.
Mae Amlyn wedi rapio gyda Band Pres Llareggub hefyd yn (weddol) ddiweddar.
Mae’r gân Siabod gan Anelog ar-lein ers yr hydref ond dw i’n dal i’w chwarae ac i feddwl am y geiriau ac yn edmygu’r ffyrdd mae’r band yn defnyddio’r haenau o sain a lleisiau. Does dim angen talu o reidrwydd ar Bandcamp ond maen nhw yn haeddu cyfraniad bach – o leiaf. (Wedyn gallen nhw fforddio rhyddhau rhywbeth ar fformat analog fel finyl.)
Yn olaf mae’r grŵp Roughion wedi gwneud mwy nag unrhyw un i rannu eu cyfoeth, gyda darnau sylweddol o’i allbwn recordiedig ar Soundcloud am ddim.
Dyma eu fersiwn jyngl o Fersiwn o Fi gan Bromas sydd yn profi bod Roughion yn gallu ail-gymysgu UNRHYW BETH. Sôn am hynny, dw i newydd glywed premières ecsgliwsif o fersiynau Roughion o glasuron gogcore Meinir Gwilym a bocs set arfaethedig Iwcs a Doyle.
Jôc oedd y frawddeg ddiweddaf ond rydych chi’n deall y pwynt.