Categori: Cerddoriaeth
Sen Segur: fideo llawn o gig Hanner Cant
Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid llynedd.
Mae Greg Bevan o’r sianel yn dweud bod ‘Sianel62 wrthi’n cyhoeddi setiau o gig chwedlonol Hanner Cant. Dyma Sen Segur! Pwy fydd nesaf?’.
Gweler hefyd: erthygl Sen Segur ar Y Twll o 2011.
Bragdy’r Beirdd: Ifor ap Glyn, Llwybr Llaethog a mwy
Heno:
Llwybr Llaethog yn cadw’r curiad i:
Ifor ap GlynBeirdd y Bragdy:
Catrin Dafydd
Osian Rhys Jones
Rhys IorwerthAled Rheon
Pobol Y Twll (DJ)8YH
Nos Wener 21 Mehefin 2013
Rockin’ Chair
Glan yr Afon
CaerdyddMynediad am ddim!
Casgliad newydd Recordiau Afiach: Stop The G8
Dyma gasgliad er mwyn codi arian i’r grŵp Stop G8 De Cymru gan Recordiau Afiach. Grŵp ydyw sydd am brotestio yn Llundain ar yr 11eg o Fehefin yn erbyn cynhadledd y G8, ble mae arweinwyr yr wyth gwlad gyfoethocaf yn gwneud penderfyniadau dros bawb arall. Dydyn nhw ddim yn ein cynrychioli ni, pobol eu gwledydd eu hunain, ac yn sicr nid ŷnt yn cynrychioli pobl o wledydd eraill y mae eu penderfyniadau yn eu heffeithio.
Mae’r CD ei hunain yn gasgliad ffrwydrol o 23 can sydd yn drawstoriad eang o genres, arddulliau cerddorol ac ieithoedd gwahanol.
Ceir traciau gan artistiaid breakcore, pync, drwm a bas, pop, hip hop, gwerin, ska i enwi rhai. Y mae cyfraniadau o’r Eidal (Gab de la Vega), gan deithwyr sydd yn byw ‘ar site’ yn Ne Cymru (Kilnaboy) a chyfraniad gan artist sydd yn byw ym Merlin (Lost Soul). Ceir lu o gyfraniadau gan ferched, Efa Supertramp gyda’i acwstig-pync, hip hop Rufus Mufasa, electronica amrwd Ammon ac anrhefn electronica popwyllt Little Eris. Ceir hefyd artistiad o gefndiroedd ethnig amrywiol ac transrywiol ar y CD. Gwahanol iawn i’r traddodoad yn yr SRG o ddynion ifanc gwyn ddosbarth canol sydd yn llenwi rhaglenni Ochr 1 a chylchgronau fel Y Selar.
Peth difyr arall ynghylch y CD hon yw bod trawstoriad o ansawdd recordio. Y mae recordiad Mwstad a Amon yn ‘low-fi’ ac yn adlewyrchu natur D.I.Y eu recordiadau, tra mae caneuon gan rai fel Grand Collapse a’r Parlimentalist, o safon ‘broffesiynol’.
Adlewyrchai hyn oll slogan Stop G8 y flwyddyn hon sef: ‘un frwydr gyffredin’ y mae pobl o bob math o gefndiroedd yn dod at ei gilydd i gwffio’r system. Yn y CD y mae hyn ar waith gyda’r genres, artistiad a cherddoriaeth amrywiol yn cael ei gyrfranu fel rhan o’r frwydr. Mae’r cerddoriaeth ei hyn yn ysbrydoliaeth ond mae gormod o ganeuon i rhoi adolygiad teg ohonynt i gyd! Dwi’n chwarae’r CD yn ddi stop a un peth gellid dwed am y cerddoriaeth yma, rhaid ei chwarae’n uchel! Cerddoriaeth ar gyfer dawnsio’n wyllt ydyw.
Y mae gwrthdystiadau Stop G8 yr wythnos hon yn Llundain, mae arian o’r CD hwn yn talu ar gyfer trafnidiaeth i ymgyrchwyr ymuno yn y protestio a’r hwyl. Os gwerthir rhagor o CD’s ar ol protestiadau yn erbyn y G8 mi fydd gweddill yr arian yn talu i ymgyrchwyr o Dde Cymru deithio i brotestio yn erbyn y G8 yn yr Almaen y flwyddyn nesaf. Mae modd prynu’r CD arlein a hefyd mae modd ei brynu yn nigwyddiad Afiach nesaf.
Disc-claimyr!: Dwi’n ffrindiau gyda’r criw Afiach, oeddwn eisiau bod yn glir am hynny gan fod nepotistiaeth yn y byd Cymreig yn bob man ond oeddwn hefyd eisiau ysgrifennu am y CD gwych hwn. Efallai fy mod i yn ‘biased’ gan fod caneuon gan fy nghariad a fy ffrindiau ar y CD (wUw, Radio Rhydd, Efa Supertramp, Little Eris a Ammon i enwi rhai).Os yr wyt ti am gefnogi’r system ariannol pryna y CD a sgwennu adolygiad dy hyn! Be wyt ti’n feddwl ohoni?
Daft Punk – Random Access Memories (adolygiad albwm gan @casiwyn)
Random Access Memories yw’r bedwaredd albwm i’r ddeuawd Ffrengig Daft Punk ei rhyddhau. Cyfanwaith hirddisgwyliedig sy’n sicr o gael dylanwad ar gerddoriaeth gyfoes y dyfodol.
Ers eu dyddiau cynnar gyda Soma, Virgin ac Ed Banger Records, mae Daft Punk bellach wedi tyfu’n enw cyfarwydd. Gall y samplo diweddar a wnaethpwyd ar un o ganeuon Kanye West, Harder Better Faster Stronger gymeryd peth clod am ledu ymwybyddiaeth o’u cerddoriaeth yn America. Ond nawr, yn berchen ar eu rhif 1 cyntaf yn y siartiau, dyma brawf fod Daft Punk yn llwyddo’i dynnu sylw mwy nag un carfan o gerddoriaeth-garwyr yn unig.
Clywn sawl enghraifft o gyd-weithio gyda artistiaid eraill ar yr albwm hon, mae’n siwr taw’r mwyaf adnabyddus ymhlith y rhain fydda Pharrell. Er hynny, stamp Daft Punk yw’r hyn sydd i’w glywed ar Get Lucky a gellir dadlau taw addurn ychwanegol yw’r llais ar y trac yma.
Mae’r briodas rhwng Daft Punk a phrif leisydd The Strokes, yn un o brif rinweddau’r albwm. Tra gwahanol yw clywed llais Julian Casablacas yn swnio mor angylaidd. Er fod adlais o riffiau gitar pigog The Strokes i’w clywed ar y trac, mae yna gysondeb lleddf a braf i’r alaw. Dyma sut fydda The Strokes yn swnio pe baent yn perfformio mewn gwyl gerddorol ar y lleuad.
Ond er mor ymlaciol yw clywed cynhyrchiad melfedaidd Daft Punk o lais Julian Casablancas, nid y lleisiau yw ffocws y caneuon, ond yn hytrach yr amryw haenau eraill sy’n cyd-blethu i greu brechdan o ddisco hiraethus.
Daw’r albwm i ben i gyfeiliant Contact. Yr unig gan ar yr albwm sydd wedi ei hadeiladu o gwmpas sampl, gyda’r brif riff wedi ei thynnu o gân grwp o Awstralia, The Sherbs. Er nad oes llais i’w glywed yn ystod y gân hon, mae hi’n dweud llawer mwy na’r gweddill. Ma’ hi’n nodi’n glir fod Daft Punk yma i aros.
http://www.youtube.com/watch?v=HcuKxAvCSZ4