Gŵyl Nyth yng Nghaerdydd: canllaw i’r gerddoriaeth

Ciron o griw Nyth sy’n esbonio pa gerddoriaeth sy’n eich disgwyl ac mae rhagor o wybodaeth ar ddigwyddiad Facebook Gŵyl Nyth.

Bydd Gŵyl Nyth yn cael ei gynnal yn Porter’s, Caerdydd dydd Sul.

Yn ogystal â cherddoriaeth anhygoel, bydd cyfle i’r culture vultures weld arddangosfa gelf gyntaf Swci Boscawen a bydd y rhai ohonoch chi gydag arian yn llosgi twll yn eich poced yn gallu ei wario mewn siop recordiau labeli annibynnol- ac wrth y bâr, wrth gwrs.

David Mysterious
Mae o’n disgrifio ei edrychiad fel “Ned Flanders budur” a does neb yn gwybod ble mae o’n byw. Ond dim ots, achos mae Nyth wedi dod o hyd iddo fo.
Gwyliwch hon, dewch draw i’w weld, fydd o’n syniad da!

Georgia Ruth
Gyda’i halbwm allan wythnos yma a sylw Prydeinig gan Radio2 a 6Music, dewch i’w gweld hi yng Ngŵyl Nyth cyn iddi fynd rhy enwog i siarad hefo ni.
Ond cyn hynny, gwyliwch fideo grêt Georgia Ruth tra’n myltitasgio’r ddefod o wrando ar ei llais hyfryd hi.

Lewis Floyd Henry
Mae o’n edrych fel Jimi Hendrix, yn swnio fel Jimi Hendrix, ond dim Jimi Hendrix ydi o. Confused?!
Ie, mae’r arwr nad oes iddo ail, Lewis Floyd Henry, yn glanio yng Ngŵyl Nyth.

R.Seiliog
Ar y record, mae R.Seiliog yn swnio fel y dyfodol. Yn fyw, nhw yw band mwyaf groovy Cymru. Ac mae hynny gyfeillion, yn ffaith.

Swnami
Fel mae’r enw yn awgrymu, mae Swnami fel ton fawr o sŵn yn eich taro chi oddi ar eich traed. Dyma flas bach blasus ohonyn nhw’n gwneud sŵn.

We Are Animal
Mae We Are Animal yn blincin anhygoel a da ni wrth ein bodda eu bod nhw am alw yng Ngŵyl Nyth! Os da chi’m yn coelio ni, rhowch eich clustiau rownd hwn….

Candelas
Y pethau gorau i ddod o’r Bala ers cwch banana… neu anghenfil llyn Tegid. Gewch chi benderfynu pa un.

Wilma Sands
Mae Wilma Sands yn gyfrinach sydd wedi ei chadw o fewn ffiniau Caerdydd hyd yn hyn. Ond am ba hyd?

Mattie Ginsberg
Does ‘na’m llawer o’r gŵr ifanc yma ar y we fyd eang ond na phoenwch, mae o’n fendigedig yn fyw.

Cwpwrdd Nansi: traddodiad ac arloesedd yng Nghaerdydd

Mae trefnwyr Cwpwrdd Nansi yn cynnal gigs misol yng Ngwdihw sydd ymlith y gigs gorau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Os wyt ti’n darllen Y Twll yn rheolaidd dydyn ni ddim jyst yn dweud pethau fel ‘na wili nili.

Bwriad y noson ydy arddangos bandiau gwerinol (ie, GWERINOL) o bob math, gan gynnwys bandiau sy’n cyfuno pethe traddodiadol a phethau arloesol. Mae’r digwyddiad yn hollol hygyrch – fydd neb yn brofi dy wybodaeth o’r anifeiliad yn Un O Fy Mrodyr I cyn i ti mynd mewn. Mewn gwirionedd mae croeso i bawb a phopeth heblaw am rhagdybiaethau ystradebol. Wedi’r cyfan, gwerin yw’r punk newydd (neu y ffordd arall rownd?). Cyfranogiad yw’r nod ac mae pob noson yn gorffen gyda sesiwn ad hoc gyda cherddorion amryw o’r cynulleidfa.

cwpwrdd-nansi-carreg-lafar-jamie-bevan-877

Yn ddiweddar maent wedi cael power trio Manaweg o’r enw Barrule ac hyd yn oed cyfuniad o’r werinol gydag electronica byw, diolch i’r ddeuawd Solarference sydd yn cyfeirio at Pentangle ac Autechre fel dylanwadau.

Mae’r noson nesaf yn cynnwys Carreg Lafar a Jamie Bevan. Gwranda ar y tiwn Carreg Lafar isod. Mae ffan wedi ei rhannu ar YouTube gyda delwedd o’r castell yr adeiladwyd gan Edward I sydd yn anffodus achos, fel Mussolini, doedd Edward ddim yn hoff iawn o ddiwylliant gwerinol. Ond mae’r tiwn yn benigamp.

Dilyna Cwpwrdd Nansi ar Twitter, Facebook neu’r wefan.

Praxis Makes Perfect: gig theatr Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) ym mis Mai 2013

gruff-rhys-boom-bip

Os oeddet ti’n meddwl pa fath o waith celf yn union fydd yr artist amlgyfryngol Gruff Rhys o Fethesda yn wneud nesaf ar ôl ffilm ddogfen realaeth hudol, llew papur ac arddangosfa o westy a wneud o boteli siampŵ, wel dyma’r ateb.

Mae National Theatre Wales newydd datgan gwybodaeth am brosiect newydd Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) – rhywbeth rhwng sioe theatr gydag actorion a phopeth, gig byw a ‘phrofiad gwleidyddol’ o’r enw Praxis Makes Perfect.

Mae’r stori yn seiliedig ar fywyd miliwnydd, Giangiacomo Feltrinelli, y cyhoeddwr a chwyldroadwr Comiwnyddol o’r Eidal. Fe wnaeth cyhoeddi Dr Zhivago ymhlith lot o lyfrau eraill.

praxis-makes-perfect-gruff-rhys-boom-bip-650

Fel rhan o’r ymchwil aeth Gruff gyda’r sgwennwr theatr Tim Price i Milan a Rhufain er mwyn cwrdd â Carlo Giangiacomo, y mab sydd wedi cyhoeddi bywgraffiad am ei dad ac wedi etifeddu’r busnes cyhoeddi teuluol Feltrinelli Editore. Ar hyn o bryd mae Price, Gruff a Bip yn gweithio gyda tîm o bobl gan gynnwys cyfarwyddwr Wils Wilson i weithio ar y sioe.

Tra bydd curiadau disco Eidalo yn chwarae rwyt ti’n gallu chwarae pel fasged gyda Fidel Castro, cael dy dirboeni gan y CIA neu smyglo dogfennau mas o Rwsia (hoffwn i ddweud fy mod i’n cyfansoddi’r geiriau yma ond does dim angen). Gobeithio fydd pobl Cymraeg ddim yn siarad dros y gigs arbennig yma, fel maen nhw wastad yn!! (heblaw os fydd siarad yn rhan o’r profiad, sbo).

Mae’r sioe yn dilyn yr albwm cychwynnol Neon Neon, Stainless Style, prosiect cysyniadol am y miliwnydd car John DeLorean gydag ychydig o help gan ffrindiau fel Cate Timothy.

Dyma I Lust U o 2008.

Bydd albwm newydd hefyd yn ôl y datganiad i’r wasg a rhyw fath o ffilm ddogfen gan Ryan (dim cyfenw hyd yn hyn). Bydd cyfle i glywed trac newydd ac archebu tocynnau i’r sioe, sydd ym mis Mai eleni mewn lleoliad ‘cyfrinachol’ yng Nghaerdydd, nes ymlaen.

Fel blogiwr mae’n rhaid datgan diddordebau. Dw i’n wneud ambell i job i NTW. Ond dw i’n methu aros i brynu fy nhocyn i’r sioe yma.

Llwyfannu Lleisiau Amgen: Y Gynghrair a Radio Cymru

Gyda’r anghydfod rhwng cerddorion Cymru a’r BBC yn parhau, mae Sianel62 wedi ymestyn gwahoddiad i’n holl gerddorion i ffilmio pwt bach yn esbonio eu safbwyntiau personol. Gyda dadl mor gymhleth â’r un yma, mae sawl barn, sawl stori, sawl llais yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu.

Gweler y ‘Safbwynt’ gyntaf isod gan Sam James o’r band Blaidd (yn gynt o’r Poppies).

Wrth gwrs, nid gwasanaeth newyddion yw Sianel62 – ni allwn redeg ar draws y wlad yn dilyn storïau wrth iddyn nhw dorri. Ond gallwn gynnig llwyfan amgen i’r cerddorion – cyfle i fynegi eu persbectif lle nad oes cyfle i’w gwneud yn y cyfryngau prif ffrwd. Ife dyma fydd Sianel62 yn y dyfodol falle? Llwyfan ategol, rhyw le i gyfoethogi straeon a dadleuon yn unig?

Celf clawr newydd David Bowie

Cyn:

David Bowie - Heroes

Wedyn:

David Bowie - The Next Day

Dw i’n methu ymdopi gyda chelf clawr The Next Day. Mae’r peth mor anhygoel o shit. Ond dw i’n methu stopio edrych ar y peth. Hilariws. Ar y dechrau o’n i’n meddwl bod y stori am y clawr yn rhywbeth dychanol ar wefan fel The Daily Mash neu rywbeth fel yr Onion cyn i mi chwilio’r we am ragor o dystiolaeth.

Mae’r clawr yn mynd â #retromania i’r lefel nesaf. Pop yn bwyta ei hun. Hunan-parodi. Mae’n edrych fel y fath o glawr mae artist ailgymysgu diflas heb syniadau gwreiddiol fel errr Girl Talk yn ei wneud.

Yn ôl y sôn ar wefan y dylunwyr enw y ffont ydy Doctrine ond mae’n edrych fel rhywbeth plaen i fi.

Wedi dweud hynny mae’r sengl Where Are We Now? yn dderbyniol sbo ac mae cynhyrchiad da gan hen ffrind Bowie a chyn-cariad Mary Hopkin, sef Tony Visconti. Mae David yn hoff iawn o Ferlin ers tro ac es i yna cwpl o fisoedd yn ôl felly mae’r geiriau yn eithaf neis. Bydd y gân yn tyfu arnaf i mae’n siwr.