Nyth: podlediad cyntaf, 34:57 o ansawdd

Dyma podlediad newydd gan criw Nyth. Maen nhw yn dweud ‘y cyntaf o lawer, yn chwara tiwns a’n siarad am be sy’n mynd ymlaen.’

Mae Nyth wedi ennill enw da am drefnu amrywiaeth o gigs yn Wdihŵ yng Nghaerdydd a thu hwnt (a’r babell yn Ŵyl Gardd Goll).

Braf iawn i weld cyfrwng/sianel/podlediad annibynnol o ansawdd. Mae rhai arall yn y troedyn Y Twll dan y teitl Angenrheidiol, gwnaf i ychwanegu podlediad Nyth os maen nhw yn cyhoeddi mwy!

DJ Derek yng Nghaerdydd

Daw DJ Derek i Gaerdydd i chwarae ym Muffalo nos Sadwrn yma.

Pwy ydy DJ Derek? Cafodd e ei eni ym Mryste yn 1941. Mae fe’n licio reggae – a bysiau. Mae fe wedi ymweld pob Wetherspoons yn Lloegr (a’r Alban a Chymru dw i’n meddwl?). Mae fe wedi bod mewn fideo Dizzee Rascal. Mae fe’n unigryw.

Dyma’r cyfle i rhannu’r fideo dogfen yma, sy’n dweud lot mwy.

Meic Stevens 0… Cowbois RhB & Bob Delyn 1

Ar y blog newydd Anwadalwch, dau gofnod cerddorol da am y gigs yn yr Orsaf Canolog, Wrecsam wythnos diwethaf:

Yn anffodus, erbyn hyn ymddengys nad oes posib o gwbl enill y jacpot, ac fod unrhyw berfformiad ble mae’n cyrraedd y diwedd heb droi’n llanast llwyr yn gorfod cyfri fel ‘noson dda’. Ond nid bai Meic ydi hyn wrth gwrs; tydi safon dynion sain a gitars ddim fel y buon nhw chwaith mae’n debyg! Bellach, mae gwylio Meic yn brofiad trist sy’n gallu ymylu ar ‘voyeurism’ wrth wylio hen ddyn a gyfranodd gymaint yn gwneud sioe o’i hun o flaen torf sydd ddim yn gwybod p’un ai i chwerthin neu grio…

Darllen mwy: Meic Stevens – amser rhoi’r gitar yn y to?

Os mai un o isafbwyntiau’r Eisteddfod oedd gweld Meic Stevens yn siomi eto, fe wnaeth perfformiadau gan Cowbois Rhos Botwnnog a Bob Delyn a’r Ebillion fwy na gwneud iawn am hynny…

Darllen mwy: Cowbois Rhos Botwnnog a Bob Delyn