Plyci a ffrindiau yng Ngwyl Sŵn

Ardderchog!

Cân o’r enw Flump o’r Flump EP ar Recordiau Peski.

A phwy yw Plyci? Dim ond y peth gorau o’r Rhyl ers Kwik Save.

Llawer mwy trwy’r tudalen Plyci ar Soundcloud.

Paid anghofio, mae Plyci yn chwarae yn fyw nos Wener yma fel rhan o’r noson Electroneg yng Ngwyl Sŵn, Caerdydd gyda:
Dam Mantle (Recordiau Wichita)
Quinoline Yellow (SKAM)
Cian Ciarán (Super Furry Animals / Acid Casuals / Aros Mae / WWZZ / Pen Talar)
ac Electroneg DJs.

IDDI.

Seiniau o’r siop elusen gyda Kotchy (albwm am ddim)

Dw i wedi bod yn dilyn Kotchy o Frooklyn, Efrog Newydd ychydig, mae e’n cymryd y darnau gorau o ddylanwadau hip-hop, Prince a cherddoriaeth electronica lliwgar a glitshlyd. Efallai yn yr un categori a’r artistiaid Warp, Hudson Mohawke a Rustie.

Baggy Spandex yw ei albwm newydd sydd ar gael trwy Soundcloud gyda llawer o samplau o hen recordiau. Paid ag ofni’r disgrifiad “seiniau o’r siop elusen”, er bod lot o’r caneuon gwreiddiol yn eitha cawslyd (Billy Joel etc.) mae fe’n ailgylchu’r samplau mewn ffordd greadigol. Mae’r canlyniadau yn swynol.

(Diolch Chrome Kids.)