Uchafbwynt gyrfa gerddorol Mr Alun Gaffey yw ei albwm newydd, i’r rhai sy’n caru alawon pop, ffync, gwrth-ffasgiaeth, seiniau cosmig, peiriannau drymio, enaid, a samplau non sequitur o leisiau pobl wrth iddynt gael profiadau anhygoel.
Byddwch chi wrth eich bodd gyda’r albwm os ydych chi’n ffafrio disgo electronig (megis Wally Badarou a Kerrier District?).
“Wedi bod yn chwilio am baradwys, ond nid yn y llefydd iawn…”
Mae Alun yn perfformio’n fyw gyda’i fand newydd Ultra-Dope am y tro cyntaf erioed er mwyn lansio’r albwm yn y Lyndon, Grangetown, Cymru, Ewrop, Y Byd, Y Bydysawd nos Sadwrn 30 Ebrill 2016 o 7 o’r gloch ymlaen (amser lleol). Bydd croeso cynnes i bawb.
Bydd Ani Glass, RedactA a throellwyr tiwns Nyth yn chwarae hefyd (datgeliad: fi yw un o’r DJs).
Wele gân serchus yn yr iaith Saesneg a ddaeth i mi tra’n synfyfyrio tra’n trwsio fy radio – pam ysgrifennu hon yn y Saesneg? Wel – ysdywed Dafydd Iwan: pam ma’ eira yn wyn gyfaill? Pwy a wyr beth sy’n gyfrifol am awen adloniant ysgafn mor afreolus.
Ta waeth – ysgrifennwyd y gân – a dyma hi a siawns y bydd y nesaf yn y Gymraeg.
Heb unhryw arbenigedd gwleidyddol wrth gwrs y tu hwnt i wleidyddiaeth ac economeg canu pop – teimlaf rywsut – yn y funud sydd ohoni – fod gwell gobaith i’r Cymry ac i amgylchedd Cymru o fewn yr UE.
Yn amlwg mae angen diwygio y gyfundrefn afiach anemocrataidd bresennol sydd ym Mrwsel ond ddim yn y ffyrdd yr awgrymwyd gan Cameron a’i griw elitaidd ond efallai yn debycach i beth o syniadaeth yr economegydd penfoel o Roeg Yanis Varoufakis sydd a gwell profiad o drin ac effeithiau eithafol y ‘Troika’ ar wlad gymharol fach.
Dwi di bod yn bwrw golwg ar wefan y mudiad ifanc diem25.org sy’n awgrymu ffyrdd ymlaen pan-Ewropeaidd all gynnal y gobaith heddychlon a fu’n rhan o’r ysgogiad dros ffurfio’r Undeb yn y lle cyntaf, a’i ategu a democratiaeth dryloyw sy’n parchu sofraniaeth ddiwyllianol dros rym y cwmniau gor-anferth sy’n debygol o fygwth ein traddodiad o lywodraeth lês os caiff erchyllderau cytundebol fatha TTIP eu pasio gan senedd Ewrop.
Cychwyn ymgyrch felly fydd y refferendwm – nid ei diwedd hi.
Yn amlwg ma’n boen fod hyn yn digwydd ynghanol tymor etholiadol ein gwlad ond efallai ei fod on gyfle i ddiffinio ein gwleidyddiaeth hefyd.
Ta waeth, does na’m byd gwaeth weithia’ na cantorion pop gor-ddifrifol yn trafod erchyllderau’r byd felly dyna ddigon o falu, yn ôl a mi at y canu…
Roedd allbwn Recordiau Peski wedi tawelu ers sbel ac yn awr maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod i ben fel label yn swyddogol.
O’n i’n caru Peski ond dw i ddim yn teimlo yn hynod negyddol heno. Hynny yw, daeth y cadarnhad ar raglen radio C2 ar yr union funud yr oedd Gwenno yn gigio yn NANTES
… heb sôn am ei pherfformiadau diweddar yn AUSTIN, TEXAS.
Hefyd mae bron pob artist sydd erioed wedi bod ar y label yn dal i wneud pethau diddorol dros ben – yn ogystal â thiwns mae rhai ohonyn nhw yn frysur wrth gynhyrchu a rhyddhau Cymry newydd.
Dyma ddathliad bach o fywyd a dylanwad y label er mwyn gwneud yr achos dros Peski fel un o’r Labeli Mwyaf Cŵl Erioed.
Cyd-sylfaenydd a chyd-reolwr y label Rhys Peski oedd yn cynhyrchu a chanu caneuon Jakokoyak.
Cafodd e dipyn o sylw yn Japan. Ar un adeg roedd pobl yng Nghymru yn meddwl ei fod e’n hanner Japaneiaidd oherwydd rhyw si mewn erthygl yn nudalennau cylchgrawn Tacsi.
Dw i’n cysylltu’r cyfnod cynnar yma gyda darganfyddiad o artistiaid chwaraeus ac arbrofol fel David Mysterious ac Evils.
Dyma i chi ddau artist Peski – fersiwn Plyci o’r gân Birds in Berlin gan y grŵp VVolves ydy hon.
Mae Twinfield, gynt o’r band, yn un i’w ddilyn yn sicr.
Daeth EP Cate le Bon Edrych Yn Llygaid Ceffyl Benthyg mas ar Peski fel CD a record finyl 10″ wyn, y casgliad cyntaf go iawn o diwns gan Cate le Bon i gael ei ryddhau dw i’n credu – heblaw am un sengl.
Fe arosodd y recordiadau ar yr EP am dipyn cyn iddyn nhw weld golau dydd (os dw i’n cofio’n iawn?). I Lust U gan Neon Neon oedd yn yr un flwyddyn, 2008.
Mini sydd yn canu tu ôl i Cate le Bon yn y fideo ddiwethaf. Dyma fideo ei gân solo Braf Dy Fywyd a gynhyrchwyd gan Siôn Mali yn 2015.
Dw i’n hoff iawn o gyfuniad Mini o guriadau ac alawon pop ar ei EP Câr Dy Henaint gyda geiriau yn Gymraeg – a’r Fasgeg.
Mini oedd prif ganwr Texas Radio Band wrth gwrs. O’n i’n falch bod Peski wedi achub eu hail albwm Gavin yn 2008 ar ôl dros flwyddyn o ansicrwydd a dyluniadau drafft arfaethedig gwahanol. Stori arall ydy hyn i gyd. Mae’r fideo hon gan Roughcollie i’r gân Swynol.
Gallen nhw wedi bod yn fwy ond ‘dŷn ni ddim yn disgwyl rhagor o waith wrth TRB fel grŵp. Tanio mosh-pit gigs ei dad y mae drymiwr Gruff Ifan. Mae Alex Dingley a Squids yn dal i wneud cerddoriaeth o Gymru fel artistiaid solo. Ond mae Mini wedi symud i fyw yng Ngwlad y Basg. Rhodri Tony, sydd wedi ei adleoli i Sydney, Awstralia, wedi dechrau band o’r enw Juju Wings, wedi gwynnu ei wallt ac ar fin newid ei enw i SHANE am wn i.
Gwnaeth Peski ‘ddarganfod’ yr artist cerddorol amldalentog R. Seiliog hefyd. Mwy na chwaethus.
Mae indie-pop di-gywilydd Radio Luxembourg yn sefyll mas ar gatalog Peski, label a oedd yn adnabyddus am stwff electronig, pop arbrofol, ayyb, fel arfer.
(Wedi dweud hynny, gwnaethon nhw ryddhau stwff solo Rhydian Dafydd cyn iddo fe ddechrau The Joy Formidable gyda’i ffrindiau – ond dw i ddim wedi clywed y record yna.)
Ta waeth, EP wnaeth Radio Luxembourg i Peski – ac wedyn sengl tua’r un pryd a ymaelododd Gwion Llewelyn, bellach o grŵp Yr Ods.
Newidiodd yr enw i Race Horses wedyn wrth gwrs. Sôn ydw i rhag ofn bod plant yn darllen.
Daethon nhw i ben yn y flwyddyn arwyddocaol 2013. Mae cyn-aelodau Alun Gaffey a Meilyr Jones newydd ryddhau albymau solo gwych eleni wrth gwrs. Mae pawb yn gwybod hynny.
Mae gwefan Peski wedi marw ac mae’r catalog ar Discogs yn anghyflawn ar hyn o bryd ond allwn i ddim anghofio’r Pencadlys.
(Mae hi’n digon posib fy mod i wedi anghofio eraill ddo. Sori.)
Roedd Peski yn llawer mwy na label.
Bydd y casgliad CAM 1 wastad yn fy atgoffa o’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch, yn ogystal â gweld Datblygu yn FYW, dawnsio i electro yn y Ganolfan a llawer mwy yn yr ŵyl hollol unigryw CAM y llynedd – ac hefyd y ffaith gwnes i fethu pob un digwyddiad arbennig o dan yr enw Peskinacht. Does neb yn berffaith.
Pwy sy’n cofio’r siop recordiau ar-lein Sebon a werthodd cerddoriaeth o Gymru o bob genre i gwsmeriaid ar draws y byd? Sadwrn oedd enw y siop wedyn, o dan reolaeth gwahanol. Roedd Peski yn gyfrifol am ddechrau’r fenter yna yn wreiddiol hefyd. Tipyn o gamp.
Dyma Gwenno i orffen yr hanes cryno – a dechrau hanes newydd.
Roedd 2002-2003 yn flynyddoedd heriol i ddechrau label annibynnol ar brinder o adnoddau. Ac roedd hi’n gwbl amlwg ar y pryd.
Ond fe wnaeth Rhys Peski a Garmon Peski ddechrau label ta waeth achos roedden nhw’n ysu i rannu pethau arbennig gyda ni.
Diolch o galon a phob bendith i Rhys Peski a Garmon Peski, siŵr o fod y ddau fentergarwr record neisaf yn y byd.
Yn ôl rhai heddiw mae ‘rhyddhau sengl’ yn golygu cynhyrchu tiwn a’i roi ar Soundcloud neu Bandcamp gydag MP3 am ddim i bawb – sydd yn hollol iawn gyda fi yn enwedig pan mae’r ansawdd mor ardderchog â’r hyn sydd wedi dod mas yn ddiweddar.
Mae’r wobr am Slogan Orau Mewn Tiwn Disgo Electronig ers ‘mae pawb yn wir yn haeddu glaw’* yn mynd i’r artist solo Twinfield a’r grŵp Pop Negatif Wastad. Yn ôl Huw S ar C2 heno mae Pop Negatif ar y tiwn hon yn cynnwys Gareth Potter ac Esyllt Lord eto.
Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o bobl glywed Twinfield (gynt o VVolves) ac mae llais Potter dros y trac i gyd(!). Dyma sut mae Twinfield yn swnio ar ei ben ei hun:
https://soundcloud.com/winf-ield/strydoedd-y-nos
Mae sawl ffordd o gyrraedd y byd. Mae rhai yn cael eu geni ac mae rhai jyst yn cael eu lansio, megis Amlyn Parry o’r band Gwyllt. Mae e newydd gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg sydd yn gyfrifol am lwythi o gynhyrchiadau gwych eraill megis Ninjah, Geraint Jarman ac albwm newydd sbon danlli grai Alun Gaffey.
Mae Amlyn wedi rapio gyda Band Pres Llareggub hefyd yn (weddol) ddiweddar.
Mae’r gân Siabod gan Anelog ar-lein ers yr hydref ond dw i’n dal i’w chwarae ac i feddwl am y geiriau ac yn edmygu’r ffyrdd mae’r band yn defnyddio’r haenau o sain a lleisiau. Does dim angen talu o reidrwydd ar Bandcamp ond maen nhw yn haeddu cyfraniad bach – o leiaf. (Wedyn gallen nhw fforddio rhyddhau rhywbeth ar fformat analog fel finyl.)
Yn olaf mae’r grŵp Roughion wedi gwneud mwy nag unrhyw un i rannu eu cyfoeth, gyda darnau sylweddol o’i allbwn recordiedig ar Soundcloud am ddim.
Dyma eu fersiwn jyngl o Fersiwn o Fi gan Bromas sydd yn profi bod Roughion yn gallu ail-gymysgu UNRHYW BETH. Sôn am hynny, dw i newydd glywed premières ecsgliwsif o fersiynau Roughion o glasuron gogcore Meinir Gwilym a bocs set arfaethedig Iwcs a Doyle.
Jôc oedd y frawddeg ddiweddaf ond rydych chi’n deall y pwynt.
Dyma ambell i blentyn yn canu caneuon Gruff Rhys. Ffeindiais un pan o’n i’n chwilio am sioeau Gruff ar YouTube. Ac wedyn ffeindiais un arall ac un arall. Gadewch i mi wybod os oes mwy o gwmpas!
Gyrru, Gyrru, Gyrru yw’r cytgan hawsaf a mwyaf bachog erioed – mewn unrhyw iaith. Dyma berfformiwr ifanc yn gwneud ei ddehongliad trwy feicroffon Paper Jamz newydd sbon. Dyw e ddim yn hynod wahanol i’r offerynnau mae Gruff ei hun yn defnyddio. Cafodd y fideo ei lanlwytho ar ddydd Nadolig yn 2014. Efallai bod e wedi cael amser i ddysgu Iolo Iolo Iolo erbyn hyn hefyd, pwy a ŵyr.
Yn ôl y disgrifiad YouTube mae’r dyn nesaf yn ffan mawr o Gruff, yn enwedig ei albwm solo gyntaf Yr Atal Genhedlaeth.
Dyma fe’n ffeindio ystyron newydd o fewn Gwn Mi Wn. Arbennig iawn.
Mae hi’n edrych fel bod ei berfformiad o Sensations in the Dark o’r un cyfnod.
Dyma bobl ifanc o Gaernarfon a’i chylch yn wneud addasiad clyweledol o’r enw Cylchoedd Rownd Y Byd. Mae’r tiwn yn dechrau ar ôl tua 1:00. Diolch yn fawr iddyn nhw am berfformio a rhannu’r fideo siriol hwn. Nid cyfansoddiad Gruff yn unig ydy hwn ond yr holl Anifeiliaid Anhygoel o Flewog wrth gwrs.
Dylai geiriau ac alawon Gruff fod ar y cwricwlwm i bawb, nid jyst y rhai sy’n digon ffodus i gael rheini, athrawon a thiwtoriaid sy’n gwrando arno fe. Addysg Gruff i Bawb.