Diwedd Recordiau Peski: dyddiau olaf, dyddiau cynnar

Roedd allbwn Recordiau Peski wedi tawelu ers sbel ac yn awr maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod i ben fel label yn swyddogol.

O’n i’n caru Peski ond dw i ddim yn teimlo yn hynod negyddol heno. Hynny yw, daeth y cadarnhad ar raglen radio C2 ar yr union funud yr oedd Gwenno yn gigio yn NANTES

… heb sôn am ei pherfformiadau diweddar yn AUSTIN, TEXAS.

Hefyd mae bron pob artist sydd erioed wedi bod ar y label yn dal i wneud pethau diddorol dros ben – yn ogystal â thiwns mae rhai ohonyn nhw yn frysur wrth gynhyrchu a rhyddhau Cymry newydd.

Dyma ddathliad bach o fywyd a dylanwad y label er mwyn gwneud yr achos dros Peski fel un o’r Labeli Mwyaf Cŵl Erioed.

Cyd-sylfaenydd a chyd-reolwr y label Rhys Peski oedd yn cynhyrchu a chanu caneuon Jakokoyak.

Cafodd e dipyn o sylw yn Japan. Ar un adeg roedd pobl yng Nghymru yn meddwl ei fod e’n hanner Japaneiaidd oherwydd rhyw si mewn erthygl yn nudalennau cylchgrawn Tacsi.

Dw i’n cysylltu’r cyfnod cynnar yma gyda darganfyddiad o artistiaid chwaraeus ac arbrofol fel David Mysterious ac Evils.

Dyma i chi ddau artist Peski – fersiwn Plyci o’r gân Birds in Berlin gan y grŵp VVolves ydy hon.

Mae Twinfield, gynt o’r band, yn un i’w ddilyn yn sicr.

Daeth EP Cate le Bon Edrych Yn Llygaid Ceffyl Benthyg mas ar Peski fel CD a record finyl 10″ wyn, y casgliad cyntaf go iawn o diwns gan Cate le Bon i gael ei ryddhau dw i’n credu – heblaw am un sengl.

Fe arosodd y recordiadau ar yr EP am dipyn cyn iddyn nhw weld golau dydd (os dw i’n cofio’n iawn?). I Lust U gan Neon Neon oedd yn yr un flwyddyn, 2008.

Mini sydd yn canu tu ôl i Cate le Bon yn y fideo ddiwethaf. Dyma fideo ei gân solo Braf Dy Fywyd a gynhyrchwyd gan Siôn Mali yn 2015.

Dw i’n hoff iawn o gyfuniad Mini o guriadau ac alawon pop ar ei EP Câr Dy Henaint gyda geiriau yn Gymraeg – a’r Fasgeg.

Mini oedd prif ganwr Texas Radio Band wrth gwrs. O’n i’n falch bod Peski wedi achub eu hail albwm Gavin yn 2008 ar ôl dros flwyddyn o ansicrwydd a dyluniadau drafft arfaethedig gwahanol. Stori arall ydy hyn i gyd. Mae’r fideo hon gan Roughcollie i’r gân Swynol.

Gallen nhw wedi bod yn fwy ond ‘dŷn ni ddim yn disgwyl rhagor o waith wrth TRB fel grŵp. Tanio mosh-pit gigs ei dad y mae drymiwr Gruff Ifan. Mae Alex Dingley a Squids yn dal i wneud cerddoriaeth o Gymru fel artistiaid solo. Ond mae Mini wedi symud i fyw yng Ngwlad y Basg. Rhodri Tony, sydd wedi ei adleoli i Sydney, Awstralia, wedi dechrau band o’r enw Juju Wings, wedi gwynnu ei wallt ac ar fin newid ei enw i SHANE am wn i.

Gwnaeth Peski ‘ddarganfod’ yr artist cerddorol amldalentog R. Seiliog hefyd. Mwy na chwaethus.

Mae indie-pop di-gywilydd Radio Luxembourg yn sefyll mas ar gatalog Peski, label a oedd yn adnabyddus am stwff electronig, pop arbrofol, ayyb, fel arfer.

(Wedi dweud hynny, gwnaethon nhw ryddhau stwff solo Rhydian Dafydd cyn iddo fe ddechrau The Joy Formidable gyda’i ffrindiau – ond dw i ddim wedi clywed y record yna.)

Ta waeth, EP wnaeth Radio Luxembourg i Peski – ac wedyn sengl tua’r un pryd a ymaelododd Gwion Llewelyn, bellach o grŵp Yr Ods.

Newidiodd yr enw i Race Horses wedyn wrth gwrs. Sôn ydw i rhag ofn bod plant yn darllen.

Daethon nhw i ben yn y flwyddyn arwyddocaol 2013. Mae cyn-aelodau Alun Gaffey a Meilyr Jones newydd ryddhau albymau solo gwych eleni wrth gwrs. Mae pawb yn gwybod hynny.

Mae gwefan Peski wedi marw ac mae’r catalog ar Discogs yn anghyflawn ar hyn o bryd ond allwn i ddim anghofio’r Pencadlys.

(Mae hi’n digon posib fy mod i wedi anghofio eraill ddo. Sori.)

Roedd Peski yn llawer mwy na label.

Bydd y casgliad CAM 1 wastad yn fy atgoffa o’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch, yn ogystal â gweld Datblygu yn FYW, dawnsio i electro yn y Ganolfan a llawer mwy yn yr ŵyl hollol unigryw CAM y llynedd – ac hefyd y ffaith gwnes i fethu pob un digwyddiad arbennig o dan yr enw Peskinacht. Does neb yn berffaith.

Pwy sy’n cofio’r siop recordiau ar-lein Sebon a werthodd cerddoriaeth o Gymru o bob genre i gwsmeriaid ar draws y byd? Sadwrn oedd enw y siop wedyn, o dan reolaeth gwahanol. Roedd Peski yn gyfrifol am ddechrau’r fenter yna yn wreiddiol hefyd. Tipyn o gamp.

Dyma Gwenno i orffen yr hanes cryno – a dechrau hanes newydd.

Roedd 2002-2003 yn flynyddoedd heriol i ddechrau label annibynnol ar brinder o adnoddau. Ac roedd hi’n gwbl amlwg ar y pryd.

Ond fe wnaeth Rhys Peski a Garmon Peski ddechrau label ta waeth achos roedden nhw’n ysu i rannu pethau arbennig gyda ni.

Diolch o galon a phob bendith i Rhys Peski a Garmon Peski, siŵr o fod y ddau fentergarwr record neisaf yn y byd.

@peskirecords