Skamma: curiad ar dy ffans fel Cantona

Falle rwyt ti wedi gweld Skamma mewn fideos lle mae fe’n cynrychioli Cymru yn y brwydrau braggadocio hiphop Don’t Flop (iaith ansaff ar gyfer y swyddfa) ym Mhryste a thu hwnt.

Yn ei gân newydd hon, sydd wedi derbyn nifer parchus o 4000 o wylwyr fideo ar YouTube mewn wythnos, mae fe’n troi ei odlau at gynhyrchiad 2-step miniog gan cynhyrchydd Stagga o Dreganna, Caerdydd (gynt o’r criw DJo Optimus Prime). Nid hon yw’r cydweithrediad cyntaf y ddau. Dechreuodd y bartneriaeth achlysurol gyda’r tiwn drom Sick As Sin yn 2009.

O ran y boi Skamma mae fe’n dod o’r Barri ym Mro Morgannwg fel cewri eraill y genedl fel Derek Brockway a Gwynfor Evans. Mae fe wedi bod yn rapio ers tro. Ydy’r plant yn deall ei gyfeiriad i Eric Cantona yn y gân tybed? Ta waeth, joia’r salwch.

Odlgymix vs. y ffagl Olympaidd

Odlgymix

Wyt ti’n chwilio am y gwrthwenwyn i’r holl busnes ffagl Olympaidd?

Dyma tiwn hiphop newydd sbon o’r enw Straffagl gan yr artist newydd Odlgymix.

“Pa mor hawdd yw diffodd fflam / yn arbennig un di warchod gan mygs y Met bob cwr bob cam”

Mae Odlgymix yn rapiwr a chynhyrchydd o Gymru sydd yn byw yn Nghantre’r Gwaelod yn ôl ei thudalen Soundcloud. Ei dylanwadau tebyg yw llyfrau Asterix, y ffilm The Usual Suspects a’r band Public Enemy – dw i’n cymryd.

Fy hoff gân Donna Summer

Wrth gwrs mae ei gwaith gyda Giorgio Moroder – I Feel Love, Bad Girls ac yn y blaen – yn bytholwyrdd ond pe tasiwn i’n DJo heno baswn i’n chwarae’r gân yma ar ddiwedd y nos. Mae’r cynhyrchiad ar y recordiad State of Independence gan Quincy Jones yn anhygoel, fel pryd o fwyd tri-cwrs i’r clustiau.

Mae sawl fersiwn gan gynnwys yr un wreiddiol gan sgwennwyr Jon a Vangelis ond dyma’r fersiwn hir o’r un Donna a Quincy, y gorau yn fy marn i. Chwilia am y finyl 12″ os wyt ti’n gallu.

RIP Donna.

Tate à Tate: sylwebaeth amgen yn erbyn BP

Os wyt ti’n ffan o gelf, ymgyrchu a’r amgylchedd does dim rhaid i ti dilyn y sylwebaeth swyddogol am waith celf yn yr orielau Tate.

Mae Tate à Tate yn brosiect awdio i gynnig sylwebaeth amgen am Tate Britain, Tate Boat a Tate Modern. Mae’r sylwebaeth yn cyfeirio at weithredoedd y cwmni olew BP, noddwyr Tate.

Dw i wedi mewnosod yr awdio am Tate Modern uchod. Wrth gwrs mae’r awdio ar gael i bawb unrhyw bryd ond yn delfrydol rwyt ti’n lawrlwytho’r awdio fel MP3 ac yn chwarae’r ffeil ar clustffonau tra bod ti’n crwydro’r orielau. Mae’r sylwebaeth gan leisiau gwahanol yn sôn am hanes BP, Irac, damweiniau, llywodraethau a’r cysylltiadau rhwng BP a Tate.

Mae’n enghraifft ddiddorol a phrofoclyd o hacio diwylliannol. Beth sydd yn ddiddorol i fi ydy’r potensial i ail-ddiffinio digwyddiadau, profiadau, gofodau ac amgylcheddau (yn yr ystyr ecolegol a’r ystyr cyffredinol). Mae ambell i enghraifft o bethau yng Nghymru sydd yn haeddu’r un math o brosiect…

Tyfu’r sîn comics yn Gymraeg

gan Huw Aaron ac Osian Rhys Jones

Huw Aaron yn dweud:

Dwi’n awyddus iawn i ffindo mwy o bobl sy’n creu straeon stribed/comics yn y Gymraeg. Mae’n hen bryd gael rhyw fath o ‘sîn’ comics yn y Gymraeg, ond wrth chwilio ar Google, yr unig pethe sy’n troi lan yw Dalen (sy’n gwneud gwaith da iawn o gyfieithu comics Ffrengig i’r Gymraeg), a stwff fi! […]

Darllena’r cofnod blog llawn gan Huw yma – gyda’r fersiwn llawn o’r cartwn gyda Osian Rhys Jones.