Kreayshawn yw rapiwr sy’n dod o Ddinas Oakland, Califfornia, UDA. Er bod hi’n cyfeirio at labeli fasiwn Gucci, Fendi, Louis a Prada yn y cân yma ac yn dawnsio o flaen eu siopau mae hi’n mynnu dyw hi ddim yn eu gwisgo. Ar YouTube ti’n gallu gweld lot fawr o barch/casineb yn y sylwadau, rhai o’i fideos a ffilmiau ar gyfer artistiaid eraill a chyfweliad gyda Nardwuar lle mae hi’n siarad am hip-hop, crunk, band punk ei fam a jazz gan Sun Ra. Well i ni beidio cymryd ei geiriau 100% o ddifri, fel Jeremy Clarkson.
Fideos Casey ac Ewan: Los Campesinos! a DJ Shadow
Rydyn ni wedi sôn o’r blaen am Casey ac Ewan, cynhyrchwyr fideo o Gaerdydd.
Dyma ddau fideo newydd sbon ganddyn nhw. Premières ar y we braidd.
Hello Sadness gan Los Campesinos!:
Scale it Back gan DJ Shadow gyda Little Dragon:
Mae’r fideo DJ Shadow yn cynnwys Erin Richards, Kwam Hung Chang, Frank Roselaar Green, Toby Philpott, Clint Edwards a Ben Pridmore (cast llawn).
Freur – Doot Doot
Caryl Parry Jones yn cyflwyno’r band Freur yn yr 80au cynnar. Dau o’r aelodau Freur, Karl Hyde a Rick Smith, sydd yn dal i berfformio heddiw dan yr enw Underworld.
Akala – Fire In The Booth
Cytgan? Pfft! Dyma 8 munud o odli dwys/doeth gan Akala, rapiwr o Lundain, Lloegr sy’n delio gyda materion cymdeithasol a pholiticaidd.
Archif cylchgrawn Sothach
Gwychder. Sothach oedd cylchgrawn am roc a phop o Gymru yn gynnwys erthyglau a chyfweliadau gyda Ffa Coffi Pawb, Manic Street Preachers, Jess, Datblygu Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Eirin Peryglus, Recordiau Ankst, Tynall Tywyll, Beganifs, Anhrefn, Jecsyn Ffeif, Steve Eaves, Aros Mae, Daniel Glyn a mwy…
Mae archif cylchgrawn Sothach ar y we gyda rhifynau o 1989, 1992 – a mwy i ddod. Dw i wedi cadw pob PDF ar fy disc heddiw ar gyfer y nosweithiau tywyll. Mae’r cymhariaethau gyda’r sin 2011 yn ddiddorol.
Dyma gofnod blog gan Dafydd sydd yn esbonio mwy am y prosiect digido.
Gweler hefyd: Ffeiliau Ffansin