Mae cylchgrawn Monocle yn wael iawn

Monocle 105

Mae cylchgrawn Monocle newydd ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth, ac mae’n wael iawn.

Gadewch i mi ymhelaethu rhag ofn eich bod am ystyried tiwnio mewn i’w brand ar unrhyw gyfrwng neu wario arian ar gopi printiedig dros yr haf.

Yn rhifyn 105 o’r cylchgrawn (Gorffennaf/Awst 2017) mae cyfweliad â’r triawd Saint Etienne sy’n cyfeirio at eu hallbwn fel ‘electro pop’ heb unrhyw fanylion eraillo gwbl am y gerddoriaeth, datblygiad y grŵp dros ddegawdau na arwyddocad eu gwaith. Yn hytrach mae’r cyfweliad yn rhestru llwythi o enwau trefi yn Lloegr ac yn holi am eu magwriaeth yn yr Home Counties yna. Mae potensial i wneud rhywbeth hynod ddiddorol am y pwnc yna, peidiwch â chamddeall, ac mae’r band yn gallu siarad os oes rhywun sy’n gallu gofyn cwestiynau o safon. Ond mae hyn yn wan iawn ac yn ddiflas iawn.

Mae eitem am ddawnsio yn Tel Aviv sydd ond yn cyfeirio at sut gymaint o hwyl y mae’r awdur wedi ei chael mewn clybiau yna. Mae croeso i bawb yn Tel Aviv! Mae hyn at fy atgoffa o raglennu teithio ar y teledu pan mae hi’n amlwg bod y criw a’r cyflwynwyr yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio ar greu rhaglen o safon. Yn waeth byth does dim sôn am unrhyw gymhlethdodau yn yr ardal o unrhyw safbwynt. Ond mae cyfeiriad at ‘Hen Jaffa’. Mae’n rhyfedd iawn ac yn wleidyddol iawn.

Sut mae’r fath rwtsh yn cael goroesi? Mae rhyddiaith Monocle yn swnio’n union fel y math o destun uchelgeisiol rydych chi’n cael am ddim ar awyren. Mae’n gwerthu lifestyle i ddynion, y rhai sy’n deithio’n barhaus a’r rhai sy’n breuddwydio am ei wneud. Ie, dynion. Gweler bennawd ‘Snack In Your Trunks’, y llun ar y clawr o ddyn generig, a’r hysbysebion sy’n cynnwys dynion, Rolex ac ati. Fyddwn i ddim yn synnu os mae’r un llawryddion sy’n cynhyrchu ‘copi’ i’r brochures awyrennau yn cyfrannu at gylchgrawn Monocle hefyd.

Y gwahaniaeth yw bod Monocle yn costio £7 yn fwy na’r cylchgrawn ar yr awyren.

Yn y ‘dinasoedd gorau i drigo ynddyn nhw’ doedd dim sôn am Lanelwy chwaith.

Canolfan y Tecno Amgen: cyfweliad Machynlleth Sound Machine

Dyma gyfweliad gyda Machynlleth Sound Machine artist sydd wrthi’n cyfuno dau le yn ei waith ac wedi cynhyrchu a rhyddhau cerddoriaeth electronig Detroitaidd yn ddiweddar gyda thiwns o enwau fel Gwrthryfel Tanddaearol, Canolfan Y Tecno Amgen, a Maengwyn Hard Trax (1404).

Mae un o’r disgrifadau ar dy gyfrif Soundcloud yn sôn am Belleville, Michigan, UDA, y ddinas fach lle oedd y cerddorion dylanwadol Derrick May, Juan Atkins and Kevin Saunderson yn byw ac yn datblygu’r gerddoriaeth techno gynnar yn yr 1980au. Beth mae Belleville yn golygu i ti?

Yn fy mhen ro’n i’n meddwl fod Belleville yn le tlawd yn yr inner city. Ond y gwir yw ei fod o’n maestref distaw ymhell tu allan i Detroit. Roedd y ‘Belleville Three’ – y tri a wnaeth dyfeisio tecno – yn dynion du dosbarth canol a roedd y sîn tecno yn eitha dosbarth canol a dyheuadol. Roedd hyn i gyd yn syndod i mi.

Mae’n un o’r cyd-ddigwyddiadau cerddorol anhygoel ‘na, fod y tri cerddor dawnus yma wedi cwrdd yn yr ysgol a wedi gweithio a’u gilydd i creu y cerddoriaeth newydd yma. Fel Lennon a McCartney, neu Morrissey a Marr.

Roedd pedwerydd dyn o’r enw Eddie Flashin Fowlkes hefyd, ond gafodd ei dileu o’r stori am nad oedd yn dod o Belleville a felly doedd o ddim yn ffitio’r stori – ‘good things come in threes’ ac yn y blaen (mwy o’r stori hon).

Yn cyd-ddigwyddiad llwyr, un o fy hoff films ydi ffilm animeiddedig Sylvan Chomet ‘Belleville Rendevouz’ sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘The Triplets of Belleville’. Ond er y teitl dwi heb darganfod cysylltiad (eto!).

Roedd perfformiad Machynlleth Sound Machine yn Ngŵyl CAM ’17 yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl yn fy marn i. Sut oedd dy brofiad di?

Diolch yn fawr! Hwn oedd y tro gynta i mi chwarae’n ‘fyw’ ers blynyddoedd, a ro’n i braidd yn nerfus ond roedd hi hefyd yn wefr mawr.

Dwi’n ddiolchgar iawn fod Gwenno a Rhys yn bodoli ac yn neud yr holl bethau anhygoel yma o dan yr enw Cam o’r Tywyllwch. Mae gan y ddau cymaint o egni a mae nhw’n llawn o syniadau diddorol, heriol, gwahanol. Mae angen mwy o’r fath yma o ŵyl yn hytrach na jyst bands yn chwarae.

Rwyt ti’n cynnig sioe go iawn sydd yn cynnwys defnydd o ddelweddau a chlipiau fideo yn ogystal â dy gerddoriaeth, ac mae hi’n amlwg bod syniadau tu ôl i’r detholiad o glipiau. Allet ti sôn am hyn?

Dwi wedi bod yn trio ffeindio ffordd gwahanol o neud perfformiad byw, a hwn oedd y cam cyntaf tuag at gwneud hynny.

Fyswn i’n disgrifio fo fel ‘audio visual presentation’ yn hytrach na sioe fyw. Mae Gruff Rhys wedi bod yn neud rywbeth tebyg efo American Interior, a mae Thomas Dolby wedi bod yn neud sioe diddorol iawn yr olwg. Dwi’n siwr for na llawer o rai eraill hefyd. Dweud stori trwy cyfrwng cerddoriaeth, ffilm, geiriau ayb.

Roeddwn i eisiau neud gwrthgyferbyniad o Detroit a Machynlleth – dau le mor wahanol ar yr olwg gynta. Strydoedd y ddinas mawr, a cefn gwlad Cymru. Ond y ddau wedi eu ffilmio o ffenest car, a ceir a cerddoriaeth ydi’r pethau mae Detroit yn enwog am – felly efallai ddim mor wahanol wedi’r cwbl.

Hefyd roedd Gŵyl CAM y blwyddyn hon i’w wneud a cynllunio trefol a’r ddinas, ac roedd Detroit yn pwnc perthnasol oherwydd ei Hanes anodd ers y 60au/70au, ddim yn anhebyg i Bae Caerdydd mewn ffordd.

Mae’r rhai o’r delweddau sy’n cydfynd a’r prosiect yn seiliedig ar fand tecno o Detroit o’r enw Underground Resistance. Roedd ganddynt delwedd politicaidd cryf iawn, heb gyfaddawd (un o’u mottos oedd ‘Hard music from a hard city’!).

Roedden nhw’n trio creu gwrthryfel yn erbyn y system – ac yn fy mhen roedd hyn yn debyg i be oedd Owain Glyndŵr yn neud yn Machynlleth 600 mlynedd yng Nghynt. Guerilla warfare. Felly nes i micsio’r ddau efo’u gilydd mewn ffordd sy’n ddigri ac o ddifri, gobeithio.

Hefyd Mae na elfen Sci-fi cryf I tecno, felly Nes I defnyddio hwna ar gyfer Glyndŵr. Y syniad fod o wedi diflannu a dianc i’r gofod – ‘Ffoadur Rhyngalaethol’!

Rwyt ti wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth a delweddau ers tro. Wyt ti am ddweud rhywbeth am dy brosiectau eraill? Mae hiwmor yn elfen gyson. Dw i’n cofio gweld bywgraffiad blynyddoedd yn ôl yn sôn am dy ddylanwdau ar y pryd: John Barry a Barry John.

Dwi’n gweld hiwmor yn bob dim. Mae bodolaeth yn absurd a dyw cerddoriaeth yn dim gwahanol. Deconstructing music. Dyma ffilm o John Barry John.

Mewn bydoedd celf a cherddoriaeth pwy arall wyt ti’n edmygu – yng Nghymru a thu hwnt?

Roedd hi’n hynod o diddorol gweld Gareth Potter yn siarad am y sîn music alternative Cymraeg yr 80au/90au. Dyna’r dechreuad i mi – Datblygu. Llwybr Llaethog. Y Cyrff. Super Furrys. Pesda Roc. Gorkys. Roedd hi’n amser arbennig iawn tyfu fyny.

Ar ol hynny fe symudais i’r Alban a darganfod cerddoriaeth electroneg. Roedd na clwb yn Caeredin o’r enw Pure a dyna lle welais Derrick May (un o’r Belleville Three) – ei ymddangosiad cynta erioed tu allan i’r UDA. Mae Keith un o DJs Pure nawr yn un o DJs Optimo, sy’n hynod dylanwadol.

O ran celf, dwi’n hoff iawn o Jeremy Deller sy’n gwneud prosiectau celf diddorol, llawn hiwmor ac yn aml yn gerddorol. Dwi hefyd wrth fy modd efo Martin Creed (‘turning the light on and off’) sy’n gwneud gwaith celf am gwaith celf. Dwi hefyd newydd darllen llyfr Grayson Perry am y byd celf modern. Hynod o ddiddorol.

Ewch i recordiau.com am ragor o fanylion a thiwns.

Ydy UKIP yn ffasgwyr?

Yn dilyn ei drafodaeth o wrthwynebiad Cymdeithas yr Iaith i UKIP yn y Senedd, dyma Huw Williams yn trafod y bygythiad mai’r blaid hon yn cynrychioli, a phaham mae’n gymwys eu gosod o fewn traddodiad eithafol yr asgell dde.

Mae rhai gwleidyddion yn barod i herio UKIP, ond mae angen i fwy gydnabod yr hyn maen nhw’n cynrychioli.

Y ffasgwyr newydd

Gwireddwyd yr hunllef, felly, ochr draw’r môr Iwerydd. Mae Donald Trump, a’i gyfaill Steve Bannon, wedi dangos mai cwbl ddilys oedd yr ofn a phryder amdanynt, wedi’r dyddiau gorffwyll cyntaf wrth y llyw yn yr Unol Daleithiau. I fod yn deg gyda’r Americanwyr, maen nhw wedi bod yn rhybuddio ei gilydd ers amser maith am yr eithafiaeth yn yr arfaeth. Cofiaf wylio gyda pharch a syndod ychydig fisoedd cyn yr etholiad wrth i Weriniaethwraig – ac un o gyn cynghorwyr George W Bush – wfftio Trump ar Newsnight gan ddatgan, er gwaethaf ei hymlyniad i’w phlaid, na fyddai byth am weld ei gwlad yn cwympo mewn i ddwylo ffasgydd.

A dyma ni, “ffasgiaeth”, y gair tyngedfennol – fan yna a hefyd yma yn Ewrop (os caf fod mor hy ag awgrymu ein bod ni’n parhau yn rhan o’r cyfandir hwnnw). Oblegid y mae’r gair yn un sydd yn atgoffa ni o’r math eithaf o wleidyddiaeth asgell dde, a welodd un o’r penodau mwyaf dinistriol yn hanes dynoliaeth. Ers sawl blwyddyn nawr mae yna drafodaeth wedi bod ymhlith y sawl sydd wedi ceisio gwrthwynebu UKIP ynghylch defnydd y gair. Ai priodol yw dwyn i gof Mussolini a Hitler? Onid camddefnydd o iaith yw hyn? Onid yw’n bychanu erchylltra eu gweithredoedd? Oni fydd UKIP yn dwyn grym o’i ddefnydd, trwy honni mai dyma’r sefydliad hysteraidd yn ceisio cadw’r bobl dan draed?

Fel un sydd yn addysgu athroniaeth a damcaniaeth wleidyddol rwyf wedi meddwl tipyn am y peth. Yr wythnos hon, fel mae’n digwydd, roeddwn yn trafod ‘ideolegau’ yn fy narlith ar fodiwl athroniaeth wleidyddol. Un o’r ffyrdd hawsaf o geisio cyfleu natur ideolegau mewn ffordd syml yw troi at lyfrau tesun (yn yr achos hwn Hoffman & Graham ) sydd yn trafod prif nodweddion y gwahanol setiau yma o gredoau. Wrth drin a thrafod ffasgiaeth yr oes a fu, daw’n gwbl amlwg bod yna ormod o debygrwydd yng ngweithredoedd ac agweddau Trump, Farage, a’u tebyg i wadu’r cysylltiad – ac er nad ydym wedi gweld ffasgiaeth fodern yn ei llawn dwf, camgymeriad mawr byddai caniatáu iddo gryfhau ymhellach.

Gwreiddiau a gweithredoedd ffasgaeth

Gwreiddiau’r ymchwydd diweddar yma o wleidyddiaeth eithafol yw’r amgylchiadau economaidd sydd wedi gweld mwy o anghyfartaledd mewn cymdeithas, mwy o deimlad felly o’r amddifadedd cymharol (relative deprivation) sydd mor ddinistriol i gymdeithas, a’r tlodi ac ofn sydd yn codi yn sgil y fath amgylchiadau. Nid oes modd cymharu’r tlodi, wrth gwrs, gyda’r hyn a welwyd yn Ewrop rhwng y rhyfeloedd, ond yr un yw’r ymdeimlad o ansicrwydd a chwerwder. Yn yr union fodd yr oedd Mussolini a Hitler wedi gallu bod yn fanteisgar trwy wleidyddiaeth boblyddol, rydym wedi gweld Farage a Trump yn dilyn yr un hen gân. Craidd poblyddiaeth yw’r honiad bod cymdeithas yn rhanedig: yr “elit llwgr” a’r “bobl bur”. Rhaid yn hynny o beth cydnabod mai symptom mwyaf eithafol y gymdeithas gyfalafol yw ffasgiaeth – penllanw’r anghyfiawnderau ac estronyddu sy’n eu nodweddi.

Yn naturiol, felly, yn cyd-fynd gyda’r feirniadaeth ddiflino o’r elit ymysg ffasgwyr, yw’r feirniadaeth o gyfalafiaeth, ac wrth gwrs gwelwn y fersiwn fodern o hynny yn yr achwynion aml ynghylch bancwyr Wall Street a Dinas Llundain. Wrth gwrs, mae’r hyn oedd yn wir am y Natsïaid, sef eu parodrwydd yn y pen draw i gydweithio gyda busnes, yn eironig digon yn fwy amlwg o boenus gyda ffigyrau fel Farage a Trump. Wedi’r cwbl, dyma ddynion sydd wedi gwneud eu ffortiwn ar sail y sustem gyfalafol, ac sydd yn ddigon hapus gyda’r syniad o ddefnyddio’r farchnad i reoli hyd yn oed ein sector cyhoeddus mwyaf cysegredig, sef maes iechyd.

Credoau a chasineb

Dyna amlygu felly’r elfennau cefndirol a gweithredol sydd yn cysylltu ffasgiaeth y gorffennol gyda’r ffenomenon cyfredol. Ond mae’r tebygrwydd yn ymestyn y tu hwnt, wrth gwrs, tuag at yr agweddau rheiny sydd yn achosi’r pryder mwyaf, sef rhai o’r daliadau gwleidyddol asgell dde eithafol. Roedd y credoau oedd yn gyrru ffasgiaeth Hitler a Mussolini yn aml-weddog ac mewn rhai ystyron yn unigryw i’w brand personol o wleidyddiaeth atgas, ond roedd yna gysondeb yng nghyswllt eu hagweddau arch-cenedlaetholgar, statws dyrchafedig y wladwriaeth fel conglfaen hunaniaeth a chymuned, eu safbwyntiau estrongasol (xenophobic) a hiliol, a’u syniadaeth wrth-ryddfrydol a gwrth-ymoleuad.

Nid oes angen dadansoddiad hir a thrwyadl i adnabod y nodau yma yn nhonau bygythiol a chras gwleidyddion ein hoes. ‘America First’, meddai Trump (yn adleisio ‘Germany First’ y Natsïaid) wrth fygwth codi wal ar ffin Mecsico, ac wrth gwrs raison d’etre UKIP oedd camu yn ôl o wleidyddiaeth gydweithredol, Ewropeaidd mewn i ryw neverneverland o ynysiad ysblennydd. Nid oes lle, yn ogystal, o fewn eu safbwyntiau ar gyfer hunaniaethau a chymunedau amrywiol a phobloedd gymysg yn byw tu hwnt i afael a normau gosodedig y wladwriaeth – amddiffyn y sefydliad hwnnw a ddaw cyn pob dim arall, a gwelir y bobl a’r wladwriaeth yn asio’n un ffurf hegemonaidd, sydd yn lladd ar ‘elynion y bobl’ sydd yn wahanol ac yn bygwth ei ‘phurdeb’.

Un o agweddau amlycaf ymgyrch Trump oedd y modd a ymosododd ar bobloedd o dras wahanol, a phenllanw hiliaeth UKIP wrth gwrs oedd y poster echrydus o ffoaduriaid o dan y teitl ‘breaking point’. Y rheswm a adawodd Alan Sked – sylfaenydd UKIP – y blaid oedd oherwydd bod gormod o hilgwn yn ymuno ac oherwydd y cysylltiadau gyda’r BNP. Ac wrth gwrs yn sail i’r agweddau hyn oll yw’r ymosodiad ar hawliau a rhyddfreiniau nifer yn y gymdeithas, a’r agweddau dirmygus o werthoedd yr ymoleuad megis cydraddoldeb, ac yn fwy sylfaenol na hynny: gwybodaeth, deallusrwydd a gwirionedd.

Trais

Yr un elfen a ddiffiniodd ffasgiaeth Hitler a Mussolini sy’n absennol – neu’n guddiedig – ac sy’n achosi’r anesmwythdod mwyaf ymhlith y sawl sydd am wadu’r ffasgiaeth gyfoes, yw’r defnydd a dathlu o drais milwrol. Roedd yr elfen filitaraidd yn hysbys o’r cychwyn cyntaf ac yn arf o safbwynt ennill grym a dylanwad i’r ffasgwyr gwreiddiol. Fodd bynnag, trwy berswâd, propaganda ac ymddangosiad o normalrwydd y mae’r ffasgwyr cyfoes wedi ennill eu plwyf. Fodd bynnag, nid yw’r bygythiad o drais ymhell o’r wyneb, fel y gwelir yn ieithwedd Trump, ac yn fwy amlwg ym mygythiad Farage, y byddai terfysg yn dilyn o benderfyniad yr Uchel Lys i orfodi penderfyniad Brexit trwy’r Tŷ’r Cyffredin.

Mae’n wir, fodd bynnag, nad yw’r elfen dreisgar yma yn agos at fod mor amlwg yng ngwleidyddiaeth UKIP cyn belled, yn yr ystyr nad oes yna luoedd yn martsio ar y strydoedd nac yn bygwth pobl yn y stryd. Ond y pwynt i’w gydnabod fan hyn yw na fyddai tactegau o’u math yn llwyddo oherwydd y byddai’r gymdeithas yn adnabod y tactegau ac yn lladd arnynt o’r cychwyn, fel sydd wedi digwydd gyda grwpiau megis y BNP. Y cwestiwn felly, yw a ydym ni am ganiatáu iddynt ddatblygu’n rym prif-ffrwd gyda’r potensial o gael eu dwylo ar liferi grym a’r lluoedd arfog? Does dim ond angen darllen arwyddion yr amserau o’r UDA ac ystyried gweledigaeth wallgof a dinistriol Bannon i wybod yr ateb.

Yn wir, mae’n ddiamheuol bod y grymoedd newydd yma’n gofyn cael eu hadnabod fel rhai ffasgaidd, a dylem fod yn ddidrugaredd wrth rybuddio eu cefnogwyr mai dyma’r hyn maent yn cefnogi, ac yn yr ystyr hynny eu bod yn bell tu hwnt i ffiniau derbyniol democrataidd ac yn fygythiad i’n gyfundrefn. Mae’n hen bryd i’r cyfryngau a grwpiau cymdeithas sifil i sefyll lan a gwneud yr hyn maen nhw fod, sef gwarchod ein democratiaeth trwy ledaenu’r negeseuon priodol. Os ydych chi’n cefnogi UKIP a Trump, neu yn eu trin nhw fel “unrhyw blaid arall”, rydych yn cefnogi casineb, chwalfa, a’r trais anochel fydd yn dilyn. Does dim ond angen edrych ar ymateb UKIP i benderfyniadau’r Uchel Lys, a gorchmynion gwallgof gweinyddiaeth Trump, i weld beth yw eu gwir safiad ar ein sefydliadau democrataidd. Digon bodlon maent i guddio tu ôl y cysyniad yma er mwyn dilysu eu bodolaeth (“mae pobl wedi ein hethol”) ond digon buan maent yn eu cwestiynu pan mae’r penderfyniadau yn mynd yn eu herbyn.

Rhaid inni beidio â chamarwain ein hunan ynghylch natur derfynol y llwybr yma rydym yn rhodio. Daeth Trump i rym gyda chefnogaeth wreiddiol o ddim ond canran o’i blaid- efallai llai na 15% o boblogaeth ei wlad; daeth Hitler i rym gyda 33% o gefnogaeth yr Almaenwyr; mae’n ddigon posib y daw UKIP yn rhan o lywodraeth clymblaid yn Senedd nesaf San Steffan, ac mewn amgylchiadau erchyll Cymru ôl-Brexit, lle nad ydym wedi gadael yn derfynol, pwy fyddai’n diystyru’r posibiliad o UKIP yn chwarae ar gasineb a rhwystredigaeth pawb i ddyblu ei bleidlais a ffurfio clymblaid gyda’r Torïaid – gan adael troseddwr, cefnogwr apartheid a dyn sy’n cynrychioli Prydeindod Seisnig ar ei fwyaf atgas yn Brif Weinidog ar Gymru.

Efallai y bydd yna wrthwynebiad yn parhau i ddefnydd y term, oherwydd yn arfaethedig neu’n guddiedig – yn hytrach na’n echblyg – y mae militariaeth y ffasgwyr modern. Os felly, a’n bod yn anghyfforddus yn galw Neil Hamilton yn ffasgydd, yna awgrymaf y term neoffasgydd fel un parod i’w defnyddio yn ei lle (meddyliwch am le sefydledig neoryddfrydiaeth yn ein terminoleg wleidyddol fel term ar gyfer y rhyddfrydiaeth asgell dde a ddatblygodd yn yr 80au dan Reagan a Thatcher). Yn wir mae yna rinweddau i’r term o feddwl bod yn cydnabod natur newydd y wleidyddiaeth sydd ohoni, ond yn ein hatgoffa o’i rhagflaenydd a’i photensial dinistriol. Yr un yw’r rhybudd: ond dyma un o’r brid newydd, cyfeillgar, dan din o ffasgwyr ein hoes.

Mae’n werth gorffen myfyrio ar y mater yma gyda geiriau’r athronydd JR Jones, oedd wedi byw trwy ffasgaeth, a’i eiriau syfrdanol, mor bell nol ag 1963:

“Ac y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo’i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni’n wynebu cyfnod newydd o wrthchwyldro ffasgaidd – ie hyd yn oed ym Mhrydain. Dan enwau a theitlau newydd wrth gwrs. Nid ffasgaeth Jordan na Oswald Mosley, canys adwaenom nodau hwnnw a ni’n twyllir ganddi, ond rhyw fudiad newydd y bydd digon o gamouflage sosialaidd gwerin-ddyrchafol yn cuddio ei fileindra nes dallu’r gwerinoedd unwaith eto.”

Wedi dallu, yn wir.

Taflegrau dros Gymru: pa mor ddiogel yw arbrofion Trident?

Pa mor ddiogel yw arbrofion Trident?

Does neb yn hollol siŵr faint o brofion sydd wedi digwydd – ond yn ôl y sôn ers 2000 mae cyfanswm o bum prawf o’r system arfau niwclear Trident wedi bod.

Yn anffodus roedd un yn aflwyddiannus ym mis Mehefin 2016 ac mae hynny newydd ddod i’r amlwg yn y wasg er does dim cyfaddefiad wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin.

O un safbwynt mae 80% llwyddiant yn swnio’n eithaf taclus… Ond pe tasech chi’n gyrru car fach ac yn cael damwain unwaith bob pum gwaith, byddai’r heddlu a llysoedd yn cymryd eich trwydded yrru yn weddol toc. Dyw’r cymhariaeth ddim efallai yn hollol addas wrth ystyried taw Trident yw system sydd fod lladd pobl yn ei filoedd.

Ta waeth, ar hyn o bryd Theresa May sy’n weddol gyfrifol am y cerbyd cymhleth hwn yn ogystal â gweinidogion ei llywodraeth hi.

Dyma hi yn osgoi un cwestiwn syml pedair gwaith wrth Andrew Marr am y digwyddiad pan oedd methiant yn y system niwclear ‘ataliol’.

Bob hyn a hyn mae eisiau troi at rywun arall i ddatgelu gwir natur y sefyllfa.

Dewch ymlaen, Llyngesydd Arglwydd West (Plaid Lafur Brydeinig), i rannu ei sylwadau e ar y mater.

Mae’r cyfryngau prif ffrwd wedi dewis canolbwyntio ar ei ymateb digon ysgafn am daflegryn Seaslug ‘surface-to-air’ a ddaeth i gyfeiriad Cymru yn ddamweiniol ym 1958 – o’r llong HMS Girdle Ness i fryniau Bae Ceredigion i fod yn fwy cywir. Y tro yna fe wnaeth cadlywyddion lwyddo i gael darn o’r taflegryn i ffrwydro.

Mae hyn yn digon anhygoel ar ei ben ei hun (“Those sort of things happen but you don’t go and talk to the prime minister about that, unless their constituency happens to be there…”, meddai.).

Byddai hanes Cymru wedi bod ychydig yn wahanol pe bai’r taflegryn wedi taro rhai o nodweddion hardd Bae Ceredigion yn y flwyddyn honno megis Prifysgol Aberystwyth neu’r Llyfrgell Genedlaethol, Aberaeron, Aberteifi, y caffis, y tafarndai, y ffermydd, yr ysgolion, y swyddfeydd, y maesdrefi, y pentrefi cyfagos, Llanilar, Llanrhystud, Llandre (hynny yw, Llanfihangel Genau’r Glyn), Bow Street, Ceinewydd, Derwen-gam, Aberporth, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Fel o’n i’n dweud, mae hyn yn digon anhygoel ar ei ben ei hun. Ond mae’n werth gwrando ar y cyfweliad llawn hwn o’r Bwyllgor Dethol ar Amddiffyn, San Steffan am daflegrau a Trident.

Dyma rai o’r sylwadau trawiadol eraill a glywir yn y cyfweliad 51-munud. Mae rhai yn fy atgoffa o hiwmor tywyll mewn rhywbeth fel Catch-22 neu Dr Strangelove.

Ar amodau gwaith ar y llongau tanfor

West: “normally they’re unsung heroes out there, you know, 24 hours a day 7 days a week – often for 100 days some of the [submarine] patrols lasted…” (11:33:20)

(Mae 100 diwrnod yn swnio fel eithaf tipyn o amser i fod ‘ar shifft’ gyda chyfrifoldebau fel hyn, yn dydy?)

Ynglŷn â phrofion daflegrau sy’n mynd i’r lle ‘iawn’

West: “the Russians for example regularly used to have a ship to monitor it… and I think in Peter Hennessy’s book I think he quotes that the Russian ship there gave a congratulation to the British submarine and said ‘jolly good firing, well done’. Because we give them advance warning… whether it’s an American firing, our firing, whoever, we warn Russia, so they don’t think we are starting World War III…” (11:35:35)

Ar y brawf taflegryn niwclear a aeth yn rong ym mis Mehefin 2016

West: “On this occasion, it would appear – I don’t know – that there was some issue with the actual missile… The missile is an American missile. It is exactly the same as the ones the Americans use. We select them from a store [esgus bod e’n prynu arfau mewn siop] ‘we’ll have that one and we’ll have that one’… Something went wrong with that telemetry missile. That is primarily an American issue. I’m sure it was a minor thing and that it was resolved.” (11:37:20)

Ar union ddyddiad y ddamwain Trident y llynedd

Julian Lewis (cadeirydd Y Bwyllgor Dethol ar Amddiffyn, Plaid Geidwadol Brydeinig): “Because of the absolute blanket refusal to give any substantive information at all about this matter; we don’t even know what date the test took place on; but I have heard a suggestion that it took place on 20th of June [2016]. Are you in a position to know when it happened?”

West: “… I absolutely don’t know. I don’t know the date of it. I could probably phone up Mr Putin. I did a favour for him once rescuing his submariners when they were drowning. I’d ask him when it is and I’m sure he’ll tell me.”

Lewis: “He’d probably give us a film of the launch as well”
(11:40:40)

Gyda llaw os taw’r 20fed o fis Mehefin 2016 oedd gwir ddyddiad y ddamwain, o dan amodau llai ffodus gallai hyn wedi effeithio ar fuddugoliaeth Cymru, 3-0 yn erbyn Rwsia ar y diwrnod hwnnw.

Ar sut mae’r Brif Weinidog yn derbyn briff

West: “I never went and briefed the Prime Minister one-to-one… there was one when I was there, I thought it quite amusing to show the accuracy of the system by overlaying where each warhead would have gone on Downing Street. And I think Tony Blair was very pleased that a couple of them had hit the Chancellor’s house…” (11:42:45)

Cwestiwn arall wrth y cadeirydd

Lewis: “… when this whole discussion – I hate to use the word – blew up…” 11:44:30

Cymdeithas a’r Cynulliad: her yr asgell dde eithafol

Er nad yw cynnydd yr asgell dde eithafol yn unigryw i Gymru, mae’r ffaith bod yna bresenoldeb sylweddol o aelodau UKIP yn y Cynulliad yn ei gwneud hi’n eithriad yn y DU. Wedi digwyddiadau dydd Mawrth yn y Senedd, daw’n fwyfwy amlwg bod y tirwedd gwleidyddol newydd yma yn dir anodd i lawer ohonom.

Ar sail trafodaeth fewnol ddyrys penderfynodd Cymdeithas yr Iaith, fel mater o egwyddor, na allent gymeradwyo UKIP gydag atebion uniongyrchol mewn achos o gynnig tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Cynulliad. Mae eu rhesymu yn glir ac yn rhesymegol: “Mae UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas – pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl sydd â HIV – a’r Gymraeg. Allwn ni ddim eu trin fel unrhyw blaid arall.”  Gyda’r penderfyniad wedi’i gymryd cyn y Pwyllgor Diwylliant (lle’r oedd posibiliad o gael eu holi gan arweinydd UKIP, Neil Hamilton) cysylltodd y Gymdeithas â’r cadeirydd, AC Plaid Cymru Bethan Jenkins, i roi gwybod iddi fel mater o gwrteisi am eu bwriad, ond pwysleisiwyd ‘Dydy ni ddim am iti newid unrhyw beth o ran trefn y cyfarfod fory.’

Pe byddai’r Gymdeithas wedi gwneud cais i beidio caniatau Neil Hamilton i ofyn cwestiwn, byddai hynny wedi bod yn broblematig iawn. I bob pwrpas, mi fyddai hynny nid yn unig yn datgan cyfarwyddyd i’r Pwyllgor ynghylch sut i gynnal eu busnes; byddai goblygiadau o ran cwestiynu hawl Hamilton i ofyn cwestiynau, gan danseilio hefyd ei ddilysrwydd fel cynrychiolydd etholedig. Ond ni ofynnwyd y fath beth, ond yn hytrach nododd y Gymdeithas y byddent yn dewis i ymateb i unrhyw gwestiwn ohono yn unol â’u hegwyddorion. Yn hytrach nag ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, byddent yn amlinellu’n fras eu safiad yn erbyn UKIP.

Mae’r ymatebion gan lefarydd y Cynulliad a’r Cadeirydd yn dangos yn amlwg eu bod o’r farn bod y Gymdeithas wedi gwneud cais uniongyrchol i dawelu Hamilton. “Nid lle tystion yw dweud wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad pwy sy’n cael gofyn cwestiynau” dywedodd y llefarydd. Mae’n amlwg felly eu bod yn camgymryd yr hyn roedd Cymdeithas yn gofyn. Ni chwestiynwyd hawliau Hamilton, fel AC ac aelod o’r Pwyllgor; ond nododd Cymdeithas eu bwriad i arfer eu hawl i ymateb yn ôl eu daliadau (a heb, dylid ychwanegu, droi at rethreg afresymol neu atgas).

Cawn obeithio y bydd y Cynulliad yn cydnabod ei gamgymeriad, a bydd y Gymdeithas yn cael ei gwahodd yn ôl, a bod modd cynnal y drafodaeth mae’n amlwg roedd ei chyfraniad yn haeddu yn y lle cyntaf. Ond am y tro, fodd bynnag, mae’n ymddangos yn bosibl y gall y Cynulliad ddewis newid telerau y pwyllgorau, gan hawlio nad yw’n dderbyniol i unrhyw grŵp neu unigolyn i gymryd ymagwedd debyg (naill ai o flaen llaw, neu yn y pwyllgor), a’u bod nhw yn eu tro yn cael eu gwahardd rhag rhoi tystiolaeth lafar.

Byddai hyn yn creu cryn ansicrwydd am natur ddemocrataidd y Cynulliad. Mewn gwirionedd byddai pwyllgorau’r Cynulliad yn fforymau lle byddai’n cyfreithiau a normau moesol ynglŷn â rhyddid mynegiant yn cael eu neilltuo (ar yr un pegwn, gall tyst yn y llys peidio ag ateb, tra ar y pegwn arall mae’n annhebyg iawn y byddai rhywun yn cwestiynu hawl unigolyn i beidio ag ateb cwestiwn mewn sefyllfa gymdeithasol, pe byddent yn anghyfforddus gyda’r cwestiwn, neu’r holwr). Byddai’r sawl sy’n rhoi tystiolaeth lafar, mae’n ymddangos, yn cael ei orfodi i ateb y cwestiwn a ofynnir yn uniongyrchol, yn erbyn eu hewyllys, neu’n cael ei wahardd.

Ar wahân i’r problemau moesol amlwg gyda’r fath ‘ynysoedd o anoddefgarwch’ yn ein Senedd, byddai’r goblygiadau yn sylweddol o ran cymdeithas sifil yng Nghymru, a grwpiau ac unigolion a allai cael eu gwahodd i roi tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Cynulliad. Nid oes unrhyw amheuaeth bod grwpiau o’r fath ac unigolion sydd ag amheuon dwfn am UKIP yn yr un modd â’r Gymdeithas, a hoffai gymryd safiad tebyg. Yn ôl pob tebyg byddai pob un yn cael eu gwahardd rhag trafod mewn unrhyw un o’r gwahanol bwyllgorau. A phe byddent yn penderfynu ildio i’r rheolau yma, yr un fyddai’r canlyniad: sef bod y Cynulliad i bob pwrpas yn cau lawr gallu’r Gymdeithas Sifil yng Nghymru i ymateb i her yr asgell dde eithafol.

Honnodd Bethan Jenkins yn ei datganiad bod ymateb Cymdeithas wedi tanseilio dilysrwydd tystiolaeth ysgrifenedig; ond wrth gwrs, oni bai bod dadl a thrafodaeth wyneb-yn-wyneb yn cynnig gwerth ychwanegol, ni fyddai’r pwyllgorau yn gwahodd partïon i roi tystiolaeth lafar, gan ofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig yn unig. Mae’n amlwg mai creu system dwy lefel byddai sgil effaith gwahardd y sawl byddai’n dewis ymwrthod â gwleidyddiaeth UKIP rhag ymddangos yn y pwyllgorau.

Mae ymateb y Cadeirydd yn ddadlenol, ac yn codi cwestiynau am y modd mae wedi ymdrin â’r mater. Mae hi’n dweud ei bod wedi ymgynghori â’r Aelodau Pwyllgor a’u barn unfrydol oedd mai’r “pwyllgor ac nid tystion ddylai benderfynu pwy ddylai ofyn cwestiynau”. Mae hyn yn dangos ei bod hithau hefyd wedi camgymryd natur gais Cymdeithas, gan awgrymu eu bod wedi mynnu na ddylai Hamilton cael y cyfle i ofyn gwestiynau.

Aeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal i ddatgan ‘fedrai ddim derbyn sefyllfa lle mae un mudiad yn gwrthod ateb cwestiwn gan aelod etholedig ar pwyllgor’, ac ymateb yn ddisymwth i neges arall gyda ‘felly Cymdeithas sy’n cael penderfynu pa gwestiynau i ateb a sut’: dau ymateb sy’n ymddangos fel petaent yn cwestiynu y normau cyfreithiol a moesol o ran rhyddid mynegiant a gyfeiriwyd atynt gynt. Holodd hefyd pam fod Cymdeithas am ddymuno gwneud gelyn ohoni a chyfeiriodd dro ar ôl tro at ei record wrth frwydro yn erbyn UKIP.

A dyma ni’n cyrraedd asgwrn y gynnen o ran materion gwleidyddol. Mae yna farc cwestiwn enfawr ynghylch nid yn unig yn ei hymddygiad hi (mae’n bwysig peidio â chanolbwyntio arni hi yn unig, gan fod hyn yn ymwneud a phob AC nad ydynt yn aelodau o UKIP). Mae’r duedd gyffredinol i ymddwyn yn oddefgar a goddefol yn achos UKIP – a gynrychiolir yn fwyaf amlwg gan y lluniau cyhoeddusrwydd o aelodau’r pleidiau oll yn gwenu bant gydag ACau UKIP– yn danfon y neges amlwg i’r cyhoedd y dylid eu trin ‘fel unrhyw barti arall’, er gwaethaf eu gwleidyddiaeth.

Mae’n rhaid bod Jenkins a’i chyd-aelodau yn sylweddoli bod ymddygiad o’r fath yn dilysu UKIP mewn modd sy’n golygu mai dim ond gweithio’n galetach y bydd gofyn gwneud wrth guro ar ddrysau yn y dyfodol, wrth i’w gelynion gwleidyddol ffeindio eu traed a safle derbyniol o fewn y tirlun gwleidyddol. Yn y pen draw, bydd Plaid a Llafur yn cyfri’r gost etholiadol, fel sydd wedi digwydd yn barod.

Nid honni ydw i bod yr atebion yn hawdd, ac yn wir mae angen i’r pleidiau gwleidyddol hyn meddwl am ffyrdd cynnil ac effeithlon o danseilio UKIP heb cael eu gweld yn bardduo nhw i’r graddau eu bod yn bwydo’r anghenfil (cam yn y cyfeiriad cywir byddai ymosodiadau parhaus ar eu record yn y Cynulliad ar draws yr holl gyfryngau, gyda llawer mwy o gyhoeddusrwydd am eu hagweddau chwerthinllyd a gwenwynig, ac ymgais gyffredinol i danseilio nhw trwy ddatgelu eu gwendidau a dihidrwydd). Nhw sy’n gweld UKIP yn gweithredu o ddydd i ddydd ac felly arnyn nhw mae’r dyletswydd i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r modd maent yn tanseilio democratiaeth Gymreig.

Mae yna angen yn ogystal am ymatebion radical a gobeithiol i’r problemau sydd wedi achosi twf UKIP a negeseuon cadarnhaol am amrywiaeth yn ein bywyd cyfunol. Yn ddios, nid yw gwenu ochr yn ochr â hwy mewn lluniau yn helpu dim; yn fwy sylfaenol, mae gweithredu mewn modd sy’n tawelu lleisiau o brotest yn y gymdeithas sifil nid yn unig yn anfoesol, mae’n cynorthwyo achos yr asgell dde eithafol.

Mae hyn yn rhan o frwydr byd-eang. Mae gan wleidyddion a chymdeithas sifil yng Nghymru y cyfle i fod ar flaen y gad ac i osod esiampl. A ydym yn barod i wynebu’r her?