Pop Cymraeg 2016: y ddeg uchaf – gan @DylanHuw

1. Ani Glass – Y Ddawns

Daeth ychwanegiad pwysicaf 2016 i ganon y Cymruddyfodoliaeth newydd ar ffurf cân bop berffaith bedair munud o hyd. Ymdriniaeth o gof cenedlaethol a’n hanes diwydiannol via siwrne hypnotig i ddisgo ar ben draw’r byd, a gall ddim fod wedi dod allan mewn unrhyw foment ond am yr Haf tywyllaf erioed. Anthem i’r-gad ar gyfer ein hoes ôl-real.

2. Chroma – Datod

Oh os ti’n gadwyn / ti’n gadwyn i fi. Riff agoriadol sy’n swnio fel bod chi di nabod e ers erioed; naratif propulsive o benbleth ac o erfyn; a charisma lleisiol insane Katie Hall, presenoldeb cerddorol newydd y flwyddyn heb os.

3. Carcharorion – Y Carcharorion

Dwi’n gorddefnyddio’r gair ‘bangyr’ – un o’r geiriau yna chi’n dechrau defnyddio yn ‘eironic’ sydd yn sydyn iawn yn dial arnoch trwy ddiferu mewn i lif gwaed eich geirfa dyddiol. Beth bynnag, mae Y Carcharorion yn swnio’r ffordd mae’r weithred o roi glityr ar eich gwyneb ar ddechrau noson mas yn teimlo; neu falle’r weithred o baratoi eich bomiau powdwr-lliw cyn y brotest. Co dy arf co dy arf co dy arf / mae’n amser dianc. (O.N.: Albym HMS Morris – h.y. grwp Heledd Watkins, h.y. llais Y Carcharorion – oedd un o uchafbwyntiau cerddorol fy mlwyddyn; yr unig reswm nad oes cân oddi arno ar y rhestr hwn yw bod pob un Cymraeg wedi bod o gwmpas ers cyn 2016. Dwi’n meddwl?)

4. Anelog – Y Môr

O lle ddaeth Anelog? Cerddoriaeth bop cynnil, synhwyrus, gwreiddiol – gallai mwy neu lai unrhyw gan oddi ar eu EP fod yn y pum-uchaf yma.

5. 9Bach – Llyn Du

Mae 9Bach dal i drawsnewid mewn i rywbeth mwy arbrofol, sinematig a llawn dirgel gyda popeth maen nhw’n rhyddhau. Llyn Du yw un o’r caneuon – a’r fideos – mwyaf iasol a llesmeiriol i mi glywed mewn amser hir iawn.

6. ACCÜ – Adain Adain

7. Band Pres Llareggub / Alys Williams / Mr Phormula – Gweld y Byd Mewn Lliw

8. Clwb Cariadon – Arwyddion

Gwrando ar Spotify

9. Rogue Jones – Gogoneddus Yw Y Galon

10. Yr Ods – Tonfedd Araf

Gwrando ar Spotify

Trafod tiwn y flwyddyn 2016

Yn fy marn i, heb amheuaeth, dyma yw tiwn y flwyddyn 2016.

Gadewch sylw os ydych chi am gytuno/anghytuno/awgrymu tiwn arall.

Gwynt a Glaw gan Gwyllt yn gân rap ddigri ac… amserol, os taw dyna yw’r gair.

Mae’n rhaid canmol Amlyn Parry am ei eiriau ffraeth, sy’n cyfeirio at newid hinsawdd a gaeaf glawog 2015-16 ymhlith pethau eraill, a’i berfformiad, a Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg, Grangetown, Cymru am ei guriadau, samplau, ei gynhyrchiad mawr.

Gyda llaw mae dal amser i wylio’r rhaglen teledu I’r Gwyllt am daith Amlyn Parry i Papua Guinea Newydd.

Os ydych chi eisiau clywed rhagor o diwns…

Mae Radio Cymru wedi gofyn i mi recordio mics o’r gerddoriaeth gwnes i fwynhau eleni. Roedd sut gymaint o gerddoriaeth wych yn 2016 ac roedd hi’n hawdd creu rhestr fer – ond anoddach cael hi i lawr i 34 munud.

Tiwniwch mewn i raglen Huw Stephens heno am 7yh ac y bydd y mics ymlaen rhwng 9yh a 10yh.

Rhestr ddu BBC, yr asiant MI5, “a’r goeden Nadolig”

Mae’r ffilm ddogfen fer hon, Blacklisted, yn honni yr oedd y BBC yn derbyn gwybodaeth wrth yr MI5 fel rhan o’r broses cyflogi.

Canolbwynt y ffilm yw’r cyfarwyddwr Paul Turner a geisiodd yn aflwyddiannus am sawl swydd gyda’r BBC am flynyddoedd maith.

Yn ôl y sôn nid oedd y goeden Nadolig yn arwydd dda i bawb yn yr ugeinfed ganrif ac mae’r ffilm yn ymhelaethu am ei arwyddocâd ar ffeiliau mewnol y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.

Mae cyfrannwyr i’r ffilm yn cynnwys Mike Fentiman (gynt o’r BBC), Arwel Elis Owen, a Paul Turner ei hun.

Dros y blynyddoedd mae adroddiadau tebyg wedi bod mewn papurau megis Telegraph (erthygl lawn), Observer (erthygl lawn), a’r llyfr Blacklist: The Inside Story of Political Vetting, yn enwedig pennod 5, “MI5 and the BBC: Stamping the ‘Christmas Tree’ Files”.

Mae sawl stori yn cynnwys enw Brigadwr Stonham, asiant MI5 a oedd yn gwirio ceiswyr i swyddi BBC yn yr 80au cynnar o ystafell 105, Broadcasting House, Llundain.

Does gen i ddim yr adnoddau i wirio pob ffaith yn y ffilm ddifyr hon i chi. Byddai hi’n braf cael gwylio rhaglen hirach gyda rhagor o fanylion – cyn belled bod cwmni teledu sy’n fodlon cyffwrdd ar y stori, a sianel sy’n fodlon ei ddarlledu.

Ond beth bynnag rydych chi’n credu am y sefyllfa, gallai hanes teledu a ffilm yng Nghymru wedi bod yn wahanol pe tasai’r BBC wedi cyflogi Paul Turner.

Yn y pen draw fe gyd-sefydlodd gwmni cynhyrchu cydweithredol Teliesyn a oedd yn gyfrifol am sawl rhaglen gyda Gwyn Alf Williams.

Ymhlith nifer o wobrau mewn gyrfa ysblennydd fe gafodd enwebiad am Oscar am ei ffilm Hedd Wyn a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan un o’i wersi Cymraeg.

Fe gynhyrchwyd y ffilm fer Blacklisted gan Colin Thomas, cyd-bartner Turner yng nghwmni Teliesyn, a myfyrwyr ffilmiau dogfen Prifysgol Aberystwyth.

Mae gwefan Y Twll yn saith mlwydd oed heddiw.

Mae gwefan Y Twll wedi parhau am saith mlynedd o ddiwylliannau, celf, cerddoriaeth, ffilm, gwleidyddiaeth a threigladau ansafonol.

Dw i’n dal i chwilio am ragor o gyfraniadau gyda llaw. Cysylltwch ar unwaith. Yn ogystal ag, o bosib, diod am ddim fe gewch chi’n fraint o fynegi safbwynt tu fas i unrhyw gydberthynas rhwng arian cyhoeddus a gwerthoedd golygyddol. Ac mae hynny yn edrych yn grêt ar unrhyw CV.

Diolch o galon am unrhyw gefnogaeth. Fe flogiwn ni eto.

Hypernormalisation gan Adam Curtis: Lle fedrai gychwyn tybed?

Lle fedrai gychwyn tybed? Wir. Ymhle? Fel dywedais yn gynt am ddogfen Adam Curtis, werth ei edrych ond peidiwch cymeryd o ddifrif. Ond mae ei ymgais diweddaraf, Hypernormalisation yn fwy rhyfeddol. A bob munud yn nonsens llwyr.

Sail ei syniad yn y rhaglen dogfen yw bod cymdeithas yn nawr gweld gwleidyddiaeth fel nid i newid ond ffurf i gadw y byd yn stabal. Mae’n bwynt diddorol, ond anhrefnus yw sut mae Curtis yn cyrraedd hyn. I gychwyn siaradai am President Assad ac ei berthynas gyda America cyn neidio drosodd i siarad am Patti Smith a Donald Trump. Ar ôl parablu mlaen am gyfrifiaduron, seiberofod, Gadaffi a terfysgaeth, mae’n torri mewn un i llun o Jane Fonda yn datgan “JANE FONDA GIVES UP ON SOCIALISM AND STARTS MAKING KEEP FIT VIDEOS”. Foment a wnaeth peri i mi fynd nôl i wneud yn siŵr bo fi wedi darllen fo yn gywir.

Gwareir Curtis gweddill y ddogfen hir wyntog am sut mae Putin yn defnyddio system i ennill dylanwad ac am lwyddiannau Occupy. Credai yn y pendraw mai ymateb y pobl i ddominyddiaeth y cyfrifiaduron yn ein cymdeithas oedd i Prydain pleidleisio am adael yr EU. Er i ddeud y gwir, dwi’m yn siŵr os ydi yn gywir oherwydd collais y trywydd erbyn y diwedd. Dwi’m yn rhyfeddu, achos mae’r blydi peth am para am bron 3 awr.

Yn y bon, mae yr un hen broblem yn digwydd gyda’i holl waith. Mae naratif ei rhaglen yn mynd mor gyflym, gyda’r lluniau, cerddoriaeth a ffilmiau di-ri, mae’n amhosib sylweddoli beth yw ei ddadl. Nid tan i chi ail-weld a cheisio gwneud nodiadau i’ch hyn yw fod yn mynd ar goll weithiau.

Er dweud hynny, gwelaf pam bod rhai yn dechrau mwynhau ei rhaglenni neu cymeryd ei ddadl ar ei air. Yn Hypernormalisation, cymysgai unigolion blaenllaw (Trump, Reagan, Assad, Putin) gyda nifer o ddigwyddiadau a datblygiadau hanesyddol a’i ddatgelu rhyw cynllwyn tywyll. Ond dyna be mae wedi gwneud gyda nifer o’i rhaglenni megis Bitter Lake, y broblem nawr yw bydd pobl yn dechrau gweld trwy’r steil.

Ond yn y pendraw, adlewyrchai Curtis y meddylfryd ar hyn o bryd sydd yn bodoli yn ngwleidyddiaeth fodern. Ceir gwared o dystiolaeth, cyfweliadau gyda arbenigwyr neu ddefnydd o wybodaeth gan symud i ddatganiadau mawreddog gyda cerddoriaeth a lluniau ddramatig.

Diom yn neud synnwyr, ond diawch mae’n edrych yn wych.