“Beth yn union yw’r 10 Mewn Bws ‘ma” medd chi.
Trefnwyd 10 Mewn Bws gan y Mudiad Trac, sef mudiad datblygu gwerin Cymru.
Nod 10 Mewn Bws ydy i roi naws cyfoes, unigryw a chreadigol i draddodiad gwerinol Cymru.
Yn ôl Trac, dyma oedd y briff cafodd y cantorion.
Gofynnwyd iddynt gysylltu â’u gwreiddiau cerddorol ac ail dadansoddi cerddoriaeth draddodiadol Cymru mewn ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw, ac i gynulleidfaoedd cyfoes”
Angharad Jenkins, Swyddog Prosiect Trac.
Dewiswyd yr artistiaid drwy geisiadau agored, mae cefndiroedd cerddorol ‘y 10’ yn amrywiol iawn, roc, pop, indi i glasurol, gwerin ac electronic. Rhowch y synau yma i gyd mewn i un albwm ac mi gewch gampwaith o waith gwerin unigryw.
Pwy yw’r 10?
Gwilym Bowen Rhys
Y llais a glywch ar ddechrau’r albwm yw llais bachgen ifanc Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Caernarfon. Aelod o fand poblogaidd iawn yng Nghymru y Bandana sy’n canu pop/roc. Mae o hefyd yn aelod o’r band gwerin amgen, Plu, gyda’i ddwy chwaer.
Francesca Simmons
Cymeriad yw Francesca Simmons, a pham dydy hi ddim yn teithio o gwmpas Ewrop efo’r syrcas, mae hi’n chwarae’r feiolin. Mae hi’n chwarae wraig feiolin brofiadol iawn, ac astudiodd hyfforddiant Clasurol ym Mhrifysgol Manceinion ac yng ngholeg Cerdd Trinity Llundain.
Gwen Mairi York
Telynores yw Gwen Mairi. Cafodd ei magu mewn cartref Cymraeg ei iaith yn yr Alban, Academi Gerdd a Drama Frenhinol yr Alban. Maen gerddor proffesiynol ac yn aelod o gerddorfeydd a grwpiau siambr, yn ogystal ag dysgu disgyblion mewn Ysgol Gaeleg yng Nglasgow ac yn Adran Iau Conservatoire Brenhinol yr Alban. Clywir naws Albanaidd a Chymreig yng ngwaith Gwen, ac os gwrandawch yn astud ar yr albwm mae modd clywed y dylanwad Albanaidd, yn enwedig yn y gân Blodyn Aberdyfi a Epynt, Alawon fy Ngwlad, Caradog.
Craig Chapman
Boi o Aberdâr yw Craig, ac yn hoff o gerddoriaeth organig, ddigidol a chymysgu gwahanol arddulliau o gerddoriaeth. Rhai sydd yn ei ysbrydoli yw LCD Soundsystem, SFA a Hot Chip. Mae Craig tŷ cefn i lwyddiant Replaced by Robots, John Mouse. A dyfalwch be’ astudiodd yn y Coleg? Cerddoriaeth Bop? Rhyfedd ynte?! Graddiodd yng ngherddoriaeth pop ym Mhrifysgol Salford. Credaf fod Craig wedi dylanwadu ar y gân Calennig ar yr albwm.
Mari Morgan
Merch o Bontiets yn wreiddiol yng Nghwm Gwendraeth, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae hi’n chwarae’r ffidil, ac astudiodd y feiolin glasurol ym Mhrifysgol Bangor. Yn ei amser sbâr mae’n diddori yn gwrando ar gerddoriaeth gwerin ac yn chwarae gyda’r band Them Lovely Boys.
Ellen Jordan
Yn byw yng Nghaer Efrog, ond yn enedigol o Langammarch, Powys. Tybed pa offeryn mae Ellen yn ei chwarae? Y sielo. Mae hi’n greadigol ymhob ffordd, mae hi’n gyfansoddwraig, dylunydd sain ac yn berfformwraig, opera, celfyddydau gweledol a chynyrchiadau dawns gyfoes. Yn ei chyfansoddiadau maen aml yn arbrofi gydag alawon gwerin.
Huw Evans
Mae Huw Evans yn ganwr gwerin, yn chwarae’r ffliwt ac yn gyfansoddwr o ochra Castell-nedd. Astudiodd canu, y ffliwt a’r feiola yng Ngholeg Cerdd Trinity Llundain.
Mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau adnabyddus gan gynnwys, Royal Festival Hall, St Martins In The Fields yn Llundain ac yn Neuadd Symffoni, Birmingham.
Ceir naws o’i gefndir cerddoriaeth glasurol yn yr albwm, ac rwy’n dyfalu mae ef sy’n canu’r gân Blodyn Aberdyfi. Os rwy’n iawn, mae ganddo fo lais hyfryd!
Catrin O’Neill
Catrin yw’r athrylith canu gwerin Cymru, gall rhoi ei bys at unrhyw fath o alaw gwerin, ac yn canu yn ei mamiaith, Gwyddelig. Angerddol dros ganu gwerin, maen un da am ddenu cynulleidfaoedd newydd at ganu gwerin.
Leon Ruscitto
Reit ma’ gynnon ni gerddorfa o dalent uchod, ond mae ‘na un offeryn neu arbenigwr offeryn penodol a hanfodol arall i’w gyflwyno, sef Leon ar y drymiau sy’n byw yn Abertawe.
Mae ef ‘up there’ fel petai efo’r pobl fawr ma’, ac wedi chwarae mewn nifer o leoliadau adnabyddus gyda rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw, megis Alexandra Burke a Steps.
Pethau Leon, ydy cyfuno soul, indi a roc, mae o hefyd yn chwarae i fand llwyddiannus o’r enw The Provocateurs, a chwaraeodd yng ngherddorfa Jazz cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Lleuwen Steffan
Cantores o Ddyffryn Ogwen, sydd hefyd yn rhannol fyw yn Llydaw. Rwy’n dyfalu bod ganddi hi rywbeth i wneud a’r gân Caradog, gan na dyna yw henw ei mab.
Enillodd albwm diweddaraf Lleuwen wobr Cerddoriaeth Cymru, enw’r albwm oedd Tan, ac os nad ydych wedi ei chlywed, gwrandewch arni hi dach chi, maen dda iawn, iawn! Mae hefyd yn canu ambell i gân yn Llydaweg, mae’r rheiny yn werth ei chlywed hefyd, yn enwedig Ar Goloù Bev a enillodd wobr Liet Rhyngwladol yn Gijon.
Adolygiad Albwm 10 Mewn Bws
Yn gyntaf hoffwn ddatgan faint oni wedi mwynhau ceisio dyfalu pwy oedd tu ôl i greu’r synau, llais a sŵn y caneuon.
Er dwi’n siŵr os fyswn ni wedi holi’r artistiaid a gofyn i Drac y buasent nhw wedi rhoi gwybod i mi, ond dewisais ddyfalu drwy ddarllen am yr artistiaid bob yn un.
Gwrandewais ar yr albwm yn gyntaf, cyn darllen am yr artistiaid a oedd yn brofiad gwahanol i’r eilwaith wedi i mi ddarllen am y 10. Mwynheais yn arw gwrando ar yr albwm, a gwrando ar ddylanwad y 10 ar ei gilydd wrth greu synau gwerinol traddodiadol a naws cyfoes.
Credaf fod dewis Gwilym Bowen i ganu’r gân Bachgen Ifanc Ydwyf ar ddechrau’r albwm yn hynod grefftus. O bosib yn gyd digwyddiad, ond crefftus oedd dewis bachgen yn ei ugeiniau cynnar, sy’n chwarae mewn band roc a phop, sy’n profi’r geiriau’r gân Bachgen Ifanc Ydwyf wrth iddo fyw ei fywyd byrlymus a chyffrous yn y coleg, fel aelod o fand sy’n teithio o amgylch Cymru yn mercheta (posib ddim, ond siŵr o fod). Fy mhwynt yma ydy, trwy ddewis Gwilym Bowen i ganu’r gân werin draddodiadol hon, maen nhw wedi llwyddo i’w foderneiddio a’i wneud yn gyfoes heb fawr o ymdrech, gan fod y geiriau (er bod bywyd bechgyn ifanc wedi newid yn aruthrol ers i’r gân cael ei gyfansoddi tro cyntaf) dal yn berthnasol. Hoffais y naws offerynnol a sŵn Ffrengig yn y gân hefyd, a oedd yn creu bwrlwm a direidi gwerinol.
Wrth barhau i chwarae’r albwm, roedd y dyfalu’n anoddach. Yn yr ail gân Alawon Huw, daw i’r amlwg fod pawb yn cael cyfle i greu un twmpath mawr o gerddoriaeth, oedd yn fy atgoffa o fod yng nghanol ceilidh mewn tafarn yng Nghaeredin. Ond ceir cyferbyniad wrth i’r drydedd gân Epynt ddechrau, gyda llais Catrin O’Neill (dyfalu) yn ein hebrwng yn ôl i oes y Celtiaid, a gyda phawb arall yn ymuno yng nghanol y gân gyda’i lleisiau prydferth, ac wedyn clywir yr offerynnau yn cicio mewn, y ffliwt, y drwm i greu awyrgylch ddramatig iawn.
Yng nghanol yr albwm, clywir talentau’r delynores Gwen Mairi a llais hyfryd (eto rwy’n dyfalu) Huw Evans, yn y gân Blodyn Aberdyfi. Clywir sŵn y feiolin yn toddi a chydweithio yn dda gyda’r delyn. Mae’r gân hon yn dangos beth sy’n bosib, wrth ddod â chantorion a cherddorion o gefndiroedd cerddorol gwahanol ynghyd.
Rwy’n hoff iawn o’r trac nesaf ar yr albwm, Calennig. Cân werinol a naws cyfoes iawn yw hon, clywir llais Gwilym fel bardd o’r canol oesoedd yn rapio’r geiriau i sŵn gitâr a drymiau Leon Ruscitto. Ceir sŵn ffidil yn cicio mewn bob yn hyn a hyn, ffliwt a sielo gan greu’r rhamant ar sŵn dramatig byrlymus sydd ynghlwm a’r traddodiad gwerinol Cymreig.
Gan barhau i chwarae’r em o ddyfalu, credaf mai’r gân anoddaf i’w ddehongli oedd Alawon fy Ngwlad. Dyfalaf mai Mari Morgan sy’n canu, ond fod gan Craig Chapman ddylanwad go gryf ar y trac, oherwydd clywir synau unigryw iawn. Dechreuai’r gân gyda sŵn gitâr eithaf spooky, ond mae’r sŵn yn tyfu i greu synau y buasech yn ei glywed mewn ffilm arswyd neu yn y gofod, am ryw reswm mae’r sŵn yn fy atgoffa o Midsomer Murders neu Jonathan Creek.
Mae’r albwm yn cloi gyda dylanwad Lleuwen Steffan, gyda’r caneuon Caradog (sef enw mab Lleuwen). Ceir’r holl dalentau yn dod ynghyd gyda’r lleisiau a cerddoriaeth yn creu sŵn gwerinol o safon, yn y gân Patagonia a Caradog.
Gorffennir y albwm gyda Y Gaseg Ddu, efo’r holl aelodau yn canu mewn un côr alaw werin.
Fy marn, gwych! Rwyf wedi mwynhau gwrando ar yr albwm yn fawr iawn, ac i fod yn hollol onest ni fuaswn yn dewis gwrando ar gerddoriaeth gwerin fel arfer, ond bwriad Trac oedd dod â cherddorion gwerin, roc a phop a mwy ynghyd i greu albwm cyfoes o gerddoriaeth gwerin draddodiadol, ac maen nhw’n sicr wedi llwyddo, da iawn Trac a da iawn 10 Mewn Bws.