Heno:
Llwybr Llaethog yn cadw’r curiad i:
Ifor ap GlynBeirdd y Bragdy:
Catrin Dafydd
Osian Rhys Jones
Rhys IorwerthAled Rheon
Pobol Y Twll (DJ)8YH
Nos Wener 21 Mehefin 2013
Rockin’ Chair
Glan yr Afon
CaerdyddMynediad am ddim!
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Heno:
Llwybr Llaethog yn cadw’r curiad i:
Ifor ap GlynBeirdd y Bragdy:
Catrin Dafydd
Osian Rhys Jones
Rhys IorwerthAled Rheon
Pobol Y Twll (DJ)8YH
Nos Wener 21 Mehefin 2013
Rockin’ Chair
Glan yr Afon
CaerdyddMynediad am ddim!
Mae’r SRG yn farw gelain yn ôl bob son. Tydi’r gosodiad yma ddim yn fy synnu i ddweud y gwir. Mae’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth Cymraeg dwi’n ei wrando arno o leiaf degawd oed neu gan artistiaid o’r cyfnod gynt sydd wedi parhau i wneud cerddoriaeth. Mae’r gigs yn brin ac ychydig yn ddiflas i gymharu â nosweithiau Seisnig o genres tebyg neu gigs oedd mlaen riw 5 mlynedd yn ôl. Mae cyhoeddiadau fel y Selar yn dda ond anaml iawn mae llawer o son am y gerddoriaeth dwi’n hoff ohono. Efallai mai adlewyrchiad o ddiffeithwch cerddorol ydi’r gwactod yma? Pam bod pethau fel hyn? Pwysicach fyth sut yr atgyfodwn yr SRG o’u bedd?
I mi cerddoriaeth dda ydi cerddoriaeth sydd efo rhywbeth i’w ddweud drwy gyfrwng gair a sain. Er bod gan gerddoriaeth canol y ffordd Elin Ffluraidd ei le yn y diwylliant Cymraeg dim dyma be ystyriwn fel cerddoriaeth yr SRG. Gwrth ddiwylliant ifanc a chanu protest Cymreig ydi’r SRG i mi ond mae o wedi mynd ar goll rhywle yn y gachfa gyfalafol.
Llwybr Llaethog, Tystion, Datblygu, Pep le Pew…dyma grwpiau oedd efo rhywbeth i’w ddweud am Gymru a’r byd. Lle mae’r llais herfeiddiol oedd yn eiddo i’r bandiau yma yn ein cenhedlaeth ieuanc heddiw? Mae’r byd yn cael ei rheibio gan argyfwng economaidd felly pam ein bod yr SRG wedi ei llethu gan dawelwch? Does dim synau newydd herfeiddiol nag agwedd gan unrhyw un o’r bandiau newydd. Indie, pop werin, sblash o ska a synau electroneg ddof ydi’r norm Cymreig ac felly y mae hi’n aros. Dim byd yn bod ar y genres yma ond stale ydynt braidd a ddim y genres y dewisaf wrando arnynt. Mae ambell eithriad fel Cyrion a Dau Cefn, efallai bod grwpiau diddorol yn bodoli ond fy mod i ddim yn eu hadnabod… O’r brif ffrwd sy’n gigio does dim lot sy’n fy nghynhyrfu i ddweud y gwir. Un o apathi ‘plant Thatcher’ ydi byd olwg y bandiau ifanc. Wrth iddynt aros yn eu swigen dosbarth canol nid oes ganddynt unrhyw beth i’w ddweud am y byd (arwhan i efallai rant fach am chavs). Teimlaf fod pob agwedd o’r SRG wedi ei thraflyncu gan hunanoldeb, ond eto mae cymdeithas o gyfalafiaeth a huaninoldeb fel rhan an atod ohoni. Dydw i ddim yn siarad am unigolion nac yn cyffredinoli am bawb ond mae’r hunanoldeb yma’n hollbresenol. Mae amryw bethau wedi rhoi’r argraff yma i mi. I ddechrau efo teimlaf fod rhai perfformwyr yn farus. Ar ôl cael pres mawr o chwarae yn y ‘steddfod ac yna mynnu pes afresymol mewn gigs eraill. Dim pob grwp wrth reswm ond yr wyf wedi clywed am faint fynnai rhai am berfformiad a chael fy syfrdanu.
Mae rhai o’r trefnwyr hyd yn oed i weld yn farus. Wedi dweud hyn gwn fod mwyafrif y trefnwyr yn anhygoel a rhoi gwaith go iawn i drefnu dim ond i’w cael eu siomi gan ddiffyg cefnogaeth. Mae trefnwyr eraill yr wyf yn son amdanynt mewn sefyllfa mwy breintiedig lle gallynt gymeryd risg. Bellach gwneud arian ydi’r brif nod yn hytrach ân hyrwyddo cerddoriaeth cymraeg a mae hyn a effaith negatif ar y sin. Un esiampl yw gigs Clwb. Prin iawn oedd y gigs yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Yn ddiweddar mae gigs wedi bod mwy rheolaidd on dipyn o siom ydyn nhw (er bod y llawer o grwpiau reit dda wedi chwarae). Mi es i noson oedd Cyrion yn Clwb a thalais tua pumpunt – i noson a oedd yn gorffen 10 neu 11 yh! Yr oedd pawb sobor sant, neb yn dawnsio. Ychydig iawn o bobol oedd yno. Gig anial er bod y gerddoriaeth yn dda. Does neb am dalu 5 punt am noson sy’n gorffen mor gynnar. Fel arfer dydw i na rhan fwyaf o fy ffrindiau yn mynd allan tan 10/11 o leiaf felly pam rhoi gig i orffen yr adeg yma? Sylwais mai’r rheswm dros hyn oedd gan fod Clwb eisiau gwneud pres o’r nosweithiau prif ffrwd seisnig ar ol y gig yn hytrach na roi amser call i gigs cymraeg. Dim fi yw’r unig cwynwraig, oedd yna erthygl ddifyr ym mhapur y brifysgol Gair Rhydd yn trafod pam fod myfyrwyr Cymreig yn mynd i ‘Beach Club’ am noson allan yn hytrach na Clwb.
A be am hunanoldeb ni, y ffans? Pam bod gigs yn wag? Diogi, bod yn dynn efo pres…. Os nad ych yn hoffi’r grwp sy’n perfformio digon teg ond rhowch siawns i’r grwpiau yma cyn eu diystyru’n llwyr! Rhaid i ni’r ffans dynnu ein sannau fynnu a dechrau cefnogi. Does dim diben cwyno bod diffyg gigs wedyn ddim mynd i un pan fo rhywun wedi trefnu’n lleol.
Felly be laddodd y Sin Roc Gymraeg? Be fygodd llais herfeiddiol bandiau ifanc? Be drodd y trefnwyr breintiedig i roi gigiau ‘mlaen ar amseri gwirion neu rhoi’r fath bwysau ar drefnwyr bach nad oes arian genynnt i gymryd y risg o roi gig mlaen o gwbl? Be drodd y bandiau mawr yn farus? Be achosodd i’r ffans fynd mor dyn a’u harian a bodloni ar ddiwylliant estron Eingl-Americanaidd yn hytrach na chefnogi eu diwylliant cynhenid? Cyfalafiaeth wrthhgwrs.
Mewn byd lle mai pres sy’n penderfynnu be di be sut all sin roc diwylliant lleiafrifol oroesi? Y rheswm bod cerddoriaeth yr SRG mor ymylol yn y lle cyntaf ydi oherwydd bod system gyfalafol yn ennyn tuedd mai’r diwylliant sydd efo’r arian (Eingl-Americanaidd) fydd yr un dominyddol. Be sy’n gwneud y top 10 yn well na cherddoriaeth yr SRG? Dim, yr arian mawr marchnata sy’n penderfynnu be sy’n boblogaidd yn hytrach nac ansawdd y cerddoriaeth. Busnes ydi pob dim. Atgyfodi’r SRG?
Cyfalafiaeth ydi’r broblem. Yr ateb call felly fyddai disodli’r system anghyfiawn gyfalafol.
Ffeindiwch fudiad gwrth-gyfalafol sydd at eich dant, Cymdeithas yr Iaith, un o’r pleidiau Sosialaidd, South Wales Anarchists, ewch ar eu gwefannau am ‘window shop’! Mynychwch gyfarfod a byddwch yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid (Gan gynnwys yr hawl i gael diwylliant cyfoes yn eich hiaith ein hunain! ) Dyma’r unig ffordd i ‘achub’ yr SRG a’r diwylliant Cymraeg yn yr hir dymor. Tan i bethu newid rhaid trio cadw’r SRG yn fyw. Sut allwn wneud hyn? Drwy wrthod yr hunanoldeb y mae cyfalafiaeth yn ei feithrin yn ein cymdeithas a’r SRG!
Trefnwch partion a cherddoriaeth Cymraeg (Odd hipis Llanberis arfer mynd i’r chwareli, pam lai efo’r ha yn dod?) neu trefnwch disgo dydd i’r di-waith efo perfformwyr o’r SRG fel sydd bob mis yn Glanyrafon, Caerdydd. Ffans dechreuwch neud ffansins cerddorol a lledaenwch y gair dros Gymru, gadwech gopis mewn Llyfrgelloedd, Siopau Kebab.. Caffis…Does dim pwynt rhoi o i’ch ffrindiau cymraeg yn unig neu bydd pethau dal i gylchdroi yn yr un clique cymraeg caeedig. Geekiaid cyfrifiadurol uwchlwythwch yr holl gerddoriaeth cymraeg a fodolai ar y we rhywle i ni gael ei ddwyn o.
O ia, dylsai cerddoriaeth Cymraeg bod am ddim. Shock. Horror. Dydi o ddim yn beth newydd i pobol aberthu amser, amynedd ac arian dros yr iaith. Ystyriwch aberth ymgyrchwyr iaith yn y gorffenol. Mae canoedd o fobol wedi cael ac yn cael a ffeins ac amser yn y carchar dros yr iaith. Does dim lle i hunanoldeb mewn diwylliant lleafrifol neu fydd dim parhad iddi. Dydw i ddim yn erbyn y badiau cael digon o arian i gael offer a talu costau ond credaf fod wir angen pob artist uwchlwytho oleiaf un albym i fod am ddim ar y we fel mae Mr Huw wedi ei wneud. Fydd hyn yn golygu fydd mwy o fobol yn debygol o ddod i gigs yr artist ac yn prynnu eu albymau eraill. Dalltwch fod pobol ifanc eithaf sgint adydyn ni ddim am gymryd y risg o brynu albym a ninau heb ei chlywed hi (albyms Saesneg ar Spotify, cerddoriaeth mewn clybiau nos). Fydd uwchlwytho eich albyms am ddim ar y we yn rhoi hwb i’r sin a cael ffans newydd!
Ydwi’n mwydro a malu cachu? Be ydi’ch ateb chi i broblemau’r SRG?
Mwy o farnau ar sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru 10PM heno. Croeso i ti anfon erthygl i’r Twll gyda dy farnau dy hun, yn enwedig os ti’n gerddor.
Mae’n anodd iawn dewis 5 uchaf Llwybr Llaethog gan fod chwant yn newid mor aml efo tymer a chyd-destun.
Os yr ydych yn teimlo fel dawnsio’n wyllt, tiwn craiddcaled fel Drilacila ydy’r un i ‘w roi ymlaen tybiwn i. Ond os yr ydych eisiau rhywbeth tangefeddach caneuon fel Satta ym Mhontcanna a Bob Dim yw’r tranquilizers cerddorol delfrydol. Os yr ydych mewn tymer synfyfyriol dwb barddonol araf fel Nos Da sydd yn neis i wrando arno gan fod naws hypnotig ar lais yr hen foi croch, mae Aberdaron yn enghraifft arall prydferth o fathiad y traddodiad barddol i genre cerddoriaeth. Rheswm arall ei bod mor anodd gwneud rhestr o fy hoff draciau yw gan bod LL LL mor gyson o ran creu tiwns o safon…
Ta waeth yn y diwedd penderfynais gwneud y 5 uchaf o’r gerddoriaeth oedd ar gael ar YouTube. Felly dyma nhw.
Dimbrainsdotcom (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)
Fel cyfalafffob y mae’r rap rheibus yma yn gorfod bod un o fy ffefrynau erioed! Mae modd deallt y rap yma o ble bynnag yr ydych yn dod – o Ton Pentre i Taiwan mor bell cyrhaeddai grym y corfforaethau cyfalafol ac adnabyddir eu henwau gan poboloedd o bob man, pontiai eu grym iaiethoedd o bob lliw a llun. Mae’r farchnad rydd wedi gwneud ysglyfaeth ohonom i gyd: o’r 3ydd byd lle gwasgai cyfalafwyr ei helw allan o bobol yn y ‘sweat shops’ i wlad ‘cyfoethog’ fel hon lle mae’n angenrheidiol cael ‘BMW i deimlo’r pwer’. Mae’r neges yn syml ond effeithiol, llawer gwell na llyfr hirfaeth neu areith jargonllyd a estronai’r rhanfwyaf ohonom rhag ystyried y rhan y mae’r cwmniau mawr yma yn chwaraeu yn ein bywydau. Mae ton heriol y rap yma yn un positif yr un fath a swn y cerddoriaeth ei hyn – mae’n bell iawn o rantiau digalon apocoliptig llawer o ferniadaethau o’m byd heddiw gan y chwith, dde, grwpiau crefyddol a.y.y.b! Yn well na dim nid yw’n unig yn feirniadaeth ond yr wyf yn hoff ohono hefyg gan ei fod yn fwy na hyn: Onid yw y geiriau ar ddiwedd y tiwn (Neud nid Deud) hyd yn oed yn mynd mor bell a sbelio fo allan i ni sut mae newid pethau er gwell? Faint o llyfrau llarpiog, areithiau arteithiol a caneuon condemedig yr ych wedi ei ddarllen/clywed heb gynnig ateb call a all bawb ei ddilyn yn y diwedd? Heb os dyma un o fy hoff ganeuon Llwybr Llaethog tiwn bachog fydd yn sownd yn eich pen am amser hir!
Blodau Gwyllt y Tân (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)
Prynnais yr albwm Anomie-Ville yn siop Oxfam ym Mangor blynyddoedd yn ôl. Ar ôl i mi wrando ar albwm, ei weld yn rhyfedd, ei adael i hel llwch ar fy silff am flynyddoedd wedyn troi yn ôl ato blynyddoedd wedyn datblygais i fod yn anorac awchus o’r LL LL. Dyma y gan gynta LL LL y cefais obsesiwn amdani ac yr oeddwn yn ei chwarae fel tiwn gron yn methu cael digon ohoni. Bob tro yr wyf eisiau dangos engrhaifft o gerddoriaeth cymraeg cyfoes i unrhywun hwn yr ydw i yn ei roi ymlaen. Efallai gan fy mod yn cofio yr amser dechreuais wrando yn iawn ar y gan yma yn nhy fy Nain yn Y Bala, mae’r gan dal i rheiddio naws o anwyldeb bob tro grandawaf arni.
Mae’r llais a’r alaw prydferth dim ond yn atgyfnerthu hyfrydwch y geiriau. I mi mae’r geiriau yn rhyw son am angerdd mewnol cyfrinachol, er engrhaifft fel y canfyddir a phersonau swil. Gall eu meddwl fod yn hollol danbaid a hyperactif o syniadau a teimladau, efallai gymint nes bod hyn yn peri swildod llethol allanol. Felly yw ‘mae merch yn eistedd ar ei phen ei hyn yn sibrwd can’ mewn gwirionedd a’i ‘gwaed ar dan’. Cawslyd efallai i mi ei hysgrifennu fel hyn ond wrth wrando ar y geiriau yng nghyd destyn y gan fel y gwelir nid oes tafell o gaws yn agos tuagato! O’r gan yma canfum i paradocs rhwystredigaeth (‘blodyn gwyllt sydd methu troi/ wedi pydru yn y dwr’) a ddiffyg mynegi ei hyn mewn unigolyn pan yn groes i’r ymdangosiad allanol mae’r angerdd fwy grynodedig na’r hyn sydd yn mynd ymlaen yn pennau yr rhain sydd yn geg i gyd. Trio deallt a dryswch yn amlwg iawn yn y gan yma hefyd, efallai trio deallt moesoldeb mewn oes heb arweiniad crefyddol a pan gwyddwn ni bod normau cymdeithasol yn cael ei llywio gan buddianau dosbarth, pa rhei felly yw y ‘blodau glan’?. Dyma beth yr wyf i yn ddehongli o’r gan ond wrthgwrs dyfalu’n llwyr ydw i ac efallai dwi’n mynd llawer rhy ddwfn iddi ac yn malu cachu’n llwyr!
Anomie-Ville (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)
Mae’r gan yma gymaint o wrthgyferbyniad i anwylder Blodau Gwyllt y tan ond hefydd yn eiddo ar yr un swyn drostof. Efallai gan mai dyma un o’r caneuon cyntaf i mi ei ‘ddarganfod’ gan LL LL hefyd sydd yn ei wneud yn arbennig i mi.
Eto pan grandawaf arno yr wyf yn cael fy hatgoffa o’r amser mi fuais yn mynd o am dro o amgylch Y Bala ac credaf un rheswm bod y gan yma yn sefyll allan i mi oedd oherwydd ar y pryd yr oedd yn cydberthnasu yn dda efo fy nghyd destun. Wrth gerdded o amgylch y Bala (a wedi byw yno am flynyddoedd fel plentyn rhwng 1998 a 2001) i mi Bala oedd Anomie-Ville. ‘Pwy sisho byw yn Anomie-Ville?/ Pawb yn piso ar chips pawb arall’ Yn glir nid yw hyn yn dangos my mod efo agwedd ffafriol tuagat Y Bala (druan) ond ar y tro yr oedd yn gwneud synwyr, yn enwedig garwedd y geiriau a phrydferthwch y miwsig.
Mae Y Bala i mi yn baradocs yn yr un un ffordd. Credaf gan i Y Bala fod yn o’r llefydd mwyaf Cymreig (onid yma bu farw y dynes olaf i fedru’r Gymraeg yn llyfr Islwyn Ffowc Ellis ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’?). Yma yr oedd yn gliriach na nunlle yr afiach ac yr annwyl am yr holl gysyniad o ‘Gymru Cymraeg’. Y snobyddiaeth a’r cystadlu, y gwaseidddra o trio plesho eraill ar draul eich cyfoedion, dyma ydw i yn gofio o fynd i’r ysgol yn Y Bala wedi dod o’r cymoedd yn 8 oed. Yr oedd yr agwedd at ‘allanwyr’ a’r hyn oedd yn wahanol yn drychinebus, yr oedd plant saesneg yn cael ei trin yn wael yn yr ysgol yma gan y plant eraill. Gallwn weld efallai sut mae’r agwedd o fod yn or amddiffynol yn rhywbeth a ddatblygai’n naturiol yn y gymdeithas gymraeg sydd a’i fodolaeth ers canoedd o flynyddoedd dan fygythiad ond mae’n glir nad yw’n agwedd bosotif na cynhyrchiol. Estroni pobol gwnaiff hyn a meithrin naws clostroffobig ‘dim dod mewn a dim mynd allan’ a rhyw ofn nelltuol o ddylanwad a datblygiad. Hefyd sut all ddisgwyl i Saeson gallu garu y gymraeg na chal unrhyw deimladau positif tuagati pan y maent wedi cael ei trin yn wael gan eu bod nhw ‘ddim digon Cymraeg’ yn y lle cyntaf? Er hyn cysylltaf Bala a rhyw urddas diysgog, bod y Cymru yn fobol mor hynafol ac gan ei bod yn lleafrif yn byd pan mae y byd yn troi’n fonoddiwylliant eingl-americanaidd mae’r llefarifoedd prin yn bryderth yn ei hunain.
Mae y miwsig ei hyn i mi yn adlewyrchu y paradocs yma o barch di gwestiwn at y cymuned sydd a llawer o broblemau anelwig.
Sbecsmelyn (o’r albwm Chwaneg, 2009)
Dyma Ed Holden (o Genod Droog / Y Diwygiad gynt) wedi ymunno efo LL LL. Wn i ddim be ydi’r sbecs melyn- jest par o sbecs melyn neu ydio’n ffordd mae’r y byd yn cael ei liwio gan rhywyn? Mae rhai yn gweld y byd trwy sbecdolau ‘rose tinted’ efallai bod rhywyn sydd yn rhoi ei sbecs melyn ymlaen jest yn rhywyn sydd yn gweld y byd trwy lygaid lloerig- efallai fod rhoi dy sbecs melyn ar yn ffordd o sbio ar y byd drwy lygaid y boi yma ‘mae’r diafol wedi gafael yn bywyd y boi ma a creu problemau’ ond dyfalu ydw i wrth gwrs. Tu hwnt i ystyr posib y sbecs melyn yma y mae’r rap yma yn hawdd i berthnasu a i llawer o fobol.
Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa neu nabod rhywyn sydd wedi dod yn agos iawn i cael eu llorio gan bobpeth (mewn byd mor wallgo a hyn lle mae llawer yn marw gan eu bod yn rhy dew mewn un rhan a eraill yn marw gan eu bod yn newynu mewn rhan arall o’r byd does dim syndod) ac dydi disgyn i oblifiwn o fod oddi ar eich bronnau ar gyffuriau neu meddiwi’n gaib ddim yn ateb o unrhyw fath yn yr hir dymor. ‘Boi arall sydd wedi cael ei safio gan Llwybr Llaethog.’ Mae’n deimlad y mae pawb yn dioddef rhiwbryd o ddiffyg pwrpas a gwactod, dyma lle mae ffocysu’ch egni ar gerdoriaeth a’r creadigol (ei greu yntau ei fwynhau) yn un modd o dynnu rhywyn ar ei draed unwaith eto ac am y tro ynddo mae modd darganfod pwrpas. Eto efallai fy mod wedi camddeall y diwn yn llwyr ac yn ffaffian ond dyna un dehongliad ohoni ta waeth.
The Undefeated (Ailgymysgiad gan Llwybr Llaethog o Super Furry Animals)
Dyma engrhaifft o ailgymysgiad gan LL LL oedd ar YouTube. Mae hefyd ailgymysgiad o’r SFA ar eu halbwm newydd Chwaneg o’r gân Trouble Bubbles. Cân campus mae modd ei fwynhau yn dawel wrth eistedd ond orau oll ar eich traed yn skanio dros y siop i gyd. Ni fyddaf yn rhoi dehongliad llenyddol hirwyntog arall o eiriad hon gan fod caneuon weithiau jest i’w mwynhau fel caneuon a felly yr wyf am drin hon. (Hefyd can Super Furries yw hon yn wreiddiol dim LL LL felly does dim angen!)
Rhagor
Gobeithio yr ydych wedi mwynhau y detholiad yma, me’n drueni fod dim rhagor o ganeuon ar YouTube gan LL LL…
Os yr ydych eisiau clywed rhagor o LL LL mae ambell albwm ganddynt ar Spotify yn ogystal a ambell i sioe ar Radio Amgen ble bydd caneuon eu hunain ac yn ogystal a detholiad o draciau gan artistaid eraill.
Hefyd mae yna 3 tiwn go dda dwi heb weld nunlle arall ar wefan BBC Cymru o Sesiynau C2 yr haf yma.