Mae’r SRG yn farw gelain yn ôl bob son. Tydi’r gosodiad yma ddim yn fy synnu i ddweud y gwir. Mae’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth Cymraeg dwi’n ei wrando arno o leiaf degawd oed neu gan artistiaid o’r cyfnod gynt sydd wedi parhau i wneud cerddoriaeth. Mae’r gigs yn brin ac ychydig yn ddiflas i gymharu â nosweithiau Seisnig o genres tebyg neu gigs oedd mlaen riw 5 mlynedd yn ôl. Mae cyhoeddiadau fel y Selar yn dda ond anaml iawn mae llawer o son am y gerddoriaeth dwi’n hoff ohono. Efallai mai adlewyrchiad o ddiffeithwch cerddorol ydi’r gwactod yma? Pam bod pethau fel hyn? Pwysicach fyth sut yr atgyfodwn yr SRG o’u bedd?
I mi cerddoriaeth dda ydi cerddoriaeth sydd efo rhywbeth i’w ddweud drwy gyfrwng gair a sain. Er bod gan gerddoriaeth canol y ffordd Elin Ffluraidd ei le yn y diwylliant Cymraeg dim dyma be ystyriwn fel cerddoriaeth yr SRG. Gwrth ddiwylliant ifanc a chanu protest Cymreig ydi’r SRG i mi ond mae o wedi mynd ar goll rhywle yn y gachfa gyfalafol.
Llwybr Llaethog, Tystion, Datblygu, Pep le Pew…dyma grwpiau oedd efo rhywbeth i’w ddweud am Gymru a’r byd. Lle mae’r llais herfeiddiol oedd yn eiddo i’r bandiau yma yn ein cenhedlaeth ieuanc heddiw? Mae’r byd yn cael ei rheibio gan argyfwng economaidd felly pam ein bod yr SRG wedi ei llethu gan dawelwch? Does dim synau newydd herfeiddiol nag agwedd gan unrhyw un o’r bandiau newydd. Indie, pop werin, sblash o ska a synau electroneg ddof ydi’r norm Cymreig ac felly y mae hi’n aros. Dim byd yn bod ar y genres yma ond stale ydynt braidd a ddim y genres y dewisaf wrando arnynt. Mae ambell eithriad fel Cyrion a Dau Cefn, efallai bod grwpiau diddorol yn bodoli ond fy mod i ddim yn eu hadnabod… O’r brif ffrwd sy’n gigio does dim lot sy’n fy nghynhyrfu i ddweud y gwir. Un o apathi ‘plant Thatcher’ ydi byd olwg y bandiau ifanc. Wrth iddynt aros yn eu swigen dosbarth canol nid oes ganddynt unrhyw beth i’w ddweud am y byd (arwhan i efallai rant fach am chavs). Teimlaf fod pob agwedd o’r SRG wedi ei thraflyncu gan hunanoldeb, ond eto mae cymdeithas o gyfalafiaeth a huaninoldeb fel rhan an atod ohoni. Dydw i ddim yn siarad am unigolion nac yn cyffredinoli am bawb ond mae’r hunanoldeb yma’n hollbresenol. Mae amryw bethau wedi rhoi’r argraff yma i mi. I ddechrau efo teimlaf fod rhai perfformwyr yn farus. Ar ôl cael pres mawr o chwarae yn y ‘steddfod ac yna mynnu pes afresymol mewn gigs eraill. Dim pob grwp wrth reswm ond yr wyf wedi clywed am faint fynnai rhai am berfformiad a chael fy syfrdanu.
Mae rhai o’r trefnwyr hyd yn oed i weld yn farus. Wedi dweud hyn gwn fod mwyafrif y trefnwyr yn anhygoel a rhoi gwaith go iawn i drefnu dim ond i’w cael eu siomi gan ddiffyg cefnogaeth. Mae trefnwyr eraill yr wyf yn son amdanynt mewn sefyllfa mwy breintiedig lle gallynt gymeryd risg. Bellach gwneud arian ydi’r brif nod yn hytrach ân hyrwyddo cerddoriaeth cymraeg a mae hyn a effaith negatif ar y sin. Un esiampl yw gigs Clwb. Prin iawn oedd y gigs yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Yn ddiweddar mae gigs wedi bod mwy rheolaidd on dipyn o siom ydyn nhw (er bod y llawer o grwpiau reit dda wedi chwarae). Mi es i noson oedd Cyrion yn Clwb a thalais tua pumpunt – i noson a oedd yn gorffen 10 neu 11 yh! Yr oedd pawb sobor sant, neb yn dawnsio. Ychydig iawn o bobol oedd yno. Gig anial er bod y gerddoriaeth yn dda. Does neb am dalu 5 punt am noson sy’n gorffen mor gynnar. Fel arfer dydw i na rhan fwyaf o fy ffrindiau yn mynd allan tan 10/11 o leiaf felly pam rhoi gig i orffen yr adeg yma? Sylwais mai’r rheswm dros hyn oedd gan fod Clwb eisiau gwneud pres o’r nosweithiau prif ffrwd seisnig ar ol y gig yn hytrach na roi amser call i gigs cymraeg. Dim fi yw’r unig cwynwraig, oedd yna erthygl ddifyr ym mhapur y brifysgol Gair Rhydd yn trafod pam fod myfyrwyr Cymreig yn mynd i ‘Beach Club’ am noson allan yn hytrach na Clwb.
A be am hunanoldeb ni, y ffans? Pam bod gigs yn wag? Diogi, bod yn dynn efo pres…. Os nad ych yn hoffi’r grwp sy’n perfformio digon teg ond rhowch siawns i’r grwpiau yma cyn eu diystyru’n llwyr! Rhaid i ni’r ffans dynnu ein sannau fynnu a dechrau cefnogi. Does dim diben cwyno bod diffyg gigs wedyn ddim mynd i un pan fo rhywun wedi trefnu’n lleol.
Felly be laddodd y Sin Roc Gymraeg? Be fygodd llais herfeiddiol bandiau ifanc? Be drodd y trefnwyr breintiedig i roi gigiau ‘mlaen ar amseri gwirion neu rhoi’r fath bwysau ar drefnwyr bach nad oes arian genynnt i gymryd y risg o roi gig mlaen o gwbl? Be drodd y bandiau mawr yn farus? Be achosodd i’r ffans fynd mor dyn a’u harian a bodloni ar ddiwylliant estron Eingl-Americanaidd yn hytrach na chefnogi eu diwylliant cynhenid? Cyfalafiaeth wrthhgwrs.
Mewn byd lle mai pres sy’n penderfynnu be di be sut all sin roc diwylliant lleiafrifol oroesi? Y rheswm bod cerddoriaeth yr SRG mor ymylol yn y lle cyntaf ydi oherwydd bod system gyfalafol yn ennyn tuedd mai’r diwylliant sydd efo’r arian (Eingl-Americanaidd) fydd yr un dominyddol. Be sy’n gwneud y top 10 yn well na cherddoriaeth yr SRG? Dim, yr arian mawr marchnata sy’n penderfynnu be sy’n boblogaidd yn hytrach nac ansawdd y cerddoriaeth. Busnes ydi pob dim. Atgyfodi’r SRG?
Cyfalafiaeth ydi’r broblem. Yr ateb call felly fyddai disodli’r system anghyfiawn gyfalafol.
Ffeindiwch fudiad gwrth-gyfalafol sydd at eich dant, Cymdeithas yr Iaith, un o’r pleidiau Sosialaidd, South Wales Anarchists, ewch ar eu gwefannau am ‘window shop’! Mynychwch gyfarfod a byddwch yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid (Gan gynnwys yr hawl i gael diwylliant cyfoes yn eich hiaith ein hunain! ) Dyma’r unig ffordd i ‘achub’ yr SRG a’r diwylliant Cymraeg yn yr hir dymor. Tan i bethu newid rhaid trio cadw’r SRG yn fyw. Sut allwn wneud hyn? Drwy wrthod yr hunanoldeb y mae cyfalafiaeth yn ei feithrin yn ein cymdeithas a’r SRG!
Trefnwch partion a cherddoriaeth Cymraeg (Odd hipis Llanberis arfer mynd i’r chwareli, pam lai efo’r ha yn dod?) neu trefnwch disgo dydd i’r di-waith efo perfformwyr o’r SRG fel sydd bob mis yn Glanyrafon, Caerdydd. Ffans dechreuwch neud ffansins cerddorol a lledaenwch y gair dros Gymru, gadwech gopis mewn Llyfrgelloedd, Siopau Kebab.. Caffis…Does dim pwynt rhoi o i’ch ffrindiau cymraeg yn unig neu bydd pethau dal i gylchdroi yn yr un clique cymraeg caeedig. Geekiaid cyfrifiadurol uwchlwythwch yr holl gerddoriaeth cymraeg a fodolai ar y we rhywle i ni gael ei ddwyn o.
O ia, dylsai cerddoriaeth Cymraeg bod am ddim. Shock. Horror. Dydi o ddim yn beth newydd i pobol aberthu amser, amynedd ac arian dros yr iaith. Ystyriwch aberth ymgyrchwyr iaith yn y gorffenol. Mae canoedd o fobol wedi cael ac yn cael a ffeins ac amser yn y carchar dros yr iaith. Does dim lle i hunanoldeb mewn diwylliant lleafrifol neu fydd dim parhad iddi. Dydw i ddim yn erbyn y badiau cael digon o arian i gael offer a talu costau ond credaf fod wir angen pob artist uwchlwytho oleiaf un albym i fod am ddim ar y we fel mae Mr Huw wedi ei wneud. Fydd hyn yn golygu fydd mwy o fobol yn debygol o ddod i gigs yr artist ac yn prynnu eu albymau eraill. Dalltwch fod pobol ifanc eithaf sgint adydyn ni ddim am gymryd y risg o brynu albym a ninau heb ei chlywed hi (albyms Saesneg ar Spotify, cerddoriaeth mewn clybiau nos). Fydd uwchlwytho eich albyms am ddim ar y we yn rhoi hwb i’r sin a cael ffans newydd!
Ydwi’n mwydro a malu cachu? Be ydi’ch ateb chi i broblemau’r SRG?
Mwy o farnau ar sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru 10PM heno. Croeso i ti anfon erthygl i’r Twll gyda dy farnau dy hun, yn enwedig os ti’n gerddor.