Dylunio cloriau llyfrau Cymraeg: y da, y drwg ac yr hyll

Peidiwch â beirniadu llyfr yn ôl ei glawr, meddai rhai, ac mae’r cyngor yma yn bwysig iawn yn y Gymraeg oherwydd nifer y llyfrau gwych o dan gloriau gwael.

Does dim digon o drafodaeth am safon dylunio ar gyfer pethau Cymraeg yn gyffredinol, maes sydd mor hanfodol yn yr oes weledol hon.

Ar y naill law, mae pwyslais ar y gweledol yn ein sefydliadau, cyrff cyhoeddus a chyfryngau. Gellid siarad am y llinellau miniog, baneri pop-yp, ffeiliau PDF dwyieithog di-fai a defnydd didramgwydd a saff o Arial a Helvetica. Ond yn ogystal dylen ni ystyried y slicrwydd, Apple iPads ym mhob man, gwaith camera sy’n tynnu sylw at ei hun, ac ati. Mae ymdrech benodol i osgoi unrhyw awgrym o iaith leiafrifol, sydd yn dueddol o wneud i bethau ymddangos fel arall, fel paentio gormod o golur ar glaf.

Ar y llall, mae prinder o sylw i faterion gweledol o gwbl. Dw i wedi bod yn pendroni am y diffyg dylunio o safon ar gloriau llyfrau ac e-lyfrau. Efallai bod cyhoeddwyr yn ceisio cyfleu pa mor bwysig ydy’r testun ar draul delweddau, gwrth-ddyluniad o ryw fath?

Bwriad yr erthygl yma ydy herio’r diwydiant cyhoeddi i feddwl mwy am ddylunio gyda phwyslais penodol ar bethau cyfoes. Byddaf i’n canolbwyntio ar lyfrau Cymraeg er bod sawl achos o gloriau gwael ar lyfrau Saesneg o Gymru hefyd wrth gwrs. Yr unig cymhwyster sydd gyda fi, fel darllenwr cyffredin yn hytrach nag arbenigwr dylunio, ydy par o lygaid.

o-tyn-y-gorchudd-the_life_of_rebecca_jones-angharad-priceo-tyn-y-gorchudd-angharad-price-193Dyma nofel poblogaidd sydd wedi gael tri chlawr gwahanol – O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price.

Gellid dweud taw’r gwaith rhyddiaith yma oedd y gorau yn 2003. Yn syml, dim ond y fersiwn uniaith Saesneg trwy Maclehose Press sydd yn edrych fel llyfr sy’n ennill gwobrau ac sy’n cystadlu yn y farchnad llyfrau yn erbyn y gorau. Hynny yw, nid celfyddyd pur ydy dylunio – mae’n rhaid i ddyluniad clawr cyflawni amcanion masnachol yn ogystal â rhai celfyddydol, beth bynnag oedd y rhai celfyddydol yn y banana glas blewog o’r fersiwn cyntaf.

untitled

O ran dyluniad mae Gomer wedi gwella lot yn ddiweddar i fod yn deg. Un o’i llwyddiannau oedd Canllaw Bach: Caerdydd (2012) gan Lowri Haf Cooke gyda dyluniad a lluniau trawiadol trwy gydol y llyfr gan gwmni Departures.

canllaw-bach-caerdydd-lowri-haf-cooke

Dw i wedi pori’r catalog ac un enghraifft arall ymhlith nifer yn 2013 oedd yr un isod. Dydy llyfrau chwaraeon ddim yn gwthio ffiniau dylunio. Dyma pam mae’r clawr neis yma yn syndod, er bod e’n hollol lythrennol i’r teitl.

o-wembley-i-wembley-gareth-blainey

Mae’r teitl a dyluniad yn ein hatgoffa ni o gysyniad pwysig mewn Cymreictod: y daith anhygoel O Rywle i Rywle. Gweler hefyd: O Bowys i Batagonia, O Gwmgiedd i Bogota, O Afallon i Shangri La, O Lanrug i’r Gofod. Iawn, roedd yr un olaf yn ffug ond rydych chi’n deall y pwynt: yn gyffredinol O X i Y, lle’r X ydy pentref neu rywle gwledig a’r Y ydy rhywle egsotig annisgwyl. Treuliodd Gareth Blainey ei saith mlynedd cyntaf yn Wembley, chi’weld. Hefyd wrth gwrs mae’r testun yn edrych fel bwrdd sgôr.

Un arall ar Gomer yn 2013 oedd Ody’r Teid Yn Mynd Mas?. Dylai fe fod yn hollol generig ond mae cyfuniad hudol o ffont, tocio a llunwedd.

ody'r-teid-yn-mynd-mas-mair-garnon-james

O ran hunangofiannau, mae’n braf gweld bod cwmni Cardi yn fodlon gwario ar ddyluniad da. Wel, un ohonynt. Heb os nac oni bai, Y Lolfa yw’r cyhoeddwyr mwyaf cynhyrchiol o fywgraffiadau a hunangofiannau yn Gymraeg. Gydag ychydig mwy o ymdrech, gallen nhw gwerthu llyfrau i mwy o bobl, tu hwnt i’r rai sydd yn nabod yr awdur neu wrthrych eisoes.

Comisynu mewnol ydy’r gwendid yma. Mae Robat Gruffudd yn arloeswr cyhoeddi sydd wedi llwyddo mewn sawl ffordd yn y maes ond dyw dylunio ddim yn un ohonynt. Ond ble mae diffyg yn yr ansawdd mae cynhyrchedd. Ar ddisg caled Robat G mae templed sydd yn edrych fel:

y-dyn-fenyw-ei-hyn-y-lolfa

Yn sicr, gall llyfr sydd ddim hyd yn oed yn fywgraffiad go iawn edrych fel un pan mae’n dod mas o beiriant sosej dylunio Y Lolfa. Maent yn cynnwys campwaith fel Bydoedd (2010) gan Ned Thomas yn ogystal â Pygiana ac Obsesiynau Eraill (2013) gan Mihangel Morgan. Yn yr achos Bydoedd mae’r diffyg uchelgais yn achosi cyfaddawd ar ansawdd y cynnyrch yn anffodus. Mae Pygiana yn derbyniol ac mae’r anifail yn y cefndir yn sgorio pwyntiau ond mae’r hen dempled wedi blino’n rhacs.

bydoedd-ned-thomas

pygiana-ac-obsesiynau-eraill-mihangel-morgan

Beth sy’n dweud y cyfan ydy’r ffaith bod y cwmni yn penodi arbenigwr i ddylunio clawr ar gyfer llyfr fel Afallon (2012) gan Robat Gruffudd ei hun. Huw Aaron oedd y dylunydd talentog yn yr achos hwn.

afallon-robat-gruffydd

cig-a-gwaed-dewi-prysor

Un o uchafbwyntiau dylunio yn hanes diweddar y cwmni oedd y clawr gan Rhys Aneurin ar gyfer y nofel Cig a Gwaed (diwedd 2012) gan Dewi Prysor.

Yn ôl yn y 60au roedd yr artist ifanc Elwyn Ioan yn cyfrifol am arddull nodweddiadol Y Lolfa trwy adlewyrchu a hybu’r zeitgeist radicalaidd a heriol y cyfnod. Mae’n bryd i’r Lolfa rhoi mwy o gyfleoedd i artistiaid sydd yn gallu etifeddu ei enw da. Camwch I Ffwrdd O’r Llygoden Mistar Gruffudd.

Yn y diwydiant, mae agweddau cymysg at lyfrau barddoniaeth.

profiadau-inter-galactig-gwyn-thomas

Er bod ‘na ffont amheus o debyg i Helvetica blinedig mae gwaith celf gwreiddiol ar Profiadau Inter Galactig gan Gwyn Thomas trwy Barddas yn llwyddo i fod yn atyniadol ac i adael rhywbeth i ddychymyg y darllenwr.

cerbyd-cydwybod-geraint-jarman

Roedd Gomer yn weddol aflwyddiannus gyda Cerbyd Cydwybod (2012) gan Geraint Jarman, clawr sy’n edrych fel y dylunio corfforaethol slic o’n i’n sôn amdano fe uchod. Does dim byd rong gyda fe, rydym ni jyst wedi gweld y math yma o beth o’r blaen. Byddai’r clawr yma yn wych pe tasai fe ar ryw adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft. Neu’r Comisiynydd y Gymraeg neu rywbeth. Ar ei phen ei hun, mewn cwch.

cyfansoddiadau-a-beirniadaethau-2013

Trown at un o’r dyluniadau mwyaf siomedig ar ddydd Gwener poeth ym mis Awst. Teitl y llyfr wrth gwrs ydy Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ac enw y cyhoeddwr ydy Llys Eisteddfod Genedlaethol Cymru er bod Gomer yn argraffu.

Mae rhesymau i fod yn ddiolchgar. Mae’r gair ‘frenhinol’ a logo HSBC wedi mynd. Dyw e ddim yn edrych fel Canllaw Blynyddol ar Safonau Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle rhagor.

Ond mae’r un clawr wedi bod ers naw mlynedd bellach, yr unig gwahaniaeth rhyngddynt ydy’r lliwiau:

cyfansoddiadau-a-beirniadaethau-bonanza

Pwy sy’n penderfynu bod rhai o’r uchafbwyntiau diwylliannol ein cenedl yn haeddu dim ond saith eiliad o waith dylunio ychwanegol bob blwyddyn? Yn Llanelli eleni rydym ni’n gobeithio bod nhw yn gallu torri’r traddodiad. Mae sawl posibiliad. Cymerwch siawns i glodfori artist neu ffotograffydd o’r ardal efallai. Dyna ni, mae cyd-weithrediad newydd rhwng artist gweledol a llenorion. Hei, chi’n gwybod be’, ar ochrau’r llyfrau gellid adeiladu llun arall darn-wrth-ddarn dros y blynyddoedd. Gyda llaw dw i newydd ddysgu term: meingefn. Creuwch lun gyda’r meingefnau.

mab-y-mynydd-j-cyril-hughes

Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyfrifol am rai o’r gweithiau mwyaf lliwgar yn y maes dylunio cloriau. Mae llawer ohonynt yn cynnwys rhywbeth fel Micr*s*ft WordArt a sawl trosedd difrifol yn erbyn chwaeth. Mae arddangosyn 1845274695 yn cynnig hen ddyn gyda phentwr o luniau ar ei arffed. Er dydw i ddim wedi darllen y cynnwys dw i’n siwr bod J. Cyril Hughes yn haeddu clawr gwell. Dw i newydd ffeindio blyrb bach gan Lyn Ebenezer am y dyn a’i lyfr Mab y Mynydd: ‘Twyll yw’r darlun allanol ohono fel gŵr llonydd a bodlon. Gydol ei fywyd bu’n brwydro yn erbyn annhegwch, yn rhyw lefain aflonydd yn y blawd cenedlaethol a chymdeithasol. Ag yntau’n dal yn grwt ysgol, arweiniodd brotest yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu tir uwchben Tregaron…’ Yn wreiddiol doedd dim diddordeb gyda fi ar sail y clawr ond a dweud y gwir dw i’n awyddus i ddarllen y llyfr yma. Mae J. Cyril yn swnio fel lej ac hanner ac mae Lyn yn cytuno gyda fi bod y clawr yn anaddas.

pa-beth-yr-aethoch-allan-i'w-achub-amlgyfranog

Mewn pig y Gwalch eleni roedd llyfr amlgyfranog Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? sy’n profi eu bod nhw yn gallu penodi rhywun sy’n gwybod ei ffordd o gwmpas PhotoShop wedi’r cyfan, sef Rhys Llwyd.

y-blaid-ffasgaidd-yng-nghymru-richard-wyn-jones

Edrychwn at ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’ trwy Wasg Prifysgol Cymru i orffen. Mewn gwirionedd doedd Plaid Cymru ddim yn ffasgaidd yn y dyddiau cynnar. Sori am y sboilyr. Mae’r holl beth yn addo rhywbeth sydd ddim actiwli yn broblem, fel pennawd Golwg360 gyda marc cwestiwn ar y diwedd. Yr atalnodiad pwysig yma ydy’r dyfynodau bach mewn gwyrdd, pa liw arall. Mae’r dylunydd wedi cael hwyl gyda fersiwn tywyll o hen logo’r Blaid, yr un gyda’r coed bytholwyrdd. Dyma enghraifft perffaith o beth sy’n bosib mewn prynhawn gyda syniad da.

19 sylw ar “Dylunio cloriau llyfrau Cymraeg: y da, y drwg ac yr hyll”

  1. Erthygl diddorol iawn sy’n gwyntyllu llawer o bwyntiau sydd wedi ffrwtian yn fy meddwl ers blynyddoedd.Tydi’r amharodrwydd i ‘wario’ ar ddylunio ddim yn esgus am y catalog o ddyluniadau gwael di feddwl sydd yn hel llwch ar silffoedd y genedl. Symptom o’r agwedd ‘neith hwnna’r tro’ efallai sy’n rhemp mewn rhai meysydd Cymraeg? Neu efallai nad ydi’r ‘Rhai Sy’n Penderfyny’ yn gwybod beth ydi dylunio da safonol. Er ein bod yn genedl fach tydi hynny ddim yn esgus am yr agwedd amaturaidd bron sydd yn amlygu ei hun ar gloriau llyfrau, cds, dvds ayyb ayyb.

  2. Dwi (a sawl un arall mae’n siwr) wedi bod yn meddwl am yr un peth ers sbel.
    Ro’n i o’r farn bod cynydd aruthrol wedi bod yn y blynyddoedd diweddar yn nyluniad cloriau llyfrau gan Y Lolfa a Gomer, ond rwyt wedi amlygu’r anghysonderau sy’n bodoli rhwng un llyfr a’r llall. Beth sydd wedi fy synnu i ydy pa mor arbennig ydy cloriau nofelau Barddas (hoff iawn o symlrwydd cloriau Petrograd a Paris) a Gwasg Gwynedd (e.e. Ar Drywydd y Duwiau) – am ryw reswm baswn i wedi disgwyl i gloriau cyhoeddwyr llai fod yn salach.

    Petai gen i’r amser (dyma ni’n mynd…), byddain cŵl creu blog/Tumblr o gloriai llyfrau gan tagio neu gyda enwau’r artist, yr arlunydd fel gall y cyhoedd weld pwy sydd orau/waethaf!

    Gyda llaw, mae modd gweld llawer o gloriau llyfrau Cymraeg mewn un man yma fel rhan o Wicibrosiect Llyfrau Gwales

  3. Mae hwn yn flogiad diddorol, diolch am ei rannu.

    Rwy’n credu bod y blogiad yn anwybyddu un peth serch hynny sef y cyfrifoldeb ar yr awdur i sicrhau bod clawr ei nofel yn un da. Roedd gen i lot o fewnbwn creadigol i gloriau fy nofelau i – wnes i anfon nifer o esiamplau o’r math o bethau oedd gen i mewn golwg at y dylunwyr, a wnes i wrthod ambell i syniad nad oeddwn i’n eu hoffi, ac yna dewis fy ffefryn o’r gwahanol gloriau a gynhyrchwyd ar fy nghyfer i. Dydw i ddim yn siwr ai lle y cyhoeddwyr yw mynnu ar un clawr neu’r llall, ond proses greadigol rhwng yr awdur a’r dylunwyr.

    Rydw i wedi cael yr union yr un profiad yn newyddiadurwr. Os ydw i’n haslo’r dylunwyr mae nhw’n tueddu i gopi eu gem a cynhyrchu rywbeth ychydig yn fwy creadigol!

    Roedd gen i glawr mewn golwg ar gyfer fy nofel nesaf cyn decxhrau ei hysgrifennu hi. 😛

  4. Diolch am erthygl ddifyr iawn Carl, ac am dy sylwadau caredig am fy nghyfrol.

    Y gwir amdani ydy, pan ges i gomisiwn i sgrifennu’r gyfrol, penderfynais dderbyn ar yr amod fod yn rhaid i’r dylunio, y graffeg a’r ffotograffiaeth fod o’r safon orau posib – yn wir, roeddwn i’n awyddus fod y gyfrol yn datgan uchelgais newydd yn y byd cyhoeddi yn y Gymraeg. Nid cyfrol fyddai hon gyda ffotograff o Stadiwm y Mileniwm ar ei blaen – ond byddai’n braf pe bai’r clawr yn medru cyfathrebu neges o hyder gweledol Cymreig.

    Dwi’n crinjo erbyn hyn wrth ystyried pa mor ryfygus yr oeddwn ar achlysur fy nghomisiwn cyntaf ac, yn naturiol, ro’n i’n llwyr ymwybodol mai’r cynnwys oedd yr elfen bwysicaf. Ond dwi’n falch i mi flaenoriaethu hyn yn y trafodaethau cynnar, oherwydd bu’r wasg (Gomer) yn agored iawn i fy angerdd amatur i, a cawsom drafodaethau difyr iawn.

    Cyfaddefais o’r cychwyn nad dylunydd mohonof, ond fod gen i syniadau cryfion, ac felly ymchwiliais yn drwyadl i’r maes. Gyda phob parch i’r dylunwyr yng ngwasg Gomer yn Llandysul- a thu hwnt – sy’n cynhyrchu gwaith gwych rwy’n edmygu’n fawr, teimlais yn reddfol fod yn rhaid cael cwmni o Gaerdydd, a chwmni oedd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg i gynnig dehongliad wahanol o’r ddinas oedd yn asio â ngweledigaeth i.

    Yn dilyn fy nghyfarfod cyntaf gydag Aled Philips o gwmni Departures ar Stryd Bute lawr y Bae – cwmni a greodd argraff fawr arnaf dros y blynyddoedd diolch i’w gwaith gwreiddiol, cyfoes, i’r Theatr Genedlaethol ac S4C – ro’n i’n bendant mod i wedi ffeindio’r cwmni perffaith; synhwyrais o’r cychwyn, diolch i’w cyfeiriadau rhyngwladol, eu bod nhw ar union yr un donfedd â mi.

    Nid fi awgrymodd y teitl, ond deallais i – ac Aled – o’r cychwyn mai’r cyntaf o gyfres o deithlyfrau ledled Cymru fyddai ‘Canllaw Bach: Caerdydd’ ac felly aethpwyd ati i gynnig cyfres o syniadau fyddai’n adlewyrchu’r syniad fod hon yn gyfres casgliadwy, cyfoes, ond cwbl Gymreig. Dwi’n credu fod e’n dweud cyfrolau, gyda llaw, na chomisiynwyd y gyfrol hon yn yr iaith Saesneg.

    Mae’n ddifyr i ti gyfeirio Carl at y Cyfansoddiadau cyfoes, oherwydd es i â phentwr o’r Cyfansoddiadau streipiog, amryliw, eiconig a gyhoeddwyd (gan wasg Gomer) rhwng y 1970au-1980au, i fewn i’r cyfarfod cyntaf hwnnw fel enghraifft o gynllun llwyddianus, wnaeth fy mesmereiddio i fel plentyn bach , ac sy’n dal i roi pleser mawr gweledol i mi, i gyd gyda’i gilydd, ar silff fy fflat ym Mharc y Rhath.

    Pan gynigodd Aled gyfres amryliw o gloriau yn seiliedig ar garthenni Cymreig (ar gyfer trefi gwahanol o Gymru), ro’n i’n gwybod yn sicr mai Departures oedd y cwmni i mi, a gallwn ymlacio a chanolbwyntio’n llwyr ar ymchwilio a sgrifennu’r gyfrol a gadael y gwaith dylunio i’r arbenigwyr yn eu maes.

  5. Mae hwn yn gofnod gwych Carl. Yn enwedig y darn am demplad blinedig Y Lolfa.

    Un peth nad yw’n helpu yw’r ffaith bod llawer iawn gormod o hunangofiannau diflas yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg. Dim ond hyn a hyn o gloriau posibl sydd yna ar gyfer llyfrau gan weinidogion/ffermwyr/milfeddygon/dynion llefrith/hoelion wyth Merched Y Wawr, felly pan mae un arall eto fyth yn rowlio oddi ar y production line gallaf gydymdeimlo gyda’r dylunwyr.

  6. Carl – erthygl dda iawn a difyr.

    Ond rhaid anghytuno ‘da ti am glawr ‘Y Blaid Ffasgaidd…’. Mae’n glawr sâl iawn.

    Y gwyrdd a coch ar ddu yn torri rheol tincture Humphrey Llwyd http://en.wikipedia.org/wiki/Rule_of_tincture ‘ni ddylid rhoi metal ar fetal na lliw ar liw’ – anodd i’r ddarllen a’i weld. Mae’n glawr anatyniadol, anodd darllen y geiriau, amhobsibl i berson sy’n lliw ddall ei ddarllen a ffyslyd. Sy’n biti mawr iawn gan ei fod yn lyfr hynod o ddiddorol a phwysig. Baswn i wedi rhoi llun o bobl arno gan mai sôn am bobl mae politics.

    I ychwanegu, fy rheol gyda rhoi ffotos o bobl ar y clawr yw hyn – dim coesau! Byth angen gweld o dan y bogel – neu’r frest â dweud y gwir. Mae llun llawn o berson yn golygu nad yw’r wyneb yn glir, a wir, dydy coesau na sgidiau (na slacs beige!) byth yn arbennig o ddiddorol.

  7. “Un peth nad yw’n helpu yw’r ffaith bod llawer iawn gormod o hunangofiannau diflas yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg.”

    Yn anffodus os wyt ti’n edrych ar y ffigyrau gwerthiant rhain sy’n tueddi i wneud orau – llawer gwell na ryw gyfrolau ffuglenol!

    Er diddordeb dwi’n credu mai rhywun o’r Cyngor Llyfrau sy’n gyfrifol am y cloriau yn hytrach na’r gweisg unigol, ond efallai bod hynny wedi newid erbyn hyn.

  8. Braf iawn gweld y drafodaeth yma ar gloriau llyfrau Cymraeg. Hen bryd.

    Sai’n cytuno a rhai o’r asesiadau (e.e. ddim yn credu fod “Canllaw Bach Caerdydd” na “Pa beth yr aethoch allan i’w achub?” yn gweithio’n dda fel cloriau masnachol). Ond gan eich bod yn cynnwys ymosodiad hollol bersonol arna i, ga i nodi NAD fi sy’n gyfrifol am gloriau Cymraeg Y Lolfa y dyddiau hyn. Mae’r ddau glawr dwetha wnes i yn rhai Saesneg (“Dylan Thomas: The Pubs”, a “Looking for Wales”). Gallwch fynd i wefan Y Lolfa (www.ylolfa.com) a barnu drosoch eich hunain ydi’r cloriau hyn yn rhai trist sy’n dilyn templed parod.

    Gyda llaw, a son am hyn, y brigwerthwr y llynedd yn Lloegr oedd hunangofiant Alex Ferguson. Fel cloriau llyfrau coginio Nigella, mae’n hollol syml: llun da, enw’r awdur, yna teitl. Y dylunio gorau wastad yw’r dylunio chi ddim yn sylwi arno.

  9. Difyr iawn. Dwi di cyhoeddi 6 llyfr nawr gyda thri cyhoeddwr Cymraeg ac mewn achos o 4 allan o 6 bu’n rhaid i mi strancio i gael clawr addas ac nid hunllef word-artaidd gyda lluniau stoc a ffontiau erchyll. Mae clawr yn bwysig iawn – y peth sy’n gwerthu ac yn adlewyrchu cynnwys y llyfr. Mae angen defnyddio dylunwyr o safon a mwy o ddarlunwyr talentog hefyd.

  10. Erthygl ddifyr Carl a diolch am y plyg i ngwefan i. Er gwybodaeth, ni ddefnyddiwyd photoshop o gwbl wrth greu clawr ‘Pa beth…’ i Carreg Gwalch. Paentiwyd y slogan ar leoliad yna tynnais lun trawiadol (ar Fuji X100 gyda llaw, oedd detail y Raw files yn gweithio’n well na beth ddaeth allan o’r Canon 7D y diwrnod hwnnw) yna cysodi syml yn InDesign. Awduron y llyfr ei hun wnaeth ddod i fyny a chyfarwyddo gwaith celf y clawr a fi’n eu “galluogi” megis.

    Dwi’n cytuno fod llawer o gloriau Cymraeg o safon isel iawn yn arbennig rhai nad sy’n derbyn grant Cyngor Llyfrau. Dwi’n gyfrifol am sawl erchyllbeth fy hun, ond mewn amddiffyniad mae fy nghloriau gwaethaf yn wael oherwydd fod y wasg (na enwaf yma!) dim ond wedi caniatâu awr (os hynny!) i weithio ar y clawr. Time=money=you get what you pay for yn y diwedd. Ar y llaw arall byddai clawr fel ‘Pa beth…’ wedi cymryd sawl diwrnod o waith rhwng datblygu’r syniad, tynnu lluniau ar leoliad ac wedyn y cysodi.

    Mae gan bod dylunydd/cysodydd ei gryfderau a’u wendidau. Fy nghryfder i yw mod i hefyd yn gallu darparu’r deunydd crai ffotograffyddol. Fy ngwendid yw mod i ddim yn ‘artist’ all greu deunydd crai megis drawings i’w troi yn vectors neu beth bynnag. O ganlyniad dwi’n cynghori cleientiaid yn syth i fynd at rhywun arall os ydw i’n gwybod nad yw’r sgil gen i i wireddu eu gweledigaeth/briff. Hynny yn bwysig.

  11. Rhaid i mi gytuno â Robat am glawr Canllaw Bach Caerdydd – mae ychydig fel clawr adroddiad, tydi’r patrwm ‘carthen Gymreig’ ddim yn cydfynd â Chaerdydd (YNFI) ac ydy hnw yn arddull y gelli’r ei ailadrodd/addasu ar gyfer cyfres o dywyslyfrau tebyg am leoliadau eraill.

    Wedi dweud hynny, mae’r dyluniad o fewn y llyfr yn hyfryd iawn.

  12. Diolch i bawb am y drafodaeth hyd yn hyn.

    Robat, os dych chi’n ystyried yr hyn a sgwennais i fel ‘ymosodiad’ dylech chi edrych at dabloid rhywiaethol blynyddol Cymraeg o’r enw LOL.

  13. Waw! Trafodaeth wrthrychol, ffraeth a iach yn y Gymraeg! Anhygoel!

    Erthygl wych a diddorol iawn, Carl.

    Cytuno ac anghytuno efo rhai pwyntiau, ond yr unig beth sgenai i ychwanegu ydi mai’r drosedd waethaf yn erbyn dyluniad cloriau Cymraeg ydi’r sticeri ‘Rhestr Fer/Enillydd Llyfr y Flwyddyn’ hynny mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn eu defnyddio ers 3 neu 4 blynedd, bellach. Mae’r syniad yn iawn, wrth gwrs. Ond heb wydr chwyddo i ddarllen y blyrb mae o’n edrych fel twll mawr gwag sy’n anharddu’r ddelwedd drawiadol y mae’r awdur, arlunydd a dylunydd wedi gweithio’n brysur i’w greu. Byddai sticer ‘Reduced’ yn gweithio’n well, dwi’n meddwl! 🙂

  14. Mae yna lwyth o ddylunwyr gwych yng Nghymru sydd yn yn cael eu hanwybyddu, mae’r artistiaid a dylunwyr sydd yn cael gwith fel arall fewn yn y ‘Pethe’ drwy rhyw ffordd arall yn gyntaf, boi Rhys na er engrhaifft sydd yn yr Ods. Basa nhw yn gwbod amdana fo tasa fo ddim yn adnabyddus fel cerddor? Dim i ddweud dim am ei waith (ma steil fo yn ddiddorol) ond dydi o ddim yn deg braidd bod rhywyn sydd yn adnabyddus yn cael mantais fel na.

    Be am Mererid Haf? Nader Khobodi? Elen Mai Wyn Jones? Jaqueline Jones? Lembo? Allai fynd ‘mlaen os chi isho… A’r pobol yma ydi’r rhei dwi di dod ar draws fel aelod o’r cyhoedd!!

    Erthygl diddorol. Ma dyluniadau diflas yn gwneud hi’n hawsach fyth i bobl gorgyffredinoli a meddwl bod y cynnwys yn ddiflas. Ychydig o ymchwil a ma na lwyth o artistiaid ifanc yn ysu am waith. Jest sbiwch ar tudalen Mererid, pam bod neb wedi cymryd mantais o talent felma yng Nghymru? https://www.facebook.com/celfmererid?fref=ts

  15. @Heli
    Haia.
    Y fi ddewisodd “y boi Rhys na…sydd yn yr Ods” i wneud y gwaith celf i glawr fy nofel ddiwethaf, ‘Cig a Gwaed.’ Rhys Aneurin ydi ei enw, ac ydi, mae o’n digwydd bod yn aelod o’r Ods (sydd hardli yn fand y “pethe” na’r sefydliad, gyda llaw – ddim mwy nag ydw inna!).

    Nes i ddim dewis Rhys oherwydd fod o’n aelod o fand – mwy na faswn i’n ei ddewis o ar sail unrhyw dalent arall sydd ganddo. Wedi’r cwbwl, os fyswn i isio i rywun drwsio fy nghar fyswn i ddim yn gofyn i saer coed.

    Nes i ofyn iddo yn ystod sgwrs mewn bar, wedi iddo sôn am ei waith, ac roeddwn yn hapus i ofyn iddo am fy mod i isio cefnogi talent ifanc newydd (dwi’n meddwl mai hwn oedd ei glawr cyntaf, os nad ei ‘gomisiwn’ cyntaf), ac am ei fod o’n foi dymunol a dibynadwy, a phroffesiynol ei agwedd. Mi weithiodd pethau’n wych, a chrewyd clawr trawiadol iawn ganddo.

    Mae cefnogi talentau newydd yn sicr yn bendant, fel wyt yn ddeud, a diolch i ti am dynnu sylw at nifer ohonyn nhw yn dy sylwad.

  16. Yn cytuno bod gormod o gyfrolau yn arddel teitlau yn arddull “O X i Y”. Mae’n dangos diffyg dychymyg, a dweud y lleiaf, ac yn awgrymu bod y llyfr yn ymdrybaeddu mewn rhyw ddelwedd o’r werin datws dlawd yn brwydro i godi o’u gwreiddiau llwm i ryw uchelfannau gwell yn unrhyw le arall ond y lle daethon nhw ohono. Bach o asgwrn cefn a hunan hyder yn ein gwreiddiau sydd ei angen, heb rhyw falu awyr bod naill ai “X” na “Y” yn rhyw nefoedd delfrydol.

Mae'r sylwadau wedi cau.