Cartŵn gan Rhys Aneurin
Tag: Rhys Aneurin
Dylunio cloriau llyfrau Cymraeg: y da, y drwg ac yr hyll
Peidiwch â beirniadu llyfr yn ôl ei glawr, meddai rhai, ac mae’r cyngor yma yn bwysig iawn yn y Gymraeg oherwydd nifer y llyfrau gwych o dan gloriau gwael.
Does dim digon o drafodaeth am safon dylunio ar gyfer pethau Cymraeg yn gyffredinol, maes sydd mor hanfodol yn yr oes weledol hon.
Ar y naill law, mae pwyslais ar y gweledol yn ein sefydliadau, cyrff cyhoeddus a chyfryngau. Gellid siarad am y llinellau miniog, baneri pop-yp, ffeiliau PDF dwyieithog di-fai a defnydd didramgwydd a saff o Arial a Helvetica. Ond yn ogystal dylen ni ystyried y slicrwydd, Apple iPads ym mhob man, gwaith camera sy’n tynnu sylw at ei hun, ac ati. Mae ymdrech benodol i osgoi unrhyw awgrym o iaith leiafrifol, sydd yn dueddol o wneud i bethau ymddangos fel arall, fel paentio gormod o golur ar glaf.
Ar y llall, mae prinder o sylw i faterion gweledol o gwbl. Dw i wedi bod yn pendroni am y diffyg dylunio o safon ar gloriau llyfrau ac e-lyfrau. Efallai bod cyhoeddwyr yn ceisio cyfleu pa mor bwysig ydy’r testun ar draul delweddau, gwrth-ddyluniad o ryw fath?
Bwriad yr erthygl yma ydy herio’r diwydiant cyhoeddi i feddwl mwy am ddylunio gyda phwyslais penodol ar bethau cyfoes. Byddaf i’n canolbwyntio ar lyfrau Cymraeg er bod sawl achos o gloriau gwael ar lyfrau Saesneg o Gymru hefyd wrth gwrs. Yr unig cymhwyster sydd gyda fi, fel darllenwr cyffredin yn hytrach nag arbenigwr dylunio, ydy par o lygaid.
Dyma nofel poblogaidd sydd wedi gael tri chlawr gwahanol – O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price.
Gellid dweud taw’r gwaith rhyddiaith yma oedd y gorau yn 2003. Yn syml, dim ond y fersiwn uniaith Saesneg trwy MacLehose Press sydd yn edrych fel llyfr sy’n ennill gwobrau ac sy’n cystadlu yn y farchnad llyfrau yn erbyn y gorau. Hynny yw, nid celfyddyd pur ydy dylunio – mae’n rhaid i ddyluniad clawr cyflawni amcanion masnachol yn ogystal â rhai celfyddydol, beth bynnag oedd y rhai celfyddydol yn y banana glas blewog o’r fersiwn cyntaf.
O ran dyluniad mae Gomer wedi gwella lot yn ddiweddar i fod yn deg. Un o’i llwyddiannau oedd Canllaw Bach: Caerdydd (2012) gan Lowri Haf Cooke gyda dyluniad a lluniau trawiadol trwy gydol y llyfr gan gwmni Departures.
Dw i wedi pori’r catalog ac un enghraifft arall ymhlith nifer yn 2013 oedd yr un isod. Dydy llyfrau chwaraeon ddim yn gwthio ffiniau dylunio. Dyma pam mae’r clawr neis yma yn syndod, er bod e’n hollol lythrennol i’r teitl.
Mae’r teitl a dyluniad yn ein hatgoffa ni o gysyniad pwysig mewn Cymreictod: y daith anhygoel O Rywle i Rywle. Gweler hefyd: O Bowys i Batagonia, O Gwmgiedd i Bogota, O Afallon i Shangri La, O Lanrug i’r Gofod. Iawn, roedd yr un olaf yn ffug ond rydych chi’n deall y pwynt: yn gyffredinol O X i Y, lle’r X ydy pentref neu rywle gwledig a’r Y ydy rhywle egsotig annisgwyl. Treuliodd Gareth Blainey ei saith mlynedd cyntaf yn Wembley, chi’weld. Hefyd wrth gwrs mae’r testun yn edrych fel bwrdd sgôr.
Un arall ar Gomer yn 2013 oedd Ody’r Teid Yn Mynd Mas?. Dylai fe fod yn hollol generig ond mae cyfuniad hudol o ffont, tocio a llunwedd.
O ran hunangofiannau, mae’n braf gweld bod cwmni Cardi yn fodlon gwario ar ddyluniad da. Wel, un ohonynt. Heb os nac oni bai, Y Lolfa yw’r cyhoeddwyr mwyaf cynhyrchiol o fywgraffiadau a hunangofiannau yn Gymraeg. Gydag ychydig mwy o ymdrech, gallen nhw gwerthu llyfrau i mwy o bobl, tu hwnt i’r rai sydd yn nabod yr awdur neu wrthrych eisoes.
Comisynu mewnol ydy’r gwendid yma. Mae Robat Gruffudd yn arloeswr cyhoeddi sydd wedi llwyddo mewn sawl ffordd yn y maes ond dyw dylunio ddim yn un ohonynt. Ond ble mae diffyg yn yr ansawdd mae cynhyrchedd. Ar ddisg caled Robat G mae templed sydd yn edrych fel:
Yn sicr, gall llyfr sydd ddim hyd yn oed yn fywgraffiad go iawn edrych fel un pan mae’n dod mas o beiriant sosej dylunio Y Lolfa. Maent yn cynnwys campwaith fel Bydoedd (2010) gan Ned Thomas yn ogystal â Pygiana ac Obsesiynau Eraill (2013) gan Mihangel Morgan. Yn yr achos Bydoedd mae’r diffyg uchelgais yn achosi cyfaddawd ar ansawdd y cynnyrch yn anffodus. Mae Pygiana yn derbyniol ac mae’r anifail yn y cefndir yn sgorio pwyntiau ond mae’r hen dempled wedi blino’n rhacs.
Beth sy’n dweud y cyfan ydy’r ffaith bod y cwmni yn penodi arbenigwr i ddylunio clawr ar gyfer llyfr fel Afallon (2012) gan Robat Gruffudd ei hun. Huw Aaron oedd y dylunydd talentog yn yr achos hwn.
Un o uchafbwyntiau dylunio yn hanes diweddar y cwmni oedd y clawr gan Rhys Aneurin ar gyfer y nofel Cig a Gwaed (diwedd 2012) gan Dewi Prysor.
Yn ôl yn y 60au roedd yr artist ifanc Elwyn Ioan yn cyfrifol am arddull nodweddiadol Y Lolfa trwy adlewyrchu a hybu’r zeitgeist radicalaidd a heriol y cyfnod. Mae’n bryd i’r Lolfa rhoi mwy o gyfleoedd i artistiaid sydd yn gallu etifeddu ei enw da. Camwch I Ffwrdd O’r Llygoden Mistar Gruffudd.
Yn y diwydiant, mae agweddau cymysg at lyfrau barddoniaeth.
Er bod ‘na ffont amheus o debyg i Helvetica blinedig mae gwaith celf gwreiddiol ar Profiadau Inter Galactig gan Gwyn Thomas trwy Barddas yn llwyddo i fod yn atyniadol ac i adael rhywbeth i ddychymyg y darllenwr.
Roedd Gomer yn weddol aflwyddiannus gyda Cerbyd Cydwybod (2012) gan Geraint Jarman, clawr sy’n edrych fel y dylunio corfforaethol slic o’n i’n sôn amdano fe uchod. Does dim byd rong gyda fe, rydym ni jyst wedi gweld y math yma o beth o’r blaen. Byddai’r clawr yma yn wych pe tasai fe ar ryw adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft. Neu’r Comisiynydd y Gymraeg neu rywbeth. Ar ei phen ei hun, mewn cwch.
Trown at un o’r dyluniadau mwyaf siomedig ar ddydd Gwener poeth ym mis Awst. Teitl y llyfr wrth gwrs ydy Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ac enw y cyhoeddwr ydy Llys Eisteddfod Genedlaethol Cymru er bod Gomer yn argraffu.
Mae rhesymau i fod yn ddiolchgar. Mae’r gair ‘frenhinol’ a logo HSBC wedi mynd. Dyw e ddim yn edrych fel Canllaw Blynyddol ar Safonau Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle rhagor.
Ond mae’r un clawr wedi bod ers naw mlynedd bellach, yr unig gwahaniaeth rhyngddynt ydy’r lliwiau:
Pwy sy’n penderfynu bod rhai o’r uchafbwyntiau diwylliannol ein cenedl yn haeddu dim ond saith eiliad o waith dylunio ychwanegol bob blwyddyn? Yn Llanelli eleni rydym ni’n gobeithio bod nhw yn gallu torri’r traddodiad. Mae sawl posibiliad. Cymerwch siawns i glodfori artist neu ffotograffydd o’r ardal efallai. Dyna ni, mae cyd-weithrediad newydd rhwng artist gweledol a llenorion. Hei, chi’n gwybod be’, ar ochrau’r llyfrau gellid adeiladu llun arall darn-wrth-ddarn dros y blynyddoedd. Gyda llaw dw i newydd ddysgu term: meingefn. Creuwch lun gyda’r meingefnau.
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyfrifol am rai o’r gweithiau mwyaf lliwgar yn y maes dylunio cloriau. Mae llawer ohonynt yn cynnwys rhywbeth fel Micr*s*ft WordArt a sawl trosedd difrifol yn erbyn chwaeth. Mae arddangosyn 1845274695 yn cynnig hen ddyn gyda phentwr o luniau ar ei arffed. Er dydw i ddim wedi darllen y cynnwys dw i’n siwr bod J. Cyril Hughes yn haeddu clawr gwell. Dw i newydd ffeindio blyrb bach gan Lyn Ebenezer am y dyn a’i lyfr Mab y Mynydd: ‘Twyll yw’r darlun allanol ohono fel gŵr llonydd a bodlon. Gydol ei fywyd bu’n brwydro yn erbyn annhegwch, yn rhyw lefain aflonydd yn y blawd cenedlaethol a chymdeithasol. Ag yntau’n dal yn grwt ysgol, arweiniodd brotest yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu tir uwchben Tregaron…’ Yn wreiddiol doedd dim diddordeb gyda fi ar sail y clawr ond a dweud y gwir dw i’n awyddus i ddarllen y llyfr yma. Mae J. Cyril yn swnio fel lej ac hanner ac mae Lyn yn cytuno gyda fi bod y clawr yn anaddas.
Mewn pig y Gwalch eleni roedd llyfr amlgyfranog Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? sy’n profi eu bod nhw yn gallu penodi rhywun sy’n gwybod ei ffordd o gwmpas PhotoShop wedi’r cyfan, sef Rhys Llwyd.
Edrychwn at ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’ trwy Wasg Prifysgol Cymru i orffen. Mewn gwirionedd doedd Plaid Cymru ddim yn ffasgaidd yn y dyddiau cynnar. Sori am y sboilyr. Mae’r holl beth yn addo rhywbeth sydd ddim actiwli yn broblem, fel pennawd Golwg360 gyda marc cwestiwn ar y diwedd. Yr atalnodiad pwysig yma ydy’r dyfynodau bach mewn gwyrdd, pa liw arall. Mae’r dylunydd wedi cael hwyl gyda fersiwn tywyll o hen logo’r Blaid, yr un gyda’r coed bytholwyrdd. Dyma enghraifft perffaith o beth sy’n bosib mewn prynhawn gyda syniad da.