Mae gwefan Y Twll yn saith mlwydd oed heddiw.

Mae gwefan Y Twll wedi parhau am saith mlynedd o ddiwylliannau, celf, cerddoriaeth, ffilm, gwleidyddiaeth a threigladau ansafonol.

Dw i’n dal i chwilio am ragor o gyfraniadau gyda llaw. Cysylltwch ar unwaith. Yn ogystal ag, o bosib, diod am ddim fe gewch chi’n fraint o fynegi safbwynt tu fas i unrhyw gydberthynas rhwng arian cyhoeddus a gwerthoedd golygyddol. Ac mae hynny yn edrych yn grêt ar unrhyw CV.

Diolch o galon am unrhyw gefnogaeth. Fe flogiwn ni eto.

Gruff Rhys: pleidleisiwch UE

Meddai Gruff Rhys ar ei flog:

Cofrestrwch i bleidleisio!

Wele gân serchus yn yr iaith Saesneg a ddaeth i mi tra’n synfyfyrio tra’n trwsio fy radio – pam ysgrifennu hon yn y Saesneg? Wel – ysdywed Dafydd Iwan: pam ma’ eira yn wyn gyfaill? Pwy a wyr beth sy’n gyfrifol am awen adloniant ysgafn mor afreolus.

Ta waeth – ysgrifennwyd y gân – a dyma hi a siawns y bydd y nesaf yn y Gymraeg.

Heb unhryw arbenigedd gwleidyddol wrth gwrs y tu hwnt i wleidyddiaeth ac economeg canu pop – teimlaf rywsut – yn y funud sydd ohoni – fod gwell gobaith i’r Cymry ac i amgylchedd Cymru o fewn yr UE.

Yn amlwg mae angen diwygio y gyfundrefn afiach anemocrataidd bresennol sydd ym Mrwsel ond ddim yn y ffyrdd yr awgrymwyd gan Cameron a’i griw elitaidd ond efallai yn debycach i beth o syniadaeth yr economegydd penfoel o Roeg Yanis Varoufakis sydd a gwell profiad o drin ac effeithiau eithafol y ‘Troika’ ar wlad gymharol fach.

Dwi di bod yn bwrw golwg ar wefan y mudiad ifanc diem25.org sy’n awgrymu ffyrdd ymlaen pan-Ewropeaidd all gynnal y gobaith heddychlon a fu’n rhan o’r ysgogiad dros ffurfio’r Undeb yn y lle cyntaf, a’i ategu a democratiaeth dryloyw sy’n parchu sofraniaeth ddiwyllianol dros rym y cwmniau gor-anferth sy’n debygol o fygwth ein traddodiad o lywodraeth lês os caiff erchyllderau cytundebol fatha TTIP eu pasio gan senedd Ewrop.

Cychwyn ymgyrch felly fydd y refferendwm – nid ei diwedd hi.

Yn amlwg ma’n boen fod hyn yn digwydd ynghanol tymor etholiadol ein gwlad ond efallai ei fod on gyfle i ddiffinio ein gwleidyddiaeth hefyd.

Ta waeth, does na’m byd gwaeth weithia’ na cantorion pop gor-ddifrifol yn trafod erchyllderau’r byd felly dyna ddigon o falu, yn ôl a mi at y canu…

UE Dros Gymru!

Gangster Cymraeg: cocên, cash ac Audi TT

Gangster Cymraeg

Gwrandewch ar hanes hynod un bywyd gangster ar y rhaglen radio BBC Radio Cymru Straeon Bob Lliw.

Hyd yn hyn does dim llawer o drafodaeth wedi bod ar-lein am y rhaglen a ddarlledwyd heddiw ond mae hi’n werth eich amser am ei sylwadau, heb sôn am unrhyw beth arall:

“[…] yn y gêm drugs, os ti’n soft, ma’ pobl yn mynd i gymryd y piss – softie ydw i – ond odd raid i fi i fod yn gwerthu drugs a gneud lot o bres o’dd raid i fi ddechra’ mynd i gym, a steroids a cal tattoos just i ‘neud y look – ti’n gwbod, ma hwn chydig bach o nytar ia. Ifanc ac yn stiwpid ia. […]”

“[…] o ni’n dreifio rownd efo ceir posh. Oedd gen i Astra VXR, ges i Audi TT, ges i Mini Cooper, ges i BMW One Series, ges i motobeics… efo cash straight. O ni’n byw fatha king am two and a half years. […]”

Mae Cymru Fyw wedi cyhoeddi erthygl sy’n cynnwys cyfweliad gyda’r boi, Jason o Ddeiniolen, hefyd.

Llun: poster gan Y Twll ar gyfer addasiad ffilm dychmygol o Gangster Cymraeg