Seiniau o’r siop elusen gyda Kotchy (albwm am ddim)

Dw i wedi bod yn dilyn Kotchy o Frooklyn, Efrog Newydd ychydig, mae e’n cymryd y darnau gorau o ddylanwadau hip-hop, Prince a cherddoriaeth electronica lliwgar a glitshlyd. Efallai yn yr un categori a’r artistiaid Warp, Hudson Mohawke a Rustie.

Baggy Spandex yw ei albwm newydd sydd ar gael trwy Soundcloud gyda llawer o samplau o hen recordiau. Paid ag ofni’r disgrifiad “seiniau o’r siop elusen”, er bod lot o’r caneuon gwreiddiol yn eitha cawslyd (Billy Joel etc.) mae fe’n ailgylchu’r samplau mewn ffordd greadigol. Mae’r canlyniadau yn swynol.

(Diolch Chrome Kids.)

Yr ailenedigaeth electronig Zwolf

Zwolf
Mae amrywiaeth o noms de tiwn egsotig yn arferol am artistiaid electronica. Mae’r Twll yn cwrdd â Zwolf yn amgen Proober Glombat i drafod ei waith a chasgliad newydd o’i hen ailgymysgiadau dan yr enw Proober Glombat trac-wrth-drac (MP3s).

Pwy oedd Proober Glombat?

Proober Glombat oedd yr enw aml-anghofiadwy o’n i’n defnyddio i sgwennu traciau rhwng 2003-2007. Yn ogystal a traciau gwreiddiol o’n i’n hoff iawn o creu remixes, gan ddefnyddio just y llais gwreiddol a ceisio creu fersiwn newydd, unigryw allan o rhywbeth oedd yn bodoli’n barod. Ar ol dod ar draws cwpwl o hen draciau Glombataidd penderfynais casglu rhan fwyaf o’r ymdrechion at eu gilydd, fel archif o beth sydd wedi mynd o’r blaen.

Pwy yw/fydd Zwolf?

Zwolf yw’r ffenics sy’n codi o’r lludw! Wrth gorffen fy albwm cyntaf [2008] penderfynais bod angen newid enw, gan bod newid steil a dynesiad wedi digwydd dros y cyfnod [dwy flynedd!] o sgwennu’r traciau newydd. Plus mae’n haws i gofio pan wedi meddwi. Sef y cyflwr gore i fod mewn pan yn gwylio Zwolf yn chwarae’n fyw! Mi fydd 2011 yn gweld casgliad o traciau Zwolf yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd.

Ti’n creu cerddoriaeth i deledu ayyb etc. Beth sy’n digwydd yna?

Dwi di bod yn lwcus iawn a ennill gwaith cyfansoddi ers cael cyfle gan ffrind i sgwennu ar ffilm ddogfen am Hitler dros saith mlynedd yn ôl. Erbyn hyn dwi’n cyfansoddi ar gyfer pob math o rhaglen [o ddramâu i hysbysebion], ffilmiau a’r we. Mae’n bleser gallu dihuno a cael y fraint o sgwennu cerddoriaeth fel diwrnod o waith, a cael tal amdano weithiau hefyd! Dwi’n gobeithio bod y broses o sgwennu’n ddyddiol yn hogi fy sgiliau cerddorol hefyd.

Dyma’r casgliad MP3 Zwolf presents Proober Glombat Remixes 2003-2007. Dyma’r trac-wrth-drac…

Akira the Don – Rick Witter [Zwolf remix 2006]

Mae Akira wastad yn cynnig accapella’s o wahanol ganeuon ar ei wefan i annog bobl i greu fersiynau newydd.

Bedtime For Toys – Killing Rattlesnakes [Zwolf remix 2005]

Esiampl arall o’r we yn galluogi cysylltiad dros bellteroedd eang. Grwp o Los Angeles nath gysylltu ar ol clywed un o fy remixes arall.

bravecaptain – Oh You [Zwolf remix 2005]

Ffrind sy’n byw rownd y gornel yw bravecaptain (Martin Carr) ac ar un adeg roeddwn am weithio gyda’n gilydd, fi fel cynhyrchudd a’r capten fel sgwenwr. Dyma fersiwn Proober o un oi ganeuon gwreiddiol.

Frank Static – Heavy Nova [Zwolf remix 2003]

Frank Static (Rocketgoldstar) adeiladodd fy nghyfrifiadur cerddoriaeth cyntaf, ac hefyd creu’r enw Proober Glombat. Roedd yr elfennau ar gyfer y gan yma yn cuddio yn fy siwparcompiwtar newydd felly penderfynais ei ailweithio fel teyrnged i’r gwreiddiol, ac i’r dyn ei hyn.

Hidden Persuader – Are You Ready [Zwolf remix 2007]

Cystadleuaeth arall. Ddaeth Proober yn ail. ‘Second is first loser’, pa would say.

Kams – Bassmunter [Zwolf remix 2007]

Cysylltiad o’r wefan cerddoriaeth electroneg no-future.com wnaeth gofyn i bobol ceisio ailweithio ei trac ar gyfer rhyddhad ar y we.

Kelis – Milkshake [Zwolf remix 2004]

Wrth rhyddhau ‘Milkshake’ fe roddodd Kelis y cyfle i unrhywyn creu remix o’r gan gan rhoi’r accapella ar ail ochr y sengl. Ges i cynnig i ymuno a label o Efrog Newydd (Sound Ink) ar gefn y trac yma. Ond yn anffodus wrth i fy ep cyrraedd y ‘pressing plant’ nid oedd caniatad gan y label i ail-ddefnyddio’r wahanol samples roeddwni wedi ‘benthyg’ ar gyfer y 4 trac. Ni cefais mynd draw i cwrdd a fy ffrindiau newydd yn yr afal fawr ac yn fuan ar ol hyn roeddwn i nol heb label.

Mc Chris – Fett’s Vette [Zwolf remix 2005]

Cystadleuaeth unwaith eto, gan un o rapwyr ‘nerdcore’ o America. Penderfynnais just defnyddio’r geiriau yn unig.

Namlive – Church of Namlive [Zwolf remix 2003]
Namlive – Eva [Zwolf remix 2004]

Grwp o Efrog Newydd yw Namlive, fe gysylltodd y prif aelod dros y we pan glywodd un o fy draciau cynnar.

Populous – Flu [Zwolf remix 2006]

Un o fy hoff recordiau o 2006 oedd ‘Quipo’ gan Populous. Mae e’n dod o’r Eidal ac ar ol i mi ebostio yn cusanu ei ben ol ynglun a’r albwm fe cynigiodd y deunydd crai ar gyfer i mi ail-weithio y trac ‘flu’. Da ni dal mewn gysylltiad a mae son o trefnu cyngerdd yn ein wledydd priodol.

Roots Manuva – Witness [Zwolf remix 2005]

Cystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan label Roots Manuva, gyda cyfle i ddefnyddio llais a geiriau yr anhygoel Rodney Smith o un o’r caneuon gorau’r ddegawd!

Vanilla Ice – Ice Ice Maybe [Zwolf re-edit 2004]

Bach o hwyl efo geiriau bythgofiadwy Robert Matthew Van Winkle. O’n i wrth fy modd efo’r gwreiddiol pan ddath e mas, o’n i’n ifanc. Hwn oedd i fod ochr-b sengl ail-weithiad ‘Milkshake’.

White Noise – Love Without Sound [Zwolf Geniusmix 2004]

Nol yn 1968 fe rhyddhawodd White Noise ‘An Electric Storm’. Tri aelod oedd ganddynt gan gynnwys Delia Darbyshire o’r BBC Radiophonic Workshop. Dyma patrymlun ar gyfer yr ailgymysg yma sydd wedyn yn trin llais Miss Aguilera yn y cytgan.

Zwolf Soundcloud
Zwolf Myspace

Ffeiliau Ffansin: llosgi lawr yr hen ysgol gyda Seren Tan Gwmwl

Seren Tan Gwmwl

O’r chwith i’r dde: Lewis Valentine, Saunders Lewis yn ifanc, DJ Williams (llosgwyr Penyberth 1936)

Dywedodd Saunders…

‘I am the firestarter
– twisted firestarter…’

Delwedd wych o’r ffansin Seren Tan Gwmwl (1990 – 1999?) gan Siôn Jobbins a chydweithwyr, pennod un o ein gyfres (achlysurol) newydd, Ffeiliau Ffansin.

Dw i dal yn darllen trwy hen rifynnau o Seren Tan Gwmwl sydd ar gael arlein fel PDF. Mae’r ffansin, “ffansin cymdeithas Iolo Morganwg – cymdeithas annibynnol”, yn cymysgu hanes, gwleidyddiaeth, hiwmor a llawer o luniau penigamp.

Roedd Gruff Rhys yn ffan er gwaethaf beirniadaeth yn y ffansin yn bron bob rhifyn. Gweler isod am enghraifft ar y llong “SS Gymraeg” o rhifyn 7 (1998).

Seren Tan Gwmwl

Mae gyda fi’r bwriad sganio hen ffansins ac ailgyhoeddi gyda chaniatâd. (Nesaf: Siarc Marw.) Dw i ddim wedi gwneud e tro yma achos mae’r Seren Tan Gwmwl ar gael yn barod.

Felly dw i’n gofyn am dy help gyda’r cyfres Ffeiliau Ffansin. Gweler cofrestr o ffansins (a chylchgronau) – os oes gyda thi teitlau eraill, copïau, atgofion, straeon neu os wyt ti eisiau sgwennu cofnod am unrhyw ffansin, gadawa sylw!

Ffansins yw enghraifft o gyfryngau amgen, roedden nhw yn bwysig iawn i fandiau newydd a gweithgareddau creadigol. Nawr mae’r oes aur o ffansins wedi mynd, ydyn ni’n gallu dweud ffansins newydd yw blogiau dyddiau yma? Dyma’r un o’r cwestiynau gallen ni archwilio.

Wrth gwrs bydda i’n hapus iawn i sgwennu rhywbeth am ffansin cyfoes – neu “ffansin” arlein. Nid yw popeth sy’n gweithio arlein yn edrych fel blog o destun yn unig. Dw i’n chwilio am enghreifftiau o bobol sy’n ailgylchu syniadau ffansins yn fformatau digidol. Bydda i (a phobol eraill siŵr o fod) wrth fy modd i weld rhywbeth o Gymru fel The Oatmeal neu XKCD.

Hot Wax: siop newydd am finyl yn Nhreganna, Caerdydd

finyl

Hot Wax, Treganna, Caerdydd (Canton, Cardiff)

Sa’ i’n cofio’r siop recordiau diwetha yn Nhreganna, unrhyw un? Heblaw pump neu chwech siop elusen sy’n eitha da, yn ystod y dydd mae’n rhywle i brynu cig, caledwedd a chewynnau.

Ond nawr mae’r jyncis finyl o’r ardal yn Gorllewin Caerdydd yn falch i groesawi Hot Wax. Mis newydd hapus.

Es i yna p’nawn ‘ma am y tro cyntaf, mae’r perchennog Dave (efallai byddi di’n sylweddoli fe o’r farchnad yn Bessemer Road) yn dal i drefnu’r stoc a silffoedd. Mae fe’n dal i agora’r siop – gyda llawer mwy o recordiau ychwanegol i ddod.

Mae fe’n cynnig llawer o roc a phop clasur o 60au i 80au ar hyn o bryd, ychydig o funk a jazz, rhai o lyfrau ac addewid o comics yn y dyfodol agos.

Mae bron popeth yn ail-law. Welais i ddim unrhyw CDau yna o gwbl. Bydd finyl yn byw yn hwy na’r CD siwr o fod.

Y ffaith bod rhywun yn agor siop finyl yn yr hinsawdd gyfoes yn anhygoel. Pryna rhywbeth.

Hot Wax
50 Cowbridge Road East
Treganna
Caerdydd
CF11 9DU
Ar agor: dydd Mawrth i dydd Sadwrn (ond weithiau ar agor dydd Llun)

Llun finyl gan fensterbme

Teyrnged i Tony Curtis, seren go iawn

Teyrnged i Tony Curtis:

Un o’r ychydig ser go iawn a oedd yn weddill o oes aur Hollywood.

Ond mae’na for a mynydd rhwng dau o’i brif gymeriadau – Sidney Falco yn y Sweet Smell of Success a Jerry yn Some Like It Hot. Y naill yn greadur y cysgodion cyfryngol a’r llall yn dianc rhag y “mob” mewn sgert a sacsoffon!

O’i ddecreuad yn y theatr Yiddish yn Chicago aeth e trwy’r dosbarthiadau actio ewropiaidd ei naws ar ddiwedd y 40au cyn cyrraedd Hollywood.  Roedd’na un peth mawr o’i blaid – roedd e’n hynod golygus! O ganlyniad roedd ei acen Bronx i’w glywed ble bynnag yr aiff e – fel swashbuckler, milwr Rhufeinig neu’r gwr ar y trapeze…

Mwy gyda fideos ar blog O Bell.