Ar ôl i ni weld lluniau newydd o siopau Aberystwyth gan y ffotograffydd Keith Morris roedd rhaid i ni ddysgu mwy am y prosiect, dyma atebion Keith i gwestiynau trwy e-bost.
Rwyt ti newydd ddechrau prosiect sydd yn ysgogi’r meddwl ac yn teimlo fel rhywbeth ‘amserol’ yn yr hinsawdd bresennol, sef lluniau o bob siop yn Aberystwyth. Allet ti siarad mwy am dy ysbrydoliaeth ac amcanion tu ôl i’r prosiect?
ysbrydoliaeth – hmm…o’m i jyst am rhoid ‘marker’ lawr am syfyllfa presenol economi Aber cyn i’r siopau mawr fel Tesco a Marks+Spencer cyrraedd yn y dyfodol agos(-ish)…ac wedi’m synni fawr gan y nifer ar cryfder yr ymatebion bositif iawn i’r llunau (sydd just yn snapshots gyflym rili…)
Rwy’n gweld fy hunan fel (yn geiriau yr hanesyd Gwyn Alf Williams) ‘ a people’s remembrancer’…rhywun syn cofnodi’r pethe bach ‘pob dydd’ sy’n cael eu ddiystyried gan pobol….
Rwyt ti’n byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd. Ond beth wyt ti wedi dysgu am Aberystwyth ers dechrau’r prosiect?
wi’n brodor o’r dre…wedi byw yn yr un stryd erioed…..be dwi’n dysgu efallai bod gan pobl eu gwahanol ‘Aber’s’ yn eu pennau….ac yn cofio gwahanol pethau a phobl
Wyt ti erioed wedi cael sylwadau ar y strydoedd tra rwyt ti’n tynnu’r lluniau?
ydw…loads o weithiau! dyna un o’r pethe wi’n hoffi am byw a gweithio yn fy milltir sgwar…mae pawb yn fy nabod fi….ac yn barod iawn i cynnig eu syniadau (a cwynion) i mi .
Wyt ti’n gyfarwydd ar y prosiectau siopau gwag yn llefydd fel Caerdydd a Llundain? Er enghraifft mae pobol o’r gymuned leol yn meddiannu siopau gwag (gyda chaniatâd fel arfer) i ddarparu defnydd amgen o’r lle. Beth yw dy farn am y prosiectau yma, os oes barn gyda ti o gwbl?
peth positif iawn……a mae pethe fel hyn yn digwydd yn barod yn Aber……ond un peth iw cofio yw y nifer fach o siopau sydd yn wag yn Aber a ddweud y gwir……dydi Aber ddim mewn crisis, eto… nid fel nifer fawr o trefi eraill lle mae canran lot uwch o siopau gwag, a rheinni’n wag am amser hir hefyd….
Gwnes i weld dy luniau ar y we. Fydd modd gweld arddangosfa rhywle? Beth yw’r ffordd ddelfrydol i weld dy luniau o siopau Aberystwyth?
Falle….on rili, y we yw’r ffordd gore i cael gwaith fel hyn lan yn gyflym, ac o flaen gynulleidfa byd-eang o fewn eiliadau…..ac i cael ymatebion a chyfraniadau gan pobl hefyd…….Wi’n ffan mawr o Facebook fel cyfrwng i dosbarthu a chyfathrebu ……
Pwy sy’n rhedeg Aberystwyth yn 2012?
ha…..neb……dyna’r gwendid…..
Mae rhagor o luniau o siopau Aberystwyth gan Keith Morris yma – mae cyfanswm o 365 llun ar hyn o bryd.
Lluniau: hawlfraint Keith Morris 2012