Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

Fy obsesiwn newydd yw Supercuts, fideos doniol sydd yn casglu clipiau ar thema. Maen nhw wedi bodoli am flynyddoedd yn ôl y sôn ond nawr mae rhywun o’r UDA o’r enw Andy Baio wedi casglu pob un o YouTube a Vimeo.

Bydd yr enghreifftiau isod yn egluro’r apêl.

Dyma casgliad o ffilmiau lle mae cymeriad yn dweud ‘You just don’t get it, do you?’.

Dw i’n caru’r casgliad yma o sinau gyda drych mewn ffilmiau arswyd.

Mae’r diweddar Steve Jobs yn dweud ‘Boom’ mewn cyflwyniad sawl gwaith. Joio.

Mae cyfanswm o 295 fideo Supercut ar y wefan supercut.org hyd yn hyn gan gynnwys ffilm, gemau, teledu a bywyd go iawn.

Gweler hefyd: Kevin Kelly, sefydliwr cylchgrawn Wired, yn trafod Supercuts.

Carraig Aonair – CA2

Dyma glawr gwych o albwm CA2 gan fand gwerin Geltaidd o’r enw Carraig Aonair recordiwyd yn Abertawe nôl yn 1983 pan oedd dylanwadau synth-pop yn yr awyr.

Traciau:

1. Y Gwydd
2. Pelot De Betton
3. Y Set Gymreig
4. Jigiau Nadolig
5. Farwell To Frances
6. Tra Bo Dau
7. Lisa Lân
8. Llanymddyfri
9. The Beggar
10. Clychau Aberdyfi

Mae rhai o’r tiwns eraill ar y Myspace os wyt ti’n chwilfrydig. Ond gobeithio bydd Lisa Lân ar-lein cyn hir hefyd – yn ôl y sôn mae’r fersiwn electroneg o’r clasur yn anhygoel; fel Kraftwerk Celtaidd. Defnyddiodd y BBC y cân fel thema rhaglen newyddion dyddiol ar Radio 4 yn yr 80au (ffynhonnell: gwefan nhw ond unrhyw un yn gwybod pa raglen?)

DIWEDDARIAD: mae rhwyun wedi postio’r celf clawr a’r cân:

Llun gan stanno

El Ojo – gwaith celf symudol ar strydoedd Barranquilla, Colombia

Dyma fideo byr o strydoedd Barranquilla, Colombia o 23 mis Gorffennaf 2011 gan y gwneuthurwr fideo ac artist Carolina Vasquez sy’n dod o Miami, UDA yn wreiddiol a bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae Vasquez wedi bod yn gweithio fel aelod o’r grŵp celfyddydol newydd CuatrOOjos sy’n wneud prosiectau trefol gyda’i chyd-aelod Bethan Marlow o Fethel/Caerdydd a tua 11 aelod arall.

Mae’r llygad enfawr (diamedr 1.5 metr) yn mynd i lefydd gwahanol yn Barranquilla: Plaza o Sant Nicholas, Paseo Bolivar, Edificio Garcia, Teatro Rex, ac yn gorffen yn yr eglwys gadeiriol. Dewisodd CuatrOOjos yr ardaloedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o bobol. Mae’r daith yn gorffen pan mae’r llygad yn cael ei llenwi gydag atebion i’r cwestiwn ‘Yo desearia poder ver’ (‘Hoffwn i weld’).