Roxejam Caerdydd: celf newydd yn yr awyr agored

Cynhaliodd grŵp o artistiaid gŵyl celf stryd Roxejam yn orllewin Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf. Wedi dweud ‘celf stryd’ roedd y digwyddiad ym Mharc Sevenoaks yn hytrach na’r stryd.

Ta waeth, mae’r canlyniadau yn arbennig o dda. Er wnes i golli dydd Sadwrn a’r holl hwyl, DJs a’r broses gelfyddydol mae’r canlyniadau ar y wal hir ger y rheilffordd am flwyddyn arall. Es i drwy’r parc prynhawn dydd Sul ac roedd dau artist wrthi’n gorffen gweithiau gyda chynulleidfa fach.

Mae Roxejam yn digwydd bob blwyddyn yn ystod yr haf ym Mharc Sevenoaks, Trelluest, Caerdydd. Bob blwyddyn mae’r wal yn troi yn ddu yn ystod yr wythnos ac mae’r gweithiau i gyd yn diflannu er mwyn creu lle ar gyfer y flwyddyn newydd.

Mae’r grŵp Roxe (mae e’n odli gyda ‘Sevenoaks’) wedi bod ers pum mlynedd bellach. Cafodd e ei sefydlu er cof am yr artist ifanc diweddar Bill Lockwood.

Dim ond flas bach sydd ar y cofnod blog yma. Ac mae’r arddangosfa yn parhau am flwyddyn ac yn werth ymweliad.

Celf gan artistiaid amryw

Putain Babilon: Cassetteboy a’r Gemau Olympaidd

Os wyt ti’n gyfarwydd ar weithiau golygu/ailgymysgu pwysig gan Cassetteboy dros y blynyddoedd rwyt ti’n gwybod beth yn union i ddisgwyl. Dyma Cassetteboy gyda llwyth o glipiau Boris Johnson. Mae’r fideo newydd fynd ar YouTube felly brysia cyn iddyn nhw eu tynnu i lawr.

Tate à Tate: sylwebaeth amgen yn erbyn BP

Os wyt ti’n ffan o gelf, ymgyrchu a’r amgylchedd does dim rhaid i ti dilyn y sylwebaeth swyddogol am waith celf yn yr orielau Tate.

Mae Tate à Tate yn brosiect awdio i gynnig sylwebaeth amgen am Tate Britain, Tate Boat a Tate Modern. Mae’r sylwebaeth yn cyfeirio at weithredoedd y cwmni olew BP, noddwyr Tate.

Dw i wedi mewnosod yr awdio am Tate Modern uchod. Wrth gwrs mae’r awdio ar gael i bawb unrhyw bryd ond yn delfrydol rwyt ti’n lawrlwytho’r awdio fel MP3 ac yn chwarae’r ffeil ar clustffonau tra bod ti’n crwydro’r orielau. Mae’r sylwebaeth gan leisiau gwahanol yn sôn am hanes BP, Irac, damweiniau, llywodraethau a’r cysylltiadau rhwng BP a Tate.

Mae’n enghraifft ddiddorol a phrofoclyd o hacio diwylliannol. Beth sydd yn ddiddorol i fi ydy’r potensial i ail-ddiffinio digwyddiadau, profiadau, gofodau ac amgylcheddau (yn yr ystyr ecolegol a’r ystyr cyffredinol). Mae ambell i enghraifft o bethau yng Nghymru sydd yn haeddu’r un math o brosiect…

Tyfu’r sîn comics yn Gymraeg

gan Huw Aaron ac Osian Rhys Jones

Huw Aaron yn dweud:

Dwi’n awyddus iawn i ffindo mwy o bobl sy’n creu straeon stribed/comics yn y Gymraeg. Mae’n hen bryd gael rhyw fath o ‘sîn’ comics yn y Gymraeg, ond wrth chwilio ar Google, yr unig pethe sy’n troi lan yw Dalen (sy’n gwneud gwaith da iawn o gyfieithu comics Ffrengig i’r Gymraeg), a stwff fi! […]

Darllena’r cofnod blog llawn gan Huw yma – gyda’r fersiwn llawn o’r cartwn gyda Osian Rhys Jones.

Cyfweliad Keith Morris: lluniau siopau Aberystwyth

Hawlfraint Keith Morris

Ar ôl i ni weld lluniau newydd o siopau Aberystwyth gan y ffotograffydd Keith Morris roedd rhaid i ni ddysgu mwy am y prosiect, dyma atebion Keith i gwestiynau trwy e-bost.

Rwyt ti newydd ddechrau prosiect sydd yn ysgogi’r meddwl ac yn teimlo fel rhywbeth ‘amserol’ yn yr hinsawdd bresennol, sef lluniau o bob siop yn Aberystwyth. Allet ti siarad mwy am dy ysbrydoliaeth ac amcanion tu ôl i’r prosiect?

ysbrydoliaeth – hmm…o’m i jyst am rhoid ‘marker’ lawr am syfyllfa presenol economi Aber cyn i’r siopau mawr fel Tesco a Marks+Spencer cyrraedd yn y dyfodol agos(-ish)…ac wedi’m synni fawr gan y nifer ar cryfder yr ymatebion bositif iawn i’r llunau (sydd just yn snapshots gyflym rili…)

Rwy’n gweld fy hunan fel (yn geiriau yr hanesyd Gwyn Alf Williams) ‘ a people’s remembrancer’…rhywun syn cofnodi’r pethe bach ‘pob dydd’ sy’n cael eu ddiystyried gan pobol….

Rwyt ti’n byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd. Ond beth wyt ti wedi dysgu am Aberystwyth ers dechrau’r prosiect?

wi’n brodor o’r dre…wedi byw yn yr un stryd erioed…..be dwi’n dysgu efallai bod gan pobl eu gwahanol  ‘Aber’s’ yn eu pennau….ac yn cofio gwahanol pethau a phobl

Hawlfraint Keith Morris

Wyt ti erioed wedi cael sylwadau ar y strydoedd tra rwyt ti’n tynnu’r lluniau?

ydw…loads o weithiau!  dyna un o’r pethe wi’n hoffi am byw a gweithio yn fy milltir sgwar…mae pawb yn fy nabod fi….ac yn barod iawn i cynnig eu syniadau (a cwynion) i mi .

Wyt ti’n gyfarwydd ar y prosiectau siopau gwag yn llefydd fel Caerdydd a Llundain? Er enghraifft mae pobol o’r gymuned leol yn meddiannu siopau gwag (gyda chaniatâd fel arfer) i ddarparu defnydd amgen o’r lle. Beth yw dy farn am y prosiectau yma, os oes barn gyda ti o gwbl?

peth positif iawn……a mae pethe fel hyn yn digwydd yn barod yn Aber……ond un peth iw cofio yw y nifer fach o siopau sydd yn wag yn Aber a ddweud y gwir……dydi Aber ddim mewn crisis, eto… nid fel nifer fawr o trefi eraill lle mae canran lot uwch o siopau gwag, a rheinni’n wag am amser hir hefyd….

Gwnes i weld dy luniau ar y we. Fydd modd gweld arddangosfa rhywle? Beth yw’r ffordd ddelfrydol i weld dy luniau o siopau Aberystwyth?

Falle….on rili, y we yw’r ffordd gore i cael gwaith fel hyn lan yn gyflym, ac o flaen gynulleidfa byd-eang o fewn eiliadau…..ac i cael ymatebion a chyfraniadau gan pobl hefyd…….Wi’n ffan mawr o Facebook fel cyfrwng i dosbarthu a chyfathrebu ……

Pwy sy’n rhedeg Aberystwyth yn 2012?

ha…..neb……dyna’r gwendid…..

Hawlfraint Keith Morris

Mae rhagor o luniau o siopau Aberystwyth gan Keith Morris yma – mae cyfanswm o 365 llun ar hyn o bryd.

Lluniau: hawlfraint Keith Morris 2012