Gwaith celf Arc Vertiac yn yr Hen Llyfrgell, Caerdydd

Mae cyfle arall i weld y gwaith celf Please Remember to Forget gan Tom Raybould / Arc Vertiac yn yr Hen Llyfrgell, Yr Aes, Caerdydd fel rhan o’r arddangosfa Big Little City gydag artistiaid eraill. Mae’r lansiad heno rhwng 5PM a 7PM, wedyn bydd y bwth yna am bum wythnos (tan 1af mis Gorffenaf). Mynediad am ddim.

Dyma’r cyfweliad y nes i recordio gyda Tom Raybould llynedd amdano fe.

Gwefan Arc Vertiac

Cyriak: gwaith fideo Pythonaidd/annaearol

Rhybudd: rhyfedd iawn.

Pum munud o bethau anhygoel gan gynnwys slebs o Loegr, gwaed, ceir ac anifeiliaid. Dyw e ddim mor newydd (wedi cael bron 4m ers 2006) ond efallai’r fideo mwyaf rhyfedd dw i wedi gweld erioed. Trac sain da hefyd.

Rhywbeth newydd o 2011, arddull debyg:

Mwy ar wefan Cyriak

LLUNIAU: syniadau swrrealaidd ar gyfer rhaglenni teledu

Ces i ebost gan rywun o’r enw “S4C Newydd” heddiw:

Hawddamor gyfeillion,

Ymwelwch a: http://s4cnewydd.wordpress.com os gwelwch yn dda.

Mae dyfodol ein cenedl yn dibynnu ar safon rhaglenni S4C. Does dim amheuaeth am hyn. Ffaith ydyw. Amcan S4CNewydd yw cyflwyno syniadau newydd am raglenni newydd i’r byd sydd ohoni. I gyffwrdd eneidiau Cymry’r byd heddiw ac yfory. I lenwi’r bylchau diwylliannol. I sicrhau dyfodol i Gymru. I ni. I ti. I mi. I ni.

Ychwanegiadau pob dydd Llun a Iau.

Diolch yn fawr.

Dros Gymru,

Tîm S4CNewydd

Dim enw go iawn ond dw i’n gallu dyfalu.

Braf i weld mwy o’r swrrealaidd yn y sgwrs. Mwy ar y flog s4cnewydd.