Dros yr haf, dw i wedi siarad gyda un neu dwy berson am y safon yr SRG yn 2010. Ro’n i eisiau dechrau sgwrs amdano fe, gwe-eang.
Ble dylen ni dechrau’r sgwrs?
Prynhawn ‘ma ces i ebost gyda neges gan C2 a’r siart newydd. Dyma’r neges.
Annwyl Gyfeillion,
Dyma i chi boster o Siart C2 wythnos yma fel allwch ei harddangos yn
gyhoeddus. Mi fyddwn yn anfon hyn allan i chi bob wythnos.
Siart C2 yw’r siart roc, pop a dawns sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth
newydd, gyfoes ac yn adlewyrchu holl fywyd y sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Mae Siart C2 yn seiliedig yn bennaf ar werthiant recordiau mewn siopau drwy
Gymru. Mae hi hefyd yn ystyried ymddangosiadau ar y teledu a radio, a gigs
yr wythnos.
Gwrandewch ar Siart C2 bob nos Lun ar C2 ar Radio Cymru.
Dyma’r siart newydd. Sa’ i’n gwybod, dw i’n gallu gweld enwau fel Cerys a Llwybr Llaethog – enwau da iawn ond ble mae’r dalent NEWYDD? Ble mae’r SIN? Unrhyw un?
Hefyd mae gyda ni hen aelodau o Big Leaves ac Anweledig sydd wedi pasio (neu bron wedi pasio) 30 oed. Rhai pethau da yna ond dylen nhw fynd yn yr un categori a Cerys. Mae gyda ni polisi cyfleoedd cyfartaledd yn Y Twll, dw i ddim eisiau rhoi gormod o bwyslais ar oed. Ond fi’n disgwyl mwy o’r grŵp 18-29.
Y llall? Cerddoriaeth i dy fam fel Elin Fflur ac efallai Bryn Fôn.
Fasen ni dweud bod 2010 yn un o’r blynyddoedd gorau erioed am fandiau newydd Cymraeg?
![Siart C2 Siart C2](/wp-content/uploads/2010/08/siartC2-230810-A4-crop.jpg)
Beth yw’r thema SRG yn 2010? Ydyn ni’n gallu ffeindio peth yn gyffredinol?
Y gorffennol, faswn i’n dweud.
Dyn ni’n edrych yn ôl gormod, yn fy marn i. Dyn ni’n cael yr un enwau trwy’r amser.
Beth am fandiau ac artistiaid newydd?
Y Niwl yw fy hoff fand newydd yma ond maen nhw wedi benthyg lot o ddylanwadu gan The Shadows a surf rock o’r 60au. Fyddan nhw yn cytuno siŵr o fod, maen nhw yn wneud e yn dda iawn. Dylen nhw yn bodoli. Chwarae teg bois. Ond maen nhw yn dathlu’r gorffennol.
Sawl gwaith wyt ti eisiau clywed Y Brawd Houdini neu covers o Meic Stevens ayyb a dathlu’r llwyddiannau o’r 60au? (Paid camddeall, roedd Meic Stevens yn un o’r fy uchafbwyntiau’r Eisteddfod Genedlaethol 2010. Dwywaith. Ond efallai mae’r ffaith yn rhan o’r broblem.)
Siŵr o fod, ailgylchu’r gorffennol yw thema fawr yng ngherddoriaeth tu allan o Gymraeg hefyd.
Dw i’n gallu edrych yn ôl. Pwy yw’r Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr newydd, Datblygu newydd, Super Furry Animals neu Gorky’s newydd? Dw i ddim yn chwilio am fersiynau o’r un bandiau yna neu tribute bands chwaith ond yr AGWEDD. Dyw pobol ddim yn siarad am fandiau newydd fel ‘na dyddiau ‘ma.
Trafodwch.