Arddangosfa Cloriau: Pop Negatif Wastad a llawer mwy

pop-negatif-wastad-1

Os ydych chi’n mynd i’r Steddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni, ewch i’r arddangosfa Cloriau sydd ar agor o heddiw ymlaen.

Gofynodd y curadur Rhys Aneurin i mi ddewis fy hoff glawr record Cymraeg er mwyn cyfrannu at yr arddangosfa. Gallwn i wedi dewis sawl clawr ond dw i wedi bod yn gwrando ar albwm-mini Pop Negatif Wastad lot yn ddiweddar ac mae’n teimlo yn amserol ac yn briodol rhywsut.

“Mae perchennog yr oriel yn dyn hapus iawn…”

Dyma’r darn o destun a sgwennais i ar gyfer yr arddangosfa.

 

pop-negatif-wastad-2

Pop Negatif Wastad – Pop Negatif Wastad
(Recordiau Central Slate)

Bydd gwylwyr Fideo 9 yn nabod fy newis, albwm mini gan Pop Negatif Wastad sydd yn gyfuniad o gerddoriaeth ‘diwydiannol’ dywyll a house. Yr unig ffyrdd i glywed yr albwm bellach ydy’r finyl 12″, YouTube a blogiau MP3. Gareth Potter ac Esyllt Anwyl Lord oedd y cerddorion a Gorwel Owen y cynhyrchydd.

Dathliad o bosibiliadau pop a chelf yw’r record hon – trwy’r geiriau, y gerddoriaeth a’r dyluniad. Mae elfen o ddirgel i’r clawr dwyochrog gan Lord: ffotograffiaeth o ddynes ifanc yn edrych at record tra bod hen ddyn yn gwneud swigod. Mae’n edrych fel ffansin, prosiect DIY.

Ar y pryd roedd Margaret Thatcher mewn grym ac roedd artistiaid fel Pop Negatif Wastad yn swnio ac yn edrych yn heriol. Dw i’n credu bod arloesedd cerddorol a chelfyddydol yn cyfleu pwynt gwleidyddol. Os ydy artistiaid yn mynd yn ôl yn rhy bell maent yn dweud wrth bobl ifanc bod yr amseroedd gorau wedi mynd. Mae eisiau dangos bod cerddoriaeth newydd, celf newydd, Cymru newydd a byd newydd yn bosibl. Y peth sydd angen ei ailddarganfod ydy’r agwedd flaengar yna.

Felly dw i’n tueddu osgoi pethau hynafol o’r 60au pan dw i’n troelli. Dw i’n chwarae Dau Cefn, Casi Wyn, Gwenno ac ati – a Pop Negatif Wastad. Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd yn ddiweddar daeth rhywun adnabyddus o’r Sefydliad Cymraeg i mi er mwyn cwyno am fy mod i’n chwarae ‘Iawn’, fy hoff drac yma. Er bod y record yn 25 mlynedd oed, roedd hi’n rhy electronig a rhy ddyfodolaidd iddo fe.

Fe fydd yr arddangosfa Cloriau wedi ei leoli ar y maes eleni mewn pedair uned wrth ymyl Caffi Maes B gan gynnwys detholiadau ac ysgrifau gan Dyl Mei, Rhys Mwyn, Gwyn Eiddior, Emyr Ankst, Hefin Jos, Gareth Potter, Dafydd Iwan, Teleri Glyn Jones, Dewi Prysor, Owain Sgiv, Branwen Sbrings, Gorwel Owen, Richard Jones Fflach, Llwyd Owen, Lisa Jarman ac eraill.

Llanelli 2014: gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

eisteddfod-gigs-cymdeithas-cefn

Dw i’n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llanelli eleni: cyfle prin i adael y swigen Eisteddfodol i weld canol dref Llanelli, cyfrannu at ymgyrchoedd iaith a’r economi lleol – a gwrando ar fandiau penigamp.

Hefyd, hefyd, mae Pobol Y Twll yn edrych ymlaen at droelli tiwns ar finyl cyn, rhwng ac ar ôl y bandiau yn y Thomas Arms ar nos Fercher 7fed, nos Iau 8fed a nos Wener 9fed.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cymdeithas a’r gigs ar Facebook.

Gerallt: atgofion personol gan gystadleuydd Talwrn y Beirdd

Gerallt. Un o’r beirdd hynny a mae’n debyg y byddai pob Cymro Cymraeg yn gallu ei adnabod wrth ei enw priod yn unig. Mae hynny ynddo’i hun yn dweud y cyfan, felly beth all rhywun ei ychwanegu?

Efallai mai yr unig beth alla’ i ei wneud yw adrodd mymryn o fy mhrofiad personol fel bardd a fu yn ddigon lwcus i fod ar dim Talwrn y Beirdd tra bu Gerallt yn feuryn.

Un profiad nad â fyth o ‘nghof yw fy ymddangosiad cyntaf un ar Raglen Talwrn y Beirdd ar gyfer Radio Cymru. Rhyw noson ddigon gaeafol a gwlyb oedd hi yn Llanbrynmair a ninnau, tim Y Glêr, wedi teithio o Aber. Doeddwn i erioed wedi cyfarfod nac wedi bod yng nghwmni Gerallt cyn hynny. Yn naturiol ddigon, roeddwn i’n eithaf petrus am ddarllen fy ngwaith yn gyhoeddus (am ddim ond yr ail waith), heb sôn am y ffaith y byddai Gerallt, o bawb, yn marcio fy ymdrechion allan o ddeg. Y gobaith oedd dod allan ohoni gyda dim llai nac wyth marc a chyfri fy mendithion.

Cân a thelyneg oedd fy nhasgau i y noson honno. O edrych yn ôl ar y ddwy dasg, ymdrechion digon diniwed a bachgennaidd oedd fy rhai i. Hyd heddiw dwi’n meddwl bod pinsiad o dosturi a diplomyddiaeth yn y naw a hanner marc a gefais yn farciau y ddau dro.

Ond wedi i’r recordio ddod i ben y digwyddodd yr hyn sy’n aros yn y cof. Yn y tŷ bach oeddwn i, yn gwneud yr hyn mae dyn yn ei wneud yn erbyn wal y tŷ bach ar ôl tua’r dwsin o baneidiau te defodol wedi Talwrn. Pwy ddaeth i fewn? Neb llai na Gerallt. Swreal, a dweud y lleiaf, oedd sefyll ochr yn ochr mewn tŷ bach gyda’r bardd y mae cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi’u dysgu i roi ei gerddi ar gof; i gydnabod y paradocs rhwng mawredd y geiriau ac eiddilwch y corff. Be ddiawl oeddwn i fod i ddweud a’i wneud mewn sefyllfa fel hyn? Roedd rhyw barchedig ofn wedi treiddio drwof, a phenderfynais, am ryw reswm, mai dweud dim byd oedd orau yn yr amgylchiadau.

Gerallt dorrodd y garw.

“Ew, roedd gen ti rhywbeth” medda fo wrth i mi gau fy malog yn drafferthus.

Heb wybod yn iawn at beth roedd o’n cyfeirio, mi atebais “Yyym, diolch yn fawr”

“Ia, yn y llinell ola’ ‘na… be oedd hi dŵad…’yn sgrialu’n hirddu ar draws y lôn’…. da iawn.”

Roeddwn i’n gegrwth, nid yn unig oeddwn i wedi cael canmoliaeth gan Gerallt, ond roedd Gerallt, llais Gerallt, wedi adrodd llinell o fy marddoniaeth i! Oedd, mi roedd o wedi gwneud hynny yn y recordiad yn gynharach yn y noson, ond rwan roedd o yn gwneud hynny, o’i gof, i mi. Mae pawb yn adnabod llais Gerallt, boed yn darllen ei gerddi ei hun, neu gerddi cenedlaethau o feirdd Cymru ar y radio. Dyna wefr oedd cael clywed fy ngeiriau i yn ei enau o.

Dwi’n meddwl i mi dreulio gweddill y noson, a rhai dyddiau wedi hynny, mewn stad o led-berlewyg. Ond, er gwaetha’r afrealiti, mi roedd hyn wedi digwydd go iawn.

Mi fu’r Glêr yn fuddugol y noson honno a thros weddill y gyfres a thros sawl blwyddyn o recordio wedi hynny cefais farn, anogaeth a chefnogaeth ganddo. A hynny dros baned a chacen gan amlaf. Roedd ychydig eiriau yn mynd yn bell yng ngenau Gerallt.

Mae rhaid i Feuryn ar gyfres y Talwrn y Beirdd BBC Cymru fod yn sawl peth; beirniad, storïwr ac athro i enwi dim ond tri. Mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r Meuryn wrth feithrin beirdd. Fe wnaeth Gerallt y pethau hyn gyda thafod arian a braich gefnogol. Mawr yw fy nyled i iddo. Gwn y bydd llawer iawn o feirdd yn teimlo yr un fath.

Nid ydi hyn o eiriau ond cip ar y dyn. Dwi’n siŵr y bydd rhagor o goffáu dros y dyddiau ac wythnosau nesaf. Ond wrth sôn am y dyn, y bardd, byddwn ni i gyd yn gwybod pwy sydd dan sylw wrth i ni sôn am Gerallt.

Un arbrawf enfawr…dad bedydd avant-garde America

Yn wreiddiol o Lithuania, ymfudodd Jonas Mekas i Efrog Newydd yn 1949 ac fe ddechreuodd gwneud ffilmiau arbrofol o fewn pythefnos o gyrraedd yno. Ers y 60au cynnar, mae e wedi canolbwyntio ar themâu personol o fewn cyd-destun athronyddol gan ddefnyddio dull dyddiadurol i ddogfennu ei bywyd. Yn gyntaf ar ffilm, wedyn ar fideo ac erbyn hyn gyda chamerâu digidol, mae Mekas yn gyfrifol am gannoedd o ffilmiau ac arbrofion.

Mae Walden: Diaries , Notes a Sketches (1969) yn gyfansoddiad o syniadau ac arsylwadau ar fywyd cyfoes ar strydoedd Efrog Newydd. Mae Mekas yn tueddu cyhoeddi a dosbarthu ei ffilmiau (neu gofnodion) fel eitemau annibynnol neu rannau o gasgliadau, ond nid yw gwerth na photensial y deunydd ar gau ar ôl hynny. Mae Mekas yn ail-ddefnyddio neu ailgylchu ei ffilmiau ei hunain er mwyn creu ffilmiau newydd.

https://www.youtube.com/watch?v=jdXae-JD2Ps

Yn rhedeg dros 5 awr, mae As I was Moving Ahead Occasionaly I Saw Brief Glimpses of Beauty (2000) yn gyfansoddiad newydd sydd yn ail-gymysgu ac ail-gyddestynnu ei ffilmiau o’r 30 mlynedd flaenorol.

Fel a awgrymir gan y teitl, mae’r ffilm ddiweddar Out-takes from the Life of a Happy Man (2012) yn gwneud rhyw beth tebyg wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Mae Mekas yn gweld ffilm fel ffordd o ailddefnyddio digwyddiadau yn y gorffennol a’u liwio gydag ystyron newydd yn y presennol. Ei bywyd yw’r arbrawf felly, a’r ffilmiau yw’r ddogfennaeth o sut mae person yn newid dros amser, sut mae ei bersbectifau a safbwyntiau yn newid gyda phrofiad, beth yw natur y cof ac hunaniaeth, beth ydy hi’n bosib dysgu am fywyd cyn y diwedd?

Mae sawl un o ffilmiau a phrosiectau Mekas ar gael ar ei wefan bersonol (www.jonasmekas.com)

Mae’r 365 Day Project yn enwedig yn werth treulio amser yn archwilio.