Gigs Cymdeithas, Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

Roedd Ian Dury and The Blockheads yn canu am resymau dros fod yn siriol.

Wel, mae lot o bobl yn cyffroi am gigs Cymraeg ar hyn o bryd. Mae ‘na lot llai o bryderon am gerddoriaeth Cymraeg yn yr arddull poblogaidd haf yma, yn enwedig ar ôl Hanner Cant a’r holl ymdrechion aelodau Cymdeithas yr Iaith.

Oes cylchred i’r sin Cymraeg? Pethau yn mynd yn dawelach am gyfnod ac maen nhw yn codi eto. Dyma sut mae pethau yn teimlo. (Ac mae croeso i ti mynegi barnau eraill yn y sylwadau.)

Gwelaf i chi ger y llwyfan!

Mae’r holl fudiadau iaith newydd yn ddigon iawn ond pa fath o gigs fyddan nhw yn ei drefnu?

Roxejam Caerdydd: celf newydd yn yr awyr agored

Cynhaliodd grŵp o artistiaid gŵyl celf stryd Roxejam yn orllewin Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf. Wedi dweud ‘celf stryd’ roedd y digwyddiad ym Mharc Sevenoaks yn hytrach na’r stryd.

Ta waeth, mae’r canlyniadau yn arbennig o dda. Er wnes i golli dydd Sadwrn a’r holl hwyl, DJs a’r broses gelfyddydol mae’r canlyniadau ar y wal hir ger y rheilffordd am flwyddyn arall. Es i drwy’r parc prynhawn dydd Sul ac roedd dau artist wrthi’n gorffen gweithiau gyda chynulleidfa fach.

Mae Roxejam yn digwydd bob blwyddyn yn ystod yr haf ym Mharc Sevenoaks, Trelluest, Caerdydd. Bob blwyddyn mae’r wal yn troi yn ddu yn ystod yr wythnos ac mae’r gweithiau i gyd yn diflannu er mwyn creu lle ar gyfer y flwyddyn newydd.

Mae’r grŵp Roxe (mae e’n odli gyda ‘Sevenoaks’) wedi bod ers pum mlynedd bellach. Cafodd e ei sefydlu er cof am yr artist ifanc diweddar Bill Lockwood.

Dim ond flas bach sydd ar y cofnod blog yma. Ac mae’r arddangosfa yn parhau am flwyddyn ac yn werth ymweliad.

Celf gan artistiaid amryw

Putain Babilon: Cassetteboy a’r Gemau Olympaidd

Os wyt ti’n gyfarwydd ar weithiau golygu/ailgymysgu pwysig gan Cassetteboy dros y blynyddoedd rwyt ti’n gwybod beth yn union i ddisgwyl. Dyma Cassetteboy gyda llwyth o glipiau Boris Johnson. Mae’r fideo newydd fynd ar YouTube felly brysia cyn iddyn nhw eu tynnu i lawr.

Ga’i Fod..? Cynhyrchiad gan Theatr Bara Caws #adolygiad

Fe es i weld cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Ga’i Fod..?, yr wythnos diwethaf. Am brofiad!

Drama ydoedd, nid ar lwyfan ond mewn llannerch yng nghanol coed Glynllifon. Yr oedd yn ddrama wedi ei gyfieithu o’r Iseldireg wedi ei gyfieithu i’r Saesneg ac yna i’r Gymraeg a chafodd ei ‘chymreigio’. Yn ôl yr awdur gwreiddiol a oedd yn siarad mewn cyfweliad ar raglen Pethe ar S4C yr oedd hyn amlycaf yn ffurfioldeb y modd yr ydym ni’r Cymry yn cyfarch ein gilydd!

Yr oedd y ddrama yma yn un digri a diddorol, yn ymchwilio i ba mor bell yr ydym ni wedi ein hestroni o reddfau naturiol ein hunain yn y ‘ras llygod ffrenig’ sydd ohoni heddiw. Mae’r bobol yma yn mynd ar benwythnos i goedwig i gogio bod yn anifeiliaid gwyllt, a gyda chanlyniadau difyr… Yr oedd pawb yn chwerthin drwyddi ond erbyn y diwedd yr oedd tensiwn anghyfforddus o’r hyn a dystiasom yn y diweddglo.

Tua’r diwedd mae ochor ‘anifeilaidd’ un cymeriad yn ei feddiannu ac yn sydyn reit mae chware’n troi’n chwerw ac mae pethau yn mynd rhy bell..

Mae’r gwisgoedd yn wych a’r defnydd o’r llannerch goediog yn greadigol iawn. Profiad unigryw oedd gweld y sioe yma, ewch i’w weld!

Fe fydd Ga’i fod..? yn cael ei pherfformio yn Tŷ Henblas, Ynys Môn hyd at Gorffennaf 21ain. Rhagor o fanylion a thocynnau

Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant

Un o fy hoff categoriau ar Y Twll ydy cyfryngau sydd yn cynnwys podlediadau, blogiau, teledu annibynnol, ffansins a chyfryngau annibynnol o bob math. Fel arfer os ydy rhywun wedi creu ‘brand’ cyfryngau annibynnol yn Gymraeg mae’n tueddu i fod yn dda iawn. Mae sawl enghraifft.

Dyma un syniad da gan Nwdls a Gai Toms: Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant, blog sydd newydd ddechrau dogfennu profiadau o’r gig penwythnos diwethaf – sydd ymhlith y gigs mwyaf cofiadwy (ac efallai dylanwadol) erioed yng Nghymru ers parti coroni Hywel Dda yn y degfed ganrif.

Mae Nwdls wedi dechrau gydag atgofion a meddyliau personol am egni diwylliannol a grym cerddoriaeth:

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth. […]

Mae unrhyw yn gallu cyfrannu felly paid ag aros yn rhy hir nes bod ti’n anghofio manylion pwysig am y penwythnos.